Ganwyd yn Tramway, Hirwaun, Aberdâr, Morgannwg, 18 Mai 1863, yn blentyn ieuangaf Lewis ac Amy Davies. Yr oedd ei dad yn ffeinar ('refiner') yng ngwaith haearn Crawshay ar Hirwaun. Addysgwyd y mab yn ysgol elfennol Penderyn nes iddo aeddfedu yn ddisgybl athro. Enillodd ysgoloriaeth i'r Coleg Normal, Bangor, lle y bu'n fyfyriwr am ddwy fl. (1881-82). Bu'n ysgolfeistr ym Mhenderyn o 1884 hyd 1886 ac yna symudodd i'r Cymer yn Nyffryn Afan, lle y bu'n ysgolfeistr hyd ei ymddeoliad yn 1926. Priododd Celia Lewis o Ben-y-pownd, Cwm Taf yn 1886. Bu'n ddiacon (am 60 mlynedd), ysgrifennydd (am 50 mlynedd) ac yn arweinydd y gân ac organydd eglwys (A) Hebron y Cymer. Bu'n gadeirydd cyngor dosbarth Glyncorrwg, yn ynad heddwch ac yn gadeirydd mainc ynadon y plant yn Aberafan, yn arweinydd seindorf drum and fife yn y Cymer ac yng Nghwm-parc ac yn arweinydd côr meibion Blaenau Afan. Ef oedd cyfansoddwr y dôn adnabyddus ' Cymer '. Beirniadodd mewn cannoedd o eisteddfodau lleol ar ganu, adrodd, traethodau a barddoniaeth a hefyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol Darlithiodd yn helaeth ar destunau llenyddol a cherddorol a hanesyddol a bu'n hyfforddwr ar y cynganeddion am lawer blwyddyn yn Ysgol Haf Llanwrtyd. Perthynai i genhedlaeth enwog o ysgolfeistri Cymraeg llengar a cherddgar. Enillodd tua 30 o wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol am storïau, nofelau i blant, traethodau hanesyddol a daearyddol, nofelau hanes &c. Ei wobr fawr olaf oedd am nofel yn Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau yn 1949, ac yntau yn 86 oed, yn fusgrell ac yn ddall mewn un llygad. Yr oedd yn ail i D. Rhys Phillips yn Eisteddfod Genedlaethol Castell-nedd, 1918, am draethawd ar hanes Cwm Nedd. Ef oedd y colofnydd ' Eryr Craig y Llyn ' yn Y Brython a bu'n ohebydd cyson i bapurau'r De, yn genedlaethol ac yn lleol. Enillodd amryw gadeiriau am farddoniaeth mewn eisteddfodau lleol. Yr oedd yn awdurdod ar dribannau Morgannwg, ac fe rannodd y wobr am gasgliad gwych ohonynt yn Eisteddfod Genedlaethol Pen-y-bont ar Ogwr, 1948, ac yntau yn 85 oed. Ef oedd yr awdurdod ar hanes plwyf Penderyn, ac yr oedd ganddo ysgrifau hanesyddol ar ddyffryn Afan, Glyncorrwg, Margam, Blaen-gwrach, Mynachlog Nedd, Morgannwg, &c. Cyhoeddodd Radnorshire (Cambridge University Press, 'County Series'), Outlines of the history of the Afan districts, Ystorïau Siluria, Bargodion hanes a 4 nofel antur- Lewsyn yr heliwr, Daff Owen, Y Geilwad bach a Wat Emwnt. Erys nifer o'i weithiau heb eu cyhoeddi.
Bu farw 18 Mai 1951 ac fe'i claddwyd ym mynwent gyhoeddus Cymer-Afan. Dadorchuddiwyd cofeb iddo yng nghapel Hebron, y Cymer, yn ymyl cofeb i'w hen gyfaill, Syr William Jenkins.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.