GLYNNE, MARY DILYS (1895 - 1991), patholegydd planhigion

Enw: Mary Dilys Glynne
Dyddiad geni: 1895
Dyddiad marw: 1991
Rhiant: John Glynne Jones
Rhiant: Dilys Lloyd Glynne Jones (née Davies)
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: patholegydd planhigion
Maes gweithgaredd: Gwyddoniaeth a Mathemateg; Natur ac Amaethyddiaeth
Awdur: Gareth W. Griffith

Ganwyd Mary Dilys Glynne yn Glyndyl, Menai Avenue, Bangor Uchaf ar 19 Chwefror 1895, y ferch ieuengaf o bump o blant a oroesodd i John Glynne Jones (1849-1947), cyfreithiwr, a'i wraig Dilys Lloyd Glynne Jones (ganwyd Davies, 1857-1932). Roedd teulu ei thad yn hanu o Dyddyn Isaf (Cymryd) ym mhlwyf Y Gyffin ger Conwy. Un o Gymry Llundain oedd ei mam, yn ferch i'r cerflunydd a cherddor William Davies (Mynorydd) ac yn chwaer i'r gantores Mary Davies.

Mynychodd Ysgol Sir y Merched, Bangor. Bu ei mam yn flaenllaw yn sefydlu'r ysgol yn 1897 ac yn llywodraethwraig am gyfnod hir. Bu ei thad yn gynghorydd ar Gyngor Dinas Bangor a chofrestrydd Llys Sirol Bangor. Roedd ei chwaer Eryl yn feddyg a botanegydd, a'i brawd Ioan yn gyfreithiwr.

Yn 16 oed aeth Mary i Ysgol North London Collegiate yn Camden Town, Llundain (cyn-ysgol ei mam), ac wedyn i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru Bangor i astudio Botaneg. Yn fuan ar ôl graddio yn 1917, aeth i wirfoddoli yn adran Mycoleg Sefydliad Ymchwil Rothamsted (Harpenden, swydd Hertford). Yn ddiweddarach fe'i penodwyd yn ymchwilydd yn yr adran Patholeg Planhigion, ac yno y bu tan ei hymddeoliad yn 1960. Tra yn Rothamsted enillodd radd MSc yn 1922 a DSc yn 1943, y ddwy o Brifysgol Cymru. Dyfarnwyd yr OBE iddi ar ei hymddeoliad ac fe'i gwnaed yn Gymrawd o'r Sefydliad Bioleg (FinstBiol).

Dechreuodd ei gyrfa yn Rothamsted yn astudio clefyd y grachen ddu ar datws a achoswyd gan y ffwng Synchytrium endobioticum, gan helpu i fridio tatws gyda'r gallu i wrthsefyll y clefyd. Yn ddiweddarach, hi oedd y gyntaf i ddarganfod fod yr ymarfer o gylchdroi cnydau yn gwaethygu clefyd 'take-all' (Gaeumannomyces graminis var. tritici) mewn ŷd. Parhaodd ei diddordeb mewn patholeg yn hir ar ôl ei hymddeoliad ac fe gyhoeddodd ei phapur olaf yn 1985.

Yn ogystal â bod yn wyddonydd blaenllaw, roedd Mary Glynne yn fynyddwraig o fri. Er gwaethaf gwrthwynebiad ei theulu, dringodd nifer o fynyddoedd heriol gan gynnwys Mont Blanc a'r Matterhorn a chafodd ei hethol yn aelod o Glwb Alpaidd y Merched. Roedd natur ei gwaith gwyddonol yn ei galluogi i deithio yn eang, a manteisiodd ar hyn i ddringo nifer o fynyddoedd yn yr Antipodes. Hi oedd yr ail berson a'r ferch gyntaf i ddringo Mount Spencer yn Seland Newydd. Parhaodd i ddringo wedi ymddeol, e.e. Mount Fuji (3776 m) yn 1963. Roedd ei nai Cymryd (C.M.G) Smith hefyd yn ddringwr enwog ond bu farw 'Cym' mewn damwain beic modur yn 1952 yn 27 oed.

Bu farw Mary Dilys Glynne yng nghartref nyrsio Field House yn Harpenden ar 9 Mai 1991 yn 96 oed. Mae ystafell gynhadledd yn Rothamsted wedi ei henwi ar ei hôl.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2020-01-27

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.