ROBERTS, ELLIS ('Elis Wyn o Wyrfai'; 1827-1895), ei dad MORRIS ROBERTS ('Eos Llyfnwy'), a'i daid ROBERT MORRIS ('Robin Ddu Eifionydd')

Enw: Ellis Roberts
Ffugenw: Elis Wyn O Wyrfai, Eos Llyfnwy, Robin Ddu Eifionydd
Dyddiad geni: 1827
Dyddiad marw: 1895
Priod: Esther Mary Roberts (née Roberts)
Plentyn: Esther Margaret Jones (née Roberts)
Plentyn: J.R. Roberts
Rhiant: Morris Roberts
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Barddoniaeth; Crefydd; Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: William Llewelyn Davies

ROBERT MORRIS Robin Ddu Eifionydd (fl. 1767-1816), melinydd a bardd

Mab oedd i Morris Roberts a'i wraig Elin Williams, Pen Garth (Tŷ Popty ?), Llanystumdwy; bedyddiwyd ef yn eglwys Llanystumdwy, 16 Ebrill, 1769. Dysgodd grefft llinwr (y mae'n debyg iddo fod yn felinydd yn ddiweddarach). Ysgrifennodd farddoniaeth gaeth a rhydd a chyhoeddodd lyfr, Ffurf yr Athrawiaeth Iachus (Caernarfon, 1816), yn amddiffyn ei egwyddorion fel Bedyddiwr. Rhydd Spinther, iii, 342-3, deitlau rhai o'i ganeuon (yn eu plith y mae 'Cerdd i Mr. Madog a'i Dref' - gweler Madocks, W. A., a cheir copi o 'Emyn ar Ddydd Ympryd' gan 'Robert Morys, Bryn y gro, yn agos i Lanllyfni,' yn Corph y Gaingc, 1810 (gol. D. Thomas, 'Dafydd Ddu Eryri'). Mewn llythyr gan John Jones ('Myrddin Fardd') yn Geninen 1883, 238 rhoddir teitlau tair awdl a ysgrifennodd 'Robyn Ddu,' sef 'Llesoldeb Gwybodaeth', 1799; 'Dedwyddwch,' 1802; a 'Rhagluniaeth,' 1803. Ni wyddys pa bryd y bu farw, ond fel y gwelir cyhoeddodd lyfr yn 1816. Claddwyd ef yng nghladdfa'r Bedyddwyr Neilltuol, Garn Dolbenmaen. Heblaw 'Eos Llyfnwy' yr oedd iddo fab o'r enw EDWARD MORRIS, pregethwr y bu iddo law yng nghychwyniad achos Cymraeg y Bedyddwyr yn Birmingham (Spinther, iv, 397).

MORRIS ROBERTS (Eos Llyfnwy) (c. 1797 - 1876), melinydd a bardd

Dywed John Jones ('Myrddin Fardd') yn Enwogion Sir Gaernarfon mai ychydig o'i waith barddonol a gyhoeddwyd; gwyddys ddarfod cyhoeddi ei Awdl Marwnad y Parch. Edward Jones, A.C., Curad Parhaus Llandegai … yr hwn a fu farw Rhagfyr 15fed 1845. Bu farw 25 Gorffennaf 1876, yn 79 oed, a chladdwyd ef ym mynwent Llanfyllteyrn.

ELLIS ROBERTS ('Elis Wyn o Wyrfai') (1827 - 1895), clerigwr a llenor

Ganwyd 13 Chwefror 1827 yn Llwyn Gwalch, Llandwrog, Sir Gaernarfon, trydydd mab Morris Roberts ('Eos Llyfnwy'), a Margaret ei wraig. Bu'n gweithio ym melin ei dad o'r adeg yr oedd tuag 11 oed nes oedd yn 23 pryd yr aeth am tua hanner blwyddyn i ysgol Ebenezer Thomas ('Eben Fardd'), a ganodd 'Cywydd Brud i Ellis Roberts, bardd ieuanc, ac un o ysgolorion Eben Vardd yn 1850.' O ysgol Clynnog aeth i goleg hyfforddi Caernarfon i'w gymhwyso ei hun i fod yn athro ysgol. Bu'n cadw ysgol yn y Waunfawr, Sir Gaernarfon, a Llwynygell, Ffestiniog. Pan oedd yn Llwynygell paratodd ar gyfer urddau eglwysig. Ordeiniwyd ef (yn Llanelwy) yn ddiacon yn 1862 a chafodd guradiaeth Rhosymedre, sir Ddinbych; urddwyd ef yn offeiriad yn 1863. Cafodd reithoraeth Llanfihangel Glyn Myfyr yn 1866 a symud yn 1872 i ficeriaeth Llangwm, sir Ddinbych, lle y bu farw 23 Ebrill 1895.

Daeth 'Elis Wyn' yn adnabyddus fel bardd a beirniad eisteddfodol, a bu'n golygu Yr Haul o 1885 hyd 1895. Enillodd ar bryddestau neu awdlau yn eisteddfodau Rhuddlan 1850, Ffestiniog 1854, Llanelli 1856, Rhuthyn 1857, Rhymni 1859, Caernarfon 1877, Llangurig 1882, eithr fe'i curwyd gan ei hen ysgolfeistr 'Eben Fardd' yn eisteddfod Llangollen 1858. Bu'n beirniadu yn yr eisteddfod genedlaethol o tua 1874 ymlaen. Cyhoeddodd Hanes y Cymry, 1853; Awdl y Sabboth, c. 1856; Awdl Maes Bosworth, 1858; Awdl Farwnad Ab Ithel, c. 1878; Buddugoliaeth y Groes (pryddest), 1880; Wreck of the London, 1865; Massacre of the Monks of Bangor Iscoed, 1876; Ordination Sermon, 1893; etc. Cyfieithodd yn Gymraeg esboniad ar y pedair efengyl (gan yr esgob How), a golygodd ddau argraffiad o Hymnau yr Eglwys.

Priododd, 26 Rhagfyr 1854, yn Llanbeblig, Esther Mary Roberts, ysgolfeistres yn Llwynygell, Ffestiniog, a bu iddynt ferch a thri mab a ddaeth yn glerigwyr.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.