INSOLE, JAMES HARVEY (1821 - 1901), perchennog glofeydd

Enw: James Harvey Insole
Dyddiad geni: 1821
Dyddiad marw: 1901
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: perchennog glofeydd
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes
Awduron: John Prior-Morris, Richard L. Ollerton

Ganwyd James Insole yng Nghaerwrangon ar 30 Ebrill 1821. Ef oedd yr ail o chwech o blant George Insole (1790-1851), saer dodrefn ar y pryd ac yn nes ymlaen yn berchennog glofeydd yn ne Cymru, a'i wraig Mary (ganwyd Finch, 1791-1866).

Yn 1828 symudodd y teulu i Gaerdydd, ac addysgwyd James mewn ysgolion yno ac ym Melksham, Wiltshire. Pan ddaeth i'w oed yn 1842, aeth James i bartneriaeth gyda'i dad fel George Insole and Son, perchnogion glofeydd a llongiadwyr glo. Derbyniodd gymynrodd hefyd oddi wrth ei hen ewythr, gwerthwr haearn cyfrwyau cefnog o Birmingham, a fuasai farw yn 1831. Priododd James â Mary Ann (g. Jones, 1818-1882), merch partner busnes ei hen ewythr yn Edgbaston, swydd Warwick, ar 23 Rhagfyr 1843.

Ymgartrefodd James a Mary Ann drws nesaf i'w rieni yn Crockherbtown, Caerdydd, lle ganwyd tri o blant iddynt: James Walter Insole (1845-1898), Mary Ann Lilly Insole (1846-1917), a George Frederick Insole (1847-1917).

Yn 1844, cymerodd James a'i dad les ar lofeydd yng Nghymer, Morgannwg, a'u hail-agor. Yn 1848 agorasant 36 o ffyrnau golosg i gyflenwi Rheilffordd Dyffryn Taf, a buont yn allforio glo i gwsmeriaid yn Ffrainc, Môr y Canoldir, De-ddwyrain Asia a De America. Cymerodd James reolaeth lwyr dros y busnes ar ôl marwolaeth ei dad yn 1851.

Erbyn 1852 roedd y teulu wedi symud allan o'r dref i ardal wledig Penhill, ac yn 1855 dechreuodd James adeiladu Ely Court (a elwir yn Insole Court bellach) ger pentref eglwys gadeiriol Llandaf a oedd newydd ddod yn ffasiynol.

Trawyd glofa Cymmer gan drychineb yn 1856 pan laddwyd 114 o ddynion a bechgyn yn y ddamwain danddaearol gyntaf yng Nghymru i ladd dros gant. Yn y cwest dilynol, llwyddodd James i osgoi cyhuddiadau trwy honni bod yr holl gyfrifoldeb dros weithrediad y lofa yn nwylo ei reolwr pwll. Gwadodd fod awyru'r pwll wedi ei esgeuluso'n fwriadol, gan fynnu na allai gofio derbyn llythyron oddi wrth Arolygydd Pyllau EM yn argymell mesurau diogelwch. Honnodd hefyd na fyddai byth yn gwrthod talu am ddiogelwch (ond ni ddarparwyd lampau diogelwch dibynadwy i bob glöwr yn ei byllau tan y 1870au). Daeth James yn Ynad Heddwch ac yn Ustus Bwrdeistref yn yr un flwyddyn.

Er bod glofa Cymer yn darparu glo meddal, roedd ei gwythiennau glo stêm yn ddyfnach ac felly'n ddrutach. Oherwydd hynny, yn 1862, suddodd James bwll yn Abergorci ym mhen uchaf Cwm Rhondda a roddodd gyflenwad dibynadwy o 1864 hyd 1873. (Yn ystod y 1870au daeth echdynnu glo dwfn o lofa Cymer yn ddichonadwy yn sgil gwelliannau technolegol, ac erbyn 1877 cafwyd cyflenwad cyson o lo tai a stêm ar y safle a barhaodd tan ddechrau'r Ail Ryfel Byd.)

Yn 1865 agorodd Cwmni Harbwr, Doc a Rheilffordd Penarth (y bu James yn un o'i gyfarwyddwyr ers ei sefydlu yn 1856) y doc newydd ym Mhenarth er mwyn osgoi'r tagfeydd yn nociau Bute. Yn 1866 etholwyd James yn llywydd cyntaf Siambr Masnach Caerdydd, a daeth yn ustus dros y sir y flwyddyn ddilynol.

Yn ystod y 1870au ymneilltuodd James o'r busnes i roi lle i'w feibion, ond dyrchafodd un o'i weithwyr, William Henry Lewis (1845-1905), i fod yn bartner rheolaethol. Gallai James ganolbwyntio wedyn ar weithgareddau boneddigeiddiach casglu celf (y bu wedyn yn ei arddangos mewn amryw arddangosfeydd) a garddwriaeth (gan arddangos ac ennill gwobrau mewn sioeau garddwriaeth lleol). Daeth yn 'fonheddwr arfbeisiog' (dyfarnwyd ei arfbais yn 1872) a phrynodd blasty Chargot gyda'i ystâd faenorol yn Luxborough, Gwlad yr Haf, yn 1875. Datblygodd Ely Court yn blas gothig hefyd, gan ehangu'r gerddi trwy gynnwys tir amaethyddol o'i amgylch i greu parc addurnol mawr. Erbyn diwedd y degawd roedd ei ddau fab yn fonheddwyr priod ar ystadau i'r dwyrain a'r gorllewin o Ely Court, ac roedd ei ferch wedi priodi i mewn i deulu arall o fasnachwyr glo ac yn byw yn Llundain.

Ymhlith ei weithgareddau eraill yr oedd: Comisiynwr Strydoedd Caerdydd (1848); Is-gonswl i Sbaen dros Gaerdydd (1858); cyfarwyddwr Cwmni Rheilffordd Cwm Elái, Cwmni Gwesty Caerdydd, a Chwmni Baddon Caerdydd; cymwynaswr Coleg Prifysgol De Cymru (tir ac ysgoloriaethau); ac un o 'brif gymwynaswyr' Ysbyty Caerdydd (adeiladwyd yn 1883, gan gynnwys Ward Insole).

Bu farw ei wraig Mary Ann yn 1882, saith wythnos ar ôl cael llawdriniaeth traceotomi. Ymhen wyth mlynedd, yn Llundain ar 25 Medi 1890, priododd James â Marian Louisa Carey (ganwyd Eagle, 1844-1937), gwraig weddw o Iwerddon ddwy flynedd ar hugain yn iau nag ef a chwaer-yng-nghyfraith ei fab hynaf (a hefyd yn ferch i'w gyn-asiant yn Nulyn). Bu farw mab hynaf James yn 1898, hefyd yn dilyn triniaeth lawfeddygol.

Yn 1900 disgrifiodd James ei hun fel 'the Patriarch of the So. Wales Coal Trade'. Bu farw'n dawel ar 20 Ionawr 1901 yn Ely Court, ac fe'i claddwyd gerllaw yn Eglwys Gadeiriol Llandaf ar 24 Ionawr (a hyn oll wedi'i fwrw i'r cysgod braidd gan farwolaeth y Frenhines Victoria ddau ddiwrnod ynghynt). Rhoddodd ei ewyllys yr hawl i Marian breswylio yn Ely Court ar hyd ei hoes, oni bai iddi ailbriodi. Ailbriodi a wnaeth yn 1905, ac ar hynny daeth ei fab George Frederick i fyw yn y plas. Aeth buddiannau busnes James i'w fab (trwy ei ewyllys) ac i'w weddw (trwy ewyllys ei chwaer hithau). Gwerth ei ystâd yn 1901 oedd £245,388.

Llwyddodd James Harvey Insole i atgyfnerthu ac ehangu'r busnes cloddio a llongiadu glo a sefydlwyd gan ei dad George Insole. Darparodd gyflogaeth, cyfrannodd i'r economi a hyrwyddodd lo de Cymru ar draws y byd. Roedd yn aelod hybarch o'r gymdeithas yng Nghaerdydd a rhoddodd yn hael i elusennau a sefydliadau lleol. Serch hynny, roedd James hefyd yn berchennog glo nodweddiadol o'i oes. Defnyddiodd ei gyfoeth i ennill statws cymdeithasol, a methodd, yn ôl safonau modern o leiaf, o ran dyletswydd gofal dros ei weithwyr.

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 2020-03-05

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.