LAKE, MORGAN ISLWYN (1925 - 2018), gweinidog a heddychwr

Enw: Morgan Islwyn Lake
Dyddiad geni: 1925
Dyddiad marw: 2018
Priod: Gwyneth Mary Lake (née Morris)
Plentyn: Cynfael Lake
Plentyn: Llinos Lake
Plentyn: Heledd Lake
Plentyn: Dewi Lake
Plentyn: Llŷr Lake
Rhiant: David Morgan Lake
Rhiant: Annie Jessie Lake (née Griffiths)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog a heddychwr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Pryderi Llwyd Jones

Ganwyd Islwyn Lake ar 14 Mawrth 1925 yng Nglasfryn, Llanwnda ger Wdig yn Sir Benfro, yn un o dri o blant i Morgan David Lake (1885-1982), prifathro, a'i wraig Annie Jessie (g. Griffiths, 1894-1955). Roedd ei dad-cu ar ochr ei fam, Ebenezer Griffiths, yn un o'r rhai a sefydlodd Ebeneser, yr achos Annibynnol yn yr ardal, yn 1928. Wedi Ysgol Gynradd Enner - ble roedd ei dad yn brifathro - aeth Islwyn i Ysgol Sir Abergwaun (1935-43), ac o astudio'r Gymraeg yn y chweched dosbarth daeth yn drwm dan ddylanwad ei athro D. J. Williams, ac yr oedd D. J. Bowen (1925-2017) ymysg ei gyfeillion. Bu gweinidog capel ei blentyndod, y Parch. Irfon Samuel, a D. J. Williams yn ddylanwadau oes arno fel heddychwr ac aelod gweithgar o Blaid Cymru.

Cofrestrodd Islwyn Lake fel gwrthwynebydd cydwybodol ac ymuno ag Uned Ambiwlans y Crynwyr yng Ngwlad Belg yn 1944-5 a chael ei garcharu am gyfnod gan yr Almaenwyr. Mae tystiolaeth am ei ddewrder ac am ei agwedd gymodlon ddi-drais yn ystod y cyfnod hwn, ond ni soniai Islwyn ei hun am hynny. Yn ystod ei flynyddoedd ym Mangor yn paratoi ar gyfer y weinidogaeth, dyfnhau wnaeth ei argyhoeddiad dan ddylanwad rhai fel yr Athro Gwilym Bowyer a'r genhedlaeth arbennig o fyfyrwyr oedd ym Mangor gyda'i gilydd ar ôl y rhyfel. Pa fu Islwyn farw yn 2018 ef oedd yr olaf o'r genhedlaeth arbennig honno o weinidogion yr Annibynwyr yng Nghymru a'u pwyslais ar heddychiaeth, cymod ac undod. Yn y brifysgol ym Mangor (ble graddiodd yn BA a BD, 1946-53) y cyfarfu Islwyn â Gwyneth Mary Morris (1926-2020); priodwyd hwy yn 1953 a ganwyd iddynt bump o blant, Cynfael, Llinos, Heledd, Dewi a Llŷr, a chael, yn ddiweddarach, nifer fawr o wyrion a gorwyrion.

Cafodd ei ordeinio yn 1953 a bu'n weinidog yn Nhreorci 1953-63, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog (ynghyd â Bethania, Manod) 1963-70, Fforest-fach, Abertawe 1970-82, a Machynlleth (y Graig ynghyd â Phenegoes, Aberhosan a Llanwrin) 1982-90 pan ymddeolodd a symud i Borthmadog. Roedd yn bregethwr goleuedig ac yn fugail ffyddlon, a'i ysgwyd llaw gref a chynnes yn arwydd o'i bersonoliaeth gadarn ac addfwyn. Bu Cymdeithas y Cymod a'i neges o heddwch yn ganolog i'w fywyd hyd y blynyddoedd olaf yng nghell y Gymdeithas ym Mhorthmadog, ac fe'i hanrhydeddwyd am gyfraniad oes i heddwch. Bu'n Gadeirydd Cenedlaethol y Gymdeithas ac mae iddo le amlwg yn ei hanes. Er bod ei heddychiaeth wedi golygu gwrthwynebiad o fewn rhai o'i eglwysi, yr oedd Islwyn yn barod, nid yn unig i brotestio yn erbyn militariaeth a rhyfela, ond hefyd i weithredu o blaid y ffordd ddi-drais.

Bu'n Olygydd Y Tyst (wythnosolyn yr Annibynwyr), yn Gadeirydd Adran Genhadol yr eglwys fyd-eang ac yn Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ym Mhorthmadog yn 1991. Cyhoeddwyd ei anerchiad i'r Undeb y flwyddyn honno ar thema undod a chymod fel rhodd ('Ymateb i'r Ysbryd'), a hefyd nifer o erthyglau ganddo.

Gweinidogaeth dawel, gadarn oedd un Islwyn Lake, heb dynnu sylw ato'i hun a heb geisio poblogrwydd. Gweinidogaeth y proffwyd tawel, nid y llais uchel, ydoedd.

Bu farw Islwyn Lake yn Ysbyty Alltwen, Tremadog ar 25 Tachwedd 2018 yn 93 oed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2021-12-17

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.