INSOLE, GEORGE (1790 - 1851), perchennog glofeydd

Enw: George Insole
Dyddiad geni: 1790
Dyddiad marw: 1851
Priod: Mary Insole (née Finch)
Plentyn: George Frederick Insole
Plentyn: Julia Ann Insole
Plentyn: Julia Insole
Plentyn: Emma Insole
Plentyn: James Harvey Insole
Plentyn: Helen Insole
Rhiant: Phebe Insole (née Stinton)
Rhiant: William Insole
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: perchennog glofeydd
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes
Awduron: John Prior-Morris, Richard L. Ollerton

Bedyddiwyd George Insole yng Nghaerwrangon, ar 5 Rhagfyr 1790, y pumed o chwech o blant William Insole (1757-1811), ffarmwr tenant, a'i wraig Phebe (g. Stinton, 1757-1824). Priododd George â Mary Finch (1791-1866) yng Nghaerwrangon ar 11 Awst 1819, a ganwyd iddynt chwech o blant: Helen (1820-1895), James Harvey (1821-1901), Emma (1823-1906), Julia (g. a m. 1825), Julia Ann (1830-1904), a George Frederick (1836-1837).

Gweithiodd George fel saer dodrefn yng Nghaerwrangon tan o leiaf 1825, ac yna gyda chymorth benthyciadau ac etifeddiaethau teuluol symudodd i Gaerdydd yn 1828, ac erbyn 1829 roedd yn masnachu mewn briciau, coed a glo, mewn partneriaeth â Richard Biddle (1799-1896). Yn 1830 roedd yn datblygu marchnadoedd ar gyfer glo tai ar hyd glannau Môr Hafren ac yn Iwerddon. Yn yr un flwyddyn, roedd gyda'r rhai cyntaf i werthu glo stêm de Cymru, ac yn enwedig glo stêm Waun Wyllt o lofa Robert Thomas (gw. Lewis, Syr William Thomas) yn Abercanaid, Morgannwg, i Lundain, lle roedd glo glannau'r Tyne wedi rheoli'r farchnad ers cyfnod y Tuduriaid.

Ar ôl i'r partneriaid fethdalu yn 1831, derbyniodd George etifeddiaeth deuluol arall ac ymsefydlodd fel masnachwr glo ger pen Camlas Morgannwg. Dywedir mai ef oedd y cyntaf i lwytho glo o dde Cymru ar long ager y Llynges Frenhinol. Er mwyn sicrhau cyflenwad cyson cymerodd les yn 1832 ar bwll Maesmawr (yn Llanilltud Faerdref, Morgannwg), gan ddod yn gynhyrchwr glo yn ei hawl ei hun.

Yn 1844, er mwyn caffael glo a allai gystadlu ym marchnad glo tai Iwerddon â glo Walter Coffin o Dinas, Morgannwg, aeth ef a'i fab James Harvey Insole ati i lesio ac ailagor glofeydd Cymer, Morgannwg, yn enw George Insole and Son. Yn 1848 agorasant 36 o ffyrnau golosg i gyflenwi Rheilffordd Dyffryn Taf, ac erbyn hynny roedd George wedi datblygu masnach ryngwladol, gyda chwsmeriaid yn Ffrainc, Môr y Canoldir, De-ddwyrain Asia a De America.

Gwasanaethodd George hefyd fel cynghorwr tref yn Ward y De, Caerdydd, o 1845 o leiaf, ac fel Comisiynwr Strydoedd Caerdydd o 1847 o leiaf. Bu farw yn ei gartref yn Crockherbtown, Caerdydd, ar 1 Ionawr 1851, o ganlyniad i 'afiechyd ar y galon ers sawl blwyddyn a pharlys wythnos', ac fe'i claddwyd yn Eglwys St Margaret, y Rhath, ar 7 Ionawr.

Canwyd clodydd George Insole mewn dwy farwnad arobryn hir yn Eisteddfod Cymer 1851. Ymddengys bod y tri dyfyniad hyn yn mynd y tu hwnt i ofynion cwrteisi:

All through life, it was his honest pride
To cheer the widow and the orphan guide…

With clear integrity his name is bound
Where e're his promise, there was Insole found…

His men he paid in sterling money down
And spurned all meaner payments with a frown.

O ddechreuadau di-nod ond gyda chymorth ariannol sylweddol gan ei dylwyth ehangach, adeiladodd George Insole fusnes helaeth a llwyddiannus yn cloddio ac allforio glo yn ne Cymru. Er bod lle i ddadlau ynghylch pwy'n union oedd y cyntaf i gyflwyno glo stêm de Cymru i Lundain a marchnadoedd rhyngwladol, gellir priodoli llawer o'i lwyddiant cynnar iddo ef.

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 2019-10-31

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.