Pryce Hughes o Lanllugan, Sir Drefaldwyn, oedd yr hynaf o dri mab a thair merch Richard Hughes (1663-1700) o Frongoch, prif stiward y Castell Coch ym Mhowys, a Mary Pryce (1663-1700). Daeth ystad Llanllugan i deulu'r Hughesiaid drwy'r briodas hon. Dilynodd Pryce ei dad fel asiant William Herbert, ail Ardalydd Powis, tra oedd yr olaf yn byw mewn alltudiaeth gan iddo gael ei ddrwgdybio o fod yn Jacobitiad.
Rhagwelai Pryce a'i frawd Richard (c.1689-1711) drefedigaeth Americanaidd ar gyfer tlodion Cymru ar afon Mississippi, ardal yr oedd amrafael amdani yr adeg honno rhwng Prydain, Ffrainc, Sbaen a'i phobloedd Frodorol amrywiol. Nid yw eu hysbrydoliaeth yn eglur, ond mae'n amlwg bod dylanwad Thomas Nairne, ffigwr blaenllaw yng ngwladfa berchenogol Carolina, ar Pryce. Nairne oedd ei Nairne a gohebai'n gyson â'r Society for the Propagation of the Gospel. Mae'n bosibl bod y ddau wedi cyfarfod pan ymwelodd hasiant Indiaidd â Lloegr ym 1710 er mwyn hyrwyddo ei gysyniad o ymerodraeth Brydeinig ehangol wedi'i seilio ar egwyddorion 'Cristnogol' a masnach deg â'r Americanwyr Brodorol. Roedd trefedigaeth Hughes i'w hariannu drwy'r fasnach broffidiol â'r bobloedd Frodorol. Defnyddiai ei gysylltiadau Herbertaidd drwy Dduges Ormonde i geisio cefnogaeth bersonol y Frenhines Anne i'r drefedigaeth a alwodd yn Annarea.
Richard Hughes oedd y cyntaf o'r brodyr i fentro i Carolina ynghyd â thri gwas ymrwymedig o Lanllugan ond bu farw o ganlyniad i dwymyn yn Hydref 1711. Roedd wedi prynu ystad o 5,000 acer gan Berchenogion Carolina a'i sefydlu ei hun fel masnachwr. Mae llythyrau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru a'r Caroliniana Archives yn Columbia, South Carolina, yn adlewyrchu'r cwlwm rhwng Pryce Hughes a Nairne, a oedd wedi hysbysu Pryce am farwolaeth ei frawd. Maent hefyd yn darparu manylion am eu gweledigaeth. Mae llythyr at ei frawd-yng-nghyfraith, Richard Jones o Oerffrwd yn adlewyrchu ei strategaeth. Credai Hughes y byddai'r Cymry yn gwneud trefedigaethwyr perffaith oherwydd eu 'frugal, down right honest, generous & loyal temper'. Roedd Jones i sicrhau y byddai cynlluniau Hughes yn cyrraedd y Frenhines ac i gael gafael ar y llongau a'r cyflenwadau angenrheidiol. Roedd Jones hefyd yn gyfrifol am recriwtio pum can teulu o Gymru, gan sicrhau eu bod mewn angen gwirioneddol, gan nad oedd yn bwriadu 'to rob ye country of others'. Pe na bai'r Cymry yn manteisio ar y cyfle hwn, fe fyddai'n dychwelyd adref '& see them starve rather than give such lazy timerous drones ye least farthing'.
Roedd Pryce Hughes wedi cyrraedd Carolina o'r diwedd erbyn yn gynnar yn 1713. Daeth yn asiant Indiaidd swyddogol, gan setlo ymrafaelion rhwng masnachwyr a'r bobl Frodorol, ac yn ehangu buddiannau Carolina ymhlith y cenhedloedd Brodorol, megis y Choctaw a'r Natchez, a oedd cynt yn bartneriaid masnach Ffrengig. Astudiodd yr ieithoedd Indiaidd a chofnododd yr ardaloedd ar y gororau. Er nad yw ei bapurau wedi goroesi, mae llawer o fapiau cynnar o'r De-ddwyrain yn seiliedig ar yr wybodaeth a roddodd.
Cafodd ei ddal yn gaeth gan asiantau Ffrengig mor gynnar â 1715 gan iddo gynrychioli nid yn unig bygythiad economaidd ond hefyd un diplomyddol i drefedigaeth ifanc Louisiana, gan lesteirio ffordd Mississippi i'r Ffrancod yn Quebec. Roedd hyn yn adeg o heddwch Ewropeaidd, felly cafodd Hughes ei drin yn anrhydeddus fel 'King's Lieutenant of Carolina' gan lywodraethwr Louisiana, Jean-Baptiste Le Moyne de Bienville, a'i ryddhau ychydig ddyddiau'n ddiweddarach.
Dyma'r cofnod sicr olaf am Hughes. Cyd-ddigwyddodd ei ryddhau â chychwyn gwrthryfel Brodorol anferthol, Rhyfel Yamasee, a laddodd gannoedd o fasnachwyr a phreswylwyr y gororau, gan gynnwys Thomas Nairne, yn ogystal ag 'untold numbers of Native American warriors'. Etifeddodd un o weision ymrwymedig Hughes, Rowland Evans, lawer o'i ystad Americanaidd.
Mae gweledigaeth y brodyr Hughes o drefedigaeth Gymreig, yn fras lle mae dinas Natchez heddiw, yn adlewyrchu eiliad mewn amser a allai fod wedi newid hanes Cymru yn ogystal â hanes America, oni bai am ei hamseriad anffodus.
Dyddiad cyhoeddi: 2019-03-19
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.