DAVIES, MOSES (1799 - 1866), cerddor

Enw: Moses Davies
Dyddiad geni: 1799
Dyddiad marw: 1866
Plentyn: David Davies
Plentyn: William Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd yn Defynnog, sir Frycheiniog, yn 1799, ond symudodd ei rieni i Ferthyr yn 1803. Meddai lais da, ac astudiodd gerddoriaeth, a thrwy ei hunan-ddiwylliant daeth yn gerddor da, a chynhaliai ddosbarthiadau cerddorol. Yn 1827 penodwyd ef yn arweinydd canu capel Methodistiaid Calfinaidd Pontmorlais. Ef oedd un o arloeswyr cyntaf canu cynulleidfaol Merthyr a'r cylch, ac ef oedd y cyntaf i osod y merched i ganu'r alaw yn lle'r dynion. Bu gwrthwynebiad mawr i hyn, a rhoddodd yntau ei swydd i fyny. Yn 1834, ar ddymuniad yr eglwys, ail ymaflodd yn y swydd, a llwyddodd canu'r gynulleidfa. Yn 1842 symudodd i Lundain, ond daeth yn ôl yn 1848 a phenodwyd ef yn arweinydd y canu ym Mhontmorlais. Cyfansoddodd tua 24 o donau, a welir yn Telyn Seion (R. Beynon), Caniadau Seion (R. Mills), a Haleliwia (Griffith Harries). Bu farw 6 Ionawr 1866, a chladdwyd ef ym mynwent Cefncoedcymer, Merthyr Tydfil. Efe oedd tad William Davies 'Mynorydd'.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.