Ganwyd John Henry Jones ar 28 Gorffennaf 1909 yn Llangefni, Ynys Môn, yn unig blentyn tad a rannai'r un enwau, John Henry Jones (1863-1923), rheolwr siop ddillad, a'i briod Jane Jones (g. Griffith, 1868-1955), gwniyddes a hetwraig wrth ei chrefft. Wedi marw ei dad, profodd ei fam ac yntau gryn gyni, ond diolch i'w hymroddiad hi a chefnogaeth eglwys y Methodistiaid Wesleaidd (enwad y codwyd ef yn ddiweddarach yn bregethwr lleyg yn ei rengoedd) yn Llangefni, a thrwy ei ddygnwch darllengar ef ei hun a'r addysg a dderbyniodd yn Ysgol Genedlaethol Penrallt ac Ysgol Sir Llangefni, datblygodd John Henry Jones yn ddisgybl eithriadol o addawol, yn arbennig yn y clasuron Groeg a Lladin, ac enillodd yr ysgoloriaeth uchaf i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, yn 1927.
Parhaodd yr un disgleirdeb academaidd ym Mangor: enillydd Gwobr Powis (ddwywaith); Anrhydedd Dosbarth 1af mewn Lladin (1930) ac mewn Groeg (1931); tystysgrif athro yn y Dosbarth 1af a gradd M.A., am draethawd 'The Influence of Greece on Roman Satura' (1933). Dyfarnwyd iddo Gymrodoriaeth Prifysgol Cymru, ac aeth i Goleg y Brifysgol, Llundain, lle bu'n ymchwilio i waith - darniog, y rhan fwyaf ohono - y polymath toreithiog Varro (116-27 C.C.), ac ennill gradd Ph.D. (Llundain) am draethawd 'A Critical Study of the Life and Work of Marcus Terentius Varro' (1936). Ar ôl cyfnod byr yn athro yn Ysgol Friars, Bangor, fe'i penodwyd yn 1937 yn ddarlithydd yn Adran y Clasuron, Coleg y Brifysgol, Abertawe. Yno cyfarfu â Marian Phillips (1916-2013), yn wreiddiol o Frynaman, darlithydd yn Adran Hanes y coleg ac awdurdod ar hanes Ewrop yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Priodwyd y ddau yng Nghapel Bethesda (B), Abertawe, 6 Medi 1941. Plant iddynt yw Philip Henry Jones (g. 1945), cyn-ddarlithydd mewn llyfrgellyddiaeth yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a Dr Eirlys Barker (g. 1948), a fu'n astudio a dysgu hanes yn nhalaith Virginia, UDA.
Yn 1937, er gwaethaf y cymylau sinistr a oedd yn bwrw'u cysgodion dros wareiddiad Ewrop a'r cyfyngiadau economaidd ym Mhrydain ei hun, yr oedd pob argoel y byddai gyrfa academaidd lewyrchus yn ymagor i John Henry Jones. Ymroes yn eiddgar i'w ddyletswyddau yng Ngholeg Abertawe (sonnir yn arbennig am lwyddiant ei ddosbarthiadau i rai'n dechrau dysgu Groeg), a dechreuodd gyhoeddi ffrwyth ei ymchwil ysgolheigaidd. Ymddiddorai yng ngwaith John Owen (c.1564-c.1628), yr epigramydd Lladin o deulu Plas Du, Eifionydd, a chyhoeddi nifer o erthyglau arloesol arno, yn Gymraeg a Saesneg, rhwng 1938 a 1941. Yn 1941, fodd bynnag, torrwyd ar ei yrfa yn Abertawe gan alwadau'r Ail Ryfel Byd a'i wysio, fel sawl academydd arall, i ymuno (dan aden y Swyddfa Dramor) â'r fintai ddethol, yn Bedford ac yna ym Mharc Bletchley, a geisiai ddal a dehongli negeseuon y gelyn. Ar lawer gwedd roedd her ddeallusol ei orchwylion - meistroli Almaeneg a nifer o ieithoedd Dwyrain Ewrop a thorri codau cudd y gelyn - at ddant y clasurydd manylgraff, ac fe'i cadwyd yn y gwaith hyd 1944. Yn y cyfnod hwnnw o alltudiaeth ysgrifennodd nifer o gerddi yn fynegiant tyner o'i hiraeth am ei briod ac am Gymru (ailgyhoeddwyd rhai yn Cardi o Fôn, 1991). Hefyd troes at gyfieithu o farddoniaeth Ewrop i'r Gymraeg, yn arbennig o waith Rilke, y bardd Almaeneg o ddinas Prâg: cyhoeddwyd Cyfieithiadau o Rainer Maria Rilke (1875-1926) gan Wasg Gomer yn 1945.
Bu'r 1940au cynnar hefyd yn flynyddoedd o ddwys-ymholi i ba gyfeiriad y dymunai i'w yrfa fynd wedi'r rhyfel. Dichon i'r cof am y breintiau a dderbyniodd yn blentyn yn ysgolion Llangefni - ym Mhenrallt, er gwaethaf Anglicaniaeth yr ysgol honno (nid oedd ganddo, yn nyddiau ei aeddfedrwydd, fawr o feddwl o addysg sectyddol), ac yn yr Ysgol Sir - ennyn yn John Henry Jones yr awydd i wneud mwy dros ddyfodol addysg yng Nghymru nag yn unig ddychwelyd yn ddarlithydd i Abertawe. Yn 1943 cynigiodd am swydd Cyfarwyddwr Addysg Sir Ceredigion, a'i benodi iddi. Flwyddyn yn ddiweddarch fe'i rhyddhawyd o'i ddyletswyddau gwladol, ac yn Hydref 1944 dechreuodd ar ei waith newydd, gyda'i swyddfa a'i gartref yn Aberystwyth. Parhaodd yn y swydd hyd ei ymddeoliad, yn 63 mlwydd oed, yn 1972.
Y gorchwyl mawr cyntaf a wynebai John Henry Jones yng Ngheredigion oedd gweithredu gofynion pellgyrhaeddol Deddf Addysg 1944, yn arwain at ddiflaniad addysg 'elfennol' i blant dros 11 oed a'u symud oll o ysgol gynradd i ysgol uwchradd, naill ai 'ramadeg' neu 'fodern'. Cwblhawyd yr ad-drefnu yn y sir yn brydlon ac effeithiol, gan ddatblygu ysgolion 'dwyochrog' yn yr ardaloedd teneuaf eu poblogaeth. Yr oedd y Cyfarwyddwr yr un mor fawr, efallai'n fwy, ei ofal am yr ysgolion cynradd, ac am ddiogelu'r Cymreictod naturiol a nodweddai'r rhan fwyaf ohonynt, sefyllfa a beryglwyd erbyn y 1960au gan gyfuniad o effeithiau diboblogi cefn gwlad a chynnydd sylweddol yn nifer y rhai na fedrai'r Gymraeg a ymsefydlodd yn y sir. (Wrth gyflwyno polisi dwyieithrwydd ar gyfer addysg yng Ngheredigion, mynegodd - yn dra phroffwydol - ei bryder y gwelid troi sir a fu'n gadarnle i'r Gymraeg yn llinell flaen ym mrwydr yr iaith.) Adwaenai holl athrawon a phrifathrawon y sir, ymwelai'n gyson â'u hysgolion i'w hannog a'u cynorthwyo (gan hyd yn oed, ar dro, lenwi bwlch ei hun o flaen dosbarth, pan orfodid athro neu athrawes i fod yn absennol ar fyr rybudd), ac roedd ei unplygrwydd a chwimder ei feddwl yn ddihareb ymhlith staff ei swyddfa a staff yr ysgolion fel ei gilydd. Ei symbyliad bob amser oedd gwerth amhrisiadwy addysg dda, a'i nod oedd sicrhau addysg felly - mewn dull heriol, ond perthnasol - ledled Ceredigion. Addefodd un tro, gyda pheth direidi, ei fod yn 'élitist o'r radd waethaf', yn yr ystyr ei fod am weld pob un plentyn yn derbyn y gorau posibl ar ei gyfer ef neu hi. Golygai hynny gefnogi unrhyw un a allai anelu, fel y gwnaethai ef ei hun, at ddisgleirdeb academaidd mewn cwrs prifysgol. Golygai hefyd, yr un mor bwysig, fod y rhai a ddymunai aros a gweithio yn eu cynefin yn derbyn paratoad trwyadl ac effeithiol ar gyfer hynny: ffrwyth ei weledigaeth oedd y Sefydliad Amaethyddol yn Felinfach, Dyffryn Aeron, a hefyd y Coleg Addysg Bellach, Coleg Llyfrgellwyr Cymru a Choleg Amaethyddol Cymru y bu ganddo ran fawr (gydag eraill) yn eu dwyn ynghyd ar gampws Llanbadarn Fawr.
O fewn ychydig flynyddoedd i ymgymryd â'i swydd, nychwyd John Henry Jones gan afiechyd blin a adawodd ei ôl arno weddill ei oes, a bu'n rhaid iddo dreulio misoedd lawer yn sanatoria Sili a Thalgarth yn ystod 1951-52. Yn Nhalgarth, er ei wendid, troes eto at y Clasuron a chyfieithu Agamemnon, y gyntaf o dair trasiedi Oresteia Aischulos, i'r Gymraeg: darlledwyd y ddrama ar y radio gan Wasanaeth Cymreig y BBC ym mis Mawrth 1953, a'i chyhoeddi (gol. R. Telfryn Pritchard) gan y Ganolfan Astudiaethau Addysg, Aberystwyth, yn 1991. Cafwyd ganddo, hyd ddiwedd ei oes, gnwd gwiw o gyfieithiadau barddoniaeth, o Roeg (clasurol a modern) ac o Ladin, o Saesneg ac Almaeneg a Magyareg. Ymhlith yr hyfrytaf y mae ei fersiynau Cymraeg o emynau Almaeneg, yn arbennig 'Diolchwn oll i Dduw' (Caneuon Ffydd, rhif 135), emyn diolchgarwch Martin Rinkart, 'Nun danket alle Gott'. Flwyddyn cyn ei farw ailgyhoeddwyd ei gyfieithiadau o waith Rainer Maria Rilke, gan ychwanegu atynt y deg Elegie o Duino (Gwasg Prifysgol Cymru, 1984).
Yn ogystal â'i ran yng ngwaith llu o bwyllgorau dan awdurdod sirol Ceredigion, bu John Henry Jones yn aelod o nifer o gyrff eraill, megis Cyngor Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a'r pwyllgor (dan gadeiryddiaeth yr Athro Charles Gittins) a fu'n paratoi'r adroddiad pwysig ar addysg gynradd Cymru (1967). Roedd yn ddiacon yn eglwys Bethel (B), Aberystwyth, ac yn athro ar ddosbarth o oedolion yn yr Ysgol Sul. Bu'n llywydd Adran Glasurol Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru am ddeng mlynedd (1962-72), a gwnaeth gyfraniad amhrisiadwy fel golygydd ymgynghorol i'r Geiriadur Lladin-Cymraeg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1979) a gyhoeddwyd yn enw'r adran. Er mor fregus oedd cyflwr ei iechyd, bu ailgydio yn niddordebau ei ieuenctid yn gynhaliaeth real iddo, ac ym mlynyddoedd ei ymddeoliad ysgrifennodd nifer sylweddol o erthyglau ac adolygiadau, clasurol eu cwmpas, ar gyfer cylchgronau Cymraeg.
Gellir yn deg ddisgrifio John Henry Jones fel un o ddeallusion pennaf Cymru Gymraeg yr ugeinfed ganrif. Yr oedd ysgolheigion a dysgedigion ymhlith rhai o'i gyfeillion mwyaf agos, a'i sgwrs yn eu plith yn wybodus a ffraeth. Efallai fod gorfod treulio cymaint o'i amser yng nghwmni cynghorwyr sir a'u trafodaethau wedi peri iddo weithiau ofyn tybed a wnaeth y dewis gorau pan adawodd y ddarlithfa am fywyd gweinyddwr. Heb unrhyw amheuaeth, rhoes ei arweiniad ef gyfeiriad arbennig iawn i addysg Ceredigion am ddegawdau wedi'r Ail Ryfel Byd.
Bu farw John Henry Jones yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, ar 17 Hydref 1985, yn 76 mlwydd oed. Cynhaliwyd gwasanaeth angladdol yng Nghapel Bethel ar 21 Hydref, a dilyn hynny ag amlosgi ei weddillion yn Amlosgfa Treforys. Chwe mlynedd yn ddiweddarach, yn 1991, cyhoeddwyd gan Gymdeithas Lyfrau Ceredigion (y bu ganddo ran allweddol yn ei sefydlu) gyfrol yn cynnwys rhai o'i gerddi a'i gyfieithiadau, ynghyd ag ysgrif goffa gan yr Athro Dafydd Jenkins. Yn briodol iawn, rhoddwyd yr enw chwareus a ddewisodd pan urddwyd ef yn aelod o Orsedd y Beirdd yn 1982, 'Cardi o Fôn', yn deitl i'r gyfrol honno.
Dyddiad cyhoeddi: 2019-07-19
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.