ELEANOR DE MONTFORT (c. 1258-1282), tywysoges a diplomydd

Enw: Eleanor De Montfort
Dyddiad geni: c. 1258
Dyddiad marw: 1282
Priod: Llywelyn ap Gruffudd
Plentyn: Gwenllian ferch Llywelyn ap Gruffudd
Rhiant: Eleanor de Montfort
Rhiant: Simon de Montfort
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: tywysoges a diplomydd
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Danna R. Messer

Eleanor oedd plentyn ieuengaf a'r unig ferch a oroesodd i Simon de Montfort, iarll Caerlŷr (c. 1208-1265) a'i wraig, Eleanor (1215?-1275), iarlles Penfro a Chaerlŷr. Roedd ganddi bum brawd, Henry de Montfort, Simon de Montfort, Amaury de Montfort, Guy de Montfort a Richard de Montfort. Hi oedd gwraig Llywelyn ap Gruffudd (marw 1282).

Ni wyddys ble y ganwyd Eleanor, ond ymddengys iddi aros gyda'i mam trwy gydol ei phlentyndod a'i llencyndod. Awgryma cyfrifon tŷ iarlles Caerlŷr ar gyfer 1265 fod Eleanor wedi derbyn addysg grefyddol a llenyddol mor ifanc â saith oed. Roedd ganddi frefiari cludadwy o femrwn a brynwyd yn Llundain gan y Brawd G. Boyon yn Chwefror 1265. Yn bwysicaf oll, dengys roliau tŷ iarlles Caerlŷr hoffter gwirioneddol rhwng Eleanor a'i chefnder, y darpar frenin Edward I wrth i lythyrau oddi wrth Eleanor gael eu danfon i ‘yr arglwydd Edward’ (domino Edwardo) ar draul ei mam. Chwaraeodd y cwlwm hwn ran allweddol yn yr ymadwaith gwleidyddol rhyngddynt pan oedd y ddau yn oedolion.

Yn bump oed, diweddïwyd Eleanor â Llywelyn ap Gruffudd, tywysog Gwynedd. Awgryma'r croniclwyr Nicholas Trevet a William Rishanger a blwyddnodydd Caer-wynt fod y cynghrair priodasol yn ganlyniad uniongyrchol i gefnogaeth y tywysog i Simon de Montfort ac Ail Ryfel y Barwniaid. Pan laddwyd Simon ym mrwydr Evesham ar 4 Awst 1265, negododd iarlles Caerlŷr â'r Arglwydd Edward i ildio castell Dover a ffodd i Ffrainc gydag Eleanor ar 28 Hydref 1265. Yn eu halltudiaeth cafodd Eleanor a'i mam loches yn y lleiandy Dominicanaidd a sefydlwyd gan y Montfortiaid ym Montargis.

Er gwaethaf pwysau ar y dechrau oddi wrth y Pab Clement IV a orchmynnodd i Lywelyn ollwng pob cyswllt â'r Montfortiaid ar ôl Evesham, dan fygwth esgymuniad a gwaharddiad, ac alltudiaeth ddeng mlynedd teulu Montfort yn Ffrainc, penderfynodd y tywysog briodi Eleanor yn 1275, o bosib er mwyn cyflawni cytundeb cynharach. Mae'r rhesymau dros hyn yn ansicr, ond awgryma J. B. Smith fod Llywelyn yn ceisio talu'r pwyth i Edward I am iddo noddi'r rhai a gynllwyniodd i'w ddienyddio yn 1274, gan gynnwys ei frawd iau ffoadur, Dafydd. Efallai mai Dafydd oedd etifedd eglur Llywelyn a bod ei wrthgiliad yn sbardun i Lywelyn briodi Eleanor er mwyn cenhedlu ‘etifedd o'i gorff’. Nid yw'n glir pwy a ysgogodd y briodas. Dywed Nicholas Trevet fod gan iarlles Caerlŷr ran yn y trafodaethau, ond honnodd y Brenin Edward mai ‘ar gyngor ei pherthnasau a chyfeillion eraill’ yr aeth Eleanor ati i briodi Llywelyn. Ac eto, ni ddylid diystyru'r posibilrwydd mai cynllun Eleanor ei hun oedd hyn, a hithau bellach yn ddwy ar bymtheg, oed addas i briodi, ac wedi tyfu i fyny gyda mam lwyddiannus a gweithredol yn wleidyddol fel patrwm i'w hefelychu.

Rhywdro rhwng 9 a 23 Ionawr 1275-76, ar ôl priodas trwy ddirprwy, hwyliodd Eleanor am Gymru i briodi Llywelyn yn ffurfiol, yng nghwmni ei brawd Amaury a nifer o gefnogwyr ffyddlon Montfort. Er bod taith Eleanor i fod yn gyfrinach, cipiwyd ei llong oddi ar arfordir gorllewin Prydain gan ddynion y credid eu bod yn weision cyflog i'r brenin. Canfuwyd baner Montfort ynghudd ar y llong a threuliodd Eleanor wythnos mewn carchar ym Mryste. Aethpwyd â hi wedyn i gastell Windsor, lle y bu dan arestiad tŷ am dair blynedd, a danfonwyd Amaury i gastell Corfe. Carchariad Eleanor oedd yr hoelen olaf yn y gwrthdaro hir a mwyfwy cynhennus rhwng tywysog Cymru a brenin Lloegr.

Ymddengys mai problem fwyaf Edward gyda'r briodas oedd ei photensial i greu anghytgord ar draws ei deyrnas. Roedd y brenin newydd yn ymwybodol o weithgareddau bygythiol y Montfortiaid yn Ewrop, yn enwedig ar ôl llofruddiaeth ei gefnder Henry o Almain gan frodyr Eleanor Simon a Guy, a chredai fod gwrthryfel Montfortaidd arall ar droed. Poenai Edward yn enwedig y byddai priodas â Llywelyn yn rhoi i Eleanor y grym a'r cynghreiriau angenrheidiol i hyrwyddo achos ei thad, ac roedd natur wrthryfelgar Llywelyn yn dwysáu ei bryder. Mewn llythyr at Robert Kilwardby, archesgob Caer-gaint, mynegodd Edward ei bryder a'i gred fod Eleanor yn fygythiad i ddiogelwch ei deyrnas, gan honni bod cymhelliad gwleidyddol i'w phriodas â Llywelyn. Er y byddai'n anodd iddi fagu'r grym i greu anghytgord ar ei phen ei hun, byddai priodas â thywysog Cymru yn rhoi iddi'r gallu i ‘wasgaru hadau'r gynnen’ a gychwynnwyd gan ei thad.

Nodir yn Brut y Tywysogion fod Eleanor a Llywelyn wedi priodi trwy ddirprwy, trwy eiriau cynddrychol (per verba de presenti) cyn iddi hwylio o Ffrainc. Cefnogwyd eu hachos yn nes ymlaen gan y Pab John XXI wrth iddo ddadlau ar ran Llywelyn dros ryddhau Eleanor, gan honni bod eu priodas wedi digwydd ‘trwy eiriau y rhai presennol’. Yn ystod cyfnod ei charchariad cyfeirir at Eleanor mewn croniclau, dogfennau'r siawnsri a chofnodion eglwysig fel Montfort a chyfnither Edward, ond yn fwy diddorol, sonnir amdani hefyd fel gwraig gyfreithlon Llywelyn. Mae'r ffaith fod nifer o gyfoeswyr Eleanor yn cyfeirio ati felly yn arwydd clir o wir nerth ei sefyllfa; nid yn unig fel Montfort neu fel gwraig Llywelyn, ond trwy'i statws tybiedig fel tywysoges Cymru. Mae'r cyfuniad pwerus hwn yn ategu'r pryderon a fynegwyd gan Edward, ac mae'n eglur ei fod o'r farn fod Eleanor yn ddigon treiddgar i sylweddoli maint ei dylanwad gwleidyddol - digon i achosi gwrthdaro difrifol. Ac efallai fod cysylltiadau personol y Montfortiaid â brenin Ffrainc wedi ychwanegu at ei bryderon. Mae'n debyg fod grym tybiedig Eleanor yn un o'r prif resymau dros ei charchariad hir.

Roedd dilysrwydd yr uniad priodasol a charchariad Eleanor yn bynciau blaenllaw yng ngohebiaeth y tywysog â'r brenin dros y cyfnod dilynol. Cofnodir ym mlwyddnodau Waverley yn 1276 i'r tywysog wrthod gwys i'r Senedd, gan anfon negeswyr ar ei ran yn lle i heddychu ac i gynnig arian am ryddhau ei wraig. Anwybyddwyd y cais. Mewn llythyr a ysgrifennwyd rywbryd cyn 14 Hydref 1276, gofynnodd Llywelyn eto i'r brenin adfer ei ‘wraig’ gyda'i gosgordd, gan gynnig talu gwrogaeth ar yr amod ei fod yn cael saffcwndid gan wŷr grymus fel archesgob Caer-gaint ac ieirll Cernyw a Chaerloyw. Nododd Llywelyn garchariad anghyfreithlon Eleanor fel rheswm i bryderu am ei ryddid ei hun. Gwrthododd y brenin ac ym mis Tachwedd 1276 dynododd dywysog Cymru yn wrthryfelwr.

Rhwng Rhagfyr 1276 ac Ionawr 1277, rhoddodd Llywelyn wybod i'r pab am garchariad Eleanor. Ym mis Chwefror, ymyrrodd y Pab John XXI. Anogodd Edward i adfer rhyddid Eleanor fel gwraig gyfreithlon y tywysog, ond yn ofer. Cofnodir mewn croniclau trwy gydol 1277 bod Llywelyn wedi anfon negeseuwyr mynych i lys y brenin i geisio cymodi rhyngddynt, ond heb gael unrhyw lwyddiant. Mewn memorandwm o gynigion dyddiedig Ionawr neu Chwefror 1277 cynigiodd y tywysog nid yn unig i dalu gwrogaeth ond hefyd i dalu iawn i'r brenin o 6,000 marc bymtheng niwrnod wedyn os rhyddeid yr Arglwyddes Eleanor o garchar a'i hadfer yn wraig ac yn gydwedd iddo (domine Alienore uxoris sue et sue comitive). Dengys gohebiaeth Llywelyn ei awydd mwyfwy anobeithiol i ddod i delerau â brenin Lloegr, ac ym mis Tachwedd 1277 cafodd ei drechu'n gywilyddus a gorfodwyd ef i ildio dan Gytundeb Aberconwy.

Ymddengys i Edward beidio â gweld Eleanor yn fygythiad gwirioneddol ar ôl i awdurdod Llywelyn ei hun wanhau yn sylweddol. Cyflwynodd y tywysog ei wrogaeth yn ystod dathliadau'r Nadolig yn Llundain yn 1277 ac mae'n debyg i'r ddau deyrn ddod i gytundeb yr adeg hon ynghylch rhyddhau Eleanor. Yn ôl cronicl Waverley, rhyddhawyd Eleanor yn fuan wedi'r Nadolig 1277 a'i rhoi yn nawdd Llywelyn. Dywed croncil Dunstaple fod gwraig y tywysog wedi dychwelyd gydag ef i Gymru ar ôl cael ei rhyddhau. Yn fuan wedyn, anfonodd Edward swyddogion i Gymru i ofalu am y trefniadau ar gyfer gwaddol Eleanor. Noda J. B. Smith fod hyn yn arwydd o ddiddordeb Edward yn nyfodol ei gyfnither ac yn awgrym bod y brenin yn barod o'r diwedd i gydnabod eu priodas.

Aeth naw mis heibio ar ôl rhyddhau Eleanor cyn i'r pâr briodi'n ffurfiol. Cynhaliwyd y seremoni yn Eglwys Gadeiriol Caerwrangon ar 13 Hydref 1278 yng ngwydd Edward ac Eleanor o Gastîl (marw 1290), brenin a brenhines yr Alban a llawer o bendefigion. Talodd Edward am y dathliadau, a rhoddodd ef a'i wraig hances i Eleanor a dalen-nodyn llyfr gweddi i Lywelyn yn anrhegion priodas. Yn ôl cronicl Caerwrangon, Edward a hebryngodd Eleanor yn y seremoni, ond honna'r Brutiau fod ‘y brenin Edward ac Edmund, ei frawd, ill dau wedi rhoi Eleanor, merch Simon de Montfort, eu cares, yn wraig briod i'r tywysog’. Nodir hefyd fod Eleanor yn hynod am ei phrydferthwch. Yn ôl cwynion a wnaeth Llywelyn i Archesgob Pecham 21 × 31 Hydref 1282, y gwir plaen am ddiwrnod y briodas oedd bod Edward wedi gorfodi'r tywysog yn union cyn y seremoni i gytuno i newidiadau a wnaeth y brenin i Gytundeb Aberconwy. Honnodd Llywelyn iddo gydweithredu a gosod ei sêl dan orfodaeth, megis dyn a gymhellwyd gan ofn.

Cofnodwyd gweithred gyntaf Eleanor fel tywysoges Cymru ychydig fisoedd ar ôl ei phriodas. Ychydig cyn 12 Mawrth 1279 gwnaeth gais llwyddiannus i Edward - yn ôl pob tebyg ar ffurf ysgrifenedig fel yr awgryma'r defnydd o'i theitl swyddogol - am bardwn trwy ymwadiad y deyrnas ar gyfer deg dyn a oedd yn dal i fod yn y carchar am ei hebrwng hi o Ffrainc. Rhoddwyd y pardwn ‘ar gais Eleanor, cares y brenin, tywysoges Cymru ac arglwyddes Eryri’. Saith mis yn ddiweddarach, ar 18 Hydref, anfonodd betisiwn arall yn gofyn trugaredd i'w brawd Amaury. Wedi iddi glywed bod y brenin yn bwriadu trafod ei achos, ysgrifennodd Eleanor at Edward i'w atgoffa o bwysigrwydd rhwymau teuluol.

Ym mis Hydref 1280, chwaraeodd Eleanor ran weithredol yn y ddadl ynghylch gweinyddu ewyllys ei mam. Nicholas de Waltham, canon yn Lincoln, oedd ysgutor ewyllys yr iarlles, wedi iddo ei chynrychioli yn y llys yn 1275. Gwrthodwyd yr apwyntiad gan y brenin, gan ei fod yn drwgdybio Waltham o fod wedi ymuno â Llywelyn a dau frawd Eleanor, Guy ac Amaury, mewn cynllwyn yn ei erbyn. Mewn llythyr dyddiedig 10 Hydref, dywedodd Eleanor wrth Edward fod angen iddi ymyrryd rhag ofn na chyflawnid dymuniadau olaf ei mam. Gofynnodd am gael gwybod pan fyddai eiddo ei mam, ei hetifeddiaeth ei hun, yn barod i'w gasglu o'r trysorlys brenhinol.

Mae tystiolaeth eglur o rôl gynyddol Eleanor fel diplomydd a chennad yn y gwrthdaro rhwng Lloegr a Chymru. Mewn llythyr dyddiedig rhwng 1279 a 1281, ymbiliodd tywysoges Cymru ar y brenin i anwybyddu adroddiadau anffafriol a ddeuai iddo am deyrngarwch Llywelyn a hithau. Gwahoddodd ef i drafod y mater yn uniongyrchol â hwy fel y gallent brofi eu parch ato. Fel tystiolaeth o'u diffuantrwydd, atgoffodd Eleanor ef o'r cyfeillgarwch a'r berthynas hynaws a fuasai rhyngddynt pan fuont gyda'i gilydd yng Nghaerwrangon. Sicrhaodd Edward y byddai hi a Llywelyn yn cyflawni'r cwbl a fynnai ganddynt hyd eithaf eu gallu.

Mae'r straen barhaus ar y berthynas a'r angen am eiriolaeth Eleanor yn amlwg yn ei gweithred swyddogol olaf cyn iddi farw. Yn ei safle ffurfiol fel tywysoges Cymru, collfarnodd Edward yn eofn am ei weithredoedd anghyfiawn ar nifer o faterion gwleidyddol. Yn gyntaf, mynegodd syndod bod y brenin wedi caniatáu i rai masnachwyr aflonyddu ar Lywelyn dros fater dibwys, gan honni i'r tywysog weithredu'n gyfiawn yn unol ag arferion ei wlad. Cyfaddefodd i'r brenin ei bod yn rhyfeddu bod cwynion am ei gŵr yn cael gwrandawiad cyn i'r achos gael ei drafod o gwbl yng ngwlad y tywysog ei hun. Yng ngoleuni hyn, mae'n debygol mai yn ei swyddogaeth fel diplomydd gwleidyddol yr ymwelodd â' llys brenin Lloegr yn Windsor yn Ionawr 1281. Parhaodd ei llythyr gyda chais am ryddhau tri Sais arall a'i hebryngodd o Ffrainc. Yn gwbl ddiysgog, ceryddodd Eleanor y brenin am adfer rhyddid John Becard ar gais eraill, tra'n anwybyddu ei cheisiadau hithau am bardwn o hyd. Mae ei siom yn Edward, fel brenin ac fel câr, i'w weld yn amlwg wrth iddi honni ‘na chredai ei bod wedi dieithrio gymaint oddi wrth y brenin fel na fyddai ef yn eu derbyn i'w heddwch yn gynt er ei mwyn hi nag er mwyn eraill’. Er i Becard gael pardwn o bosib ar gais Luke de Tany yn Ionawr 1282, noda'r Rholiau Patent ar gyfer 12 Chwefror 1282 mai yn sgil ymyrraeth gan dywysoges Cymru y cafodd Hugh de Punfred, Hugh Cook a Philip Taylor bardwn rhag yr honiadau yn eu herbyn.

Bu farw Eleanor wrth eni plentyn ar 19 Mehefin 1282, yn bedair ar hugain oed, ac fe'i claddwyd ym mhriordy y Ffransisgiaid yn Llan-faes, ym Môn. Llai na mis ar ôl ei marwolaeth, ar 12 Gorffennaf, cafodd aelodau o'i gosgordd saffcwndid i ddychwelyd i Loegr. Goroesodd ei merch, Gwenllian, ond fe'i hanfonwyd i briordy Sempringham gan Edward ar ôl marwolaeth ei thad ar 11 Rhagfyr 1282 a goresgyn Cymru o ganlyniad. Bu farw Gwenllian ar 7 Mehefin 1337 yn 55 oed, a hi oedd yr olaf o'r llinell ar ochr ei mam a'i thad.

Mae'r dystiolaeth ddogfennol a oroesodd am Eleanor de Montfort fel gwraig frenhinol yn y Gymru frodorol yn unigryw o gymharu ag unrhyw un o'i rhagflaenwyr neu ei chyfoeswyr. Dengys ei acta ei gallu i drin ei pherthynas â brenin Lloegr er mwyn budd gwleidyddol. Er efallai na fu iddi ddefnyddio ei safle fel tywysoges Cymru, nac fel Montfort, mewn modd a fygythiai'r Goron yn agored fel yr ofnai Edward yn wreiddiol, ond manteisiodd yn ddeheuig ar ei statws deublyg fel deiliad i Edward ac fel cares iddo. Ac yn bwysicach, mae diplomateg y pum llythyr ganddi yn dangos llawer am y modd y gwelai Eleanor ei swyddogaeth fel tywysoges Cymru, ac yn rhoi cyd-destun ar gyfer deall swydd y ‘frenhines’ Gymreig, o leiaf o fewn llys Gwynedd. Ar bob achlysur tanlinellodd Eleanor ei swyddogaeth wleidyddol ffurfiol trwy'r defnydd cyson o'i theitl fel tywysoges Cymru ac arglwyddes Eryri, ac nid yn syml fel gwraig teyrn grymus o Gymro, fel cares y brenin neu fel merch Simon de Montfort. Mae defnydd o'r fath yn awgrymu bod ganddi ddealltwriaeth o'r math o awdurdod y gallai feddu arno trwy ei safle brenhinol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2017-06-07

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/