BLAKE, LOIS (1890 - 1974), hanesydd a hyrwyddwraig dawnsio gwerin Cymru

Enw: Lois Blake
Dyddiad geni: 1890
Dyddiad marw: 1974
Priod: Leonard James Blake
Plentyn: Felicity Blake
Plentyn: James Blake
Rhiant: Amy Turner (née Dickes)
Rhiant: Henry Fownes Turner
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: hanesydd a hyrwyddwraig dawnsio gwerin Cymru
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Perfformio
Awdur: Eiry Palfrey

Ganwyd Lois Blake yn Streatham, Llundain, ar 21 Mai 1890 yn ferch i Amy (née Dickes) a Henry Fownes Turner. Ei henw bedydd oedd Loïs Agnes Fownes Turner. Ar ôl marwolaeth ei mam (a hithau'n dair oed) fe'i magwyd gan ei modryb a'i hewythr Mary a James Watt. Cafodd addysg fonedd gynhwysol a theithiodd Ewrop yn helaeth.

Gwasanathodd fel nyrs yn y Rhyfel Mawr, yn Serbia, Romania a Rwsia; bu hefyd yn coginio ac yn gyrru modur ar faes y gad. Ym 1917 priododd â Leonard James Blake, peiriannydd a phensaer morwrol. Cawsant ddau o blant, James (1918-1945) a Felicity (1920-2013).

Ar ôl cyfnodau yn Llundain a Lerpwl, ymgartrefodd Lois a'i gŵr yn 1930 ym Melysfan, Llangwm, ger Corwen, Sir Feirionnydd, ac yn 1950 symudasant oddi yno i Gorwen i fyw. Bu farw Leonard ym 1959 ac ym 1960 gadawodd Lois Gymru a symud i fyw gyda'i merch Felicity ym Mryste, ac oddi yno i Marshfield ger Chippenham.

Roedd y blynyddoedd a dreuliodd Lois Blake yn Llangwm yn gyfnod allweddol yn hanes dawnsio gwerin Cymru. Bryd hynny roedd dylanwad ymneilltuaeth yn drwm ar gefn gwlad Cymru ac ystyriwyd dawnsio gwerin yn bechadurus a gwaith y diafol. Ychydig iawn o'r werin bobl oedd yn ymwybodol o'r cyfoeth o ddawnsiau a feddai Cymru. Roedd Lois Blake yn aelod brwdfrydig o'r EFDSS (English Folk Dance and Song Society), ac wedi symud i Gymru arfaethai ychwanegu dawnsiau gwerin Cymru i'w repertoire. Er mawr siom iddi doedd neb, ar wahân i'r sipsiwn, yn ymwybodol o'n dawnsiau na chwaith yn eu hymarfer. Gyda chefnogaeth Mr David Williams, prifathro ysgol gynradd Llangwm, aeth ati i ddysgu dawnsiau syml i blant yr ysgol. Yna, fe aeth Lois Blake ati o ddifri i ymchwilio a dysgu cymaint a fedrai am y traddodiad o ddawnsio gwerin yng Nghymru. Cafodd gefnogaeth a chymorth amhrisiadwy oddi wrth W. S. Gwynn Williams (Llangollen), Ceinwen Thomas (merch Margretta Thomas a gofiai ddawnsiau Nantgarw) a nifer o ddawnswyr, athrawon ymarfer corff a haneswyr. Dyma wraig a fynnai fwrw'r maen i'r wal, ac fe aeth ati'n ddiymdroi i ddysgu pob peth am draddodiad coll y ddawns werin yng Nghymru a darganfod trysorau; yn eu mysg dawnsiau ffair Nantgarw, dawnsiau Llangadfan, dawnsiau Llanofer a nifer fawr o ddawnsiau oedd yn llechu mewn casgliadau Saesneg megis rhai Hugh Mellor, John a Henry Playford a John Walsh.

Ym 1948 gwahoddodd Gwennant Gillespie, Trefnydd yr Urdd, Lois Blake i gwrs preswyl ym Mhantyfedwen (y Borth) i ddysgu dawnsiau gwerin Cymru i'r swyddogion, ac felly esgorwyd ar berthynas hir a chynhyrchiol yr Urdd â dawnsio gwerin dan arweiniad Lois Blake. Flwyddyn yn ddiweddarach ym 1949 ffurfiwyd Cymdeithas Ddawns Werin Cymru, gyda Lois Blake yn llywydd, swydd a ddaliodd hyd ei marwolaeth ym 1974, a gwasanaethodd y Gymdeithas gydag ymroddiad llwyr. Roedd hefyd yn arlunydd ac yn artist ardderchog, a bu'n darlunio llawer o gyhoeddiadau cynnar y Gymdeithas Ddawns yn ogystal â chynllunio cardiau cyfarch. Parhaodd trwy'r cyfnod hwn i ymchwilio a darganfod dawnsiau. Bu hefyd yn cyfansoddi dawnsiau ei hun, ac mae amryw ohonynt yn boblogaidd ac yn rhan o repertoire cwmnïau dawns yng Nghymru a thu hwnt, megis 'Pont Caerodor', 'Y Gelynnen' a 'Robin Ddiog'. Bu'n beirniadu dawnsio gwerin yn eisteddfodau'r Urdd a'r Genedlaethol droeon. Ym 1960 yn Eisteddfod Genedlaethol Caerydd derbyniwyd Lois Blake i'r Orsedd, ac ym 1979 cyflwynodd Cymdeithas Ddawns Werin Cymru Dlws Coffa Lois Blake yn wobr am y brif gystadleuaeth ddawnsio gwerin yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Bu Lois Blake farw yn Marshfield, Swydd Gaerloyw, ar 19 Tachwedd 1974 yn 84 mlwydd oed. Cynhaliwyd y gwasanaeth angladdol yn eglwys Marshfield. Yn ystod y gwasanaeth chwaraewyd un o'o hoff alawon, sef 'Meillionen' (dawns llys araf a gosgeiddig). Cludwyd ei gweddillion i Amlosgfa Haycombe, Caerfaddon ar 22 Tachwedd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2019-02-27

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.