Ganwyd Ronald Lockley ar 8 Tachwedd 1903 yng Nghaerdydd, y pumed o chwech o blant Harry Lockley, clerc rheilffordd, a'i wraig Emily Margaret (née Mathias) o Aberdaugleddau. Roedd y tad yn gamblo a byddai i ffwrdd am gyfnodau hir. Llwyddodd y fam i gynnal ei theulu trwy sefydlu ysgol - Milford House yn yr Eglwys Newydd - gan ddechrau gyda phump o'i phlant ei hun ac un disgybl yn talu. Dros ddeng mlynedd datblygodd yr ysgol i gant o ddisgyblion gan gynnwys rhai preswyl. Cafodd Ronald ei addysg gynnar yn ysgol ei fam, a mynychodd Ysgol Uwchradd Caerdydd yn ddiweddarach.
Pan yn fachgen ifanc roedd wedi ei gyfareddu gan ynysoedd, ac adeiladodd gwt iddo'i hun ar ynys fechan - Moorhen Island oedd ei enw ef arni - mewn tir corsiog ger coedwig a chamlas Morgannwg. Gan ddefnyddio arian a enillodd gan ffermwr lleol, ymwelodd ag Ynys Wair lle y gwelodd am y tro cyntaf balod Manaw yn hedfan dros y tonnau tua'r gogledd. Pan fethodd ei arholiad mynediad yn Llundain, penderfynodd Ronald a'i fam y dylai fynd yn ffermwr. Ystyriodd am gyfnod dyfu planhigion ar gyfer perlysieuwyr traddodiadol. Wedi iddo ddatblygu ei ddelfryd ei hun o fyw'n syml gan werthfawrogi dulliau natur, tynnodd ei chwaer iau Marjorie ei sylw at Walden gan Henry David Thoreau. Gyda chymorth ei fam cafodd ddeg erw o dir ryw saith milltir i ffwrdd ger Llaneirwg, yn sir Fynwy ar y pryd, a sefydlodd dyddyn gyda'i chwaer hynaf Enid. Dechreuasant gyda dofednod, ond roedd cynlluniau ar gyfer paradwys y naturiaethwr gan gynnwys ynys mewn pant gorlifedig.
Methodd ymgais i ymweld â Steepholm, ond llwyddodd Lockley ynghyd â chymydog hŷn - Harry Walter Shellard, a adwaenid fel 'the Admiral' - ym Mehefin 1927 i lanio ar greigiau cochion Sgogwm yn sir Benfro, a chawsant wybod bod tenant yr ynys yn byw ar y tir mawr a heb ddiddordeb ynddi. Roedd Lockley yn 23 mlwydd oed, a phan gafodd les 21 mlynedd ar yr ynys roedd ei deulu'n amheus iawn, ond ymatebodd merch yr Admiral, Doris Edith Shellard (1893-1989), gyda'r fath frwydfrydedd eiddigeddus fel y bu i Ronald gynnig ei phriodi.
Erbyn mis Tachwedd roedd wedi symud i'r ynys gyda chymorth pysgotwyr lleol. Yn Chwefror 1928 aeth y sgwner Alice Williams ar greigiau Sgogwm a thalodd Ronald £5 am yr hawl i achub pethau ohoni. Defnyddiwyd coed o'r llong i drwsio'r tŷ annedd, a pharodd y glo am sawl blwyddyn. Priododd Ronald a Doris ar 12 Gorffennaf 1928, a threulio eu mis mêl ar ynys Gwales, yr oedd Ronald wedi addo peidio â'i harchwilio hebddi. Ganwyd eu merch Ann ym Mai 1930. Cofnodwyd y blynyddoedd cynnar yn ei lyfr Dream Island (1930) a'r dilyniant Island Days (1934) gyda darluniau gan Doris.
Rhwng 1928 a 1940 enillodd Lockley enw iddo'i hun fel naturiaethwr o fri rhyngwladol. Erbyn Mai 1929 ar anogaeth H. F. Witherby, roedd wrthi'n modrwyo palod. Gyda dau bapur arwyddocaol yn 1930 a 1931 yn dogfennu’r cyfnodau deor a magu, a darganfyddiadau eraill, trawsnewidiodd Lockley yr wybodaeth am balod Manaw gan ddatgelu am y tro cyntaf arferion bridio’r adar hynod hyn, sy’n byw mewn tyrchfeydd ar yr ynys.
Yn 1930 dogfennodd ollyngiad olew anghyfreithlon gan dancer yn mynd heibio, gan arwain at yr erlyniad llwyddiannus cyntaf dan Ddeddf Olew mewn Dyfroedd Mordwyol 1922.
Er mwyn cofnodi bywyd gwyllt yr ynys, gwahoddodd Harry Morrey Salmon a Geoffrey C. S. Ingram (1883-1971), dau adarwr Cymreig profiadol, i'w gynorthwyo i lunio maglau ar gyfer modrwyo a mesur adar gan gynnwys twndish rhwyd Heligoland. Fel arwydd o ddiolch cawsant fodrwyo'r adar cyntaf a ddaliwyd yn y fagl, drywod yr helyg, a Sgogwm oedd yr Arsyllfa Adar gyntaf i'w dynodi ym Mhrydain yn 1933.
Daeth yn gyfaill i fywydegwyr blaenllaw eraill gan gynnwys Julian Huxley, y cynhyrchodd ffilm ddogfen gydag ef ar ynys Gwales yn 1934, The Private Life of the Gannet, a enillodd Oscar yn 1938, a David Lack a gynorthwyodd yr astudiaeth o fordwyo palod trwy ryddhau un o hoff adar Lockley, Caroline, o Ddyfnaint; dychwelodd yr aderyn i'w nyth o fewn ychydig llai na deg awr. Bu 1934 yn flwyddyn hanesyddol gydag thipyn dros gant o aelodau'r Wythfed Gyngres Adaregol Ryngwladol - gan gynnwys y darpar enillydd Nobel Konrad Lorenz a Ferdinand Tsar ymddiorseddedig Bwlgaria - yn ymweld â'r ynysoedd diolch i ddwy o ddistrywlongau Ei Fawrhydi.
Yn 1936 estynnodd Lockley ei astudiaeth o fordwyo adar trwy ryddhau dau bâl o Ynysoedd Ffaröe a dod ag aderyn lleol i'r de trwy ei ryddhau o borthladd Leith i'r gogledd o Gaeredin. Dychwelodd yr holl adar i'w cynefin. Arweiniodd yr ymchwil at lyfr yn 1942, Shearwaters. Yn 1939 daeth Lockley â gwalch y penwaig i Lundain ar gyfer y tywysogesau Elizabeth a Margaret, ac ar un o'r darllediadau teledu byw cynharaf gwelwyd yr aderyn yn ymosod arno wrth iddo agor y fasged.
Roedd Lockley yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Warchod Adar Sir Benfro yn 1938; daeth honno wedyn yn Gymdeithas Faes Gorllewin Cymru, corff hynod effeithiol a gyhoeddodd Nature in Wales o 1955 a Lockley yn un o'r golygyddion. Yn ail hanner y 1940au chwaraeodd Lockley ran ganolog yn y gwaith o sefydlu Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro a gofynnwyd iddo ddylunio llwybr troed swyddogol ar hyd yr arfordir.
Gan fod cwningod gwyllt yn heidio dros ynys Sgogwm pan gyrhaeddodd Lockley, daliwyd rhwng dwy a thair mil y flwyddyn ar y dechrau, a'u disodli gan gwningod Chinchilla wedi eu magu ar gyfer eu ffwr sidanaidd. Pan fethodd yr arbrawf hwn, y gobaith oedd sefydlu porfa ar gyfer defaid. Yn anffodus adferodd niferoedd y cwningod gwyllt, ac erbyn 1934 penderfynodd y Lockleys mai ei ysgrifennu ef fyddai'r ffynhonnell incwm orau.
Cafwyd dau ymgais arall i leihau nifer y cwningod ar ddiwedd y 1930au, yn gyntaf ac yn aflwyddiannus gan y ffisiolegydd Syr Charles Martin trwy ollwng y feirws myxoma; yn ail ac yn gymharol lwyddiannus, trwy chwythu cyfansoddyn syanid ar ffurf llwch trwy dramwyfeydd y cwningaroedd. Gostyngodd nifer y cwningod yn chwyrn o ganlyniad, a chafwyd newid dramatig yn llystyfiant yr ynys.
Nid dinistr oedd unig ddiben ymchwil Lockley ar gwningod Sgogwm, gan iddo sylweddoli'n gynnar fod y cwningod yn methu clywed na gweld trwy'r ffenestri gwydr newydd a osodwyd ganddo yn y 'Wheelhouse', sef sgubor lle byddid yn bwyta, gydag llyw llong yr Alice Williams ar y wal: 'It became our habit to linger over a cup of coffee, gazing upon rabbit society.' Yn nes ymlaen, yn Orielton, defnyddiodd Lockley y darganfyddiad hwn gan ddylunio tyrchfeydd gwneud gyda ffenestri gwydr plât a ganiatâi ddogfennu manwl o ymddygiad unigolion penodol.
Yn ogystal â llyfrau am fywyd ar yr ynys, ysgrifennodd Lockley yn helaeth ar gyfer cyfnodolion, yn enwedig The Countryman, British Birds a National Geographic, gan gyrraedd cynulleidfaoedd poblogaidd, gwyddonol a rhyngwladol. Lluniodd nifer o nofelau, y gyntaf mor gynnar â 1932, The Island Dwellers, a ddilynwyd gan The Sea's a Thief (1936) ymhlith eraill, ac yn ddiweddarach o lawer, Seal Woman (1974). Cafwyd hefyd lyfr i blant heb fod yn hollol ffeithiol lle mae eu merch Ann yn sôn am ei bywyd ar yr ynys: Early Morning Island or A Dish of Sprats (1939), yn cynnwys y Barwn, George Henry Owen Harries, cymeriad lliwgar a oedd wedi gwasanaethu yn Rhyfel De Affrica ac a fu'n byw gyda theulu'r Lockleys fel mecanydd a dyn da ei law o ddiwedd y 1930au ymlaen. Cofnodwyd hanes ei fywyd gan Lockley a'i gyhoeddi fel A Pot of Smoke, 1940.
Yn ystod blwyddyn gyntaf y rhyfel, sgrifennodd Lockley lythyrau'n disgrifio natur a bywyd ar Sgogwm at John Buxton (1912–1989), ei frawd-yng-nghyfraith a oedd yn adarwr ac yn llenor. Parhaodd yr ohebiaeth wedi i John gael ei ddal gan yr Almaenwyr yn Norwy a'i symud i wersyll carcharorion rhyfel lle cafodd gyfle i astudio'r tingoch gyda chymorth yr adarwr Almaenig Erwin Stresemann (1889-1972), Llywydd y Gyngres Adaregol a oedd wedi ymweld â Sgogwm. Casglwyd y llythyrau'n ddiweddarach i'w cyhoeddi fel Letters from Skokholm, gyda darluniadau gan Charles Tunnicliffe (1901–1979).
Gorfodwyd y Lockleys gan y Swyddfa Ryfel i adael Sgogwm ym Medi 1940, a symudasant i Fferm Cwmgloyne ger Nanhyfer. Ysgrifennodd Ronald am eu profiadau ffermio yn Inland Farm (1943) a llyfrau eraill. Yn y 1940au cynnar bu'n cynorthwyo Gwasanaeth Cudd-ymchwil y Llynges Frenhinol i asesu'r arfordir, ac wrth wneud hynny darganfu lecyn lle mae morloi llwydion yn ymlusgo allan o'r môr mewn niferoedd mawr; enwodd y llecyn yn 'Red Wilderness', gan ddychwelyd i astudio ymddygiad morloi yno.
Yn Chwefror 1942 cymerodd y Lockleys feddiant o fferm gyfagos ar benrhyn Ynys Dinas, gan redeg y ddwy fferm yn gydweithredol. Bu'r gwaith yn straen ar y cyd-ffermwyr, a chafwyd sawl anffawd gan gynnwys anaf difrifol. Rhoddwyd y gorau i fferm Cwmgloyne erbyn diwedd 1943. Roedd fferm Ynys Dinas yn llwyddiant yn amaethyddol ym mlynyddoedd olaf y rhyfel, ond roedd y briodas mewn trybini. Cafodd Ronald and Doris ysgariad ym Mawrth 1946.
Cyfarfu Cymdeithas Faes Gorllewin Cymru wrth i'r rhyfel dynnu i'w derfyn, a chychwyn archwiliad o Sgomer, a gyflawnwyd yn 1946, gyda Ludwig Koch yn recordio sŵn morlo llwyd Môr Iwerydd. Cyhoeddwyd rhai o arsylwadau'r gwaith hwn yn y llyfr Puffins gan Lockley (1953).
Ar 19 Medi 1946 priododd Ronald Lockley ag Eileen (Jill) Stocker (1913-2007), athrawes ysgol yn Llundain. I gychwyn parhaodd y ddau i fyw ar fferm Ynys Dinas lle bu iddynt gwrdd ar ôl i Doris a Ronald ymwahanu, a buont yn byw am ddwy flynedd yn Jersey, cyn symud i hen reithordy ger Dinbych-y-Pysgod yn 1950. Ganwyd un mab, Martin, yn Ynysoedd y Sianel yn 1950, a'r llall, Stephen, yn Ninbych-y-Pysgod yn 1953.
Yn y 1950au cynnar, ar gais gan Cyril Mackworth-Praed a Peter Scott, cynorthwyodd Lockley i oruchwylio Pwll Rhwydo Hwyaid Orielton ger Aberdaugleddau ar gyfer astudio mudo adar gwyllt. Pan fu farw perchennog stad gyfagos Orielton, llwyddodd Lockley i gael benthyciad i brynu’r stad ynghyd â’r plasty. Symudodd ei wraig a'u dau fab i mewn gydag ef, a chyn hir roedd y meibion yn helpu gyda'i astudiaethau ar ystlumod yn Orielton.
Gofynnodd Cyfarwyddwr Cyffredinol Gwarchodaeth Natur, Max Nicholson, i Lockley pan oedd yn byw yn Orielton i archwilio myxomatosis a'i effaith ecolegol bosibl wrth i nifer y cwningod leihau. Arweiniodd y gwaith at The Private Life of the Rabbit (1964), ac adnabod chwain cwningod fel cludwyr yr haint. Cafodd Richard Adams, awdur Watership Down, (1972), wybodaeth o'r llyfr hwnnw ar gyfer ei ffuglen.
Yn ystod y cyfnod hwn daliodd Lockley ati i ymddiddori yn adar y môr, yr arfordir ac ynysoedd, ac yn 1954 cydysgrifennodd gyda'r adarwr James Fisher (1912-1970) gyfrol gynhwysfawr ar adar gogledd Môr Iwerydd, o fewn cyfres uchel ei bri y 'New Naturalist'.
Yn 1962 gadawodd teulu’r Lockley's Orielton oherwydd y costau cynnal a chadw, gan ei gwerthu i'r Cyngor Astudiaethau Maes. Ar ddechrau 1964 cafodd Ronald a Jill ysgariad, ac yn yr un flwyddyn priododd Ronald, a oedd erbyn hynny yn ei chwedegau cynnar, â Jean St Lawrence (1909-1995), gwraig weddw o Seland Newydd. Dechreuodd ym mis Medi ar arolwg o forloi ar hyd arfordir Iwerddon, gan deithio gyda'i wraig mewn Bedford Dormobile.
Roedd Lockley yn wrthwynebus iawn i fewnfudo olew trwy Aberdaugleddau ac adeiladu purfa olew yno, ond yn ofer. Yn y 1970au cynnar, ar ôl byw am gyfnod yn Farway yn Nyfnaint, symudodd ef a Jean i Seland Newydd, lle roedd ei ferch Ann wedi mynd i fyw yn 1953. Trodd ei ymdrechion llenyddol, gwyddonol a chadwraethol tuag at hemisffer y de, gan deithio o fewn Seland Newydd, i Antarctica ac ymhlith ynysoedd Polynesia, a pharhau i dynnu ar ei nodiadau i gynhyrchu gweithiau'n deillio o'i brofiadau yn ôl yng Nghymru yr un pryd.
Bu Doris farw yn 1989 yn Seland Newydd, lle symudasai yn 1961 ac aeth mab ei merch, Peter, â'i lludw i Sgogwm yn 1991. Roedd Jean eisoes wedi marw pan fu Ronald Lockley farw yn Te Puke, Seland Newydd, ar 12 Ebrill 2000. Aeth ei deulu â'i ludw i'r Knoll ar Sgogwm, yng nghyffiniau tyrchfa Caroline yn 2001.
Roedd Lockley yn storïwr naturiol gydag arddull afaelgar a thelynegol a gydblethai ffaith a ffuglen ambell waith. Er iddo golli'r cyfle i gael addysg brifysgol, roedd parch mawr i'w gyflawniadau fel naturiaethwr. Dyfarnwyd gradd Meistr er anrhydedd iddo gan Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth yn 1977, a derbyniodd Fedal yr Undeb gan Undeb Adaryddol Prydain yn 1993.
Er nad Lockley oedd y cyntaf o bell ffordd i astudio bywyd gwyllt ynysoedd sir Benfro, trwy ei bresenoldeb deinamig ar yr ynysoedd, ei ysgrifennu naturiaethol toreithiog a'i ddygnwch arloesol, creodd gynnydd sylfaenol yn yr astudiaeth wyddonol o ecoleg, ymddygiad a mordwyo adar a mamaliaid, a'u cadwraeth, yn ne-orllewin Cymru; ac ysbrydolodd lawer trwy Gymru a thu hwnt gyda'i agwedd ragweledol tuag at fyw yn syml a hunan-gynhaliol.
Dyddiad cyhoeddi: 2020-10-12
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.