RICHARDS, ROBERT (1884 - 1954), hanesydd a gwleidydd

Enw: Robert Richards
Dyddiad geni: 1884
Dyddiad marw: 1954
Priod: Mary Myfanwy Richards (née Owen)
Rhiant: Ellen Richards
Rhiant: John Richards
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hanesydd a gwleidydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Evan David Jones

Ganwyd yn Nhan-y-ffordd, Llangynog, Trefaldwyn, 7 Mai 1884, mab i John Richards, chwarelwr llechi, a'i wraig Ellen; addysgwyd ef yn ysgol gynradd Llangynog, ysgol uwchradd Llanfyllin a C.P.C., Aberystwyth. Rhwng 1903 ac 1906 dilynodd gyrsiau gradd mewn gwyddor gwleidyddiaeth, Lladin, Ffrangeg ac athroniaeth a chael anrhydedd dosbarth I mewn gwyddor gwleidyddiaeth, ond am ryw reswm ni chymerodd ei radd. Treuliodd y ddwy flynedd nesaf yng Ngholeg S. Ioan, Caergrawnt, a graddio gydag anrhydedd mewn economeg. Penodwyd ef yn ddarlithydd mewn economeg wleidyddol ym Mhrifysgol Glasgow, ac yno y bu nes iddo, dan anogaeth Syr Henry Jones, symud i Gymru fel darlithydd amser-llawn cyntaf Adran Efrydiau Allanol Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, yn 1911. Cynhaliodd ddosbarthiadau mewn economeg, hanes Ewrob, a gwyddor llywodraeth gwlad ym Mlaenau Ffestiniog, Llanberis, Bethesda, a Phen-y-groes. Yn 1916 cymerodd swydd yn y Swyddfa Ryfel, ac yn ddiweddarach o dan y Bwrdd Amaeth, ond dychwelodd i Fangor yn 1919, a chynnal dosbarthiadau yng Nghefn-mawr, Rhos, Llandrillo a Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Penodwyd ef yn bennaeth Adran Economeg y coleg ym Mangor yn 1921. Yn Hydref 1922 etholwyd ef yn A.S. (Llafur) cyntaf dros ranbarth Wrecsam. Am ychydig fisoedd yn 1924 bu'n is-ysgrifennydd gwladol dros India lle y dangosodd ddealltwriaeth a gallu, ac ennill cydymdeimlad yr Indiaid. Colli ei sedd a wnaeth yn etholiad cyffredinol 1924 a'i hennill drachefn yn 1929, ei cholli yn Nhachwedd 1931, a'i hennill y drydedd waith ym Mehefin 1935, a'i chadw wedyn hyd derfyn ei oes. Rhwng 1931 ac 1935 bu'n ddarlithydd mewn economeg a gwyddor gwlad yng Ngholeg Harlech. Yn ystod Rhyfel Byd II ef oedd pennaeth adran gogledd Cymru o'r gwasanaeth amddiffyn sifil. Yn 1946 arweiniodd ddirprwyaeth seneddol i'r India gan ennill parch ac ymddiriedaeth Gandhi a Jinnah. Bu ganddo gyfres o ysgrifau ar India yn Yr Eurgrawn am 1951. Gyda Syr Ifor Williams golygodd Y Tyddynnwr, 1922-23, ac ysgrifennodd lawer o gynnwys pedwar rhifyn y cylchgrawn byrhoedlog hwnnw. Hanesydd ydoedd wrth reddf a'i gyfraniad pennaf yn Gymraeg oedd Cymru'r oesau canol (1933). Ym mlynyddoedd olaf ei oes treuliai lawer o'i amser yn llyfrgell Tŷ'r Cyffredin mewn ymchwil i hanes y mynachlogydd yng Nghymru. Ni lwyddodd i gyhoeddi'r gwaith, ond erys mewn teipysgrif yn Ll.G.C. Cyhoeddodd ran ohono, ar abatai'r Sistersiaid, yn Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Ddinbych, 1952. Gydag R.G. Lloyd cyhoeddodd lyfrynnau ar hanes eglwysi Llandanwg (1935) a Llanfair ger Harlech (1936).

Cymerai ddiddordeb mewn hynafiaethau a bu'n gadeirydd pwyllgor Cymdeithas Hynafiaethau Cymru am 10 mlynedd ac yn llywydd y gymdeithas yn 1953. Bu'n gadeirydd y Comisiwn ar Henebion Cymru, a gweithredodd ar gyngor Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion o 1936 a gwnaethpwyd ef yn is-lywydd yn 1951. Yr oedd yn Fethodist selog ac yn athro ysgol Sul yng nghapel (EF) Llangynog am flynyddoedd a mynnai fod gartref bob Sul posibl. Gwerinwr o Gymro a gŵr bonheddig diymhongar ydoedd. Gwrthododd dderbyn swydd llywodraethwr ynys Malta, ac ni lwyddodd penaethiaid ei blaid i'w gael i Dŷ'r Arglwyddi. Yr oedd yn nodweddiadol ohono mai ar y mesur a geisiai droi Dyffryn Ceiriog yn gronfa ddŵr i dref Warrington y traddododd ei araith gyntaf yn y senedd, ar 3 Mawrth 1923. Yr oedd yn weithiwr caled; gyda'i ddyletswyddau gwleidyddol daliodd i fod yn diwtor mewn economeg yng Ngholeg Harlech. Ar derfyn y rhyfel perswadiwyd ef i gymryd penaethiaeth Adran Economeg Bangor. Gwlatgarwr pybyr, teyrngar i Gymru, ei hanes, ei llên a'i cherddoriaeth ydoedd, a siaradwr rhugl, yn enwedig yn Gymraeg.

Priododd yn 1918 ag un o ferched Llangynog, Mary Myfanwy Owen (bu farw 1950) ac yn eu plwy genedigol y bu eu cartref weddill eu hoes. Bu farw 22 Rhagfyr 1954 a chladdwyd ef ym mynwent Peniel (MC), Llangynog.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.