Ganwyd 10 Medi 1868 yn y Riwel Isaf, Pen-y-garn, Ceredigion., mab John a Catherine Rees. Symudodd ei rieni i Lundain pan oedd yn faban. Addysgwyd ef yn y City of London School, a Choleg Aberystwyth (lle cafodd radd B.A. Prifysgol Llundain). Bu ar ôl hynny yng Ngholeg Mansfield, Rhydychen, gan raddio yn y dosbarth cyntaf mewn diwinyddiaeth. Ei fwriad, yn Aberystwyth, oedd dilyn gyrfa cyfreithiwr, ond o dan ddylanwad cenhadaeth Dr. Henry Drummond yn y coleg troes ei wyneb i gyfeiriad y weinidogaeth Gristionogol. Dechreuodd bregethu yn eglwys Jewin, Llundain. Ordeiniwyd ef yn 1893, a bu'n gweinidogaethu yn eglwys Saesneg Ala Road, Pwllheli (1892-94); Clifton St., Caerdydd (1894-1903); a'r Tabernacl, Aberystwyth (1903-22). Galwyd ef i arolygu Symudiad Ymosodol ei Gyfundeb, gan ymsefydlu yng Nghaerdydd, a bu'n ddiwyd a llwyddiannus yn y swydd honno hyd 1947. Priododd 1894, Apphia Mary James o Ben-y-garn; bu iddynt ddau fab a dwy ferch. (Disgleiriodd ei ail fab, Morgan Goronwy Rees , fel llenor; bu'n Brifathro Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, yn y cyfnod 1953-57). Ar ôl ymddeol bu'n byw gyda'i blant ym Mhwllheli, ger Rhydychen, ac yn Waltham Cross, Llundain. Bu farw 30 Ebrill 1963, a chladdwyd ef yng Nghaerdydd.
Yr oedd yn un o brif arweinwyr ei Gyfundeb yn ei ddydd. Bu'n llywydd Sasiwn y De (1920 ac 1954), ac yn llywydd y Gymanfa Gyffredinol (1927). Yr oedd yn areithydd digymar, yn y Gymraeg a'r Saesneg. Cyfrannai'n achlysurol i'r wasg, eithr dawn siarad oedd yr eiddo, nid ysgrifennu. Cyhoeddodd werslyfr (yn Saesneg ac yn Gymraeg) ar 2 Samuel (1899), ac esboniad ar epistolau Paul at y Philipiaid a'r Colosiaid (1909).
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.