SALMON, HARRY MORREY (1891 - 1985), naturiaethwr, cadwraethwr a milwr

Enw: Harry Morrey Salmon
Dyddiad geni: 1891
Dyddiad marw: 1985
Plentyn: Hugh Salmon
Plentyn: Norman Salmon
Rhiant: Florence Isabella Salmon (née Thurston)
Rhiant: Harry Edgar Salmon
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: naturiaethwr, cadwraethwr a milwr
Maes gweithgaredd: Natur ac Amaethyddiaeth; Milwrol
Awdur: David Saunders

Ganwyd Morrey Salmon ar 20 Rhagfyr 1891 yng Nghaerdydd, yr hynaf o bump o blant Harry Edgar Salmon, perchennog y South Wales India Rubber Company, a'i wraig Florence Isabella (ganwyd Thurston). Morrey oedd cyfenw mam ei dad, Jane Susan Morrey a oedd yn ferch i reolwr ystad ar staff Dug Beaufort. Roedd ganddo dri brawd ac un chwaer, ac am y rhan fwyaf o'i blentyndod trigai'r teulu yn Heol Don, yr Eglwys Newydd, lle dechreuodd ei ddiddordeb mewn adar o ddarganfod nyth aderyn du ar ei ffordd i'r ysgol.

Dechreuodd gadw dyddiadur adar yn 1903, gan nodi'r nythod a ddarganfu. Gyda'i ffrindiau Bert Evans ac Alex Lawrence bu'n gwylio adar ar hyd Camlas Morgannwg gerllaw, gan fentro ymhellach yn fuan iawn. Yn 1908 prynodd ei gamera cyntaf, refflecs chwarter-plât, ac aeth ati'n syth i dynnu llun o nyth trochwr dan bont a nyth ydfran yn uchel mewn coeden. Ymunodd â'r Clwb Ffotograffwyr Swolegol yn 1910, a thrigain mlynedd yn nes ymlaen disgrifiwyd llun a dynnodd o droellwr yn 1913 fel 'camp unigryw'. Cyhoeddwyd ei erthygl ddarluniedig 'The Nightjar in Glamorgan' yn y cylchgrawn Wild Life yn 1914, a'r flwyddyn flaenorol cynhwyswyd tri ar ddeg o'i luniau gydag erthygl yn yr un cylchgrawn am yr wylan benddu. Ymunodd Salmon â Chymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd yn 1910, yr un adeg â llanc brwdfrydig arall, Geoffrey Ingram, ac felly y cychwynnodd cyfeillgarwch a barhaodd tan farwolaeth Ingram yn 1971.

Yn ei lencyndod roedd Salmon yn aelod gweithgar o 4ydd Trwp Sgowtiaid Caerdydd, sef er gwaetha'i deitl y Trwp cyntaf i'w sefydlu yng Nghymru. Ar ben hynny ymrestrodd Salmon a Bert Evans yn 7fed Bataliwn Tiriogaethol (Seiclwyr) y Catrawd Cymreig. Roedd dwy noson o ddrilio bob wythnos, maes saethu ar benwythnosau a gwersyll hyfforddi blynyddol, ac yn 1912 bu'n rhaid seiclo i East Anglia ac yn ôl gan deithio hanner can milltir y dydd. Cafodd ei ddyrchafu'n gorporal ac yna'n is-sarsiant, ond oherwydd pwysau'r busnes teuluol gohiriodd ei uchelgais i ennill comisiwn.

Ar ddechrau'r rhyfel yn Awst 1914 roedd yn rhaid i Salmon aros gyda'i fataliwn tiriogaethol, ac anfonwyd ef i warchod arfordir dwyreiniol yr Alban rhwng Aberdeen ac Arbroath, ac wedyn arfordir Durham a Swydd Efrog, ond cafodd gomisiwn i 3ydd Bataliwn y Catrawd Cymreig yn Rhagfyr 1915, a chyrhaeddodd y ffrynt gorllewinol ar ddiwedd Awst 1916 yn rhan ogleddol ymwthiad Ypres, lle bu am ddeuddeng mis yn Swyddog Cudd-ymchwil i'r 16eg Bataliwn (Dinas Caerdydd) ac yn ddiweddarach i'r Frigâd.

Er na chaniateid cario camera ar y llinell flaen, diolch i'r drefn anwybyddwyd y rheol honno gan lawer, a Salmon yn eu plith. Gan ddefnyddio Kodak Poced Fest, tynnodd ryw 250 o ffotograffau ar y ffrynt gorllewinol, ac mae'r casgliad bellach ar gadw yn amgueddfa'r Catrawd Cymreig yng Nghastell Caerdydd. Cafodd ei enwi mewn adroddiadau ar ddechrau 1918, a dyfarnwyd y Groes Filwrol iddo yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenhin ym mis Mehefin, a bar ychwanegol am ei ddewrder mewn brwydr ym mis Tachwedd. Dyma'r ddyfynneb:

He displayed great courage and devotion to duty during the attack on Bry on 4th November 1918. His company came under heavy machine-gun and shell-fire as soon as they started to attack. In spite of heavy casualties, he led them on, succeeding in capturing the village and consolidating it with a very depleted company. His excellent leadership and gallantry were directly responsible for the success of the operation.

Dychwelodd i fywyd sifil ym Mehefin 1919 fel cyfarwyddwr y South Wales India Rubber Company, cwmni'r teulu yn Stryd West Bute. Y flwyddyn wedyn prynodd ei gar cyntaf, Godfrey-Nash dwy sedd, gyda'r rhodd o £280 a dderbyniodd wrth adael y fyddin yn gapten. Yn hwn gallai ef a Geoffrey Ingram deithio ym mhellach i wylio adar, ac adroddwyd am eu taith i Benrhyn Gwyr yn 1921 yn Transactions of the Cardiff Naturalists' Society, cyfrol LIV .

Bu'r ddau'n gyd-awduron wyth o gyfrolau ar adar siroedd Cymru, gan gychwyn gyda Morgannwg yn 1925 a gorffen gyda Sir Aberteifi, a W. M. Condry yn gyd-olygydd, yn 1966. Yn ogystal cyfrannodd Ingram a Salmon i Transactions of the Cardiff Naturalists' Society a phedair ar ddeg o erthyglau i'r cylchgrawn The Romance of Nature. Mae eu llyfr darluniedig Birds in Britain Today (1934) yn cloi gydag apêl am agwedd fwy goddefgar tuag at adar ysglyfaethus: 'In other words, as sportsmen, will you not give the most sporting birds we have, the larger raptors, a sporting chance?'

Yn 1921 ger Llanfair ym Muallt bu i Salmon ac Ingram gwrdd ag Arthur Brook (1886-1957), un o ffotograffwyr natur gorau hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, a dyna ddechrau cyfeillgarwch a barhaodd nes i Brook farw. Yr adeg honno hefyd y dechreuodd cyfraniad Salmon i warchod y barcud coch; nid oedd ond naw pâr yn weddill ym Mhrydain, a'r rheini i gyd yn nythu yng nghanolbarth Cymru. Dyfarnwyd medal aur y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) i Salmon yn 1972 am ei waith yn croniclo hanes y barcud. Menter fawr arloesol yn 1924 oedd cyfrifiad cyntaf nythfa'r gwylanwyddau ar ynys Gwales (neu unrhyw nythfa gwylanwyddau o ran hynny) gan ddefnyddio ffotograffau. Gyda Clemence Acland llwyddodd i gyfrif dwy fil o barau o adar mewn dwy awr ar yr ynys, wedi hwylio yno o St Justinian ger Tyddewi.

Yn 1926 priododd Violet Evans (1896-1978), chwaer ei ffrind agos Bert Evans, a elwid yn Queenie bob amser, yr oedd wedi ei hadnabod ers pan oedd hi'n bedair ac yntau'n naw oed. Cawsant ddau fab, Norman a anwyd yn 1929 a Hugh a anwyd yn 1932.

Yn 1928 ymunodd Salmon a'i wraig â chriw o staff Amgueddfa Genedlaethol Cymru i wneud gwaith arolwg ar ynys Sgomer, gan gwrdd trwy hap ag R. M. Lockley (1903-2000), ffrind i frawd ieuengaf Queenie, a oedd yn byw ar y pryd ar ynys Sgogwm. Ymhen tair blynedd aeth Salmon a'i deulu i aros gyda theulu Lockley ar Sgogwm, gan ddychwelyd yn flynyddol tan ddechrau'r Ail Ryfel Byd. Roedd yr ymweliadau hyn yn llawer mwy na gwyliau teuluol oherwydd cynorthwyodd Salmon i sefydlu yn 1933 Arsyllfa Adar yno, y gyntaf ym Mhrydain, a dododd Ingram ac yntau fodrwyon ar yr adar cyntaf a ddaliwyd, drywod yr helyg, ym mis Awst y flwyddyn honno. Y flwyddyn wedyn roedd Salmon yn bresennol yn ystod ymweliad y Gyngres Adaregol Ryngwladol ar eu Taith Hir o Rydychen. Tynnodd ffotograffau arloesol o balod Manaw yn ymgynnull ar y môr, ac yna o'r adar y tu allan i'w tyllau nythu gyda'r nos gan ddefnyddio fflach powdwr magnesiwm. Etholwyd Salmon yn Llywydd y Clwb Ffotograffeg Swolegol o 1934 i 1936.

Galwyd Salmon i bencadlys y Catrawd Cymreig yng Nghaerdydd ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd, a'i dasg gyntaf oedd cynorthwyo gyda hyfforddi milwyr newydd cyn cael ei anfon yn Rhagfyr 1939 i RAF Carew Cheriton yn Sir Benfro, lle bu'n trefnu amddiffyn y maes awyr. Yn fuan wedyn fe'i penodwyd yn Brif Swyddog Amddiffyn yn Rheolaeth y Glannau, Northwood, gan deithio'n helaeth o Gernyw i Ynysoedd Shetland, o swydd Gaint i Ogledd Iwerddon.

Pan ffurfiwyd Catrawd yr RAF yn Chwefror 1942 bu Salmon yn ad-drefnu ac yn hyfforddi'r unedau newydd, ac ym mis Medi fe'i penodwyd yn ddarpar-Bennaeth yr holl unedau a gymerodd ran yn 'Operation Torch', goresgyniad Gogledd Affrica, gan gyrraedd Algeria ar 12 Tachwedd. Ar ôl i'r ymladd yng Ngogledd Affrica ddod i ben cymerodd ei unedau ran yn ymgyrch yr Eidal ac wedyn yng Ngwlad Groeg, a dyfarnwyd CBE iddo i gydnabod ei gyfraniad nodedig i'r ymgyrchoedd ym Môr y Canoldir hyd Mai 1945.

Dychwelodd i'r busnes teuluol wedi'r rhyfel, ond bu mor brysur ag erioed gyda gwaith gwirfoddol, gan gynnwys creu capel y Catrawd Cymreig yn Eglwys Gadeiriol Llandaf ac Amgueddfa'r Catrawd yng Nghastell Caerdydd, lle y gosododd lawysgrif ei atgofion anghyhoeddedig am ei wasanaeth rhyfel, 'Blue Hats in the Line'.

Roedd galw mawr am ei wasanaeth i amryw gyrff ym maes bywyd gwyllt a chadwraeth, gan gynnwys Undeb Adarwyr Prydain, Cyngor Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Cyngor Gwarchod Cymru Wledig, Cadwraeth Natur, Pwyllgor Tywysog Cymru, a'r RSPB. Yn 1961 bu'n un o sylfaenwyr Ymddiriedolaeth Naturiaethwyr Morgannwg, erbyn hyn Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru. Bu'n ymgyrchu ers y 1920au i warchod Twyni Cynffig, gan lwyddo i sefydlu Gwarchodfa Natur Leol yn 1978. Yn 1982 cynhaliodd Amgueddfa Genedlaethol Cymru arddangosfa o ffotograffau adar Salmon ar achlysur 75 mlwyddiant siarter brenhinol yr Amgueddfa, ac yn yr un flwyddyn dyfarnwyd DSc er anrhydedd iddo gan Brifysgol Cymru.

Bu Morrey Salmon farw o drawiad ar y galon ar 27 Ebrill 1985. Cynhaliwyd ei angladd yn Eglwys Gadeiriol Llandaf ac fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys y Santes Fair yn yr Eglwys Newydd yn agos i'r mannau lle bu'n gwylio adar yn ei lencyndod.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2019-02-25

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.