Ganwyd Owen E. Evans ar 23 Rhagfyr 1920 yn y Bermo, yn fab i Owen Jones Evans (1887-1926), fferyllydd, a'i wraig Elizabeth Mary (g. Jones, 1887-1961), perchen gwesty bychan. Roedd ganddo un brawd hŷn, John William. Treuliodd bum mlynedd cyntaf ei oes yn Wimbledon, Llundain, ond bu'n rhaid i'r teulu symud yn ôl i'r Bermo yn haf 1926 oherwydd gwaeledd ei dad. Roedd yn gymeriad annwyl a charedig ac arbennig o gymdeithasgar, yn meddu ar gorffolaeth lawn.
Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Sir Y Bermo. Oherwydd nad oedd modd i'w fam weddw fforddio ei gynnal drwy gwrs prifysgol, anogodd y prifathro ef i sefyll arholiad mynediad i'r gwasanaeth sifil. Yn 1937 yn dilyn llwyddiant ynddo dewisodd weithio yn Llundain fel swyddog cynorthwyol mewn swyddfa dreth incwm. Ar ôl dilyn cyrsiau mewn ysgolion nos am ddwy flynedd llwyddodd yn arholiad gradd uwch y gwasanaeth sifil a symud i Somerset House. Oherwydd y bomio symudwyd y swyddfa i Landudno yn haf 1940, ond dychwelwyd i Lundain erbyn gwanwyn 1941. Gan ei fod yn wrthwynebwr cydwybodol fe'i gorchmynnwyd i gyflawni gwaith lliniarol mewn ardal dan warchae, ac o Ebrill 1941 hyd ddiwedd y rhyfel yn 1945 fe'i cyflogwyd i wneud hyn gan gyngor Willesden. Bu'n weithgar yng Nghymdeithas y Cymod yng Nghymru am lawer o flynyddoedd a bu'n is-lywydd arni o 1989 i 1991 ac yn llywydd o 1992 hyd 1994.
Yng nghyfnod y rhyfel hefyd dechreuodd bregethu ar y gylchdaith Fethodistaidd Gymraeg ac yn 1945 fe'i derbyniwyd yn ymgeisydd i'r weinidogaeth a'i anfon i Feifod yn weinidog ar brawf am flwyddyn. Wedyn o 1946 hyd 1949 astudiodd yng Ngholeg y Wesleaid yn Headingley, Leeds, gan ennill gradd dosbarth cyntaf. Yn nes ymlaen enillodd radd BD allanol Prifysgol Llundain a chyflawnodd waith ymchwil ar y Testament Newydd ym Mhrifysgol Leeds o dan gyfarwyddyd yr ysgolhaig beiblaidd nodedig, Matthew Black. Yn y cyfnod hwn hefyd gweithredodd fel cynorthwywr dysgu i'w athro yng Ngholeg Headingley, ysgolhaig arall o fri, sef Vincent Taylor.
Yn 1951 fe'i hordeiniwyd a bu'n weinidog am ddwy flynedd yng Nghricieth. Yna yn 1953 fe'i gwahoddwyd gan y Gynhadledd Fethodistaidd i fod yn Athro'r Testament Newydd yng Ngholeg Hartley Victoria, Manceinion, ac yno gwasanaethodd am un mlynedd ar bymtheg. Yn ystod y cyfnod hwn fe'i gwahoddwyd gan yr ysgolhaig byd-enwog, yr Athro T. W. Manson, i gymryd cyfrifoldeb am ddarlithio yn ei le, pan oedd yntau'n gwaelu ar y pryd. Cofnododd ei brofiadau o'r amser hwnnw a hefyd ei gyfnod yn cynorthwyo Vincent Taylor yn ei ysgrif 'On Serving Two Masters'.
Ymbriododd â Margaret Williams, athrawes o Ffynnongroyw, yn 1953. Bu hi farw yn 2017. Ganwyd iddynt bedwar o blant, dau fab a dwy ferch.
Yn 1969 fe'i gwahoddwyd i ymuno ag Adran Efrydiau Beiblaidd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor i ddarlithio ar y Testament Newydd drwy gyfrwng y Gymraeg lle bu'n fawr ei barch a'i ofal dros ei fyfyrwyr hyd ei ymddeoliad yn 1988.
Mae'n debyg mai am ei waith enfawr yn hyrwyddo cyfieithu'r Beibl cyfan, gan gynnwys yr Apocryffa, i'r Gymraeg, Y Beibl Cymraeg Newydd, sef y cyfieithiad awdurdodedig cyntaf ers 1588 a 1620, y'i cofir yn fwyaf arbennig. Roedd wedi ei benodi'n gadeirydd panel cyfieithu'r Testament Newydd yn 1963, ac ymddangosodd fersiwn cyntaf y gwaith hwnnw yn 1975. Yn 1974 roedd wedi'i benodi'n Gyfarwyddwr yr holl brosiect a pharhaodd i gadeirio panel y Testament Newydd a ymgymerodd â chyfieithu llyfrau'r Apocryffa yn ogystal â diwygio'r fersiwn cyntaf o'r Testament Newydd. Llwyddwyd i ddwyn yr holl waith i ben erbyn Gŵyl Ddewi 1988, union bedwar cant o flynyddoedd ers cyhoeddi Beibl yr Esgob William Morgan, a dathlwyd yr achlysur mewn digwyddiadau arbennig yng Nghaerdydd, Llundain, Caer-grawnt a Rhydychen, a chyhoeddwyd stampiau arbennig gan y Post Brenhinol i ddynodi'r achlysur. Parhaodd y gwaith o'i adolygu a'i ddiwygio wedi hynny a chyhoeddwyd argraffiad diwygiedig o'r Hen Destament ac o'r Testament Newydd yn 2004, gan gynnwys iaith gynhwysol y tro hwn, ac yna o'r Apocryffa, a oedd o dan gadeiryddiaeth yr Athro D. P. Davies erbyn hynny, yn 2008.
Wedi derbyn Cymrodoriaeth Margaret ac Ann Eilian Owen, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, aeth O. E. Evans ymlaen yn syth i lunio Mynegair i'r Beibl Cymraeg Newydd ac fe'i cyhoeddwyd yn 1998. Mae'n gampwaith ac yn arf anhepgor i unrhyw un sy'n astudio'r Beibl yn Gymraeg.
Fe'i cydnabyddwyd am ei gyfraniad difesur i'r Beibl Cymraeg Newydd gan Brifysgol Cymru pan ddyfarnwyd iddo radd Doethur mewn Diwinyddiaeth yn 1988. Ar ei ymddeoliad o Brifysgol Bangor yn 1988 cyhoeddwyd cyfrol deyrnged iddo, Efrydiau Beiblaidd Bangor 4 (gol. Eryl W. Davies), a chyhoeddwyd ei ddarlith Pantyfedwen (1970), Saints in Christ Jesus, yn 1974. Fe'i hetholwyd yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2011.
Bu farw Owen E. Evans ar 31 Hydref 2018, ac fe'i hamlosgwyd yn Amlosgfa Bangor ar 12 Tachwedd.
Dyddiad cyhoeddi: 2021-06-09
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.