Ganwyd Edgar Parry ar 1 Mai 1919 yn Swyddfa'r Post, Salem, Betws Garmon, Sir Gaernarfon, ail blentyn Gruffydd Henry Parry, ffermwr o Hafod y Rhug, Llanrug, a'i wraig Helena Parry (g. Williams). Roedd ganddo chwaer hŷn Mary (Vaughan Jones) a ddaeth yn athrawes Bioleg ac yn brifathrawes. Symudodd y teulu i Blas Glanrafon, Waunfawr lle magwyd Edgar.
Mynychodd Edgar Ysgol Gynradd Waunfawr ac Ysgol Ramadeg Sirol Caernarfon.
Dewisodd ddilyn gyrfa feddygol ac astudiodd yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Lerpwl, gan raddio MB ChB yn 1943. Yn Lerpwl cwrddodd ag Enid Rees, hithau hefyd yn feddyg, ac fe'u priodwyd yn 1949. Yn yr un flwyddyn daeth Edgar yn Gymrawd Coleg Brenhinol y Llawfeddygon Caeredin.
Parhaodd â'i hyfforddiant llawfeddygol yn gyntaf yn Ysbyty Caernarfon a Môn ym Mangor lle roedd wedi gobeithio cael swydd barhaol fel ymgynghorydd. Ni ddigwyddodd hynny, ac aeth i wneud hyfforddiant pellach ym Mryste. Gwnaeth ymchwil yno ar thrombosis gwythiennol, a dyna bwnc ei draethawd a enillodd radd Meistr Llawfeddygaeth (Ch.M) iddo ym Mhrifysgol Lerpwl. Roedd ganddo ddiddordeb arbennig mewn atal thrombosis ar ôl llawfeddygaeth. Deallai nad oedd eistedd mewn cadair tra bod y gwely yn cael ei gyweirio ar ôl llawfeddygaeth ddim yr un peth â 'cerdded cynnar', a rhybuddiodd hefyd fod 'pwl o bliwrisi' yn gallu bod yn arwydd o emboledd yr ysgyfaint. Yn dilyn hynny aeth i Glinig Mayo yn Rochester Minnesota, UDA i weithio gyda Dr Jack Grindley am flwyddyn.
Ar ôl dychwelyd i Brydain daeth yn Uwch-ddarlithydd mewn Llawfeddygaeth ym Mhrifysgol Lerpwl gan weithio dan gyfarwyddyd yr Athro Charles Wells, ac ychwanegodd gymhwyster Cymrawd Coleg Brenhinol Llawfeddygon Lloegr yn 1955. Yn 1956 fe'i penodwyd yn Llawfeddyg Ymgynghorol yn Ysbytai Bootle, Waterloo a Broadgreen yn Lerpwl. Swydd eang a gwmpasai holl agweddau llawfeddygaeth oedd hon. Roedd llawfeddygaeth fasgwlaidd yn ei babandod, ond byddai Edgar Parry yn cyfrannu i ddatblygiad nifer o dechnegau newydd yn y maes. Cafodd gryn ddylanwad yn benodol ar lawfeddygaeth am ymlediad aortaidd, y rhydweli garotid, ataliad yr agorfa thorasig ac ar reolaeth thrombosis y gwythiennau dyfnion. Cychwynnodd lawfeddygaeth fynediad ar lannau Merswy ar gyfer hemodialysis a chymerodd ran yn yr holl drawsblaniadau arennau cynnar yn Lerpwl gan gyflawni'r anastomoses fasgwlaidd.
Roedd Edgar Parry yn adnabyddus am ei ragoriaeth dechnegol ac am ei ymarweddiad digynnwrf a thyner. Gofalodd am ei gleifion a'i hyfforddeion gydag amynedd a thosturi. Ei unig amcanion oedd gwneud y gorau dros ei gleifion a sicrhau bod y sgiliau oedd ganddo yn cael eu trosglwyddo i'r genhedlaeth nesaf o lawfeddygon. Am reswm da y câi ei ystyried yn 'llawfeddyg y llawfeddygon'. Roedd mawr alw am gyfleoedd i weithio dros Edgar Parry a byddai hyfforddeion o Awstralia yn ogystal â'r DU yn cystadlu amdanynt. Byddai yntau yn ei dro yn cael ei wahodd i ddarlithio yn UDA, Canada ac Awstralia.
Yn 1980 daeth yn Llywydd Sefydliad Meddygol Lerpwl a theitl ei anerchiad llywyddol oedd 'Consider the Lily' am Lili'r Wyddfa a'r naturiaethwr a'i darganfu, Edward Lhwyd. Ymddeolodd yn 1984.
Cafodd Enid ac Edgar briodas hir a dedwydd ac roeddent yn adnabyddus am gynhesrwydd y croeso a'r lletygarwch yn eu cartref. Yn ogystal â meddygaeth, rhannent ddiddordebau mewn cerddoriaeth a chelf. Cawsant ddau o blant: John (g. 1950), wrolegydd sydd wedi ymddeol bellach, a Jane Anne (Carr, g. 1955) cerddores sy'n arbenigo ar y delyn. Roedd wyrion yn destun llawenydd a balchder mawr.
Ar ôl ymddeol aethant i fyw i Sir Fôn lle roedd eu cartref yn edrych dros Eryri, a lle bu Edgar yn mwynhau golff a garddio ac yn ymfalchïo yn Rygbi Cymru.
Bu Edgar Parry farw ar 9 Chwefror 2011 ym Mangor a llosgwyd ei weddillion ym Mangor.
Dyddiad cyhoeddi: 2022-03-11
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.