DAVIES, WILLIAM ('Mynorydd '; 1826 - 1901), cerflunydd a cherddor

Enw: William Davies
Ffugenw: Mynorydd
Dyddiad geni: 1826
Dyddiad marw: 1901
Plentyn: Dilys Lloyd Glynne Jones (née Davies)
Plentyn: Mary Davies (née Davies)
Rhiant: Moses Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerflunydd a cherddor
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth; Cerddoriaeth
Awdur: Thomas Mardy Rees

Ganwyd yn Glebeland, Merthyr Tydfil, 26 Ionawr 1826, mab Moses Davies (1799 - 1866). Yn 16 oed aeth i stiwdio Behnes yn Llundain; bu'n gweithio hefyd gyda cherflunwyr eraill, a bu'n astudio cerddoriaeth a llenyddiaeth yr un pryd. Ysgrifennodd ar hanes cerddorion Cymreig Llundain i Kelt Llundain a chyhoeddwyd yr hanes yn ddiweddarach yn Y Cerddor, 1895. Pan oedd yn ddyn ieuanc bu'n mynychu dosbarthiadau canu a gynhelid gan John Thomas ('Ieuan Ddu'), Trefforest, Sir Forgannwg. Daeth yn arweinydd y 'Welsh Choral Society' ar ôl Dan Jones. Dangoswyd peth o'i waith fel cerflunydd tua deugain o weithiau yn y Royal Academy; gwnaeth gerfluniau o bregethwyr Cymreig, etc. - cerflun Thomas Charles 'o'r Bala,' sydd o flaen capel Methodistiaid Calfinaidd y Bala, yn eu plith. Bu farw 22 Medi 1901 a chladdwyd ef yng nghladdfa West Hampstead. Merch iddo oedd Mary Davies, cantores.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.