WATKINS, Syr TASKER (1918-2007), bargyfreithiwr a barnwr

Enw: Tasker Watkins
Dyddiad geni: 1918
Dyddiad marw: 2007
Priod: Margaret Eirwen Watkins (née Evans)
Plentyn: Mair Watkins
Plentyn: Rhodri Watkins
Rhiant: Jane Watkins (née Phillips)
Rhiant: Bertram Watkins
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bargyfreithiwr a barnwr
Maes gweithgaredd: Cyfraith
Awdur: John Griffith Williams

Ganwyd Tasker Watkins ar 18 Tachwedd 1918 yn 9 Station Terrace, Nelson, Morgannwg, yn ail fab ac yn bedwerydd o saith o blant Bertram Watkins, gosodwr peiriannau ac yn ddiweddarach gweithiwr i'r llywodraeth, a'i wraig Jane (ganwyd Phillips). Ymladdodd ei dad a'i dad-cu ym Myddin Kitchener a lladdwyd dau frawd ei dad gyda'r Gwarchodlu Cymreig yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Ramadeg Pontypridd lle roedd yn ddisgybl addawol, ond yn anffodus cwtogwyd ei addysg, cyn iddo sefyll arholiadau cenedlaethol, pan fu'n rhaid i'w rieni ymuno â'r diaspora economaidd o gymoedd de Cymru i chwilio am waith yn Lloegr. Ar ôl symud i Dagenham, gweithiodd Tasker i wneud iawn am ei ddiffyg cymwysterau academaidd trwy fynychu dosbarthiadau nos ac astudio'n breifat, gan ddarllen llenyddiaeth ddethol gyda diddordeb awchus yn y gair ysgrifenedig a barhaodd ar hyd ei fywyd ac a roddodd iddo feistrolaeth eithriadol ar yr iaith Saesneg, yn ysgrifenedig ac yn llafar. Ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd roedd yn gyflogedig yn adran allforion Crookes Laboratories Limited, ac yn astudio i fod yn swyddog masnachol cyn cael ei ddanfon i Brasil.

Ar 16 Hydref 1939 ymrestrodd ym Milwyr Traed Ysgafn Dug Cernyw. Wedi cwblhau ei hyfforddiant sylfaen yn Bodmin, fe'i danfonwyd i Uned Hyfforddi Swyddogion Cadet. Ar 17 Mai 1941, ac yntau newydd dderbyn comisiwn fel ail lefftenant yn y Catrawd Cymreig, priododd (Margaret) Eirwen Evans, merch hynaf John Rees Evans, gyrrwr, a Kate Dilys (ganwyd Davies). Ganwyd merch a mab iddynt, Mair a Rhodri.

Yn ystod y paratoadau ar gyfer goresgyniad Ewrop, penodwyd Watkins yn Awst 1943 yn hyfforddwr yn adran drylliau yr ysgol 'Advanced Handling and Fieldcraft' ger Llanberis, Sir Gaernarfon. Ar ôl i'r goresgyniad ddechrau ym Mehefin 1944, fe'i penodwyd i Grŵp Atgyfnerthu 103 yn Normandi ac ar 25 Gorffennaf 1944 ymunodd â Bataliwn 1af/5ed y Catrawd Cymreig, rhan o Frigâd 158 y 53ydd Adran (Gymreig) a oedd yr adeg honno'n cwmpasu ystlys chwith 'poced' Falaise wrth i luoedd y Cynghreiriaid geisio cau'r bwlch rhwng Falaise ac Argentan er mwyn dal byddin yr Almaenwyr wrth iddi gilio. Ar 16 Awst gorchmynnwyd i'r Bataliwn dorri'r brif ffordd o Falaise i'r gorllewin. Gan weld y gelyn o'u blaenau, penderfynwyd ymosod â dau gwmni gyda chefnogaeth tanciau. Yn anffodus collwyd cyswllt radio yn llwyr rhwng y pencadlys a'r ddau gwmni a oedd ymhell ar y blaen, ac ni ellid trosglwyddo gorchymyn iddynt aros yn eu hunfan. Y tro diwethaf y gwelwyd Cwmni B (a gynhwysai Watkins) roeddent yn croesi ffordd Falaise yn anelu yn syth am eu nod. Am 0100 o'r gloch pan oedd pawb wedi llwyr anobeithio am Gwmni B dychwelodd Watkins i linellau'r bataliwn gyda 27 o oroeswyr. Dyma'r adroddiad a gyhoeddwyd yn y London Gazette ar 31 Hydref 1944:

While commanding a company of the Welch Regiment in North-West Europe on August 16th, the battalion was ordered to attack objectives near the railway at Balfour.

Lieutenant Watkins' company had to cross open cornfields in which booby traps had been set. It was not yet dusk and the company soon came under heavy machine-gun fire from posts in the corn and further back, and also from an 88mm gun; many casualties were caused and the advance was slowed up.

Lieutenant Watkins, the only officer left, placed himself at the head of his men and under short range fire charged two posts in succession, personally killing or wounding the occupants with his Sten gun. On reaching his objective he found an anti-tank gun manned by a German soldier; his Sten gun jammed, so he threw it in the German's face and shot him with his pistol before he had time to recover.

Lieutenant Watkins' company now had only some 30 men left and was counter-attacked by 50 enemy infantry. Lieutenant Watkins directed the fire of his men and then led a bayonet charge, which resulted in the almost complete destruction of the enemy.

It was now dusk and orders were given for the battalion to withdraw. These orders were not received by Lieutenant Watkins' company as the wireless set had been destroyed. They now found themselves alone and surrounded in depleted numbers and in failing light. Lieutenant Watkins decided to rejoin his battalion by passing round the flank of the enemy position through which he had advanced but while passing through the cornfields once more, he was challenged by an enemy post at close range. He ordered his men to scatter and himself charged the post with a Bren gun and silenced it. He then led the remnants of his company back to battalion headquarters.

His superb gallantry and total disregard for his own safety during an extremely difficult period were responsible for saving the lives of his men, and had a decisive influence on the course of the battle.

Derbyniodd Watkins Groes Victoria gan y Brenin George VI ar 8 Mawrth 1945 ym Mhalas Buckingham.

Roedd yn ddiarhebol o gyndyn i sôn am ei ddewrder, ond honnid iddo ddweud, "Roedd y bechgyn yn wych. Cymry oedden nhw." (Western Mail 9 Mai 1945). Ac mewn cyfweliad yn 2001 dywedodd - "You must believe me when I say it was just another day in the life of a soldier. I did what needed doing to help colleagues and friends, just as others looked out for me during fighting that summer … I didn't wake up the next day a better or braver person, just different. I'd seen more killing and death in 24 hours - indeed been part of that terrible process - than is right for anybody. From that point onwards I have tried to take a more caring view of my fellow beings, and that, of course, always includes your opponent, whether it be in war, sport or just life generally." (Daily Telegraph 8 Tachwedd 2001)

Wrth i'w Adran symud ymlaen ar draws Normandi, trwy Wlad Belg ac i mewn i'r Iseldiroedd, dyrchafwyd Watkins yn gapten ac ar 22 Medi 1944, fe'i penodwyd yn uwchgapten gweithredol. Yn arwain cwmni drylliau o'r Bataliwn1af/5ed, cymerodd Watkins ran yn y frwydr i ryddhau dinas s'Hertogenbosch yn yr Iseldiroedd, a oedd wedi'i hamddiffyn yn gadarn gan yr Almaenwyr. Ymladdwyd i glirio pob stryd a thŷ am bum niwrnod, ac ystyrid mai hon oedd brwydr fwyaf yr Adran yn yr holl ymgyrch. Yn ystod y frwydr clwyfwyd Watkins gan shrapnel bom mortar. Roedd y clwyfau'n ddigon difrifol i'r meddygon ystyried torri ei goes, ond llwyddodd i ddwyn perswâd arnynt i beidio. Ar ôl gadael yr ysbyty nid oedd yn ffit ar gyfer gwasanaeth gweithredol ac fe'i penodwyd ar 6 Rhagfyr i arwain Cwmni C 164 OCTU yn Trenthan. Fe'i rhyddhawyd o wasanaeth milwrol gweithredol ar 28 Mai 1945 a rhoddwyd iddo radd Uwchgapten er anrhydedd.

Yn sgil rhyddhau s'Hertogenbosch tyfodd cyfeillgarwch clòs rhwng pobl y ddinas a Chymru, a'r 53ydd Adran yn arbennig. Cyflwynwyd rhyddid y ddinas i'r Adran ar 27 Hydref 1945, ac o hynny ymlaen bu Watkins yn flaenllaw wrth gynnal cyswllt â'r ddinas, gan fynychu cyfarfodydd coffa yn gyson hyd at ddathliadau'r hanner canmlwyddiant yn 1994.

Yn Chwefror 1945, tra'n gwella o'i glwyfau, gwnaeth gais i Gymdeithas Anrhydeddus y Deml Ganol am gael ei dderbyn gyda gollyngiad cymwysterau addysgol. Caniatawyd ei gais, ac ar ôl ei ryddhau o'r fyddin symudodd gyda'i wraig a'i ferch i Lan-daf, yr adeg honno ar gyrion Caerdydd, lle byddai ei gartref am weddill ei fywyd. Mynychodd goleg y gyfraith yno ac astudiodd am Arholiadau Terfynol y Bar gan gael llonydd i astudio yn yr Eglwys Gadeiriol a ddifrodwyd gan fomiau, heb fod ymhell o'r llety ar rent a rannai ei deulu â theulu arall. Daeth yr Eglwys Gadeiriol yn eglwys blwyf annwyl iawn ganddo. Gwasanaethodd ar bwyllgor y catrawd a sefydlwyd i adeiladu capel y Catrawd Cymreig (Capel Dewi Sant) lle y mae cofeb iddo. Llwyddodd yn ei arholiadau ac fe'i galwyd i'r Bar gan y Deml Ganol ar 9 Mehefin 1948. Yn 1970, fe'i gwnaed yn Feinciwr ac yn 1998 ef oedd Darllenydd yr Hydref.

Yr adeg honno cefnogai'r Blaid Ryddfrydol, a siaradodd mewn cyfarfodydd cyhoeddus i gefnogi ymgyrch Roderic Bowen dros etholaeth Aberteifi yn etholiad cyffredinol 1951 ac wedyn, ond gwrthododd gynnig gan y Blaid Ryddfrydol i sefyll mewn sedd ddiogel a chollodd ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth weithredol.

Wedi gorffen ei dymor prawf gyda Griffith Owen George yn swyddfeydd D. Morgan Evans yng Nghaerdydd, ymunodd â'r swyddfa. Yn fuan iawn datblygodd bractis eang a llwyddiannus ar Gylchdaith Cymru a Chaer, ac ymgymerodd â llawer o waith sifil a chyhoeddus gan ateb y galw cynyddol am gynrychiolaeth mewn ymchwiliadau cyhoeddus. Bu'n aelod ffyddlon o'r Gylchdaith, a daeth maes o law yn drysorydd ac yn 1970, yn arweinydd arni. Fel cynrychiolydd y Gylchdaith, wynebodd y cynnig gan y Comisiwn Brenhinol ar ddyfodol y Brawdlysoedd a'r Chwartersesiynau yn 1966-69 y gellid darparu gwasanaeth digonol ar gyfer gweinyddu llysoedd yng Nghymru gan un gylchdaith yn y Gogledd Orllewin, yn cwmpasu Cylchdaith y Gogledd a Gogledd Cymru, ac un yn y De Orllewin, yn cwmpasu Cylchdaith y Gorllewin, Sir Gaerloyw, Sir Fynwy a De Cymru. Chwaraeodd Watkins ran bwysig wrth ddadlau'r achos dros gadw Cylchdaith Cymru a Chaer ac yn argymhelliad terfynol y Comisiwn y dylid ei chadw gan ychwanegu Sir Fynwy.

Pan benodwyd ef yn QC yn 1965, dilynodd gonfensiwn y cyfnod gan ymuno â swyddfeydd yn Llundain - 1 Crown Office Row yn y Deml - lle sefydlodd bractis yn Llundain a thramor yn fuan iawn. Ond cadwodd ei gyswllt proffesiynol â Chymru lle ymddangosodd mewn nifer o'r achosion pwysicaf, gan gynnwys gwaith sifil yn ymwneud â'r diwydiant glo ac esgeulustra meddygol, a gwaith yn y llysoedd trosedd fel erlid aelodau o Fyddin Cymru Rydd ym Mrawdlys Abertawe yn 1969. Cymerodd ran yn Nhribiwnlys Trychineb Aber-fan yn 1966 yn ddirprwy i'r Twrnai Cyffredinol, Syr Elwyn Jones, ac fel cwnsler i'r Tribiwnlys cafodd y cyfrifoldeb beichus o goladu a chyflwyno'r dystiolaeth er mwyn darganfod beth a achosodd i domen lo uwchben y pentref lithro gan ladd 144 o bobl, 116 ohonynt yn blant a fu farw pan gladdwyd eu hysgol. Bu'r drychineb yn fwy dirdynnol byth iddo gan fod pentref Aber-fan ond ychydig filltiroedd o'i fan geni yntau, a bod nifer o'i neiaint wedi rhuthro i chwarae eu rhan wrth achub y rhai a gladdwyd. Ystyriodd geisiadau i Gronfa Trychineb Aber-fan, yn ddi-dâl, gan wneud argymhellion i'r pwyllgor rheoli parthed hawliau i daliadau o'r Gronfa.

Cydnabyddid ef yn adfocad disglair a grymus gydag arddull briodol i unrhyw dribiwnlys a ffordd o holi'n gynnil a threiddgar a fyddai'n dal sylw y barnwr a'r rheithgor yn ddi-feth. Er nad ystyrid ef yn gyfreithiwr dyfnbwyll, bu ei afael gadarn ar egwyddorion, ei farn ddoeth a'i dymer gyfreithyddol ragorol yn gaffaeliad mawr iddo fel bargyfreithiwr.

Bu'n gadeirydd ar Dribiwnlys Apêl Iechyd Meddyliol Cymru (1960-71), yn Gofiadur Merthyr Tudful (1968-70) ac yn Gofiadur Abertawe (1970-1). Yn 1970, arweiniodd yr ymchwiliad cyhoeddus i gamdriniaeth cleifion yn Ysbyty'r Meddwl Farleigh yng Ngwlad yr Haf. Datgelodd ei adroddiad hunan-fodlonrwydd ac agweddau caeth y staff ar bob lefel, a argymhellodd god ymddygiad ar gyfer nyrsus i drin cleifion treisgar.

Yn 1971 fe'i penodwyd i Fainc yr Uchel Lys a'i urddo'n farchog. Fe'i rhoddwyd i ddechrau yn yr Adran Deuluol newydd a throsglwyddodd yn Hydref 1974 i Adran Mainc y Frenhines. Bu'n farwnwr gweinyddol ar Gylchdaith Cymru a Chaer o 1975 tan ei benodiad i Lys yr Apêl ac i'r Cyfrin Gyngor yn 1980. Ef oedd cadeirydd cyntaf y Bwrdd Astudiaethau Barnwrol (1979-80), corff newydd a luniwyd i hyfforddi'r farnwriaeth.

Cafodd ei benodi i Lys yr Apêl yr un pryd â phenodiad Geoffrey Lane, cyfaill agos a chydnaws, yn Arglwydd Brif Ustus. Erbyn hynny roedd dyletswyddau cynyddol yr Arglwydd Brif Ustus wedi mynd yn rhy feichus ac roedd angen i'r Arglwydd Lane ddirprwyo goruchwyliaeth feunyddiol y chwe chylchdaith, gweinyddiaeth a hyfforddiant barnwrol. Yn Watkins, cafodd ddyn ag ymdeimlad mawr o ddyletswydd gyhoeddus a hefyd un addas at y gwaith o ran cymeriad a phrofiad. Fel cydweithwyr roeddent yn gyfuniad aruthrol.

Yn 1982, arweiniodd Watkins weithgor a sefydlwyd gan yr Arglwydd Lane a gynigiodd newidiadau i weithdrefnau Llys y Goron er mwyn cyflymu achosion troseddol a lleihau eu costau. Yn 1983, cafodd yr Arglwydd Lane berswâd ar yr Arglwydd Ganghellor i greu swydd farnwrol newydd Barnwr Gweinyddol Hŷn ar gyfer Lloegr a Chymru, a phenododd Watkins i'r swydd honno, swydd a ddaliodd tan 1988, gan annog a chefnogi'r farnwriaeth ar bob lefel i weithredu'n fwy effeithlon yn y llysodd troseddol a sifil. Yn 1988, fe'i penodwyd gan yr Arglwydd Lane fel y Dirprwy Brif Ustus cyntaf, ac yn y swydd honno cydweithiodd yn agos â'r Arglwydd Lane ar benodiadau barnwrol ac ar weinyddiaeth y system cyfiawnder troseddol. Yn 1991 bu'n aelod o Lys yr Apêl dan arweiniad yr Arglwydd Lane a sefydlodd yr egwyddor bod modd i wŷr priod sy'n byw ar wahân i'w gwragedd gael eu dyfarnu'n euog o'u treisio. Pan ymddeolodd yr Arglwydd Lane yn 1992, rhoddodd yr un gefnogaeth i'w olynydd, yr Arglwydd Taylor o Gosforth a'i cadwodd fel Dirprwy Brif Ustus nes iddo yntau ymddeol yn 1993. Fe'i penodwyd yn GBE yn 1990.

Yn y llys, roedd bob amser yn groyw ac effeithlon, gan anelu ei hun ac eraill i graidd y mater, ac yn awyddus i sicrhau'r canlyniad cyfiawn. Roedd yn garedig i'r adfocad ifanc a dibrofiad ond yn ddiamynedd gyda diogi a diffyg paratoi. Daeth â doethineb, sensitifrwydd a dealltwriaeth o'r ddynoliaeth i'r fainc farnwrol. Roedd y bar a'r fainc yn hoff iawn ohono, ond nid felly, o bosib, y troseddwyr y bu'n adolygu eu dedfrydau.

Daliodd nifer o swyddi ym mywyd cyhoeddus Cymru, gan gynnwys dirprwy lefftenant Morgannwg yn 1956, llywydd Lleng Brydeinig Frenhinol Cymru (1947-68) a chadeirydd pwyllgor Morgannwg Cronfa Les y Fyddin am sawl blwyddyn. Bu'n llywydd ar Goleg Meddygol Prifysgol Cymru o 1987 i 1998. Ym mis Gorffennaf 1985 dyfarnwyd iddo gymrodoriaeth anrhydeddus gan yr American College of Trial Lawyers, a chan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon yn 1992. Fe'i penodwyd yn farchog Urdd Sant Ioan yn 1998. Cafodd ddoethuriaethau yn y gyfraith er anrhydedd gan Brifysgolion Cymru a Morgannwg. Yn Ebrill 2006 rhoddwyd iddo ryddfraint Dinas Caerdydd, ac fe'i disgrifiwyd gan yr Arglwydd Faer fel 'un o ddinasyddion mwyaf nodedig Cymru'.

Roedd Watkins yn frwdfrydig iawn fel chwaraewr a chefnogwr Rygbi'r Undeb. Pan symudodd i Gaerdydd yn 1946, ymunodd â Chrwydriaid Morgannwg fel maswr a daliodd gyswllt â'r clwb fel chwaraewr (bu'n gapten ar yr ail dîm), aelod pwyllgor, cadeirydd ac, o 1968 tan ei farwolaeth, yn llywydd. Ar ôl iddo ymddeol yn 1993, etholwyd ef yn llywydd ar Undeb Rygbi Cymru, a daliodd y swydd honno trwy etholiadau diwrthwynebiad tan 2004 pan benderfynodd beidio â sefyll i'w ailethol, ac fe'i gwnaed yn ddirprwy noddwr anrhydeddus am oes, safle a grewyd yn arbennig iddo ef, gan fod y Frenhines yn noddwraig a'r Tywysog William yn ddirprwy noddwr. Roedd y penodiad yn gydnabyddiaeth o'i arweiniad wrth oruchwylio'r cyfnod trawsnewid o'r gêm amatur i'r gêm broffesiynol. Er nad oedd o blaid y newid hwnnw, gan ei fod yn ei ystyried yn groes i ddelfryd gymunedol y gêm ym mhentrefi Cymru, derbyniodd fod y newid yn anochel a chwaraeodd ran bwysig trwy gadeirio pwyllgor a gynigiodd ailwampio Undeb Rygbi Cymru yn bellgyrhaeddol; er na chafodd y cynigion y gefnogaeth angenrheidiol gan 75% o'r aelodaeth, arweiniodd yr adolygiad at newid sylfaenol yn nhrefn a rheolaeth yr Undeb yn 2002.

Roedd Watkins yn uchel ei barch gan chwaraewyr Cymru, a byddai Graham Henry, hyfforddwr y tîm cenedlaethol, yn gosod copi o ddyfynneb ei Groes Victoria yn y stafell newid cyn gemau'r Chwe Gwlad. Gwisgodd y tîm fandiau du ar eu breichiau yn arwydd o barch iddo yn eu gêm gyntaf yng Nghwpan y Byd ar y diwrnod y bu farw. Roedd ei areithiau mewn ciniawau ar ôl gemau rhyngwladol yn nodedig am eu cyffyrddiad ysgafn, eu cynhesrwydd a'u hiwmor iach. Bu'n gadeirydd ar Ymddiriedolaeth Elusennol yr Undeb o'i sefydlu yn 1975, ac o dan ei arweiniad bu'r ymddiriedolaeth yn weithgar dros anghenion chwaraewyr a anafwyd, yn enwedig y rhai paraplegig. Ar 15 Tachwedd 2009 dadorchuddiodd ei ferch Mair gerflun ohono gan y cerflunydd Roger Andrews o Lanilltud Fawr y tu allan i brif fynedfa Stadiwm y Mileniwm.

Nid anghofiodd Watkins ei wreiddiau fyth ac roedd yn gwbl ddiymhongar. Er mwyn ymlacio oddi wrth feichiau ei fywyd proffesiynol treuliai amser ar y cwrs golff ac yn gwylio Crwydriaid Morgannwg ar brynhawn Sadwrn, gan gerdded ar hyd ystlys y cae ac yfed dim mwy na thri hanner o gwrw yn y bar wedi'r gêm.

Dyn preifat iawn oedd Watkins, a chanddo fywyd teuluol cryf. Roedd yn gwbl ymroddedig i'w wraig, Eirwen, a rhannai'r ddau eu galar parhaus o golli eu mab Rhodri a fu farw yn 1982. Sail ei fywyd mewnol a'i ymwneud â phob math o bobl oedd ei ffydd Gristnogol ddiwyro. Cadwai'r Beibl wrth erchwyn ei wely, ac mewn sgwrs eang gydag Archesgob Cymru siaradodd am ei gred yn Nuw a'r angen am weddi. Gwelsai sut y bu ffydd yn gymorth i'r milwyr dan ei reolaeth "pan aeth hi'n daro", a dyna oedd ffydd go iawn.

Bu Tasker Watkins farw ar 9 Medi 2007 yn Ysbyty'r Brifysgol, Caerdydd. Cynhaliwyd ei angladd yn Eglwys Gadeiriol Llan-daf ar 15 Medi gyda swyddogion o Gatrawd Brenhinol Cymru yn cludo'r arch. Cynhaliwyd gwasanaethau coffa cydamserol yn Eglwys Gadeiriol Llan-daf ac Eglwys Gadeiriol Sant Ioan yn s'Hertogenbosch ar 1 Rhagfyr 2007.

Roedd yn ddyn cynnes, gwylaidd a chyfeillgar a ddaliai safle unigryw ym mywyd Cymru. Mewn llythyr at ei ferch wedi ei farwolaeth disgrifiodd Tywysog Cymru ef fel 'Cymro gwirioneddol fawr', ac un y byddai clod ei weithredoedd dewr a'i wasanaeth anhunanol ar gadw am byth yn llyfrau hanes Cymru.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2017-08-07

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.