PETTS, RONALD JOHN (1914 - 1991), artist

Enw: Ronald John Petts
Dyddiad geni: 1914
Dyddiad marw: 1991
Priod: Anna Petts (née Brignell)
Priod: Marjory Petts (née Miller)
Priod: Brenda Irene Petts (née Chamberlain)
Plentyn: Michael Petts
Plentyn: Catrin Petts
Plentyn: David Petts
Rhiant: Alice Selina Petts (née Wade)
Rhiant: Ernest Petts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: artist
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth
Awdur: Morfudd Nia Jones

Ganwyd John Petts yn Hornsey, Llundain ar 10 Ionawr 1914, yn fab i Ernest Petts (1881-1957), teiliwr a dilledydd a chonsuriwr a difyrrwr amatur, a'i wraig Alice Selina Wade (1892-1930) a oedd yn rhedeg busnes blodau ac yn creu cacennau a danteithion ar gyfer partïon plant.

Dioddefodd John Petts o wargrymedd ar ei asgwrn cefn, a threuliodd lawer iawn o'i blentyndod yn y gwely, heb allu mynychu'r ysgol. Wedi gwella, mynychodd Ysgol Ramadeg Tollington, Muswell Hill, lle datblygodd frwdfrydedd am gelf a llenyddiaeth. Yn 15 oed, enillodd ysgoloriaeth bore Sadwrn yn Ysgol Gelf Hornsey, a chofrestrodd fel myfyriwr llawn amser i astudio paentio yn 1930. Derbyniodd Ddiploma Genedlaethol mewn Paentio ac enillodd ysgoloriaeth ddwy flynedd y Sefydliad Prydeinig i astudio yn yr Academi Frenhinol yn 1933, gan gynyddu ei incwm trwy fodelu yn yr ysgolion celf er mwyn ariannu dosbarthiadau nos mewn argraffu yn yr Ysgol Ganolog Celf a Chrefft.

Effeithiodd marwolaeth ei fam yn 1930 arno'n ddifrifol, a chreodd ail briodas ei dad yn 1932 densiwn cynyddol o fewn y teulu. Symudodd allan i fyw gyda Maude (1878-1977), chwaer ei dad, gan dorri pob cysylltiad am flynyddoedd â'i dad a'i frawd a chwaer, Ernest a Joy, ond cadwodd gysylltiad â'i frawd iau Peter.

Yn ystod y cyfnod hwn cyfarfu â'r arlunydd a'r awdur Brenda Chamberlain (1912-1971) a oedd yn fyfyrwraig yn yr Academi. Fe wnaeth y ddau roi'r gorau i'w hastudiaethau, gan briodi ar 11 Mai 1935 yn Swyddfa Gofrestru Kensington a symud i fyw yn Nhŷ'r Mynydd ger Llanllechid, Gogledd Cymru. Roeddent yn anelu at fod yn hunangynhaliol ac i fyw fel artistiaid, gan ymgymryd ag unrhyw fath o waith artistig a ddeuai i'w ffordd. Cynhaliwyd eu harddangosfa gyntaf ar y cyd ym Mangor yn 1936 ac un arall flwyddyn yn ddiweddarach. Dechreuodd Petts ddysgu celf mewn dosbarthiadau nos i oedolion ym Mangor yn 1936, a chreodd engrafiadau pren a thorluniau i'w gwerthu fel cardiau cyfarch. Prynasant wasg law yn 1937 a sefydlu Caseg Press, gan argraffu a lliwio cardiau cyfarch, llyfrynnau a phrintiau o bobl a golygfeydd lleol, a chreu darluniau ar gyfer cylchgronau llenyddol. Gofynnwyd iddynt greu engrafiadau i ddarlunio'r Welsh Review yn 1939, a chyn hir roeddent yn cyfrannu printiau, straeon byrion ac erthyglau ar gyfer y cyhoeddiad. Dechreuodd Petts dderbyn comisiynau rheolaidd gan y Parchedig E. Curig Davies (1895-1981) i ddarlunio Gwybod, cylchgrawn gwybodaeth gyffredinol, a'i lyfrau Storiau am Annibynwyr (1939), ac Y Morwr a'r Merthyr (1940). Dechreuodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru brynu eu printiau ar gyfer ei chasgliadau o 1939, ac erbyn 1940 roedd ei sgiliau fel engrafwr yn cael eu cydnabod y tu allan i Gymru.

Roedd yn wrthwynebydd cydwybodol yn ystod y rhyfel, ac fe'i hanfonwyd i weithio ar ffermydd o gwmpas y wlad, gan adael Brenda i geisio rhedeg y Wasg, gofalu am Peter ei frawd iau a gafodd ei symud o Lundain, a gweithio fel arweinydd mynydd i'r Groes Goch.

Cysylltodd y bardd Alun Lewis (1915-1944) â hwy yn ystod y rhyfel, ac yn dilyn cyfarfod yn 1941 cawsant y syniad o gynhyrchu argrafflenni dwyieithog yn cyfuno barddoniaeth Gymreig ac engrafiadau. Cynhyrchwyd chwe 'argrafflen Caseg' yn ystod 1941-2, a pharatowyd dwy arall ond ni chawsant eu cyhoeddi.

Rhoddwyd straen ar briodas Petts a Chamberlain gan eu profiadau gwahanol yn ystod y rhyfel, eu gwahanol hamcanion a'r gystadleuaeth greadigol rhyngddynt, a bu iddynt wahanu yn 1943 gan ysgaru yn 1947. Yn dilyn eu gwahanu, gwirfoddolodd Petts yn 1944 i wasanaethu gydag uned dadebru Ambiwlans Maes (Parasiwt) Corfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin yn Ewrop a'r Dwyrain Canol. Cynorthwyodd i gyhoeddi hanes yr uned, Red Cross Devils a Over the Rhine (1946). Trosglwyddodd i Gorfflu Addysg y Fyddin pan dderbyniodd swydd fel darlithydd mewn Astudiaethau Artistig yng Ngholeg Ffurfiant y Fyddin ym Mhalestina i ddysgu bywlunio, engrafiadu pren, llythrennu ac argraffu. Yn 1945 fe'i penodwyd yn olygydd celf cyhoeddiadau addysgol yn y Pencadlys Cyffredinol yn Cairo.

Daeth ei waith artistig i sylw'r Golden Cockerel Press, a chafodd ei gomisiynu i ddarlunio The Green Island, nofel gan Gwyn Jones yn 1945. Dychwelodd i Gymru ar ddiwedd 1946 i ailsefydlu Caseg Press. Roedd wedi cyfarfod â Marjory (Kusha) Miller (1921-2003), arlunydd ac awdur, yn 1944, ac fe wnaeth y ddau briodi ym mis Mawrth 1947. Cawsant ddau fab a merch, David (ganwyd tua 1947), Catrin (ganwyd 1950) a Michael (ganwyd 1957). Cawsant ysgariad yn 1984.

Cafodd Petts ei gyflogi fel dylunydd i ddatblygu Amgueddfa Lloyd George yn Llanystumdwy yn 1947, a symudodd ei offer argraffu i'r amgueddfa, lle bu'n cynllunio ac argraffu catalogau a chardiau cyfarch i'r amgueddfa, a Kusha yn gwehyddu bagiau i'w gwerthu yn y siop. Gwnaeth Jonah Jones, cydweithiwr o'r fyddin, ei helpu i ailsefydlu Caseg Press, gan brynu offer newydd, datblygu argraffu lliw, a chynhyrchu ystod ehangach o ddeunydd masnachol. Ychwanegwyd at elw'r Wasg gan amrywiaeth o gomisiynau am ddarluniau ar gyfer llyfrau megis In the Green Tree Alun Lewis (1949), A Wanderer in North Wales Cledwyn Hughes (1949) ac Against Women (1953) ac In Defence of Women (1960) Gwyn Williams. Arbrofodd hefyd gyda chyhoeddi llyfrau, a chyhoeddodd Susanna and the Elders, (1948), a Sauna (1949). Ni chafodd ei lyfr nesaf, 'Woodcuts of Wales' ei gwblhau oherwydd cyfyngiadau technegol y wasg, afiechyd Jonah Jones, a'r cynnydd yn y dreth ar brynu nwyddau moethus, a daeth Caseg Press i ben tua 1951 oherwydd anawsterau ariannol.

Fe'i penodwyd yn Gynorthwy-ydd Celfyddydau Gweledol i Bwyllgor Cymreig Cyngor y Celfyddydau yn 1951, a daeth yn Gyfarwyddwr Rhanbarthol Cynorthwyol yn 1952. Erbyn hynny roedd y teulu wedi symud i Aberddawan. Etholwyd ef i Gymdeithas yr Engrafwyr Pren yn 1953, ac fe enillodd aelodaeth o Gymdeithas Frenhinol y Peintwyr-Ysgythrwyr a Engrafwyr yn 1961. Gwasanaethodd hefyd ar Gyngor Celfyddydau Prydain Fawr rhwng 1958 a 1961, a dyfarnwyd Cymrodoriaeth Churchill iddo yn 1966. Roedd wedi gobeithio parhau i engrafu yn ei amser hamdden, ond darganfu bod gweithio i Gyngor y Celfyddydau yn cymryd gormod o'i amser. Ymddiswyddodd yn 1956, a symudodd gyda'i deulu i Lansteffan, lle trodd y beudy yn weithdy er mwyn medru treulio mwy o amser yn creu ei waith ei hun.

Yn 1957 fe'i penodwyd yn ddarlithydd mewn dylunio a chrefft yn Ysgol Gelf Caerfyrddin, lle cafodd y cyfle i feistroli'r grefft o ddylunio gwydr lliw, crefft a oedd wedi ei gyfareddu ers amser maith. Gwelai gysylltiad agos rhwng engrafu pren a gwydr lliw: 'Mae engrafu pren yn eich gorfodi bron i fod yn ddylunydd pwerus am fod gennych linellau du cryf... Yn yr un modd â gwydr lliw, mae'n rhaid i chi greu fframwaith o siapiau du mewn plwm a dur a lenwir gan wydr lliw. Rydych chi'n ail-ddarganfod yr hyn a ddysgoch wrth engrafu pren, mai eich ffrind gorau yw duloyw; rhaid cuddio'r golau er mwyn i'r lliw befrio." Dysgodd dechnegau gwydr lliw yn gyflym wrth gadw un cam o flaen ei fyfyrwyr, ond ymddiswyddodd yn 1961 er mwyn cychwyn ar yrfa fel dylunydd llawrydd a dechreuodd ennill bri ym maes gwydr lliw eglwysig.

Roedd John Petts yn falch i ddilyn traddodiad hir gwydr lliw sy'n dyddio yn ôl i'r cyfnod canoloesol, ac roedd yn ymwybodol y byddai'r ffenestri yn ei oroesi. Dim ond gwydr hynafol wedi ei chwythu a ddefnyddiai, a byddai'n manteisio ar yr amrywiadau yn y lliw i ychwanegu bywiogrwydd. Ei nod yn ei holl gomisiynau oedd cynhyrchu gwaith a oedd yn bersonol i'r rhoddwr, ond a fyddai hefyd yn addas i'r eglwys y byddai'n cael ei osod ynddi. Derbyniodd lawer o gomisiynau, a gwelir ei waith mewn eglwysi Catholig, Anglicanaidd ac Anghydffurfiol ar draws de Cymru, gyda gweithiau pwysig yng Ngorseinon, Penarth, Llansteffan, Abergwaun ac Aberhonddu, yn ogystal â Synagog Newydd Brighton a Hove. Ef a ysgogodd ymgyrch i ariannu a chreu'r ffenestr enwog yn Eglwys Bedyddwyr 16th Street yn Birmingham, Alabama, a ariannwyd gan gyfraniadau pobl Cymru yn dilyn yr ymosodiad ar yr eglwys gan y Ku Klux Klan yn 1963 a laddodd bedair merch ddu ar eu ffordd i'r Ysgol Sul.

Mynegodd ei ffydd a'i archwiliadau diwinyddol trwy ei grefft, a'i obaith oedd ysgogi'r gwyliwr i archwilio a mynegi ei ffydd ei hun. 'Fy mwriad, yn gyntaf ac yn olaf, oedd gadael i'r gwydr siarad, yn ei iaith ei hun yng nghyd-destun addoliad, gan gyhoeddi'r Newyddion.'

Roedd John Petts yn ddyn tawel a chrefyddol iawn, a oedd yn hoff iawn o Gymru a'r Cymry o'i gwmpas, ac fe arhosodd yng Nghymru am weddill ei oes. Priododd ei drydedd wraig Anna Brignell yn 1985 a symudodd ei stiwdio i hen wyrcws yn y Fenni, lle bu farw ar 26 Awst 1991. Mae ei archifau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2018-10-25

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.