Ganwyd Alice Abadam yn Llundain ar 2 Ionawr 1856, yr ieuengaf o saith o blant Edward Abadam (gynt Adams, 1810-1875) a'i wraig Louisa (g. Taylor, 1828-1886). Magwyd Alice yn Neuadd Middleton yn Llanarthne, Sir Gaerfyrddin (ar safle Gerddi Botaneg Cymru heddiw), a brynwyd gan ei thad-cu ar ochr ei thad, Edward Hamlin Adams, yn 1824 pan ddychwelodd o Jamaica lle bu'r teulu'n berchen ar gaethweision ers sawl cenhedlaeth. Roedd gan dad Alice ddaliadau radicalaidd, a mabwysiadodd y cyfenw Abadam yn seiliedig ar y dull Cymreig traddodiadol pan ddaeth i Gymru yn 1842. Cyfnither i Alice oedd yr awdures Violet Paget ('Vernon Lee', 1856-1935), merch i un o chwiorydd ei thad. Roedd casgliad helaeth o lyfrau mewn sawl iaith yn llyfrgell Neuadd Middleton, ac o ganlyniad i'r addysg eang a gafodd Alice gan diwtoriaid ac athrawesau cartref daeth hi i fod yn amlieithog, yn gerddor medrus ac yn artist dawnus.
Erbyn 1886, yn dilyn marwolaeth ei rhieni, roedd Abadam wedi symud i mewn i dref Caerfyrddin lle'r ymgartrefodd am y deunaw mlynedd nesaf mewn tŷ sylweddol yn Heol Picton. Roedd wedi cael tröedigaeth at Gatholigiaeth erbyn hynny a daeth ei ffydd yn ganolog i'w bywyd am weddill ei hoes. Roedd ei thŷ yn agos i Eglwys y Santes Fair, a daeth hi'n organydd ac yn arweinydd côr yno, gan roi rhoddion hael a chymryd rhan mewn digwyddiadau elusennol yn gyson. Dwy flynedd wedyn, yn ogystal â dod yn ail mewn cystadleuaeth saethu, enillodd gystadleuaeth y piano yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Ffestiniog gyda hwyrgan gan Chopin a phreliwd a ffiwg gan Bach. Cyflwynwyd y wobr o ddwy gini iddi gan y beirniad, Dr Joseph Parry.
Yn 1901, daeth Dr Alice Vowe Johnson (1869-1938) i Gaerfyrddin i ymgymryd â swydd yng Ngwallgofdy'r Tair Sir, a hi fu cymar Alice Abadam am weddill eu hoes. Chwaraeodd y ddwy ran fawr yn y gwaith o sefydlu Chwiorydd yr Ysbryd Glân yng Nghaerfyrddin, sef urdd o leianod a ddisodlwyd o gwfent yn Llydaw. Yn 1903 ymadawodd y ddwy Alice â Chaerfyrddin i fyw yn Llundain. Ac felly y daeth Abadam, yn wyth a deugain oed, i'r brifddinas lle'r oedd gweithgareddau ymgyrchwyr y bleidlais i ferched yn ferw gwyllt. Daeth hithau'n ymgyrchydd galluog ac egnïol dros Gymdeithas Ryddfraint Merched Catholig.
Roedd Alice Abadam yn ieithydd medrus ac mae ei harchif (sydd ar gadw yn yr LSE) yn cynnwys dogfennau yn Saesneg, Cymraeg, Ffrangeg, Almaeneg, Groeg Clasurol a Lladin. Mae ei nodiadau personol yn amlygu ei diddordeb mewn pynciau megis llenyddiaeth glasurol, bywddyraniad, gwyryfgenhedliad ac embryoleg, trefniadaeth eisteddfodau, dysgeidiaeth y Coran ac athroniaeth Sansgrit. Roedd wedi ei chyfareddu gan gwlt y Forwyn Fair a gynhaliai ei chred mai 'male is a temporary agent, she is the eternal principle' a hefyd mai 'woman alone is God-like, she alone creates'. Mae'n amlwg bod ei ffydd yn gymhelliad iddi, a dengys ei nodiadau ei bod yn chwilio am bwrpas clir mewn bywyd. Mewn cofnod yn ei llyfr nodiadau dyddiedig Ionawr 1896, mae'n myfyrio ar y chwilio hwn ac yn ei ddehongli fel ei hangen i wasanaethu Duw: 'all that I have is thine. Make me as one of thy hired servants, that I may come and go and speak and act at thy bidding'.
Mae'r casgliad hefyd yn cynnwys pamffledi a nodiadau'n ymwneud â'r bleidlais i ferched, rhai wedi eu llunio gan Abadam ei hun, yn ogystal â phosteri a hysbysiadau cyfarfodydd a ralïau y bu'n brif siaradwr ynddynt. Tra bod Alice Vowe Johnson yn ymgolli yn ei gwaith fel Swyddog Meddygol dros Iechyd Ysgolion Tlodion Lambeth, ymroddodd Abadam fwyfwy i ymgyrch y bleidlais ac yn 1906 daeth yn aelod o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched (WSPU). Ond ym Medi 1907, roedd yn un o naw a arwyddodd lythyr at Emmeline Pankhurst, a gyhoeddwyd yn y wasg, yn gofyn am i'r WSPU gael ei reoli'n fwy democrataidd. Anwybyddwyd y cais ac o ganlyniad, yn yr un flwyddyn, ymunodd Abadam â'r Gynghrair Ryddid a chyfrannodd i waith Undeb Cenedlaethol Cymdeithasau Rhyddfraint Merched (NUWSS) a Chymdeithas Ryddfraint Merched Catholig. Er ei bod bellach yn hanner cant oed, roedd galw mawr amdani oherwydd ei dawn areithio a chychwynnodd ar gyfres o deithiau darlithio helaeth ar draws Prydain ac Iwerddon. Yn Awst 1908, ymgymerodd â 'bicycle tour with a Suffragette Caravan Through the North' gan gofnodi'r daith mewn cyfres o frasluniau sy'n dangos ei gallu artistig a'i ffraethineb yn ogystal â diogelu gwybodaeth werthfawr am y siwrnai.
Rhwng Ebrill 1909 a Thachwedd 1910 bu'n siarad mewn cyfarfodydd cyhoeddus yn ymestyn o Yarmouth i Portsmouth ac o Grimsby i Cheltenham, gan annerch cynulleidfaoedd ar bynciau'r Mesur Cymodi, tandaliad merched, puteindra a gweithredoedd gwleidyddol Lloyd George. Er iddi rannu'r llwyfan â siaradwyr eraill (gan gynnwys Elizabeth Garrett Anderson) mae'n glir ei bod yn cael ei hystyried yn llefarydd ysbrydoledig dros yr achos ac yn un a allai ddal sylw cynulleidfaoedd mawr iawn, gan orffen ei hareithiau'n aml gyda'r anogaeth, 'believe and do and dare'. Yn Ebrill a Mai 1911, ymgymerodd â thaith o amgylch yr Alban lle y bu hi a rhai o'i chyd-swffragetiaid yn annerch mewn dau ar hugain o leoliadau mewn dinasoedd a threfi mawrion.
Parhaodd rhaglen siarad cyhoeddus Abadam trwy gydol 1912 ac i mewn i 1913 ac aeth ei henw mawr fel areithydd o'i blaen ymhob man. Yn Chwefror 1913 anerchodd yn y 'Great United Demonstration' lle bu dros bum ar hugain o gymdeithasau rhyddfraint yn cymryd rhan. Cynhaliwyd y rali hon yn Neuadd y Frenhines, Langham Place, gyda seddau i dros ddwy fil a hanner o bobl. Yn Ebrill 1913 ymwelodd ag Iwerddon lle disgrifiwyd hi fel:
"one of the greatest forces in the Women's Suffrage Movement, a woman of striking mental gifts and, as has been so aptly said, a 'silver tongued speaker'.
Miss Abadam has done yeoman service in building up the cause and bringing it to the forefront of practical politics. She speaks with a conviction born of knowledge acquired on missions of charity amongst the most destitute of women workers, and she has the indisputable right to tell us of the suffering and the sorrow of the downtrodden and politically helpless, for her preparation to voice these things was made at the cost of self-sacrifice and personal service amongst them."
(Irish Citizen, 26 Ebrill 1913, t.3)
Dengys yr adroddiad hwn iddi ddal ati gyda'i gwaith dyngarol ar ôl symud i Lundain ac mae'n esbonio ei hymroddiad i bleidio achos rhai ar gyflogau isel a merched a orfodwyd gan dlodi i droi at buteindra. Roedd hefyd yn brysur yr adeg hon yn gohebu â gwleidyddion blaenllaw'r dydd ac yn cynhyrchu pamffledi ac erthyglau ar gyfer cylchgronau.
Pan ganiatawyd y bleidlais i ferched dros ddeg ar hugain oed yn 1918, roedd Abadam yn gynddeiriog ac ysgrifennodd 'let there be no abject expression of fulsome gratitude'. Sbardunwyd Abadam gan sarhad y rhyddfraint rannol hon i ymroi i'r achos gydag egni newydd, gan ffurfio'r Gynghrair Ffeminyddol a hithau ei hun yn gadeirydd a thraddodi cyfres o ddarlithoedd yn ystod yr hydref a'r gaeaf dros nifer o flynyddoedd yn y 1920au. Cynhaliwyd y rhain yn Neuadd Mortimer, Upper Regent Street, ac ymhlith y pynciau roedd, 'The Psychology of Dress', 'The Four Horsemen of the Apocalypse', 'Evolution and Parthenogenesis' a 'The Suppression of the Women Police'. Yn 1918 cynigiodd ei hun fel ymgeisydd dros y Glymblaid Annibynnol yn yr Etholiad Cyffredinol ond yn y pen draw ni safodd. Daliodd ati i ymgyrchu'n egnïol hyd nes i ferched gael y bleidlais ar yr un telerau â dynion yn 1928. Yn dilyn marwolaeth Alice Vowe Johnson yn 1938, a dechrau'r Ail Ryfel Byd wedyn, dychwelodd i Gaerfyrddin i fyw gyda'i nai, Ryle Morris, yn Bryn Myrddin yn Abergwili ar gyrion y dref. Bu Alice Abadam farw yno ar 31 Mawrth 1940, ac fe'i claddwyd, gydag Alice Vowe Johnson, yn Eglwys Gatholig y Santes Fair.
Yn 2018, ar ganmlwyddiant rhyddfreinio merched, dadorchuddiwyd Plac Glas er cof amdani yn 26 Heol Picton, Caerfyrddin gan brif ferched y ddwy ysgol uwchradd leol. A'r un flwyddyn dadorchuddiwyd Plac Glas arall yn Neuadd Middleton gan ei gor-nith Margaret Vaughan.
Dyddiad cyhoeddi: 2021-09-09
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.