Ganwyd Mary Gillham yn Ealing ar 26 Tachwedd 1921, yn ferch i Charles Thomas Gillham (1890-1974), athro gwaith coed a metal, a'i wraig Edith Gertrude (née Husband, 1887-1975), gwniadyddes broffesiynol. Roedd ganddi un brawd, John Charles Gillham (1917-2009).
Er eu bod yn byw o fewn Llundain, roedd y teulu'n wersyllwyr brwd ac arferent deithio allan i'r wlad yn gyson ar benwythnosau a gwyliau. Fel hyn, a thrwy fod yn aelod brwd o fudiad y Geidiau, meithrinwyd hoffter Mary o fyd natur ac yn enwedig adar a blodau. Erbyn 1939 roedd y Gillhams wedi ymweld â bron bob rhan o Brydain, felly ymgymerasant â thaith mewn car i'r Swistir, gan ddychwelyd i Brydain gwta dair wythnos cyn i'r Almaen ymosod ar Wlad Pwyl a dechrau'r Ail Ryfel Byd.
Ar ôl mynychu Ysgol Fabanod Little Ealing a'r Ysgol Iau, ac yna Ysgol Gynradd Lionel Road ac Ysgol Ramadeg y Merched Ealing, safodd arholiadau mynediad y Gwasanaeth Sifil a Chyngor Sir Llundain, yn barod i gychwyn ar 'ran fwyaf diflas fy mywyd' yn gweithio fel clerc. Pan dorrodd y rhyfel, manteisiodd ar y cyfle i adael y swyddfa a gweithio yng nghefn gwlad trwy ymuno â Byddin Dir y Menywod.
Treuliodd Gillham y pedair blynedd a hanner nesaf yn cyfrannu i ymdrech y rhyfel ar ffermydd yn Berkshire. Yn ystod y cyfnod hwn gwnaeth bob math o waith fferm, yn y caeau, yn gofalu am anifeiliaid ac yn godro gwartheg. Er gwaetha'r gwaith caled, aeth Gillham ati i sefydlu ac arwain cwmni Geidiau newydd a chwblhaodd gwrs gohebu Diploma Hyfedredd mewn 'Ffermio Cyffredinol'. Oherwydd ei gallu academaidd wrth ennill y cymhwyster hwn cynigiodd y Fyddin Dir y dylai fynd i'r brifysgol ar ôl dadfyddino, ac ym mis Hydref 1945 dechreuodd ar BSc mewn Amaethyddiaeth yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth.
Tiwtor Gillham yn y brifysgol oedd yr Athro Lily Newton, gwymonegydd a botanegydd o fri a sylwodd yn fuan ar ei doniau botanegol gan ei hannog i barhau gydag astudiaethau ôl-radd. Yn ystod ei chwrs gradd israddedig y bu i Gillham ymweld am y tro cyntaf ag ynysoedd Sgogwm a Sgomer yn Sir Benfro, a dyna oedd dechrau ei hoffter o ynysoedd a barodd am weddill ei hoes gan baratoi'r ffordd ar gyfer mentrau tramor. Dros gyfnod o ddeng mlynedd aeth Gillham i'r ynysoedd bob blwyddyn a chwblhaodd yr ymchwil ar gyfer ei doethuriaeth, gan archwilio effeithiau isbridd, amgylchedd, porfa ac adar ar y gwahaniaethau o ran llystyfiant rhwng yr ynysoedd. Ar ôl cwblhau ei doethuriaeth yn 1953 treuliodd Gillham dair blynedd fel Darlithydd Cynorthwyol ym Mhrifysgol Caer-wysg, gan weithio yn labordai biolegol newydd Hatherly. Parhaodd i ymchwilio i ecoleg ynysoedd yno, gan ychwanegu Ynys Wair ym Môr Hafren at yr ynysoedd yr ymddiddorai ynddynt.
Am resymau sydd bellach yn aneglur, penderfynodd symud ymlaen o Gaer-wysg, ac yn 1956 cafodd ddarlithyddiaeth gyfnewid yng Ngholeg Massey (Prifysgol Massey bellach) yn Seland Newydd. Wedi blwyddyn ym Massey, symudodd i Awstralia, lle treuliodd flwyddyn fel Arddangosydd Hŷn ym Mhrifysgol Melbourne ac yna'n gweithio i Sefydliad Ymchwil Gwyddonol a Diwydiannol y Gymanwlad (CSIRO), gan geisio darganfod achos dirywiad nythfeydd masnachol palod ar ynysoedd pellennig Culfor Bass.
Yn 1959, ar ôl darbwyllo'r Gweinidog Materion Allanol fod menywod yn gallu cyfrannu i ymgyrch ymchwil, Mary Gillham, gyda Hope Black, Isobel Bennet a Susan Ingham, oedd y gwyddonwyr benywaidd cyntaf i ymuno ag Ymgyrch Ymchwil Cenedlaethol Awstralia i'r Antarctic (ANARE), gan deithio i'r orsaf ymchwil ar Ynys Macquarie. Aeth yr ymgyrch yn ddidrafferth, wrth gwrs, ac agorodd y pedair hyn y drws i fwy o fenywod a ddymunai ymchwilio yn yr Antarctic.
Daeth cyfnod Gillham yn Asstralia i ben yn Ebrill 1960, ac ar ei ffordd adref treuliodd dri mis yn ymchwilio mewn amryw wledydd yn Affrica, gan gynnwys De Affrica, Namibia, Zambia, Zimbabwe, Mozambique a Nigeria, gan ddychwelyd i Brydain ym mis Hydref 1960. Ar ôl dwy flynedd o geisio'n aflwyddiannus am swyddi, gan dderbyn yn aml iawn yr ateb 'teimlwn mai dyn ifanc sydd angen yn y swydd hon', llwyddodd o'r diwedd i gael swydd ym Mhrifysgol Caerdydd fel darlithydd efrydiau allanol yn 1962. Dros y 25 mlynedd nesaf tan ei hymddeoliad yn 1988 byddai'n dysgu botaneg, ecoleg ac adareg i gannoedd o fyfyrwyr mewn safleodd ar draws Cymru, Lloegr a'r Alban, gan fentro dramor hefyd i Ewrop, Gogledd Affrica, y Caribî, Ynysoedd y Seychelles a Gogledd America.
Yn ystod y cyfnod y bu'n byw yn Ne Cymru roedd diwydiannau cloddiol y pyllau a'r chwareli yn dechrau dirywio, ac ar ôl trychineb Aberfan cafwyd ymdrechion i wneud ardaloedd cyn-ddiwydiannol yn ddiogel a'u harddu. Hawliai tirwedd ddiwydiannol De Cymru lawer o sylw Gillham felly, ac ymddiddorai mewn dulliau o adfer y tir ar gyfer bywyd gwyllt a mwynhad pobl, gan weithredu fel ymgynghorydd yn gyson.
Pan gyrhaeddodd Gaerdydd ymunodd Gillham yn syth â Chymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd ac Ymddiriedolaeth Naturiaethwyr Sir Forgannwg, a pharhaodd y cysylltiadau hyn am weddill ei hoes. Annelwig iawn oedd y ffin rhwng ei gwaith a'i bywyd cartref. Pan nad oedd yn arwain criw o fyfyrwyr allanol, byddai'n chwilio am leoliadau ar gyfer cyfarfodydd maes, yn arwain neu'n mynychu teithiau natur, yn rhoi sgyrsiau am fywyd gwyllt a theithio, yn sgrifennu nodiadau am ei gwibdeithiau, neu'n llunio llythyron ac adroddiadau'n hyrwyddo gwarchod ardaloedd arbennig.
Bu Gillham yn aelod o bwyllgor Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (1972-1978), yn llywydd Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd (1974-1975), yn aelod o gyngor a phwyllgor Ymddiriedolaeth Naturiaethwyr Morgannwg (enw cynnar am yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt), yn is-lywydd Cymdeithas Naturiaethwyr Merthyr a'r Fro, ac yn aelod o bwyllgorau Cymreig y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar a Chymdeithas Fotanegol Ynysoedd Prydain.
Roedd Gillham yn angerddol dros addysg ac yn hael wrth rannu ei gwybodaeth. Yn ystod ei gyrfa dysgodd filoedd o fyfyrwyr ac aelodau o'r cyhoedd am fotaneg, ecoleg a gwarchodaeth, a llwyddodd i godi ymwybyddiaeth llu mawr o bobl am faterion amgylcheddol trwy ddarlithoedd, troeon tywys a theithiau astudio. Er i'w dosbarthiadau allanol ddod i ben pan ymddeolodd yn 1988, fel arall parhaodd ei bywyd yn ddigyfnewid. Manteisiodd ar ei hamser rhydd i deithio'n fwy, a dechreuodd droi nodiadau deng mlynedd ar hugain yn llyfrau. Wedi bron i hanner can mlynedd o waith gwarchod ac adfer dyfarnwyd MBE iddi yn 2009 am ei gwasanaeth i warchodaeth natur.
Bu farw Mary Gillham yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Caerdydd, ar 23 Mawrth 2013, yn 91 oed, a chynhaliwyd ei hangladd yn Amlosgfa Thornhill ar 8 Ebrill.
Ar ôl ei marwolaeth sefydlwyd Prosiect Archif Mary Gillham i ddigido cyfran fawr o'i harchif. Rhwng 2016 a 2018 digidwyd 115,000 o gofnodion bywyd gwyllt, sganiwyd a thrawsysgrifwyd 27,000 o sleidiau, ac olrheiniwyd hanes ei bywyd trwy ei nodiadau llawysgrif. Mae'r sleidiau a'r archif ysgrifenedig bellach ar gadw yn Archifdy Morgannwg.
Dyddiad cyhoeddi: 2019-04-30
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.