Ganwyd Walter Marshall ar 5 Mawrth 1932 yn Rhymni, Caerdydd, yr ieuengaf o dri o blant Frank Marshall, pobydd, a'i wraig Amy. Dangosodd ddawn fathemategol o oedran ifanc iawn, a meithrinwyd ei ddiddordeb yn y pwnc yn Ysgol Ramadeg Illtud Sant, Caerdydd. Dechreuodd chwarae gwyddbwyll pan oedd yn unarddeg, ac enillodd bencampwriaeth ieuenctid Cymru yn bymtheg oed.
Gadawodd yr ysgol gyda Phrif Ysgoloriaeth y Sir ac aeth i Brifysgol Birmingham i astudio ffiseg fathemategol. Cydnabu iddo elwa'n fawr o ddylanwad yr Athro (yn ddiweddarach Syr Rudolf) R.E. Peierls. Ar ôl graddio arhosodd yn Birmingham i wneud ymchwil, ac yn ddwy ar hugain oed enillodd ddoethuriaeth am draethawd dan y teitl 'Antiferromagnetism and neuron scattering from ferromagnets'. Yn 1954 cafodd ei recriwtio i ymuno â'r Adran Ffiseg Ddamcaniaethol yn y Sefydliad Ymchwil Ynni Atomig (AERE) yn Harwell gan ei gyd-Gymro Brian Flowers y daeth i'w adnabod yn Birmingham Roedd ei waith ymchwil cynnar yn ymwneud â phlasma a siocdonnau. Yn ystod ei yrfa daeth yn ddamcaniaethwr blaenllaw ar briodoleddau atomig mater, a gwnaeth ymchwil bwysig ar strwythurau atomig, ar ynni, ac ar ddyluniad adweithyddion niwclear.
Yn 1955 priododd Anne Vivienne Sheppard, yr oedd wedi ei hadnabod ers eu plentyndod. Cawsant ddau o blant, mab a merch.
Penodwyd Marshall yn Bennaeth Adran yn yr AERE yn 1960, ac yn Gyfarwyddwr yn 1964. Daeth yn gefnogwr selog ynni niwclear fel ffynhonnell trydan, gan ymddangos yn aml ar y cyfryngau i ddadlau'r achos. Bu'n Brif Wyddonydd yn Adran Ynni Llywodraeth Prydain am gyfnod, ond fe'i diswyddwyd yn 1977 yn sgil anghydfod gyda'r Gweinidog Ynni Llafur Tony Benn. Serch hynny, cafodd gefnogaeth gan Lywodraeth Geidwadol newydd Margaret Thatcher, a daeth yn gadeirydd Awdurdod Ynni Atomig y Deyrnas Unedig yn 1981, ac yn gadeirydd Bwrdd Canolog Cynhyrchu Trydan yn 1982. Daeth cyfnod tymhestlog wedyn pan fu'n cefnogi'r llywodraeth yn ystod streic y glowyr 1984-5, gan gyfrannu i'r ymdrechion i gynnal y cyflenwad trydan. Daeth yn gadeirydd Pŵer Cenedlaethol yn nes ymlaen, ond ymddiswyddodd yn 1989 pan benderfynwyd peidio â phreifateiddio'r rhan niwclear yr un pryd â'r gweithfeydd pŵer eraill, fel y dymunai ef. Bu'n gweithio wedyn i nifer o gwmnïau preifat cysylltiedig â'r diwydiant niwclear.
Yn 1986 digwyddodd trychineb niwclear mawr yn Chernobyl yn yr Wcrain. Marshall a arweiniodd ddirprwyaeth Prydain mewn cyfarfod arbennig o'r Awdurdod Ynni Niwclear Rhyngwladol i archwilio achosion ac effeithiau'r drychineb, ac ef a adnabu feiau dylunio a gweithredu'r adweithydd. Arweiniodd ymgyrch i esbonio'r gwahaniaethau rhwng adweithyddion fel yr un yn Chernobyl a rhai gwledydd y gorllewin, er mwyn tawelu meddyliau pobl am y defnydd o ynni niwclear, ac yn sgil ei ymdrechion sefydlwyd Cymdeithas Gweithredwyr Niwclear y Byd (WANO) ac yntau'n gadeirydd cyntaf yn 1989. Mae'r corff hwn wedi bod yn weithredol ers hynny yn hyrwyddo gwelliannau o ran diogelwch mewn cyfleusterau niwclear ar draws y byd.
Trwy gydol y cyfnod hwn cafodd gydnabyddiaeth eang am ei waith gwyddonol. Derbyniodd Fedal Maxwell gan y Sefydliad Ffiseg yn 1964, ac fe'i hetholwyd yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol yn 1971. Dyfarnwyd CBE iddo yn 1973, ac fe'i hurddwyd yn farchog yn 1982. Rhoddwyd rhyddfraint Dinas Llundain iddo yn 1984, a chafodd gymrodoriaeth er anrhydedd gan Goleg St Hugh, Rhydychen. Dyfarnwyd arglwyddiaeth am oes iddo gan y Prif Weinidog, Margaret Thatcher, a daeth yn Farwn Marshall o Goring ym mis Gorffennaf 1985.
Bu Walter Marshall farw o gancr ar 20 Chwefror 1996 yn ysbyty'r Royal Marsden, Sutton, Llundain, a chynhaliwyd ei angladd ar 1 Mawrth yn eglwys St Andrew's, South Stoke, Goring yn swydd Rhydychen.
Dyddiad cyhoeddi: 2018-10-03
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.