McLUCAS, CLIFFORD (1945-2002), artist a chyfarwyddwr theatr

Enw: Clifford Mclucas
Dyddiad geni: 1945
Dyddiad marw: 2002
Priod: Karen Chambers
Plentyn: John McLucas
Plentyn: Joseph McLucas
Plentyn: Jesse McLucas
Rhiant: Marion McLucas (née Wilford)
Rhiant: James McLucas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: artist a chyfarwyddwr theatr
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth; Perfformio
Awdur: Rowan O'Neill

Ganwyd Cliff McLucas ar 29 Mai 1945 mewn teulu dosbarth gweithiol yn Wetherby, Swydd Efrog. Roedd ei dad James McLucas yn Albanwr, a'i fam Marion (née Wilford) yn Saesnes. Ar ôl mynychu ysgol ramadeg Pudsey aeth i Brifysgol Manceinion yn 1963 i astudio pensaernïaeth, ond ni orffennodd y cwrs. Wedi treulio amser yn teithio yn Ewrop symudodd gyda'i bartner Karen Chambers i Gaeredin yn 1968 a pharhaodd i weithio ar brosiectau pensaernïol. Rhwng 1972 a 1974 gweithiodd yn ysbeidiol fel coedwigwr a gwnaeth brentisiaeth gyda saer gan ddod yn grefftwr medrus a dyfeisgar.

Yn 1974 symudodd i Dre-groes, Ceredigion gyda'i bartner a'i deulu ifanc. Cawsant dri mab, Jesse, Joseph a John. Gweithiodd McLucas fel saer hunangyflogedig a dechreuodd ddysgu Cymraeg dan anogaeth Emyr Hywel, athro yn ysgol gynradd Tre-groes. Roedd yn gysylltiedig â grŵp o bobl theatr a oedd yn cwrdd yng nghartref yr artist Mary Lloyd Jones yn Aberbanc ac yn cyflwyno sioeau fel The White Tower gan yr awdures leol Liz Whittaker. Dechreuodd feddwl am agweddau perfformiadol ei waith coed mewn lleoedd fel Pigeonsford yn Llangrannog, ac yn sgil y diddordeb yma chwiliodd am gyfleodd i gydweithio ag artistiaid eraill a oedd yn gwneud pethau tebyg yn ardal Aberystwyth.

Yn gynnar yn yr 80au daeth ei berthynas gyda Chambers i ben a symudodd i Aberystwyth, lle dechreuodd ganolbwyntio ar ei waith celf ei hun o greu printiau a collage. Cafodd waith fel cyfarwyddwr Canolfan yr Ysgubor, menter celfyddydau cymunedol a oedd yn cynnwys gofod stiwdio ac yn rhoi cartref i grwpiau fel Grŵp Cyfryngau Aberystwyth (yr oedd McLucas yn aelod ohono) a Dawns Dyfed ac yn cynnal digwyddiadau a gweithdai ganddynt. Yn y cyfnod hwn y daeth yn gysylltiedig â chwmni theatr Brith Gof a oedd yn gweithio o'r un adeilad.

Dechreuodd McLucas gyfrannu yn ymarferol at waith cwmni Brith Gof gan gynnwys cynllunio a chreu y meinciau pren ar gyfer perfformiadau teithiol, a chyfres o faneri ffabrig mawr yn dangos golygfeydd o lyfrau'r hen destament ar gyfer perfformiad promenâd yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant i ddathlu pedwarcanmlwyddiant cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg yn 1988. Ffurfiodd y baneri arddangosfa deithiol, Baneri'r Beibl, a ymwelodd â phob un o eglwysi cadeiriol Cymru. Yn 1987 cyfrannodd McLucas gyfres debyg o faneri ar gyfer y perfformiad Y Gadair Ddu, rhan o gyfres o weithiau a ysbrydolwyd gan ysgythriadau Goya, Trychinebau Rhyfel. O ganlyniad i'r cydweithio hyn daeth McLucas yn gyd-gyfarwyddwr artistig i gwmni Brith Gof yn 1988.

Gyda dyfodiad McLucas yn aelod llawn o'r cwmni cychwynnodd Brith Gof ar gyfres o weithiau safle penodol ar raddfa fawr mewn safleoedd ôl-ddiwydiannol. Nodwedd arbennig o'r rhain oedd dyluniadau senograffig pensaernïol epig McLucas. Yn eu plith roedd Gododdin a luniwyd yn wreiddiol ar gyfer hen ffatri Rover yng Nghaerdydd ac a aeth ymlaen i safleoedd mawr eraill yn Ewrop, a Pax a fwriadwyd yn wreiddiol ar gyfer eglwys gadeiriol Llan-daf ond a wireddwyd yn fwyaf cofiadwy yng Ngorsaf Rheilffordd Aberystwyth. Yr adeg honno y datblygodd McLucas ei gysyniad 'y llu, yr ysbryd a'r tyst' fel ffordd o ddisgrifio ei ddull dylunio theatrig mewn perthynas â safle, cysyniad a ddaeth yn ddylanwadol wedyn ym maes astudiaethau theatr.

Yn 1994 symudodd McLucas i Gaerdydd er mwyn ymwneud yn agosach â gwaith cynhyrchu a gweinyddol y cwmni a oedd bellach â swyddfeydd yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter. Yn 1995 cafodd gwaith arloesol McLucas ar gyfer teledu Y Pen Bas Y Pen Dwfn ei ddarlledu ar S4C a HTV Cymru. Cynhyrchiad dwyieithog oedd hwn a ddarluniai foddi pentref Capel Celyn. Ffilmiwyd y gwaith mewn pwll nofio gyda llawer o'r naratif yn cael ei gyflwyno ar ffurf sgrin hollt uwch ben ac o dan y dŵr, gan gyfosod yr hanes ag adroddiad o nofel Daniel Defoe Robinson Crusoe. Dychwelodd y cwmni i orllewin Cymru yn 1995 gyda'r cynhyrchiad Tri Bywyd ar safle fferm anghyfannedd yng nghanol ardal coedwigaeth ger Llanfair Clydogau. Dyna ddechrau cydweithio ag adran archeoleg Prifysgol Llanbedr Pont Steffan, ac ymgais hefyd i adfer hunaniaeth Gymraeg y cwmni.

Yn 1998 collodd Brith Gof gyllid Cyngor y Celfyddydau. Er bod Mike Pearson wedi gadael y cwmni yn fuan cyn hynny, ceisiodd McLucas barhau'r gwaith gan symud y cwmni o Gaerdydd i'r brifysgol yn Llanbedr Pont Steffan a chychwyn cyfres o weithiau dan y teitl Prosiect X. Cyfres o ddeuddeg oedd hon i fod, ond chwech yn unig a gafodd eu gwireddu gan ddibynnu'n drwm ar dalentau creadigol Eddie Ladd a oedd hefyd wedi chwarae rôl Sarah Jacob yn Tri Bywyd. Roedd defnydd arbrofol o dechnolegau teledu cylch cyfyng a gwyliadwriaeth agos yn fodd i gyfryngu'r gwaith byw mewn ffyrdd pryfoclyd a diddorol.

Symudodd McLucas i Lanbedr Pont Steffan yn 1999 ac fe'i penodwyd yn gymrawd ymchwil anrhydeddus yn y brifysgol. Perfformiwyd cynhyrchiad olaf Brith Gof Draw Draw yn … yn Theatr Felinfach y flwyddyn honno a dynodai newid swyddogaeth McLucas o fod yn gyfarwyddwr theatr i alwedigaeth newydd fel 'lluniwr mapiau dwfn' gan dynnu ar syniadau y daeth ar eu traws gyntaf wrth weithio ar Tri Bywyd. Yn 2000 cymerodd McLucas swydd fel cymrawd ymchwil ar ymweliad ym Mhrifysgol Stanford, Califfornia, i weithio ar The Three Landscapes Project gyda'i gydweithiwr o Lanbedr Pont Steffan, yr archeolegydd yr Athro Michael Shanks. Nod y prosiect hwn oedd archwilio i'r cysyniad o'r 'map dwfn' ar ôl William Least Heat-Moon a'i lyfr PrairyErth gan geisio dod o hyd i ffyrdd o gynrychioli cyfoeth tirlun yn ddaearyddol ac yn ddiwylliannol trwy ddefnyddio technolegau digidol newydd.

Cychwynnodd McLucas ar gyfnod dwys o ymchwil ar ei ben ei hun tra hefyd yn parhau i chwilio am gyfleoedd i gyflwyno gwaith Brith Gof megis Earste Dagen/Y Dyddiau Cyntaf, gosodiad map a ddatblygwyd ar gyfer gŵyl theatr Oerol mewn byncer segur ar ynys Terschelling. Ar ôl iddo ddychwelyd i Gymru o Stanford yn 2002 dechreuodd weithio ar Prosiect Ogam: Rhwng ei dau fôn - map dwfn o Lwybr Arfordir Sir Benfro. Arddangoswyd astudiaeth tuag at y gwaith, Bro, ym mhabell gelf yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhyddewi ym mis Awst 2002, ond ni chwblhawyd y gwaith oherwydd marwolaeth annhymig McLucas o diwmor yr ymennydd ar 1 Medi 2002.

Mae archif McLucas ar gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ochr yn ochr ag un Brith Gof a ddiogelwyd ganddo yn ystod ei amser gyda'r cwmni. Yn ei waith creadigol aeth McLucas i'r afael ag ardal benodol, Ceredigion, ar adeg o newid cymdeithasol cyflym, a'r canlyniad oedd dealltwriaeth unigryw o'r broses honno o safbwynt mewnfudwr ac un a ddysgodd yr iaith Gymraeg. Mae ei ddylanwad i'w deimlo ar genhedlaeth o artistiaid sy'n gweithio yng Nghymru hyd heddiw, a thrwy ei faniffesto ar gyfer mapio dwfn y mae arwyddocâd cynyddol i'w waith yn rhyngwladol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2017-12-06

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.