Erthygl a archifwyd

RECORDE, ROBERT (c. 1512-1558), mathemategydd a meddyg

Enw: Robert Recorde
Dyddiad geni: c. 1512
Dyddiad marw: 1558
Rhiant: Rose Recorde (née Jones)
Rhiant: Thomas Recorde
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: mathemategydd a meddyg
Maes gweithgaredd: Meddygaeth; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Gordon Roberts

Ganwyd Robert Recorde yn Ninbych-y-pysgod yn sir Benfro, yr ail o ddau fab Thomas Recorde o Ddinbych-y-pysgod a Ros Johns, merch Thomas ap John ap Sion, o Fachynlleth. Hon oedd ail briodas Thomas, ar ôl priodas fer a di-blant â Joan Ysteven o Ddinbych-y-pysgod. Etifeddodd Thomas Recorde fusnes masnachol a sefydlwyd yn y dref gan ei dad Roger Recorde. Mae'n bosibl bod Robert a'i frawd hŷn Richard wedi derbyn eu haddysg gynnar gan offeiriaid siantri Eglwys y Santes Fair, Dinbych-y-pysgod. Dichon fod addysg grefyddol o'r fath yn sylfaen ar gyfer defosiwn Recorde i'r eglwys ar hyd ei oes, er nad i ffydd Gatholig ei fachgendod.

Yn 1525, yn dair ar ddeg oed, aeth Recorde i Brifysgol Rhydychen ac ar 16 Chwefror 1530 fe'i derbyniwyd yn Faglor yn y Celfyddydau. Etholwyd ef yn gymrawd o Goleg yr Holl Eneidiau y flwyddyn ddilynol, ac wedyn penderfynodd astudio meddygaeth. Rhoddodd Prifysgol Rhydychen drwydded iddo weithredu fel meddyg yn 1533. Fel sawl un arall yn y cyfnod hwn, cafodd Recorde gysur mewn Protestaniaeth a dechreuodd gefnogi'r Diwygiad yn weithredol. Bu hyn yn achos tyndra cynyddol rhyngddo a'i gydweithwyr, dynion yr oedd eu hymlyniad wrth Eglwys Rufain yn fater o yrfa llawn cymaint â ffydd. O ganlyniad penderfynodd Recorde symud i amgylchfyd llawer mwy goddefgar Prifysgol Caergrawnt, gan adael Rhydychen tua 1537.

Cyrhaeddodd Gaergawnt fel academydd cydnabyddedig, gan ymgartrefu efallai yng ngholeg Sant Ioan. Dechreuodd ar astudiaethau meddygol uwch ac yn 1545 dyfarnwyd MD iddo gan y brifysgol. Bu hefyd yn darllen astronomeg, daearyddiaeth, mineraleg, sŵoleg ac, fe ymddengys, unrhyw beth bron a apeliai ato. Roedd ganddo ddiddordeb dwfn mewn diwinyddiaeth hefyd, ond ymroddodd yn anad dim i astudio mathemateg. Trwy'r astudiaethau hyn cafodd ei ysbrydoli i ysgrifennu ei lawlyfr mathemategol cyntaf, gwaith ar rifyddeg dan y teitl The Grounde of Artes. Ar ffurf ymddiddan rhwng meistr a disgybl, bu'r llyfr yn llwyddiant rhyfeddol pan gyhoeddwyd ef gan yr argraffydd Reyner Wolfe yn 1543. Ni ellid rhag-weld yr adeg honno y byddai'r llyfr yn parhau mewn print am dros 150 o flynyddoedd, gan ymddangos mewn dros ddeugain argraffiad.

Dychwelodd Recorde i Rydychen fel meddyg cymwys gyda'r bwriad o ddysgu meddygaeth. Ond cafodd fod hyd yn oed lai o groeso iddo ymhlith plaid geidwadol Coleg yr Holl Eneidiau nag a fu cyn ei arhosiad hir yng Nghaergrawnt. Penderfynodd gefnu ar y byd academaidd felly, a gwneud gyrfa iddo'i hun fel meddyg yn Llundain. Ymgartrefodd mewn tŷ ym mhlwyf St Katherine Coleman, ger Tŵr Llundain, ac aeth ati'n fuan i gyhoeddi llawlyfr meddygol ar wrosgopeg dan y teitl The Urinal of Physick. Wedi ei argraffu gan Reyner Wolfe yn 1547, bu hwn hefyd yn llwyddiannus iawn, gan barhau mewn print am ryw 130 o flynyddoedd mewn unarddeg o wahanol argraffiadau, yr olaf yn 1679 dan y teitl diwygiedig The Judgement of Urines. Er gwaetha'r stori boblogaidd, ni fu Recorde erioed yn feddyg i Edward VI na Mary I, ac mae'n debyg mai gwraidd y dryswch oedd y ffaith iddo gyflwyno llyfrau i'r ddau deyrn hyn.

Yn fuan ar ôl i Recorde gyrraedd Llundain, adroddodd yr hynafiaethydd John Leland (c.1503-1552) stori hynod iddo. Roedd Leland wedi derbyn comisiwn gan Henry VIII i archwilio llyfrgelloedd yr holl dai crefydd cyn eu diddymu, a darganfu lawer o lawysgrifau, wedi eu harchifo a'u hanghofio am ganrifoedd yn ôl pob golwg, oll wedi eu hysgrifennu mewn iaith na allai neb ei deall. Hen Saesneg oedd yr iaith honno mewn gwirionedd, iaith yr Eingl-Sacsoniaid, ac ymdrechion arloesol Recorde, Leland a'r eglwyswr Robert Talbot (1505/6-1558) a ddiogelodd y llawysgrifau hyn rhag eu colli neu eu dinistrio, ac a arweiniodd yn y pen draw at adfer dealltwriaeth o'r iaith. Er gwaetha'i astudiaethau Eingl-Sacsonaidd, cafodd Recorde amser i ysgrifennu llawlyfr mathemategol arall, â'r teitl The Pathway to Knowledge. Roedd y llyfr hwn ar geometreg, yn Saesneg, yn haws o lawer i ddynion ymarferol na allai ddarllen Euclid yn Lladin na dilyn dadleuon geometrig astrus.

Daeth Recorde i gyswllt â'r llywodraeth am y tro cyntaf ym mis Gorffennaf 1548, pan ofynnwyd iddo holi a thanseilio hygrededd y dyn trafferthus Richard Allen. Yn sgil hyn daeth i adnabod yr 'efengylwr penboeth' Edward Underhill (1512-c.1576). Pan ddanfonwyd Underhill i garchar Newgate yn ddiweddarach dan gyhuddiad o heresi a mynd yn ddifrifol wael yno, priodolodd ei wellhad i Recorde, gan ei alw 'a doctor in physic and very learned, who ventured several times to visit me in prison to his great peril, if it had been known, who was at charges and pains with me gratis'.

Ar 29 Mehefin 1548 bu Recorde yn bresennol mewn pregeth y gorchmynnwyd i Stephen Gardiner (c.1495-1555), Esgob Winchester, ei thraddodi i ddangos ei ufudd-dod ar bynciau dysgeidiaeth. Ym marn rhai aelodau o'r Cyfrin Gyngor a oedd hefyd yn bresennol, fe'i datgelodd ei hun yn hytrach 'an open great offender and a very seditious man'. Daethpwyd ag achos llys yn ei erbyn yn Lambeth ddwy flynedd yn ddiweddarach, yn Rhagfyr 1550, yn un o dreialon sioe diffiniol teyrnasiad Edward VI. Galwyd Recorde yn dyst dros yr erlyniad a bu ei dystiolaeth yn gymorth i sicrhau dyfarniad euog a charcharu Gardiner yn y Tŵr.

Tua diwedd 1548 siarsiwyd Recorde gan y llywodraeth â'r dasg o oruchwylio gweithfeydd haearn Pentyrch ger Caerdydd, ac yna yn Ionawr 1549 fe'i gwnaed yn stiward bathdy Durham House yn y Strand. Yn fuan wedyn rhoddwyd iddo yr un swydd ym mathdy Briste, dan Thomas Chamberlain, pan gafodd yr is-drysorydd blaenorol William Sharington ei arestio a'i garcharu am lygredd a chyfrifon ffug. Aeth Chamberlain yn llysgennad i Ddenmarc yn y man, gan adael Recorde i ddod yn is-drysorydd yn ei le.

Pan oedd yn rheolwr ym Mriste tynnwyd Recorde i mewn i ffrae annifyr â Syr William Herbert, Iarll Penfro (c.1501-1570). Mynnodd Iarll Penfro gael cyllid i brynu ymborth i'r fyddin yr oedd yn ei harwain i Orllewin Lloegr i orchfygu gwrthryfel gan y werin. Gwrthododd Recorde roi unrhyw arian heb sêl bendith y brenin. Roedd Iarll Penfro, a oedd yn un o ddynion mwyaf pwerus Lloegr a Chymru, yn gandryll ac fe'i cyhuddodd o deyrnfradwraeth. Caewyd bathdai Briste a Durham House yn fuan wedyn.

Ailadroddir yn aml fod Recorde wedi cael ei gosbi am yr hyn a ddigwyddodd ym Mriste trwy gael ei gyfyngu i'r llys am drigain diwrnod. Y tebyg yw mai'r Arglwydd Amddiffynnydd Somerset a fynnai gadw Recorde gerllaw am y cyfnod hwn i atal ei dafod, gan fod Somerset hefyd â rhan yn sgandal Sharington a gwaith ciaidd Iarll Penfro yn gorchfygu'r gwrthryfeloedd yn Wiltshire, Dyfnaint a Chernyw.

Y peth nesaf i Recorde oedd gwaith gyda'r Company of Merchant Adventurers to New Lands (yn ddiweddarach y Muscovy Company), a chynllunio'r fordaith fforio gyntaf i chwilio am ffordd ogleddol dros y môr i Tseina a'r Dwyrain Pell - y 'North-east Passage' chwedlonol. Ar y pryd roedd wrthi'n ysgrifennu llyfr at ddefnydd morlywyddion y cwmni, a elwid ganddo The Castle of Knowledge. Gan ddychwelyd i ddull ei lawlyfr cyntaf ar rifyddeg, lluniwyd hwn hefyd fel ymddiddan rhwng meistr a disgybl. Fe'i hargraffwyd yn y pen draw gan Reyner Wolfe yn 1556.

Ym mis Mai 1551 galwyd Recorde yn ôl i wasanaeth y llywodraeth trwy benodiad fel syrfëwr Mwyngloddiau ac Arian Bath yn Iwerddon. Fe'i gwnaed trwy lythyrau patent yn brif arolygydd bathdy Dulyn, ac roedd gofyn iddo hefyd oruchwylio gweithgareddau Joachim Gundelfinger, capten mwyngloddio o Augsburg yn yr Almaen. Huriwyd Gundelfinger, ynghyd â'i griw o fwyngloddwyr estron, i weithio mwyngloddiau yn Clonmines, Swydd Wexford. Aeth pethau'n wael o'r cychwyn, ac yn fuan iawn roedd Recorde a Gundelfinger ynghlwm mewn dadl gynhennus am y cyfanswm bychan o arian a gynhyrchwyd, er gwaethaf gwariant cyfalaf enfawr gan y Goron. Ym mis Mehefin 1552 cyrhaeddodd comisiwn yn Iwerddon i archwilio holl agweddau technegol ac ariannol y gwaith yn Clonmines. Diswyddwyd y mwyngloddwyr a dychwelodd Recorde i Lundain dan gwmwl.

Yn 1553 bu farw'r Brenin Edward VI ac fe'i holynwyd ar yr orsedd gan ei chwaer Mary, pabyddes bybyr. Yn ystod teyrnasiad Mary cafodd llawer o drueiniaid eu llosgi wrth y stanc am heresi, ac fel deallusyn Protestannaidd dechreuodd Recorde ofni am ei ddiogelwch. Ychwanegodd yr ofnau hyn at ei ofidiau ynghylch llanast y mwyngloddiau arian a dechreuodd ei iechyd ddioddef. Dan bwysau ofnadwy, anfonodd lythyr annoeth at y frenhines yn cwyno am y cyhuddiad o deyrnfradwraeth a wnaed yn ei erbyn gan Iarll Penfro ac yn ei gyhuddo yntau yn ei dro o gamymddygiad. Yn y cyfamser cwblhaodd ei lyfr olaf, gwaith ar algebra dan y teitl The Whetstone of Witte , llyfr a gynhwysai'r esboniad enwog ar ei lawfer fathemategol ar gyfer arwydd hafaledd, dwy linell gyfochrog =, 'because no two things can be more equal'.

Yn ei lythyr at y frenhines defnyddiodd Recorde rai ymadroddion Lladin cryptig na ddeallai Iarll Penfro ond y tybiai eu bod yn ei gyhuddo o fod yn deyrnfradwr. Ym mis Hydref 1556 erlyniodd Recorde am enllib. Cynhaliwyd yr achos cyfreithiol yn Neuadd Westminster ym mis Ionawr 1557 ac er gwaethaf ymdrechion glew Recorde i'w amddiffyn ei hun, gorchmynnwyd iddo dalu i Iarll Penfro £1,000 o iawndal ynghyd â chostau. Nid oes tystiolaeth iddo gael ei orfodi i dalu'r ddirwy hon, ond serch hynny cafodd ei arestio ar ddechrau 1558 a'i ddal yng ngharchar y King's Bench yn Southwark. Y rheswm am ei garchariad yn ôl pob tebyg oedd awydd y Cyfrin Gyngor i'w gadw yn y ddalfa nes i'r ymchwiliad i'r mwyngloddiau arian gael ei gwblhau. Ond rheswm pwysicach, efallai, oedd er mwyn ei rwystro rhag ffoi dramor, fel y gwnaeth sawl un arall, cyn i hierarchiaeth Gatholig eglwyswyr Mary allu archwilio ei ddaliadau crefyddol am unrhyw arlliw o heresi.

Yn amgylchiadau clòs a ffiaidd ei garchariad, dirywiodd iechyd Recorde yn gyflym, ac ar ddechrau Mehefin 1558 sylweddolodd ei fod yn marw. Gwnaeth ei ewyllys, gan adael cymynroddion bychain i'w deulu a'i gyfeillion, a bu farw yn fuan wedyn heb adennill ei ryddid. Mae ei fan claddu yn anhysbys. Bu Recorde yn ddibriod ar hyd ei fywyd, ac roedd y 'pedwar mab a phum merch' a briodolir iddo'n aml mewn gwirionedd yn blant i'w nai o'r un enw, Robert Recorde, mab hynaf ei frawd Richard.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2016-10-07

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Erthygl a archifwyd Frig y dudalen

RECORDE, ROBERT (bu farw 1558), mathemategwr a meddyg

Enw: Robert Recorde
Dyddiad marw: 1558
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Meddygaeth; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: James Frederick Rees

Ganwyd yn Ninbych-y-pysgod, Sir Benfro, mab Thomas Record a'i wraig Rose, merch Thomas Jones, Machynlleth. Graddiodd yn Rhydychen ac etholwyd ef yn gymrawd o Goleg yr Holl Eneidiau yn 1531. Symudodd i Gaergrawnt; bu'n astudio mathemateg yno a phasiodd yn feddyg hefyd. Ar ôl bod yn addysgu yn Rhydychen am gyfnod ymsefydlodd yn Llundain fel meddyg; dywedir iddo fod yn feddyg i'r brenin Edward VI a'r frenhines Mari. Yn 1549 dewiswyd ef yn bennaeth y bathdy ('Comptroller of the Mint') ym Mryste; dwy flynedd yn ddiweddarach daeth yn arolygydd cyffredinol gweithydd mwyn arian yn Lloegr ac Iwerddon.

Bu farw yng Ngharchar y King's Bench, Southwark, yn 1558; profwyd ei ewyllys (a wnaethpwyd yn y carchar) ar 18 Mehefin y flwyddyn honno. Ymddengys fod teulu Recorde yn byw yn y Maudlins, a fuasai'n sefydliad (yn dyddio o'r Canol Oesoedd) i wahangleifion ychydig y tu allan i furiau Dinbych-y-pysgod.

Recorde oedd arloesydd ysgrifenwyr ar fathemateg yn Lloegr; ef oedd y cyntaf i ysgrifennu llyfrau ar rifyddeg, algebra, a geometri. Cafwyd llawer o argraffiadau o'i lyfrau yn y 16eg ganrif a'r 17eg. Efe a ddyfeisiodd y simbol =. Dyma ei brif weithiau: The Grounde of Artes 1540, The Whetstone of Witte, 1557, a The Pathway to Knowledge, 1557?; y mae'r tri gwaith yn delio, yn y drefn y'u rhoddwyd, â'r tri phwnc a enwir uchod. Yn y trydydd llyfr y mae'n egluro diffygion ('eclipses') ar yr haul a'r lleuad yn ôl cyfundrefn Copernicus; yr oedd ymysg y rhai cyntaf yn Lloegr i fabwysiadu'r gyfundrefn honno.

Awdur

  • Syr James Frederick Rees, (1883 - 1967)

    Ffynonellau

  • The Edinburgh Review, xxii, 1814
  • Henry Hallam, Introduction to the literature of Europe in the fifteenth, sixteenth, and seventeenth centuries ( Llundain 18-- )
  • David Murray, Chapters in the History of Book-Keeping, Accountancy, and Commercial Arithmetic ( Glasgow 1930 )
  • Oxford Dictionary of National Biography

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Erthygl a archifwyd

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.