CLEMENTS, CHARLES HENRY (1898-1983), cerddor

Enw: Charles Henry Clements
Dyddiad geni: 1898
Dyddiad marw: 1983
Rhiant: Annie Maria Clements
Rhiant: Frederick William Clements
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth
Awdur: Rhidian Griffiths

Ganwyd Charles Clements yn 12 Stryd y Porth Tywyll, Aberystwyth ar 18 Awst 1898, yn fab i Frederick William Clements, a hanai o Ddyfnaint, a'i wraig Annie Maria (marw 1946), a hanai o'r Bala. Dangosodd addewid gerddorol yn gynnar, a chafodd wersi organ gan G. Stephen Evans ac A. C. Edwards, a gwersi piano gan Charles Panchen. Diolch i'w ddawn anghyffredin llwyddodd i ennill tystysgrifau Coleg Brenhinol yr Organyddion, ARCO (1917) ac FRCO (1918), a derbyn Gwobr Lafontaine am y marciau uchaf yn y ddwy dystysgrif. Fe'i hachubwyd rhag gwasanaeth milwrol yn y Rhyfel Byd Cyntaf gan gyflwr ei iechyd, ond elwodd ar bresenoldeb cerddorion o wlad Belg a ddaethai i Aberystwyth yn ffoaduriaid, gan ddatblygu hoffter arbennig o gerddoriaeth Ffrainc. Cafodd gefnogaeth hefyd gan Mme Lucie Barbier a drefnai gyngherddau yng Ngholeg y Brifysgol. Ond H. Walford Davies, Athro Cerddoriaeth yn y Brifysgol, a'i gosododd ar ben ei ffordd o ran gyrfa. Clywodd ef Clements yn cyfeilio ar y piano i ffilmiau mud yn sinema'r Palladium yn y Porth Tywyll, Aberystwyth, ac fe'i gwahoddodd i ymuno â thriawd offerynnol a oedd yn cael ei ffurfio yn yr Adran Gerdd; astudiodd am radd B. Mus., a graddio yn 1924. Ddwy flynedd yn ddiweddarach fe'i penodwyd yn Ddarlithydd yn yr Adran Gerdd, ac yn Ddarlithydd Hŷn yn 1955, a gwasanaethodd yno hyd ei ymddeoliad yn 1963. Derbyniodd M.B.E. am ei wasanaeth i gerddoriaeth yng Nghymru. Adeg ei ymddeoliad casglwyd arian i greu ysgoloriaeth yn ei enw, a derbyniwyd cyfraniadau nid yn unig gan ei gydweithwyr a'i gyn-fyfyrwyr ond hefyd gan rai o bobl amlwg byd cerdd, yn eu plith yr arweinydd Adrian Boult a'r gantores Elsie Suddaby.

Cafodd Charles Clements amlygrwydd a pharch cyffredinol ym myd cerdd ar bwys ei ddawn arbennig fel organydd a chyfeilydd. Pan oedd yn ifanc fe'i gwahoddwyd i fynd ar daith gyda'r fiolinydd Jelly d'Aranyi, a'i clywodd yn Aberystwyth, ond teimlai ef yn rhy swil i fentro. Ond o fewn Cymru fe'i cydnabyddid yn un o'r cyfeilyddion gorau oll, ac roedd galw mawr am ei wasanaeth nid yn unig mewn cyngherddau ac eisteddfodau ond hefyd yng Ngŵyl Gregynog yn yr 1930au. Yn 1926 bu'n cyfeilio i Dora Herbert Jones ac Owen Bryngwyn ar rai o'r recordiau trydan cynharaf a wnaed gan gwmni HMV, ac yn ddiweddarach bu'n recordio gydag artistiad Cymreig eraill, megis y baswr Richard Rees. Cyfeiliodd i berfformiad o Requiem Brahms yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 1938 ac ef oedd y cyfeilydd swyddogol mewn cyngerdd rhyngwladol gan artistiaid o luoedd y Cynghreiriaid yn Eisteddfod Genedlaethol Llandybïe yn 1944.

Penodwyd ef yn organydd cyflogedig capel Seilo, Aberystwyth yn 1917 ac yn Awst 1934 agorodd yno organ newydd a adeiladwyd i'w gynllun ef ei hun. Ei ddatganiadau oedd un o brif atyniadau'r gwasanaethau yn Seilo am flynyddoedd, a gellir ei glywed yn canu'r organ ar record a wnaeth i gwmni Qualiton yn 1958. Wedi cau capel Seilo yn 1989, cafodd yr organ gartref yn Eglwys Gadeiriol Anglicanaidd Freetown, Sierra Leone. Bu'n arweinydd ar Gôr Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth yn 1952, ac yn arweinydd llwyddiannus iawn ar Gôr Madrigal Aberystwyth am ddeugain mlynedd o 1931 ymlaen. Byddai'r Côr Madrigal yn canu ei drefniannau ef o alawon Cymreig, ond ni chyhoeddwyd llawer o'r rhain am fod Clements yn gymaint o berffeithydd. Ond cafodd ei drefniant cyhoeddedig o alaw o'r Iseldiroedd, 'Ein Duw sydd noddfa gref', i gorau cymysg a 'Cariad Crist', sef trefniant o gerddoriaeth Bach, gryn amlygrwydd fel darnau cyngerdd ac eisteddfod.

I'w gydweithwyr ymddangosai Clements, na fu'n briod, yn gymeriad swil a braidd yn unig. Ond er nad oedd yn ddarlithydd ysbrydoledig, cymerai ddiddordeb mawr yn ei fyfyrwyr, gan roi iddynt bob anogaeth a meithrin talentau cudd, a dangos synnwyr digrifwch cellweirus. Roedd ganddynt hwythau barch mawr iddo.

Dechreuodd ei iechyd ballu o tua 1973 ymlaen, a bu farw yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin ddeng mlynedd yn ddiweddarach, ar 17 Ebrill 1983. Amlosgwyd ei gorff yn Amwythig ar 22 Ebrill a chladdwyd ei lwch yn Aberystwyth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2017-12-18

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.