Ganed Roderic Bowen yn yr Elms, Aberteifi ar 6 Awst 1913, yn fab i Evan Bowen YH a'i wraig, Margaret Ellen Twiss. Dyn busnes lleol wedi ymddeol oedd ei dad a'i wreiddiau teuluol yn ddwfn o fewn cymunedau amaethyddol de Ceredigion a gogledd Sir Benfro. Bu llawer o gyndeidiau Bowen yn chwarae rhan flaenllaw yng ngwleidyddiaeth Ryddfrydol yr ardal.
Addysgwyd Roderic Bowen yn Ysgol y Cyngor, Aberteifi, Ysgol Ramadeg Aberteifi, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (lle y graddiodd yn LlB yn 1933), a Choleg Sant Ioan, Caergrawnt (lle y graddiodd yn BA ym 1935 ac yn MA yn 1940). Yn Aberystwyth ac yng Nghaergrawnt enillodd raddau dosbarth cyntaf yn y gyfraith. Daeth yn fargyfreithiwr a galwyd ef i'r bar yn y Deml Ganol ym 1937. Ymunodd â siambrau yng Nghaerdydd a gwasanaethodd ar gylchdaith De Cymru. Fel bargyfreithiwr, prif fyrdwn ei waith oedd yr iawndal a delid i weithwyr, a magodd yn ogystal ddiddordeb arbennig mewn gweinyddiaeth llywodraeth leol. Adlewyrchwyd ei deyrngarwch i ddiwylliant Cymreig yn y rhan a chwaraeodd yng ngweithgareddau Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion ac Urdd Gobaith Cymru. Gwasanaethodd hefyd fel cynghorydd cyfreithiol i'r Teifi Net Fisherman's Association.
Gwasanaethodd Bowen yn y fyddin o 1940 hyd 1946 gan gyrraedd rheng capten. Bu'n gwasanaethu fel swyddog ar staff y Barnwr Adfocad-Cyffredinol. Etholwyd ef yn AS Rhyddfrydol dros sir Aberteifi yn etholiad cyffredinol Gorffennaf 1945 fel olynydd i Syr David Owen Evans (a oedd newydd farw), ac ailetholwyd ef yno mewn pum etholiad cyffredinol yn olynol, hyd nes y gorchfygwyd ef gan D. Elystan Morgan (Llafur) yn etholiad cyffredinol Mawrth 1966.
Gwnaeth Roderic Bowen ei farc o fewn Ty'r Cyffredin ar unwaith fel dadleuwr medrus a doniol - 'y Cymro llond ei groen â ffordd gaboledig ganddo', ond roedd yn amlwg ar adain dde ei blaid fechan. At ei gilydd cyndyn ydoedd i sefyll yn erbyn safiad ei blaid. Etholwyd ef yn gadeirydd ar y Blaid Seneddol Gymreig ym 1955. Safodd Roderic Bowen yn aflwyddiannus yn erbyn Jo Grimond ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Ryddfrydol yn dilyn ymddeoliad Clement Davies ym mis Medi 1956. Roedd carfan gref o fewn y Blaid Ryddfrydol yng Nghymru a wasgai i geisio sicrhau etholiad Bowen i'r swydd wag. Er mai ychydig iawn o obaith oedd ganddo i ennill yr etholiad, roedd Bowen braidd yn ddig oherwydd llwyddiant Grimond. O ganlyniad, anghynnes oedd y berthynas rhwng y ddau ohonynt hyd nes i Bowen adael y Ty Cyffredin ym 1966.
Yn ystod argyfwng Suez ym 1956, aeth ati i amddiffyn y llywodraeth Geidwadol yn erbyn beirniadaeth yr wrthblaid. Un o feirniaid amlycaf y Llywodraeth dros fater Suez oedd ei arweinydd ef ei hun sef Jo Grimond. Hoffai Roderic Bowen ganmol rhinweddau menter breifat, cefnogodd ailgyflwyno chwipio, ac ym 1958 llofnododd fesur gan Geidwadwyr y meinciau cefn yn protestio yn erbyn penderfyniad neuadd y dref yn Sant Pancras i chwifio'r Faner Goch ar Fai 1af.
Ar yr un pryd parhaodd â'i yrfa gyfreithiol, gan wasanaethu fel Cofiadur Caerfyrddin, 1950-53, Merthyr Tudful, 1953-60, Abertawe, 1960-64, a Chaerdydd, 1964-67. Bu'r ymrwymiadau proffesiynol hyn yn gyfrifol am ennyn llawer iawn o feirniadaeth o fewn sir Aberteifi bod eu Haelod Seneddol yn dueddol o esgeuluso ei waith seneddol a'i gyfrifoldebau yn yr etholaeth. Daeth y Blaid Lafur sirol i synhwyro fod buddugoliaeth etholiadol bellach yn bosibl, optimistiaeth a gynyddodd yn sgil cwymp sylweddol ym mwyafrif Bowen i 2219 o bleidleisiau ym mis Hydref 1964 yn dilyn gornest pedair-onglong tra ffyrnig yn y sir.
Gwasanaethodd Roderic Bowen hefyd fel cadeirydd Sesiwn Chwarter sir Drefaldwyn, 1959-71. Yn dilyn cryn bwysau ar ran Harold Wilson, y Prif Weinidog, derbyniodd Bowen swydd fel Dirprwy Lefarydd y Ty Cyffredin, swydd a olygai ei fod hefyd o reidrwydd yn Ddirprwy Gadeirydd y Pwyllgor Ffyrdd a Moddau ym 1965, penderfyniad a arweiniodd at lawer iawn o feirniadu. Bu cryn dipyn o gecran ac yn wir feirniadaeth o fewn yr etholaeth. Ychydig iawn a gyfrannodd Roderic Bowen at wleidyddiaeth plaid yn dilyn ei drechu ym 1966.
Gwasanaethodd Bowen fel Comisiynydd Cymreig ar gyfer Yswiriant Cenedlaethol a'r Adran Nawdd Cymdeithasol o 1967 tan 1986. Roedd hefyd yn aelod o Bwyllgor yr Arglwydd Ganghellor ar Ddiwygio Prydlesau, ac ym 1972 Bowen oedd cadeirydd y pwyllgor ar Arwyddion Ffyrdd Dwyieithog. Roedd hefyd yn llywydd ymroddedig Coleg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan o 1977 tan 1992. Mae un o'r llyfrgelloedd a chanolfan ymchwil yn Llanbedr Pont Steffan yn dwyn ei enw, felly hefyd un o'r neuaddau preswyl ar gampws y brifysgol. Dyfarnwyd iddo radd Ll.D. Prifysgol Cymru er anrhydedd ym 1972, ac etholwyd ef yn gymrawd o Goleg y Drindod, Caerfyrddin ym 1992. Bu Roderic Bowen yn aelod o Gorff Llywodraethol Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 1945-2001, ac o Brifysgol ffederal Cymru rhwng 1950 a 2001.
Roedd Roderic Bowen yn edmygydd mawr o Syr Rhys Hopkin Morris ac roedd ei gredoau Rhyddfrydol yn cyd-fynd yn berffaith. Adlewyrchwyd hyn yn ei gred ddisygl yng nghyfrifoldeb yr unigolyn a'i farn bendant mai cyfrifoldeb pob unigolyn oedd cyfrannu at wellhad cymdeithas. Er iddo dueddu i'r dde o fewn y sbectrwm gwleidyddol, ac iddo wrthwynebu'n chwyrn sosialaeth a chomiwnyddiaeth, roedd lawn mor hallt ei wrthwynebiad i hawliau'r buddiannau hynny a oedd yn cael eu gwarchod gan y Blaid Geidwadol.
Nid oedd unrhyw amheuaeth ynghylch gwladgarwch Roderic Bowen. Adlewyrchid hyn yn ei gefnogaeth ddiflino i gydraddoldeb rhwng Cymru a'r Alban ac am gynrychiolaeth i Gymru yn y Cabined, ymrwymiad a rannwyd gan yr Eisteddfod Genedlaethol (sefydliad y bu Bowen yn ei fynychu'n rheolaidd), a Phrifysgol Cymru. Fel unigolyn roedd ganddo argyhoeddiadau Cristnogol dwfn, a daeth yn flaenor o fewn yr eglwys Bresbyteraidd yng Nghymru. Bu'n flaenor ar hyd ei oes. Yn ystod ei flynyddoedd olaf tueddai i fyw bywyd syml braidd fel meudwy mewn fflat bychan yn 3 Maynard Court, Fairwater Road, Llandaff o fewn y brifddinas, a'i iechyd yn dirywio'n raddol.
Bu farw Roderic Bowen yng Nghaerdydd ar 18 Gorffennaf 2001. Roedd yn ddibriod. Cyflwynwyd grwp bychan o'i bapurau gwleidyddol i ofal Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn fuan ar ôl ei farw.
Dyddiad cyhoeddi: 2011-06-20
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.