REES, MORGAN GORONWY (1909 - 1979), awdur a gweinyddwr prifysgol

Enw: Morgan Goronwy Rees
Dyddiad geni: 1909
Dyddiad marw: 1979
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: awdur a gweinyddwr prifysgol
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Addysg
Awdur: John Harris

Ganwyd Goronwy Rees ar 29 Tachwedd 1909 yn Rhos (bellach Pen-y-Geulan), Ffordd y Gogledd, Aberystwyth, y pedwerydd a'r olaf o blant Richard Jenkin Rees (1868-1963), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a'i wraig Apphia Mary (née James, 1870-1931).

Daethai'r Parch. R. J. Rees yn ôl i'w gynefin yn 1903 yn weinidog ar y Tabernacl, capel mwyaf y Methodistiaid yn Aberystwyth. Ganwyd dwy ferch, Muriel ac Enid, yng Nghaerdydd, a dau fab yn Aberystwyth, (Richard) Geraint, cyfreithiwr a addysgwyd yng Nghaergrawnt, a dwy flynedd a hanner wedyn (Morgan) Goronwy. 'Gony' o fewn ei deulu, a 'Rees' i'w wraig a'i blant ei hun, cafodd ei enw cyntaf ar ôl ei ewythr Morgan (brawd iau R. J.), meddyg a laddwyd ym mrwydr y Somme, a 'Goronwy' ar ôl y bardd Goronwy Owen.

Hawdd y gellir gweld Rees fel mab gwrthryfelgar y mans, ond pwysig yw cofio cynhysgaeth bositif ei blentyndod: yr hunan-hyder cynnar, y cariad at lyfrau a dysg, yr hoffter o draethu a dadlau, y gred yng ngwerth addysg a'r holl aberth er ei mwyn, a'r ysbryd radicalaidd naturiol yn wyneb problemau cymdeithasol. Er iddo gefnu ar y capel daliodd ei fagwraeth grefyddol yn ddylanwad cryf arno, fel y sylwodd tua diwedd ei fywyd: 'I was brought up a Calvinist, and taught that if one was born of the elect, one never ceased to belong - a doctrine which had strange effects on me…'

Dychwelodd y teulu i Gaerdydd yn 1922, ac roedd hyn yn ergyd i'r bachgen deuddeg oed ('I felt as if I had been cast out of paradise'), ond buan yr ymgartrefodd ym maestref y Rhath ac yn Ysgol Uwchradd y Bechgyn Caerdydd, tir fforsio academaidd ar gyfer rhyw bedwar cant o ddisgyblion. Ym marn mab y prifathro Goronwy oedd yr unig fyfyriwr 'gwirioneddol ddisglair', ac enillodd wobrau'n rhwydd, gan gipio ysgoloriaeth wladol ac, ym mis Hydref 1928, ysgoloriaeth agored i New College, Rhydychen. Astudiodd 'Modern Greats' yno - 'in the mistaken belief that philosophy, politics and economics provided the key to the secrets of real life'.

Ymddangosai New College yn fyd estron caeëdig i fachgen ysgol-ramadeg o Gymru heb fawr ddim profiad o Loegr a'r elît ysgol-fonedd Seisnig. Serch hynny cofiai Richard Crossman 'an extremely brilliant and handsome scholar who took Oxford society by storm'; ac roedd cyfoeswyr eraill Rees yn gytûn am ei ddoniau rhagorol: y gallu deallusol, y ffraethineb swynol, y sgwrsio cyfareddol a'r harddwch Byronaidd. Cynrychiolodd y coleg mewn rygbi a phêl-droed. Nid oedd ganddo fawr i boeni amdano'n academaidd, ond gwyddai fod angen mwy na gallu ymenyddol i lwyddo yn Rhydychen. Gan ymroi i'r bywyd cymdeithasol yn ystod y tymor ac astudio'n galed gartref yn y gwyliau, llwyddodd i ennill Dosbarth Cyntaf yn 1931 a chymrodoriaeth arobryn yng ngholeg All Souls. Flwyddyn wedyn daeth The Summer Flood, nofel gyntaf ddiedifar o hunangofiannol a ddeilliodd o draserch y myfyriwr at gyfnither drwy briodas o ogledd Cymru. Cafodd y nofel dipyn o glod pan gyhoeddwyd hi gan Faber. Ond yng nghanol y llwyddiant daeth trasiedi: bu farw Apphia Rees yn fuan ar ôl i'w mab raddio. Collasai fam a addolai ef; 'nothing as remotely bad could ever happen again.'

Ym Medi 1931 penodwyd Rees yn ysgrifennwr golygyddol i'r Manchester Guardian, swydd a gymerodd wedi cyfnodau yn Fienna a Berlin, ac nid arhosodd ynddi'n hir. Erbyn Ionawr 1934 roedd yn ôl yn Berlin yn ymchwilio i hanes Ferdinand Lassalle (1825-1864), sylfaenydd Plaid y Democratiaid Sosialaidd. Roedd methiant y Blaid yn amlwg i bawb, a pheryglodd Rees ei fywyd ei hun trwy ei chefnogi, gan ddarparu copi ar gyfer taflenni dirgel, ymateb truenus y chwith i lif o bropaganda Nazïaidd.

Ar ôl dychwelyd i Lundain, ymunodd â The Times ond ni fu'n hir yno chwaith. Roedd cefnogaeth y papur i bolisi dyhuddiaeth yn ofid iddo; fel arall ymadawodd ar delerau cyfeillgar. Wedyn cafodd swydd a weddai'n well i'w ddoniau: yn chwech ar hugain oed fe'i penodwyd yn olygydd cynorthwyol y Spectator ar £500 y flwyddyn. Rhwng Chwefror 1936 ac Awst 1939 cyfrannodd Rees ryw 150 o erthyglau olygyddol, mynegiant grymus o'i farn ar ddigwyddiadau'r dydd gartref a thramor. Adwaenai'r Almaen Nazïaidd, clywsai Adolf Hitler yn y cnawd a darllenodd Mein Kampf cyn iddo ymddangos yn Saesneg. Roedd y Nazïaid yn droseddwyr ynfyd a rhaid eu rhwystro costied a gostio.

Oherwydd ei ffydd mewn sosialaeth dadleuodd Rees dros ymreolaeth i Gymru. Roedd egwyddor hunan-lywodraeth yn ddigon derbyniol ganddo; y cenedlaetholwyr Cymreig oedd y broblem - ac roeddent wedi crwydro i dir ffantasi gwleidyddol trwy eu hedmygedd o Hitler. Rhoddai datblygiadau llenyddol yng Nghymru fwy o foddhad iddo, yr awduron a ddaeth i'r amlwg yn Wales, cylchgrawn bach dadleuol a sefydlwyd gan Keidrych Rhys yn 1937. Yn yr un flwyddyn cyhoeddodd Rees y nofel siomedig A Bridge to Divide Them, a'i chyflwyno i 'E.B.', arwydd a atebwyd gan ei dderbynydd Elizabeth Bowen trwy bortread deifiol o Rees yn The Death of the Heart (1938). Daeth y garwriaeth rhwng y ddau i ben yn ddisymwth pan gyfarfu Rees â Rosamond Lehmann.

Erbyn diwedd 1940 roedd popeth wedi newid: ar 20 Rhagfyr priododd Rees â Margaret ('Margie') Ewing Morris (1920-1976), merch i warantwr o Lerpwl. Roedd Rees bellach yn Is-Lefftenant yn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig (comisiynwyd 23 Mawrth), wedi iddo syfrdanu ei gyfeillion trwy wirfoddoli am wasanaeth milwrol y flwyddyn flaenorol. Cymerodd Rees at y bywyd milwrol, gan ddod yn swyddog cyswllt dan y Cadfridog Montgomery ac yn lefftenant-cyrnol gyda'r lluoedd cyfeddiannol yn yr Almaen. Fel uwch-swyddog cudd-ymchwil roedd ei brofiad newyddiadurol a'i wybodaeth arbennig am yr Almaen yn werthfawr dros ben wrth baratoi adroddiadau am ddatblygiadau yn Berlin a'r Ardal Brydeinig.

Gyda dadfyddino daeth tro annisgwyl arall ar fyd. Ymunodd Rees â'i gyfaill Henry Yorke (y nofelydd Henry Green, 1905-1973) yn gyd-gyfarwyddwr Henry Pontifex Ltd, cwmni'r teulu Yorke o doddwyr pres a gofaint copr gyda swyddfeydd yn Llundain. Ffynnodd yn y busnes, gan dreulio prynhawniau gydag MI6 ar y desgiau Rwsiaidd ac Almaenig. Cwblhaodd drydedd nofel a dynnodd ar ei brofiad o holi carcharor neilltuol yn ystod y rhyfel. Yn Where No Wounds Were (1950) gwna peilot y Luftwaffe gais i ymuno â'r RAF, a cheir darlun byw o ffurfiant Sosialydd Cenedlaethol a'i frwydr feddyliol â holwr sydd i ryw raddau'n alter ego iddo. Tua diwedd 1950 symudodd y teulu Rees o Lundain i Sonning-on-Thames, lleoliad perffaith pan benodwyd Rees yn Ebrill 1951 yn fwrsar ystadau All Souls, swydd ddibreswyl a ganiatâi iddo barhau gyda Pontifex.

Wedyn gwnaeth ei gamgymeriad mwyaf. Yn 1953 derbyniodd swydd prifathro Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, penderfyniad a oedd wrth fodd calon ei dad ond yn ofid i'w gyfeillion. Oni fyddai'n ddieithryn llwyr yn bell o'i gynefin cymdeithasol a deallusol rhwng Llundain a Rhydychen? Ond eto roedd Rees wedi troi mewn cylchoedd academaidd, roedd ganddo farn am ddysgu ac ymchwil prifysgol, ac ymuniaethai'n ddiffuant â Chymru. Roedd y cyflog hefyd yn atyniad, gan fod y teulu o hyd yn brin o arian yn sgil eu ffordd afradlon o fyw, ac roedd y tŷ a ddeuai gyda'r swydd yn ddigon o faint i'r pedwar o blant a anwyd i'r pâr rhwng 1942 a 1948: Margaret Jane ('Jenny'), cofiannydd Rees (1942), Lucy (1943), a'r efeilliaid Thomas a Daniel (1948); i'w dilyn gan Matthew (1954-2016).

Gwerthfawrogai'r myfyrwyr ehangder cosmopolitaidd eu prifathro amryddawn, a dangosodd ef ei ddoniau'n fuan yn Conversations with Kafka (ei gyfieithiad o waith Gustav Janouch, 1953) a The Answers of Ernst von Salomon (1954), gyda rhagair meistrolgar gan Rees (roedd bri mawr ar ysgrifau Freikorps Salomon gan y Drydedd Reich). Yn haf 1954 teithiodd Rees trwy'r Almaen gan gasglu deunydd ar gyfer pedair sgwrs i'r BBC a gyhoeddwyd wedyn yn y Listener. Bu hefyd yn aelod o bwyllgor Wolfenden, lle bu'n lladmerydd effeithiol dros newid y gyfraith ar wrywgydiaeth a phuteindra. Ar yr un pryd roedd wrthi'n crynhoi hanes ynghylch Guy Burgess, cyfaill o'r tridegau a'r pedwardegau a oedd wedi diflannu'n anesboniadwy ynghyd â Donald Maclean yn 1951. Byddai ei stori am Burgess yn cael ei chyhoeddi, ond ar ffurf na allai ei rhag-weld ac o dan amgylchiadau a fyddai'n ddychryn iddo.

Parthed cylch ysbïwyr Caer-grawnt, gwyddom bellach i Rees gydweithredu am ychydig dros flwyddyn (1938-9), ac yn llwyr o blaid yr achos gwrth-ffasgaidd, â gwaith Burgess dros y Comintern drwy ddarparu newyddion achlust gwleidyddol a gawsai mewn penwythnosau yn All Souls - roedd felly yn 'ffynhonnell ymwybodol'. Wedi ei ddadrithio gan y cytundeb rhwng yr Almaen a'r Undeb Sofietaidd yn Awst 1939 i beidio ag ymosod ar ei gilydd rhoddodd Rees y gorau i'r gwaith hwn. Ar yr un pryd addawodd beidio â datgelu bod Burgess (ac Anthony Blunt) wedi eu recriwtio fel ysbïwyr, ar y ddealltwriaeth eu bod hwythau hefyd wedi rhoi'r gorau. Ond erys yn ddirgelwch pam y caniataodd i'w ddeunydd am Burgess ymddangos fel y gwnaeth, yn ddrylliau ac ar ffurf sgandal mewn papur Sul. Roedd pum erthygl a gyhoeddwyd dan rith dienw yn y People (Mawrth-Ebrill 1956) yn warant farwolaeth iddo. Er bod y myfyrwyr efallai'n ei addoli, yng ngolwg rhai o'r athrawon hŷn dylanwadol buasai Rees erioed yn blesergarwr metropolitaidd, yn ymwthiwr anghydnaws na ellid fyth ei gymathu. Cafodd mai'r cenedlaetholwyr oedd ei wrthwynebwyr mwyaf digymrodedd; roedd eu gwladgarwch uwchraddol honedig yn ddiflastod iddo, a bu'n gwrthdaro â hwy yn athronyddol ynghylch swyddogaeth y brifysgol mewn adeiladu cenedl. Nid oedd gobaith i Rees oroesi. Fel y dywedodd Noel Annan yn gofiadwy, 'The explosion detonated by these [People] articles was atomic; but the blast-walls of the Establishment are so cunningly constructed that the person who was most hideously wounded was Mr Rees himself.'

Bu ymadawiad Rees ag Aberystwyth yn Ebrill 1957 yn gychwyn ar droell i waered a waethygwyd gan ddamwain car anffodus a'i gadawodd ychydig yn gloff am weddill ei oes. Aeth ati i chwilio am ffynonellau incwm newydd: ymddangosiadau teledu ar y 'Brains Trust'; adolygu llyfrau i'r Listener; cyfieithu o'r Almaeneg i'r radio (Brecht a Büchner; roedd Rees a Stephen Spender wedi cyfieithu Büchner i Faber yn 1939); a chwe astudiaeth o bobl dra-chyfoethog ar gyfer y Sunday Times (a gyhoeddwyd yn un gyfrol fel The Multi-Millionaires: Six Studies in Wealth, 1961).

Arweiniodd contract gan Chatto & Windus at lyfr gorau Rees, y gyfrol hunangofiannol A Bundle of Sensations (1960). Â naws ddiymhongar braf, ni chynigia fawr ddim o natur bersonol, ac wrth lunio hunan dychmygol mae weithiau'n gwthio'n groes i'r ffeithiau. Ceisiodd Rees am y statws cynrychioladol a fyddai'n ei uniaethu â'i gyfoeswyr; trwy gyfuno atgofion ffuglennol â sylwebaeth gymdeithasol graff llwyddodd i ddal hanfod ei oes. Canolbwynt y llyfr yw'r tair pennod am ei brofiadau yn y fyddin, gyda'r ddwy flaenorol yn cynnwys atgof digymar am fagwraeth gapel, a diweddglo myfyrdodus am ei gyfnod ymadfer ar ôl ei ddamwain car. Mae'r arddull drwyddi yn grisialaidd o loyw, wedi ei britho gan gyffyrddiadau o hiwmor a thristwch.

Gellir gweld dechrau cyfnod olaf ei fywyd yn Chwefror 1966 pan ymunodd â bwrdd Encounter, cylchgrawn nodedig gwrth-gomiwnyddol ei safbwynt, lle ysgrifennai golofn reolaidd ar bynciau o'i ddewis ei hun. Cwblhaodd dri chomisiwn proffidiol, gan gychwyn gyda The Rhine (1967), arweinlyfr hanesyddol uchel-ael sy'n gryf ar wleidyddiaeth a llenyddiaeth. Roedd St Michael: A History of Marks and Spencer (1969) yn ymylu ar hagiograffeg er yn seiliedig ar ymchwil dda, ac os oedd Rees yn 'hanesydd ffwrdd-â-hi' yn The Great Slump: Capitalism in Crisis 1929-33 (1970), dangosodd ddealltwriaeth yr arbenigwr o systemau ariannol a llwyddododd i gyfleu gwir naws y cyfnod. Mae argraffiad Heron o Darkness at Noon Arthur Koestler (1970) hefyd yn nodedig am sylwadaeth Rees.

Yn A Chapter of Accidents (1972) adroddir hanes perthynas Rees â Guy Burgess a'r canlyniadau yn Aberystwyth; disgrifir y llyfr fel 'both a chapter of autobiography and a reflection of English (and also Welsh) life between 1930 and 1955'. Yn ogystal â'i seicoleg ddyrys, roedd Burgess yn fod cymdeithasol hefyd, ac yn y ddwy bennod gyntaf - un ar ei blentyndod yng Nghymru a'r llall ar Rydychen pan oedd yn fyfyriwr - archwiliodd Rees ddau fath o fywyd a chymdeithas y credai ei fod ef a Burgess i raddau helaeth yn eu hymgorffori a'u hadlewyrchu. Canmolodd adolygwyr Seisnig y dadansoddiad cymdeithasol disglair; ni welodd Harri Webb ond 'obsessive chronicles of snobbery, sodomy and treachery'.

Yn 1974 cyhoeddwyd Brief Encounters, detholiad o ysgrifau Rees yn Encounter. Roedd ei golofn fisol (gyda'r llofnod syml 'R') yn boblogaidd dros ben, 'a never ending source of pleasure, learning and wisdom', yn ôl un darllenydd, ac un o'r darnau hyn a sbardunodd McVicar by Himself (1974), ysgrifau carchar John McVicar a olygwyd gyda rhagymadrodd gan Rees. Dilynwyd hynny gan gyhoeddiad preifat hanes corfforaeth gydwladol Dalgety, ei gomisiwn olaf a gyflawnwyd dan gysgod salwch terfynol ei wraig, ac yntau ei hun yn wael hefyd.

Bu Margie farw o gancr ym Mehefin 1976, a'r un clefyd a ddaeth â Goronwy i ysbyty Charing Cross ym mis Tachwedd 1979. Cynhaliodd cyfeillion a chydweithwyr Encounter barti yno i ddathlu ei ben-blwydd yn ddeg a thrigain. Bu farw Rees ar 12 Rhagfyr 1979. Amlosgwyd ei gorff ym mynwent Mortlake a gwasgarwyd ei lwch ar lan afon Tafwys yn Strand-on-the-Green (ger Pont Kew) o flaen cartref olaf y teulu, lle y gwasgarwyd llwch Margie hefyd.

Barn gyffredin ar Rees fel awdur yw iddo addo mwy nag a gyflawnodd. Mae hynny'n rhannol wir: fel nofelydd fe'i siomodd ei hun, ac y tu allan i faes ffuglen ni lwyddodd i gyflawni'r llyfr mawr ar y 1930au a oedd yn sicr o fewn ei allu. Ond mae ei gampau ym maes yr hunangofiant, ei gyfuniad cywrain o atgofion a sylwebaeth gymdeithasol, yn dangos pa mor ddawnus ydoedd fel awdur - un agosach efallai at ddeallusion llenyddol Ewrop, wedi ei ymdrwytho'n angerddol ym mywyd yr amserau. Dyn ei oes oedd Rees yn wir, yn effro i'w holl obeithion a'i thrasiedïau.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2019-05-29

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.