Ganwyd 5 Medi 1888 ym Mlaencaerau, fferm yn Nhir Iarll, Morgannwg yn fab i John Morris, gweinidog Seion (A), Caerau, Maesteg, a Mary (ganwyd Hopkin) ei wraig. Gan fod ei gartref ymhell o ysgol cafodd ei addysg gynnar gan ei rieni. Cafodd le fel disgybl athro yn ysgol Glyncorrwg o dan Lewis Davies yn 1902. Collodd ei rieni yn 1904 a gofalwyd amdano ef a'i chwaer gan ei ewythr Rhys Hopkin. Yn 1910 derbyniwyd ef i Goleg y Brifysgol ym Mangor, lle yr amlygodd ei ddawn fel dadleuydd. Bu'n llywydd y myfyrwyr yn 1911 a graddiodd gydag anrhydedd mewn athroniaeth yn 1912. Bu'n dysgu yn ysgol ramadeg Bargod am ychydig cyn ymuno â'r fyddin yn 1914 gan ddod yn swyddog yn ail fataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Enwyd ef ddwywaith mewn cadnegesau a chafodd M.B.E. am ei wrhydri. Clwyfwyd ef a bu'n dioddef o'r effeithiau ar hyd ei oes. Wedi'r rhyfel dechreuodd astudio'r gyfraith yng Ngholeg y Brenin, Llundain. Derbyniwyd ef yn fargyfreithiwr yn y Middle Temple yn 1920 a gweithio yng nghylchdaith De Cymru. Bu'n cefnogi ymgeiswyr Rhyddfrydol mewn etholiadau ac wedi marw W. Llewelyn Williams yn 1922 dewiswyd ef fel ymgeisydd y Rhyddfrydwyr Annibynnol yng Ngheredigion. Er iddo golli etholiad 1922 etholwyd ef gyda mwyafrif sylweddol i gynrychioli Ceredigion yn y senedd ym mis Rhagfyr 1923. Gadawodd Dŷ'r Cyffredin yn 1932 i gymryd swydd ynad cyflogedig yn Llundain, swydd a lanwodd gyda disgleirdeb am 4 blynedd. Ym mis Hydref 1936 dechreuodd ar ei waith fel cyfarwyddwr cyntaf rhanbarth newydd Cymru 'r B.B.C., lle y dangosodd annibyniaeth meddwl, a oedd mor nodweddiadol ohono, yn nyddiau anodd y rhyfel, a bu'n gefn i nifer o bobl ieuainc a ddaeth yn amlwg ym myd darlledu a theledu yng Nghymru. Gweithiodd yn ddygn dros yr hawl i barhau i ddarlledu rhaglenni Cymraeg yn ystod y rhyfel. Dychwelodd i fyd gwleidyddiaeth fel aelod (Rh.) dros etholaeth Gorllewin Caerfyrddin yn 1945 a chadwodd y sedd hyd ddiwedd ei oes. Cynrychiolodd y senedd ar ddirprwyaeth i ddwyrain Affrica yn 1928, bu'n aelod o'r comisiwn ar y terfysg ym Mhalesteina yn 1929, a chyfarfyddodd â Gandhi fel aelod o ddirprwyaeth i'r India yn 1946 o dan arweiniad Robert Richards. Aeth ar daith ddarlithio lwyddiannus i T.U.A. yn 1949. Dewiswyd ef yn ddirprwy gadeirydd Pwyllgorau Tŷ'r Cyffredin, a thrwy hynny'n ddirprwy lefarydd y Tŷ. Dyrchafwyd ef yn Gwnsler y Brenin yn 1946, ei urddo'n farchog yn 1954 a chafodd radd LL.D. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1956. Ysgrifennodd adroddiad ar gyflwr Tanganyika wedi ei ymweliad ag Affrica yn 1928, Welsh politics (1927), a Dare or despair (1950). Ysgrifennai ar bynciau athronyddol hefyd a chyfieithodd gyfrol o farddoniaeth Sarnicol, Blackthorn blossoms. Yr oedd yn annibynnol ei farn, treiddgar ei feddwl, dewr ei ysbryd a chywir ei fuchedd. Bu farw yn sydyn yn ei gartref yn Sidcup ar 22 Tachwedd 1956. Cynhaliwyd gwasanaeth coffa iddo yn eglwys S. Margaret, Westminster, capel King's Cross (A), Llundain a chapel Heol Awst (A), Caerfyrddin.
Priododd yng nghapel Charing Cross (MC), Llundain, 11 Medi 1918, â
(ganwyd 24 Tachwedd 1889), a fuasai'n gydfyfyriwr ag ef ym Mangor. Merch W. H. Williams, Dinam, Llanrwst, a'i wraig Elizabeth, awdur Brethyn cartref (1951). Cafodd hi radd D.Lit. ym Mhrifysgol Paris yn 1917 a threuliodd weddill Rhyfel Byd I fel trefnydd Byddin Tir y Merched yn ne Cymru. Cafodd swydd wedyn fel pennaeth ysgol addysg bellach Debenham, a bu'n brif arholwr allanol i nifer o awdurdodau addysg. Rhoddodd flynyddoedd o wasanaeth gwerthfawr i'r Egyptian Exploration Society gan fod yn ysgrifennydd mygedol o 1937 nes iddi symud i Gaerdydd ar farwolaeth ei gŵr. Cyhoeddodd ei thraethawd am ddoethuriaeth Li Biaus descouneüs de Renaud de Beaujeu (1915), Le Bel inconnu (1929), Welsh education in sunlight and shadow (1918), The Northamptonshire composition scale (1933), ynghyd â gweithiau eraill ar addysg. Bu farw 13 Gorffennaf 1958.
Bu iddynt un ferch, Perrie (ganwyd 1923), a briododd Alun Williams, sylwebydd y B.B.C., yn 1944.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.