JONES, JOHN OWEN, 'OWEN BRYNGWYN' (1884-1972), datganwr

Enw: John Owen Jones
Ffugenw: Owen Bryngwyn
Dyddiad geni: 1884
Dyddiad marw: 1972
Priod: Dorothy Mary Jones (née Elliott)
Rhiant: Esther Margaret Jones (née Roberts)
Rhiant: Owen Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: datganwr
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Huw Williams

Ganwyd yn Llangwm, sir Ddinbych, 7 Chwefror 1884, yn fab i Owen Jones, saer coed ar ystad Garthmeilo, Llangwm, ac Esther Margaret (Roberts), unig ferch Ellis Roberts (Elis Wyn o Wyrfai). Yn 1890 symudodd y teulu i Lanegryn, Meirionnydd, pan benodwyd y tad yn oruchwyliwr ystad Peniarth, swydd y bu ynddi am 32 o flynyddoedd. Magwyd ef ar aelwyd gerddorol. Yr oedd y tad, a fu farw yn 1922, yn arwain Côr Llanegryn, a'r fam yn bianydd rhagorol. Derbyniodd ei addysg fore yn ysgol Llanegryn ac yn ysgol Tywyn. Enillodd ysgoloriaeth yn 1903 i astudio yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, lle y graddiodd yn BSc yn 1907. Ym Mangor daeth yn drwm dan ddylanwad John Lloyd Williams ac ymaelododd â Chymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn ei dyddiau cynnar.

Bu'n athro gwyddoniaeth yn ysgol ramadeg Daventry, swydd Northampton (1907-1911) ac yn ysgol ramadeg Newport, swydd Essex (o 1911), gan wasanaethu yn brifathro gweithredol yr ysgol honno, 1914-1918. Cefnodd ar swydd athro ysgol yn 1919 a symud i Lundain gyda'i fryd ar baratoi ar gyfer gyrfa fel datganwr. Aeth i'r Coleg Cerdd Brenhinol i asudio gyda Walter Ford ac yn 1922 cychwynnodd ar yrfa lawn-amser fel datganwr proffesiyniol dan yr enw Owen Bryngwyn (Bryngwyn oedd enw ei gartref yn Llanegryn). Priododd ym Manceinion, 24 Mawth 1923, â Dorothy Mary Elliott, brodor o Maidenhead, swydd Berkshire, a swyddog undeb llafur, gan wneud eu cartref yn Hampstead, Llundain, tan 1962 pan symudasant i Ashtead, Surrey. Yn 1939 aeth yn ôl i ddysgu a bu'n athro gwyddoniaeth yng Ngholeg Epsom, Surrey, tan 1954.

Yn ystod cyfnod ei fri fel datganwr bu alw mawr am ei wasanaeth mewn oratorio a hefyd mewn cyngherddau o natur amrywiaethol a darllediadau, a theithiodd yn helaeth ym Mhrydain ac yn y gwledydd Celtaidd. Yr oedd ganddo lais baritôn llyfn ac ystwyth, ac oherwydd ansawdd ei lais dewisodd arbenigo mewn dehongli caneuon gwerin Cymraeg gan recordio amryw ohonynt i gwmni Decca. Diogelwyd llawer o ddogfennau yn ymwneud â'i yrfa fel datganwr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Bu farw yn Ashtead 24 Mawrth 1972. Amlosgwyd ei gorff yn Leatherhead a chladdwyd ei lwch ym medd y teulu ym mynwent eglwys y plwyf Llanegryn fis Mehefin 1972.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2008-07-30

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.