BONARJEE, DOROTHY NOEL ('Dorf') (1894 - 1983), bardd a chyfreithiwr

Enw: Dorothy Noel Bonarjee
Dyddiad geni: 1894
Dyddiad marw: 1983
Priod: Paul Surtel
Plentyn: Denis Surtel
Plentyn: Claire Aruna Surtel
Rhiant: Janet Bonarjee (née Sirkar)
Rhiant: Debendranath Bonarjee
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: bardd a chyfreithiwr
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth; Cyfraith
Awdur: Beth R. Jenkins

Ganwyd Dorothy Bonarjee yn Bareilly, India, yn 1894, plentyn canol Debendranath Bonarjee, newyddiadurwr a chyfreithiwr, a Janet Bonarjee (g. Sirkar). Symudodd y teulu i Dulwich, de Llundain, yn 1904 pan aeth ei thad i Lincoln's Inn. Roedd teulu Bonarjee yn Brahminiaid Bengali dosbarth canol a chymharol Seisnigedig, gyda thraddodiad hir o gyfreithwyr. Roedd ei mam yn ysgrifennydd anrhydeddus Cymdeithas Addysg Menywod India yn Llundain, ac roedd y ddau riant yn frwd iawn dros addysg i ferched Indiaidd. Pan ddychwelodd y rhieni i India yn 1910, arhosodd y plant yn Lloegr dan warchodaeth bargyfreithiwr o Iwerddon.

Yn 1912, ymgofrestrodd Bonarjee yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth, ynghyd â'i brawd hŷn, Bertie Kay Bonarjee. Chwaraeodd Bonarjee ran weithgar ym mywyd myfyrwyr Aberystwyth: bu'n drysorydd y Gymdeithas Lenyddol a Dadlau, ac yn aelod o fwrdd golygyddol cylchgrawn y myfyrwyr, The Dragon, lle cyhoeddodd nifer o gerddi. Enillodd gryn fri ymhlith ei chyfoedion yn 1914 pan ddyfarnwyd cadair farddol eisteddfod y coleg iddi am ei cherdd am Owain Lawgoch. Roedd wedi cystadlu dan y ffugenw 'Shita', a chafodd 'gymeradwyaeth fyddarol' pan ddatgelodd mai hi oedd awdur y gerdd (The Cambrian Daily Leader , 2 Mawrth 1914). Yn ôl y sôn bu'n agos at ennill y gystadleuaeth y flwyddyn flaenorol hefyd. Cafodd ei llwyddiant gyhoeddusrwydd sylweddol yn y wasg leol a chenedlaethol. Rhoddodd ei thad araith fyrfyfyr yn y seremoni ar gais y myfyrwyr, ac yn ôl yr adroddiad yn y Cambrian News (6 Mawrth 1914) dywedodd: 'if India had given birth to a poet, Wales had educated her, and had given her an opportunity to develop her poetic instincts'.

Cyfrannodd Bonarjee yn gyson i The Welsh Outlook hefyd. Ymhlith y cerddi a gyhoeddwyd ganddi yno y mae: 'Noon ' (Gorffennaf 1914); 'The Grave in the Woodland ' (Rhagfyr 1914); 'Afterwards ' (Ionawr 1915); 'London ' (Ionawr 1916); 'Suburban Houses ' (Hydref 1917); 'To Diana ', 'Morning ' ac 'Immensity ' (Gorffennaf 1919); a 'Renunciation ' a 'Menelaus' Lamenting ' (Tachwedd 1919).

Ar ôl graddio ym Mhrifysgol Cymru yn 1916 gyda BA mewn Ffrangeg, aeth Bonarjee i Goleg Prifysgol Llundain. Hi oedd y ferch gyntaf i ennill gradd fewnol yn y gyfraith (yn hytrach nag LLB allanol) o Gyfadran y Cyfreithiau yno yn 1917. Roedd hyn yn gamp arwyddocaol gan nad oedd hawl ffurfiol i ferched fod yn gyfreithwyr tan y Ddeddf 'Sex Disqualification (Removal)' yn 1919.

Roedd Bonarjee hefyd yn gefnogol i'r mudiad dros y bleidlais i ferched, ac yn ôl tystiolaeth ei brawd iau, Neil, cymysgai mewn 'minor artistic and literary circles considered "advanced" for the period' (Bonarjee, Under Two Masters, tt. 58-9). Yn 1919 arwyddodd 'Anerchiad Rhyddfraint Merched India' ynghyd â'i mam. Yn ystod yr un flwyddyn, siaradodd mewn cyfarfod o Undeb Dinasyddion Benywaidd Dominiynau Prydain (Adran India), cymdeithas ffeminyddol ryngwladol a hyrwyddai'r bleidlais i ferched ar draws yr Ymherodraeth Brydeinig.

Priododd Dorothy Bonarjee artist o Ffrancwr, Paul Surtel (1893-1985), yn 1921. Cawsant un mab, Denis, a fu farw yn faban, a merch, Claire Aruna Surtel. Ymwahanodd â'i gŵr yn 1936, a bu'n byw yn ne Ffrainc tan ei marwolaeth yn 1983.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2020-09-07

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.