NEWTON, LILY (1893 - 1981), gwyddonydd

Enw: Lily Newton
Dyddiad geni: 1893
Dyddiad marw: 1981
Priod: William Charles Frank Newton
Rhiant: Melinda Batten (née Casling)
Rhiant: George Batten
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: gwyddonydd
Maes gweithgaredd: Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Gareth W. Griffith

Ganwyd Lily Newton yn Pensford yng Ngwlad yr Haf ar 26 Ionawr 1893, yn ferch i George Batten a'i wraig Melinda (ganwyd Casling). Cafodd ei haddysg yn Ysgol Merched Colston, Bryste, lle bu'n gapten yr ysgol. Astudiodd Fotaneg a Daeareg ym Mhrifysgol Bryste wedi ennill ysgoloriaeth Vincent Stuckey Lean, a graddiodd gyda dosbarth cyntaf yn 1917. Arhosodd ym Mryste i astudio ar gyfer MSc (1918) ac enillodd PhD yn 1922.

Wedi cyfnod byr fel darlithydd cynorthwyol ym Mryste (1919-1920), symudodd i Goleg Birkbeck, Prifysgol Llundain fel darlithydd (1920-1923) gyda'r Athro Helen Gwynne-Vaughan (1879-1967). Yno cyfarfu â'r cytolegydd arloesol William Charles Frank Newton (1894-1927). Priododd y ddau yn 1925 ac symudodd Lily i Norwich lle roedd Frank yn ymchwilio i broses mitosis gyda William Bateson (y cyntaf i ddefnyddio y gair geneteg yng nghyd-destun bioleg) a Cyril Darlington yng Nghanolfan Ymchwil John Innes. Er gwaethaf llawdriniaeth yn 1926 bu farw Frank ar 22 Rhagfyr 1927. Arhosodd Lily yn Norwich ac fe'i penodwyd yn ymchwilydd yng Nghanolfan John Innes er mwyn paratoi gwaith ei diweddar wr ar gyfer ei gyhoeddi.

Yn 1928 penodwyd Lily yn ddarlithydd Botaneg yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth, lle bu'n aelod o'r staff tan ei hymddeoliad yn 1958. Dyrchafwyd hi'n Athro a Phennaeth Adran yn 1930, wedi marwolaeth yr Athro Wilfred Robinson. Bu'n weithgar iawn yng ngweinyddiaeth y Coleg ac yn 1951 treuliodd flwyddyn fel Is-Brifathro ac yna Prifathro Dros Dro (1952-53) cyn penodiad Goronwy Rees. Dyfarnwyd gradd DSc iddi gan Brifysgol Bryste yn 1950 ac LLD gan Brifysgol Cymru yn 1973.

Testun ei hymchwil PhD ym Mryste a'i chyhoeddiadau cynharaf oedd gwymon, a'i chyhoeddiad sylweddol cyntaf oedd A Handbook of the British Seaweeds a gyhoeddwyd gan yr Amgueddfa Brydeinig yn 1931. Bu'r llyfr pwysig hwn mewn defnydd eang hyd at y 1980au. Tra yn Aberystwyth datblygodd arbenigedd yn nefnyddiau diwydiannol gwymon, yn enwedig i gynhyrchu agar (ar gyfer meithrin bacteria pathogenig) a hefyd carageenin (a ddefnyddir mewn hufen iâ a bwydydd eraill).

Ei thrydydd maes o arbenigedd oedd llygredd afonydd yng Ngorllewin Cymru o ganlyniad i fwyngloddiau plwm a sinc, ac yn ddiweddarach effeithiau gosod argaeau ar fioamrywiaeth afonydd (yn enwedig afonydd Rheidol, Ystwyth a Mawddach). Wedi ei hymddeoliad a'i phenodiad fel Athro Emeritws, parhaodd yn weithgar yn y maes hwn hyd at y 1970au fel ymgynghorydd i Cremer and Warner (cwmni peiriannol Syr Frederick Warner) a Rio Tinto Zinc.

Parhaodd i fyw yn Aberystwyth gyda'i morwyn (hefyd o'r enw Lily) yng Nghae Melyn tan ddiwedd y 1970au, a bu farw yn nhy ei mab bedydd ym Mhontardawe ar 26 Mawrth 1981 yn 88 oed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2018-09-03

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.