MILES, WILLIAM JAMES DILLWYN (1916 - 2007), swyddog llywodraeth leol ac awdur

Enw: William James Dillwyn Miles
Dyddiad geni: 1916
Dyddiad marw: 2007
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: swyddog llywodraeth leol ac awdur
Maes gweithgaredd: Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: David Saunders

Ganwyd Dillwyn Miles yn Nhrefdraeth, sir Benfro, ar 25 Mai 1916, yn fab hynaf i Joshua Miles, perchennog y Castle Hotel, a'i wraig Anne (Nancy, g. Phillips). Ganwyd ei frawd Herbert yn 1918. Yn sgil marwolaeth ei dad-cu gofynnodd ei fam-gu iddo aros gyda hi ar gyrion Trefdraeth, a bu'n byw yno am ddeuddeng mlynedd. Cymraeg oedd ei iaith gyntaf. Cafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Trefdraeth ac yna Ysgol Sir Abergwaun lle bu'n Brif Fachgen yn y chweched dosbarth. Yn 16 oed cynigiodd Cyngor Plwyf Trefdraeth swydd clerc y plwyf iddo, am gyflog o £10 y flwyddyn, a daliodd y swydd honno am dair blynedd cyn cael ei ethol yn fwrdais Tref a Chorfforaeth Trefdraeth. Dyna gychwyn ar fywyd o wasanaeth i'w gymuned.

Yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth, lle bu'n astudio daearyddiaeth, dioddefodd i'r fath raddau gan salwch ac iselder difrifol a arweiniodd at chwalfa nerfol, fel y bu i olygydd cylchgrawn y coleg, The Dragon, fynd ati i baratoi ysgrif goffa iddo. Ond gwella a wnaeth, er iddo fethu â chwblhau ei radd, ac aeth i weithio fel athro yn ysgolion Treletert a Dinas ac wedyn Ysgol Dewi Sant yn Nhyddewi.

Ar gychwyn y rhyfel yn 1939 ymrestrodd yng Nghorfflu Gwasanaeth Brenhinol y Fyddin a gwasanaethodd yn y Dwyrain Canol, gan weithio ar y paratoadau ar gyfer goresgyniad Lebanon a Syria Ffrainc Vichy yn 1941 a chodi i reng Capten. Gwasanaethodd yng Nghaersalem, lle sefydlodd Gymdeithas Gymraeg. Yno y cwrddodd â Joyce Ord, swyddog ATS o Ganada, ac fe'u priodwyd yn Eglwys Gadeiriol Sain Siôr, Caersalem ar 2 Chwefror 1944. Ganwyd eu mab Anthony yn sir Benfro ym Mai 1945, a'u merch Marilyn yn Llundain yng Ngorffennaf 1946. Ar ôl gadael y fyddin yn Rhagfyr 1945 treuliodd Miles ddwy flynedd fel Trefnydd Cenedlaethol yn Palestine House, cyn symud yn ôl i Sir Benfro lle ymgartrefodd y teulu yn Tŷ Portfield ar gyrion Hwlffordd.

Fel cyn y rhyfel, ymroddodd Miles yn fuan iawn i faterion lleol, a chafodd ei ethol i Gyngor Plwyf Trefdraeth, i Gyngor Ardal Wledig Cemaes, ac i Gyngor Sir Penfro, ac ychydig yn ddiweddarach yn Faer Trefdraeth - swydd a ddaliodd deirgwaith eto. Yn 1952 fe'i penodwyd yn Swyddog Canolfannau Cymunedol Cymru, a dwy flynedd wedyn yn Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Cymuned Wledig Sir Benfro. Rhai o'r mentrau amrywiol a elwodd yn fawr o'i lafur oedd Triniaeth Traed i'r Henoed, Cymdeithas Twristiaeth Sir Benfro, Pryd ar Glud a'r cylchgrawn The Pembrokeshire Historian.

Yn sgil cyfuno siroedd Caerfyrddin, Ceredigion a Phenfro i ffurfio Dyfed yn 1974, daeth Miles yn Gyfarwyddwr Cyngor Gwledig newydd Dyfed. Tystiodd yn ei hunangofiant fod y newid yn dristwch iddo, er iddo edrych yn ôl gyda boddhad ar yr hyn gyflawnwyd dros y ddau ddegawd dilynol. Ni fu pall ar ei gyfraniadau i fywyd cyhoeddus, gan gynnwys gwasanaethu ar Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru, Cyngor Chwaraeon Cymru, Pwyllgor Cymru Tywysog Cymru, ac fel Maer Hwlffordd a Llyngesydd y Porthladd.

Daeth yn aelod o Orsedd y Beirdd yn 1936 dan yr enw barddol Dillwyn Cemais, ac fe'i hetholwyd yn aelod o Fwrdd yr Orsedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd yn Rhosllannerchrugog ym 1945. Bu'n aelod o'r Orsedd am hanner canrif, ac ef oedd Ceidwad y Cledd o 1959 tan 1966 a'r Arwyddfardd am ddeng mlynedd ar hugain o 1966 tan 1996. Ef oedd cynrychiolydd yr Orsedd yn arwisgiad Tywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon yn 1969.

Maes arall y gwnaeth Miles gyfraniad pwysig ynddo oedd cadwraeth amgylchedd a bywyd gwyllt ei fro, gan gychwyn yn 1958 fel Ysgrifennydd Anrhydeddus Cymdeithas Maes Gorllewin Cymru, a ddaeth yn nes ymlaen yn Ymddiriedolaeth Naturiaethwyr Gorllewin Cymru, ac yn y pen draw yn Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru. Cymerodd Miles yr awenau pan oedd y Gymdeithas wrthi'n codi arian i brynu Ynys Sgomer, a'i dynodi wedyn yn Warchodfa Natur Genedlaethol. O 1960 hyd 1976 ef y cyswllt ar y tir mawr ar gyfer warden Sgomer, a rhwng 1970 a 1976 ar gyfer Sgogwm hefyd, gan ddelio â'r holl ymholiadau ac archebion llety a chefnogi cyfres o wardeiniaid mewn ffyrdd di-rif. Yn 1964 llwyddodd i sefydlu cyswllt radio ar gyfer Sgomer am y tro cyntaf trwy gael teleffon radio oddi wrth Trinity House. Cafywd cymorth gyda phrosiectau adeiladu gan Gadetiaid Heddlu Dinas Llundain a'r Gwasanaeth Awyr Morol Brenhinol ym Mrawdy, ac roedd eu hofrenyddion yn gaffaeliad mawr. Miles ei hun oedd y sifiliad cyntaf a osodwyd ar yr ynys gan hofrennydd. Chwaraeodd ran allweddol yn natblygiad Llwybr Arfordir Sir Benfro, ac ef oedd golygydd llawlyfr yr HMSO, Pembrokeshire Coast (1973).

Roedd Miles yn hanesydd lleol hynod o wybodus, ac ef oedd ysgrifennydd cyntaf Cymdeithas Hanes Sir Benfro o 1954, a'i llywydd o 1994. Yn ogystal â'i ddarllediadau ac erthyglau mewn cylchgronau a chyfnodolion, ysgrifennodd dri ar hugain o lyfrau, gan gynnwys The Sheriffs of the County of Pembroke 1541-1974 (1976), The Royal National Eisteddfod of Wales (1978), Secrets of the Bards of the Isle of Britain (1992), a golygiad modern o The Description of Pembrokeshire George Owen (1994). Cyhoeddodd ei hunangofiant yn y Gymraeg, Atgofion Hen Arwyddfardd yn 1997, a'r Saesneg, A Mingled Yarn yn 2000.

Bu ei wraig Joyce farw yn 1976, a'i gymar am 23 mlynedd olaf ei fywyd oedd Judith Graham Jones. Bu Dillwyn Miles farw yn 91 oed ar 1 Awst 2007. Cynhaliwyd gwasanaeth i ddathlu ei fywyd a'i waith ar 26 Hydref 2007 yn Eglwys St Martin yn Hwlffordd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2020-11-09

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.