FLOWERS, BRIAN HILTON, yr Arglwydd Flowers (1924-2010), gwyddonydd a gweinyddwr prifysgol

Enw: Brian Hilton Flowers
Dyddiad geni: 1924
Dyddiad marw: 2010
Priod: Mary Frances Buneman (née Behrens)
Rhiant: Marian Flowers (née Hilton)
Rhiant: Harold J. Flowers
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwyddonydd a gweinyddwr prifysgol
Maes gweithgaredd: Addysg; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Lyn Owen

Ganwyd Brian Hilton Flowers ar 13 Medi 1924 yn Blackburn, yr hynaf o dri o blant y Parchedig Harold J. Flowers (1894-1971), gweinidog adnabyddus gyda'r Bedyddwyr, a'i wraig Marian (née Hilton, 1897-1985). Symudodd y teulu yn ôl i Gymru yn 1932, a chafodd Brian ei addysg yn Ysgol Ramadeg yr Esgob Gore yn Abertawe, lle meithrinwyd ei ddiddordeb mewn ffiseg gan athro brwdfrydig o'r enw Mr Foukes. Aeth ymlaen i astudio ffiseg ac electroneg yng Ngholeg Gonville a Caius, Caergrawnt. Yn sgil ennill gradd ddisglair mewn dwy flynedd cyn cyrraedd ei ugain oed, cafodd ei recriwtio gan y ffisegydd John Cockcroft ar gyfer prosiect Ynni Atomig Eingl-Ganadaidd yng Nghanada, lle y treuliodd ddwy flynedd o Fedi 1944.

Dychwelodd i Brydain yn 1946 i weithio yn Adran Ffiseg Niwclear y Sefydliad Ymchwil Ynni Atomig (AERE) yn Harwell. Yn 1950 trosglwyddodd i'r Adran Ffiseg Ddamcaniaethol a bu'n dyst i'r digwyddiadau pan arestiwyd pennaeth y grŵp, Klaus Fuchs, fel ysbïwr Sofietaidd. Yn Harwell y cwrddodd Flowers â Mary Frances Buneman (ganwyd 1921, née Behrens); priodasant yn 1951 a daeth Flowers yn dad i ddau lysfab, Peter a Michael.

Gadawodd Harwell yn 1950 i wneud ymchwil ar strwythur niwclear ym Mhrifysgol Birmingham dan yr athro ysbrydoledig Rudolf Peierls (1907-1995), ac enillodd DSc am y gwaith hwnnw. Ail-ymunodd â'r AERE yn 1952, lle daeth yn Bennaeth Ffiseg Ddamcaniaethol gan arloesi'r defnydd o gyfrifiaduron i ddatrys problemau strwythur yr atom. Cynullodd dîm cryf gan gynnwys gwyddonydd niwclear arall o Gymro, Walter Marshall (1932-1996), a pharhaodd gyda'i ymchwil ei hun ar algebra cregyn niwclear. Yn 1958 fe'i penodwyd yn athro ffiseg ddamcaniaethol ym Mhrifysgol Manceinion. Cymerodd seibiant di-dâl o'r swydd honno yn 1967 i wasanaethu fel cadeirydd y Cyngor Ymchwil Gwyddonol tan 1973, pan benodwyd ef yn Rheithor Coleg Imperial, Llundain. Arhosodd yn Imperial, gan fyw yn nhŷ'r Rheithor yn Queen's Gate, tan 1985 pan ddaeth yn Is-Ganghellor Prifysgol Llundain hyd nes iddo ymddeol yn 1990. Gwasanaethodd fel Canghellor Prifysgol Manceinion o 1995 i 2001.

Cymhwysodd Flowers ei arbenigedd gwyddonol i ddylanwadu ar bolisi cyhoeddus ar sawl achlysur. Yn 1965 cadeiriodd gydweithgor ar Gyfrifiaduron ar gyfer Ymchwil a gyfrannodd at lunio polisi cyfrifiadurol Prydain ar gyfer y prifysgolion a diwydiant. O 1973 cadeiriodd y Comisiwn Brenhinol ar Lygredd Amgylcheddol a fu'n ystyried problem hirdymor gwastraff niwclear. Caewyd rhaglen adweithydd bridiwr cyflym Prydain yn ganlyniad i Adroddiad Flowers yn 1976. Yn Ewrogarwr cadarn, ymgyrchodd dros sefydlu Sefydliad Gwyddoniaeth Ewrop, a gwasanaethodd fel ei Lywydd cyntaf o 1974 i 1980, a sicrhaodd hefyd fod Prydain yn rhan o Gyfundrefn Ymchwil Niwclear Ewrop (CERN).

Fe'i hetholwyd yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol yn 1961 a chafodd ei urddo'n farchog yn 1969. Yn 1975 dyfarnodd Ffrainc y teitl Chevalier de la Légion d'Honneur iddo, ac yn 1981 y teitl uwch Officier de la Légion d'Honneur. Fe'i gwnaed yn arglwydd am oes yn 1979 fel yr Arglwydd Flowers o Queen's Gate, a pharhaodd i hyrwyddo gwyddoniaeth fel cadeirydd Pwyllgor Dethol yr Arglwyddi ar Wyddoniaeth a Thechnoleg. Yn 1981 bu'n un o sylfaenwyr blaenllaw Plaid y Democratiaid Cymdeithasol, ond dychwelodd i'r meinciau croes yn 1989.

Bu Brian Flowers farw yn ei gartref yn Barnet ar 25 Mehefin 2010, ac amlosgwyd ei gorff yn Amlosgfa Golders Green ar 1 Gorffennaf.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2017-11-13

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.