GALLIE, MENNA PATRICIA (1919-1990), awdur

Enw: Menna Patricia Gallie
Dyddiad geni: 1919
Dyddiad marw: 1990
Priod: Walter Bryce Gallie
Plentyn: Edyth Gallie
Plentyn: Charles Gallie
Rhiant: Elizabeth Humphreys (née Rhys Williams)
Rhiant: William Thomas Humphreys
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: awdur
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: John P. Jenkins

Ganwyd Menna Gallie ym mhentref glofaol Ystradgynlais, Powys, yr ieuengaf o dair merch i William Thomas Humphreys, saer coed o ogledd Cymru, a'i wraig Elizabeth (ganwyd Rhys Williams, 1885-1974). Er ei bod yn dathlu ei phen blwydd ar 17 Mawrth 1920, fe'i ganwyd mewn gwirionedd ar 18 Mawrth 1919. Fe'i magwyd ar aelwyd Gymraeg glos lle'r oedd gwleidyddiaeth Lafur yn ddylanwad cryf. Roedd tad ei mam, Rees Rhys Williams, wedi cynorthwyo i sefydlu'r Cyngor Cynrychiolaeth Llafur yn ne Cymru, ac roedd ei hewythr, William Rhys Williams, glöwr a fynychodd Goleg Ruskin yn Rhydychen, yn gynghorydd sir Llafur. Ar wahân i sbel fer yn potsian gyda chomiwnyddiaeth ar ddiwedd y 1930au, bu Menna Gallie yn gefnogydd gweithredol i'r Blaid Lafur ar hyd ei hoes.

Roedd Menna'n blentyn galluog a ffraeth, ac enillodd le yn Ysgol Ramadeg Castell-nedd, wedi i'w theulu symud i'r Creunant pan oedd hi'n ddeg oed, ac aeth ymlaen i Goleg y Brifysgol Abertawe, lle y gwnaeth radd mewn Saesneg, gan astudio Cymraeg hefyd dan ei hewythr Stephen J. Williams. Yn y fan honno y cyfarfu â'i darpar ŵr, Walter Bryce Gallie (1912-1998), darlithydd mewn athroniaeth. Priodasant ar 13 Gorffennaf 1940, fis ar ôl ei harholiadau gradd a chwta bum niwrnod cyn iddo yntau fynd i'r rhyfel, lle cyrhaeddodd radd uwchgapten gan ennill y Croix de Guerre. Yn ei absenoldeb, ymgartrefodd Menna Gallie yn Llandudno a Llundain gan weithio i'r Cyllid Gwladol. Pan ddychwelodd Bryce i'w swydd fel darlithydd yn Abertawe, symudodd y pâr i Ystradgynlais lle ganwyd eu dau blentyn, Charles ac Edyth.

Er nad oedd tad Menna Gallie yn löwr, ac felly heb gael ei effeithio'n uniongyrchol gan streic 1926, cafodd y streic effaith ddofn ar ei gwleidyddiaeth. Yn sgil ei sefyllfa drothwyol yn ei hysgol gynradd, lle'r oedd yng nghanol plant llwglyd y streicwyr heb fod yn gallu rhannu eu dioddefaint yn llawn am nad oedd arni angen y prydiau cymunedol a roddid iddynt, datblygodd ynddi ryw 'euogrwydd dieuog' y gwnaeth iawn amdano yn ei nofel gyntaf Strike for a Kingdom (1959). Wedi ei gosod mewn pentref Cymreig sydd ar streic, mae hon yn nofel wleidyddol iawn sy'n esgus bod yn 'whodunnit' diniwed. Roedd marwolaeth amheus rheolwr amhoblogaidd pwll glo a archwilwyd gan fwli hunanbwysig o arolygwr heddlu yn gyfle i Menna Gallie ddatgelu'r defnydd a'r camddefnydd o awdurdod sefydliadol tra'n swyno ei darllenwyr gan ddarluniau deniadol o lowyr Cymreig hoffus ac ecsentrig yn aml. Mae'r prif gymeriad, D. J. Williams, glöwr, bardd, ac Ynad Heddwch, yn ddarlun neilltuol o gofiadwy.

Ysgrifennwyd y nofel yng Ngogledd Iwerddon lle, ar ôl pedair blynedd (1950-1954) yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Swydd Stafford (Prifysgol Keele bellach), roedd Bryce wedi derbyn cadair ym Mhrifysgol Queen's, Belfast. Bu llwyddiant Strike for a Kingdom yn galondid mawr i Menna Gallie - daeth yn ail am wobr y Golden Dagger, a chawsai adolygiadau calonogol iawn gartref ac yn America - ac aeth ati i lunio dwy nofel arall yn fuan: Man's Desiring (1960) a The Small Mine (1962). Nofel gampws yw Man's Desiring sy'n archwilio'n ysgafn y gwahaniaethau diwylliannol rhwng Cymru a Lloegr trwy yrfa academaidd Griff Rowlands mewn prifysgol yn Lloegr. Bu'n llai llwyddiannus na Strike, ond daeth Menna Gallie yn ôl i'w gorau gyda The Small Mine sydd wedi ei gosod, fel Strike, yn y pentref ffuglennol Cilhendre, ond y tro hwn ar ddiwedd y 1940au. Er mwyn cael syniad sut beth oedd gwaith glöwr, treuliodd Menna Gallie ddwy sifft wyth awr dan ddaear wrth ochr glowyr.

Bu ei hamser yng Ngogledd Iwerddon yn ffurfiannol ac yn gynhyrchiol hefyd. Roedd hi a'i gŵr yn byw mewn tŷ hardd ar lan llyn ar ystad Castleward y tu allan i Belfast, a'i chymdoges agosaf oedd Viscountess Bangor. Gan gofio ei chefndir sosialaidd a'r pwys a roddai ar gymuned organaidd, nid oedd cyfeillgarwch â'r boneddigion wrth fodd calon Menna Gallie, na chwaith, yn sgil safle aruchel Bryce, gael ei hystyried yn un o'r boneddigion ei hunan. A hithau'n storïwraig ddawnus a gyfunai ffraethineb gyda threiddgarwch ac ymroddiad diwyro i gyfiawnder cymdeithasol, cafodd gwmni wrth ei bodd ymhlith cymeriadau ei nofelau, ac ymhlith Plaid Lafur anenwadol Gogledd Iwerddon. Ac yn bwysig iawn, roedd ysgrifennu'n fodd iddi gynnal ei hymlyniad cryf wrth Gymru. Fel sawl nofelydd Cymreig, trwy edrych ar Gymru o bell cafodd olwg gliriach ar y wlad ac ar ei hunaniaeth hithau nid yn unig fel Cymraes, ond hefyd fel menyw yn byw mewn byd a luniwyd gan ddynion.

Yn ystod y cyfnod hwn yn ei bywyd y trawyd hi gan rym yr hyn a alwai'n 'women's lib.', er nad ystyriai ei hun yn ffeminydd ideolegol. Mewn adolygiad o The Female Eunuch Germaine Greer (1970) ar gyfer y Cambridge Review, collfarnodd dôn ymosodol y llyfr yn llym, tra'n cymeradwyo'r parodrwydd i herio syniadau traddodiadol am swyddogaethau'r rhywiau. Gallai hithau bleidio 'women's lib' mewn cywair gwahanol, ac nid oedd pall ar ei dawn i synnu, i siocio ac i ddifyrru. Yn 1978, datganodd mewn araith Gŵyl Ddewi o flaen cynulleidfa o feddygon mai ei bra oedd ei dilledyn mwyaf cysurus. Ond yn aml iawn roedd hiwmor i Menna Gallie yn fodd i fynd i'r afael â materion difrifol. Er gwaethaf eu helfennau doniol, cyflwyna ei dwy nofel lofaol ddewisiadau radicalaidd amgen i naratifau gwrol de Cymru diwydiannol. Ac roedd yr un mor bryfoclyd yn ei beirniadaeth o'r diwydiant cyhoeddi a reolid gan ddynion ac a fethai amgyffred bod gan fenywod well darpariaeth seicolegol na dynion i ysgrifennu nofelau, yn ei golwg hi, am eu bod yn arfer cyflawni cynifer o wahanol swyddogaethau yn eu bywydau.

Yn 1967, symudodd y ddau i Gaergrawnt lle penodwyd Bryce Gallie i gadair mewn Gwyddor Wleidyddol a chymrodoriaeth yng ngholeg Peterhouse. Cychwynnodd Menna Gallie ar ei nofel nesaf yn ddiymdroi, ac yn 1968 cyhoeddwyd Travels with a Duchess, wedi ei hysbrydoli'n rhannol gan ei hymweliad â Dubrovnik yn 1965 fel cynrychiolydd Gogledd Iwerddon mewn cynhadledd PEN (Poets, Essayists, Novelists). Hanes dwy fenyw ganol-oed yn teithio ar eu pennau eu hunain i leoliad egsotig gan 'ymddwyn yn wael' yw hon, ac fel holl ffuglen Menna Gallie mae'n gweithio ar sawl lefel. Mae naratif difyr y nofel yn archwilio'n gynnil iawn yr ymddygiad 'parchus' a ddisgwylir gan fenywod ond nid gan ddynion.

Dwy flynedd yn ddiweddarach, yn 1970, cyhoeddodd You're Welcome to Ulster. Mae'r teitl yn nodweddiadol o hoffter Menna Gallie o fwyseiriau, ond roedd y stori ei hun yn un o'r rhai cyntaf i fynd i'r afael â 'Thrafferthion' Gogledd Iwerddon. Mae Sarah Thomas, Cymraes weddw ganol-oed sy'n poeni y gallai lwmp ar ei bron fod yn ganceraidd, yn dychwelyd i Ogledd Iwerddon gan obeithio ailddechrau hen berthynas gyda dyn priod. Mae ei hymweliad yn gyrru nofel sy'n archwilio rhyddid rhywiol, culni crefyddol, ac ansefydlogi gwleidyddol. Wedi ei gosod ym mis Gorffennaf 1969, ar adeg pan oedd tensiynau gwleidyddol yn cynyddu yng Ngogledd Iwerddon, cyfuna'r nofel daith bersonol Sarah gyda digwyddiadau ehangach pan fygythir hi gan genedlaetholwyr Gwyddelig, fel y cawsai Menna Gallie ei hun ei bygwth tra'n canfasio yno ar ran Plaid Lafur Gogledd Iwerddon. Mae'r nofel yn ehangu'r astudiath amserol o drais fel tacteg wleidyddol trwy gysylltu elfennau eithafol o genedlaetholdeb Cymreig â'r IRA.

Arfer greadigol Menna Gallie oedd gosod nofelau yn ôl-syllol mewn lleoliadau yr oedd ganddi brofiad personol ohonynt. Mae'r ffaith na chynhyrchodd Caergrawnt nofel o'r fath yn awgrymu ei diffyg cydymdeimlad â lle a welai'n ymhongar ac yn elyniaethus tuag at fenywod. Trodd yn hytrach at nofel wedi ei gosod yn ne-orllewin Cymru. Mae In These Promiscuous Parts (teitl sy'n ddyfyniad o The Elephant's Child gan Kipling) yn adrodd hanes hwyliog Rosa Kendrew, sy'n dychwelyd i'w chynefin o'i swydd yn Rhydychen ac yn mynd i ganol gwleidyddiaeth, potsio, clecs lleol a chynllwynio. Gwrthodwyd y nofel gan ei hasiant llenyddol am nad oedd yn cydweddu ag unrhyw genre marchnatadwy ac y byddai'n anodd ei gosod. Fe'i cyhoeddwyd yn y pen draw yn America yn unig yn 1986. Ond yn 1973 bu'n brysur iawn yn cyfieithu nofel Gymraeg Caradog Pritchard Un Nos Ola Leuad (Full Moon), hanes dyn ifanc yn tyfu i fyny mewn pentref yn ardal y chwareli llechi.

Gadawodd y Gallies Gaergrawnt yn 1976 ar ymddeoliad Bryce. Wedi ymgartrefu yn Nhrefdraeth, Sir Benfro, daeth Menna Gallie yn siaradwraig gyhoeddus boblogaidd, yn enwog am ei barn finiog am wleidyddiaeth, bywyd yng Nghymru, llenyddiaeth a chyfartaledd y rhywiau, gan ysgafnhau ei difrifoldeb trwy atgofion personol a straeon beiddgar. Bu farw o strôc yn Nhrefdraeth ar 17 Mehefin 1990. Anghofiwyd ei nofelau gan y beirniaid am gyfnod wedi hynny, ond yn sgil twf y diddordeb yn llên Saesneg Cymru ailgyhoeddwyd pedair ohonynt, ac erbyn hyn mae i'w llais unigryw a gwreiddiol le diogel yn y canon.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2016-11-17

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.