Ganwyd Alun Richards ar 27 Hydref 1929 yng Nghaerffili, yn fab i Edward Morgan Richards (1891-1976), trafeiliwr masnachol, a'i wraig Megan (g. Jeremy, 1905-1977). Priododd ei rieni yn Llundain yn Ebrill 1929. Tridiau ar ôl i Alun gael ei eni, ymadawodd ei dad â'i fam, a magwyd Alun yng nghartref rhieni ei fam, Thomas (c.1870-1939) a Jessie (1877-1955), yn ardal gefnog Graigwen ym Mhontypridd. Roedd ei dad-cu, Thomas Jeremy, yn rhedeg busnes groser yn Stryd y Felin, Pontypridd, ac yn aelod blaenllaw o gymuned fasnachol y dref. Er bod ei dad-cu a'i fam-gu yn Gymry Cymraeg ac yn gapelwyr, daeth Alun Richards i ymwrthod â chrefydd a'r iaith Gymraeg fel ei gilydd.
Roedd Alun Richards yn blentyn dawnus yn ddeallusol ond un gwrthryfelgar hefyd, a honnodd iddo wneud yr ymdrech leiaf posibl yn ystod ei gyfnod yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn Pontypridd. 'I was 31st when I went into the school and I've kept it up', meddai yn ei hunangofiant, Days of Absence (1986). Ond stori wahanol a adroddir gan y dystysgrif ymadael a gafodd yn un ar bymtheg oed yn 1946. Enillodd gredydau yn yr iaith Saesneg, llenyddiaeth Saesneg, Ffrangeg a Sbaeneg, a graddau pasio mewn daearyddiaeth a hanes. Bu'n aelod gweithgar o'r gymdeithas opera amatur leol, gan chwarae rhan John Bradshawe, y barnwr gweinyddol yn achos llys Charles I, mewn cynhyrchiad dramatig o'r rhyfeloedd cartref. Yn ôl adroddiadau'r wasg, cafwyd portread 'grymus ac argyhoeddiadol' gan Richards. Ar ôl gadael yr ysgol, aeth Richards i Goleg Hyfforddi Athrawon Sir Fynwy yng Nghaerllion, cyn ymuno â'r Llynges Frenhinol fel hyfforddwr yn 1949. Gadawodd y Llynges yn 1952 a gweithiodd am gyfnod byr fel 'Panamanian Flag supernumerary' (hynny yw, yn y llynges fasnachol), cyn dod yn swyddog prawf yn Llundain. Yng nghanol y 1950au, ar ôl dychwelyd i Gymru, dangosodd symptomau tiwbercwlosis a threuliodd ddwy flynedd, erchyll yn aml, fel claf preswyl yn Sanatoriwm Talgarth yn Sir Frycheiniog.
Ar ôl cael ei ryddhau o'r ysbyty, priododd Barbara Helen Howden (1933-2008), swyddog prawf yr adeg honno, yn Llundain ar 8 Mehefin 1957, gan ymgartrefu yng Nghaerdydd, lle bu'n dysgu Saesneg mewn ysgol uwchradd am ddeng mlynedd. Ar ddiwedd y 1960au, symudodd y teulu i Abertawe. Cafodd Alun a Helen Richards dri mab - Stephen (1958-), Michael (1960-), Daniel (1966-) - a merch, Jessica (1961-).
Daeth cyfle llenyddol Alun Richards ym Mai 1956, pan ddarlledwyd ei stori fer 'Knight Mabon' ar 'Light Programme' y BBC. Darlledwyd ail stori, 'Ferb', ym Mawrth 1957. Cafodd lwyddiant yng nghystadleuaeth straeon byrion Clwb Llenyddol y Phoenix yng Nghaerdydd. Cyhoeddwyd 'Thy People: A Fable ' wedyn yn y cylchgrawn llenyddol, Wales , yn Hydref 1958. Enillodd Richards ei le yn fuan fel cyfrannwr sefydlog, gan ddarparu straeon byrion, ysgrifau, a 'dyddiaduron' tan i'r cylchgrawn fynd i'r gwellt yn sydyn yn Ionawr 1960. Erbyn hynny, roedd Richards wedi gwerthu nifer o ddramâu i'r BBC i'w darlledu ar y teledu a'r radio, a dyna ddechrau bron i ddeugain mlynedd o sgrifennu ar gyfer y sgrîn. Dangoswyd ei ddrama deledu gyntaf, Going Like A Fox, stori ddirdynnol am deulu Cymreig a chynghorydd lleol dan warth, yn y gyfres 'Saturday Playhouse' ar 13 Chwefror 1960.
Fel awdur, cefnodd Richards ar yr ysgol Eingl-Gymreig a hefyd ar ddelwedd gomedi dywyll ac operatig Gwyn Thomas o 'Meadow Prospect', gan gyfarch cynulleidfaoedd cyfoes am le y gellid ei adnabod fel de Cymru ond un a oedd yn rhydd o bwysau etifeddiaeth hanesyddol a gweddillion y maes glo. Er mai Cymro yw prif gymeriad ei nofel gyntaf, The Elephant You Gave Me (1963), fe'i gosodir yn fwriadol yng nghanolbarth Lloegr. Yn ei ail nofel, The Home Patch (1966), mae'r sgriptiwr gofidus Arthur Crighton yn cael ei ddal rhwng bod yn 'cosmopolitan in his home town and a provincial in the big city' a heb fod yn gartrefol yn unman. Nid aeth Richards ati i sgrifennu am dde Cymru ei hun tan ei drydedd novel, A Woman Of Experience (1969), ac mae'r prif gymeriad benywaidd yn honno'n her benodol i lên Saesneg gyfoes Cymru. Daliodd i arloesi yn ei gampwaith ar ddull corws, Home to an Empty House (1973). Ychwanegodd dau gagliad o straeon byrion, Dai Country (1973) a The Former Miss Merthyr Tydfil (1976), at ei ddarlun o dde Cymru cyfoes - darlun a oedd yr un mor ddigyfaddawd yn ei wrthwynebiad i genedlaetholdeb Cymreig a'r iaith Gymraeg ag yr oedd i hiraeth a mytholeg. O'r cychwyn roedd byd Richards yn ffyniannus ac uchelgeisiol ond yn llawn perthnasau diffygiol.
Dau o hoff bethau Richards sy'n dod i'r amlwg yn aml yn ei ffuglen yw rygbi a'r môr. Drama a osodwyd ar fwrdd llong nwyddau yw 'O Captain, My Captain', un o'i ddramâu radio cynharaf a ddarlledwyd ar y Gwasanaeth Cartref ym Mehefin 1961 ar eto ar BBC TV yn Awst yr un flwyddyn. Yn 1971, ymunodd â thîm o sgrifenwyr i gyfres deledu'r BBC, The Onedin Line, gan lunio naw o'r naw deg un episod. Darlledwyd ei gyfraniad cyntaf, 'Other Points of the Compass', ar 29 Hydref 1971, a'r olaf, 'Month of the Albatross', ar 27 Mehefin 1976. Golygodd The Penguin Book of Sea Stories yn 1977 ac ar gyfer Michael Joseph casglodd Against The Waves: An Anthology of Sea Stories yn 1978. Daeth ail Book of Sea Stories ar gyfer Penguin yn 1980. O'i waith ei hun cafwyd Ennal's Point (1977) a osodwyd yn y Mwmbwls ac antur yn Ne America, Barque Whisper (1979). Ei waith mwyaf adnabyddus am rygbi yw ei gofiant sensitif i'w gyfaill Carwyn James, Carwyn (1984), a'i astudiaeth ganmlwyddiant boblogaidd A Touch of Glory (1980), ond roedd rygbi'n bwnc amlwg yn ei waith teledu yn y 1960au. Mae ei ddrama gofiadwy 'Taff Came to my House', a ddarlledwyd ar BBC Two yn 1967, wedi ei gosod mewn 'cysegrfan Gymreig' (clwb rygbi) yn ymwneud â merch sy'n gariad i seren rygbi ond sy'n gwrthod bod yn wisg ar ei benelin enwog.
Cyfeillgarwch llenyddol agosaf Richards oedd yr un gyda'i gyd-awdur, Ron Berry (1920-1997), y bu'n gohebu ag ef dros fwy na thri degawd, gan gwrdd yn rheolaidd mewn tafarnau, yn enwedig y Lamb and Flag yng Nglyn-nedd. Roedd gan y ddau yr un agwedd ddiamynedd tuag at fytholegwyr academaidd a rhaffwyr celwyddau ym myd llên. Wrth i Richards olygu Penguin Book of Welsh Short Stories (1975), er enghraifft, gwnaeth ymdrech fwriadol i symud i ffwrdd oddi wrth y ddelwedd 'athrawon ac angladdau' o Gymru a fuasai'n flaenllaw yn y canon straeon byrion cyn hynny. Aeth y New Penguin Book of Welsh Short Stories, a gyhoeddwyd yn 1993, hyd yn oed yn bellach. 'The place is Wales', meddai, 'and the time is this century' - ond nid oedd yn olwg ystrydebol. Ar 8 May 2004, dadorchuddiodd Alun Richards blac glas i'w gyfaill Ron Berry ym Mlaencwm, y Rhondda, ar ran Ymddiriedolaeth Rhys Davies. Ychydig wythnosau wedyn, cafodd drawiad ar y galon a bu farw yn Ysbyty Singleton, Abertawe, ar 2 Mehefin 2004.
Ni chafodd Alun Richards y clod a oedd yn ddyledus iddo fel un o brif awduron a dramodwyr Cymru yn ail hanner yr ugeinfed ganrif. Er i'w gasgliad o straeon byrion, Dai Country, ennill wobr lenyddol Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer 1974, ni chafodd BAFTA na gwobr y Gymdeithas Deledu Frenhinol, na chwaith wobr cyrhaeddiad oes. Fel y gweddai i ddyn a chwiliai am 'champions of the world, not bloody Machynlleth', trwy gymrodoriaethau sgrifennu rhyngwladol y cafodd beth o'r gydnabyddiaeth a haeddai, ac na ddaeth i'w ran odid fyth yng Nghymru. Yn 1980, bu'n awdur preswyl yn Ysgol Ffilm a Theledu Awstralia yn Sydney. Yn 1984, enillodd gymrodoriaeth y Japanese Foundation a threuliodd y rhan fwyaf o'r flwyddyn yn byw'n anghyfforddus yn Tokyo. Wedi iddo ddychwelyd yn 1985, dyfarnwyd iddo gymrodoriaeth er anrhydedd gan Goleg y Brifysgol Abertawe, lle bu'n gweithio am rai blynyddoedd fel tiwtor addysg oedolion gan gynorthwyo i ddatblygu archif Llên Saesneg Cymru. Yn 1985-6, teithiodd i Awstralia unwaith eto a threulio cyfnod yn awdur preswyl ym Mhrifysgol Gorllewin Awstralia yn Perth, ym Mhrifysgol Griffith yn Brisbane, ac ym Mhrifysgol Sydney. O ran Cymru: 'I am Welsh', sgrifennodd yn ymosodol yn 1971, 'the rest is propaganda'.
Dyddiad cyhoeddi: 2021-09-30
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.