Ganwyd Margaret Haig Thomas ar 12 Mehefin 1883 yn Bayswater, Llundain, yn unig blentyn i David Alfred Thomas (yn ddiweddarach Arglwydd Rhondda), diwydiannydd cyfoethog a gwleidydd Rhyddfrydol o Ysgubor-wen ger Aberdâr, a'i wraig Sybil Margaret (g. Haig, 1857-1941) a hanai o un o hen deuluoedd Gororau'r Alban. Roedd rhieni ei mam yn byw ym Mhlas Pen Ithon, sir Faesyfed, a byddai'r teulu Thomas yn treulio gwyliau haf hir yno gyda'u perthnasau Haig niferus.
Ar ôl byw am ychydig flynyddoedd yn sir Gaint symudodd y teulu i Blas Llanwern ger Casnewydd, sir Fynwy. Dysgwyd Margaret gan athrawesau cartref, cyn mynd i Ysgol Uwchradd Notting Hill, Llundain, ac wedyn Ysgol Ferched St. Leonards yn St Andrews.
Bu'n fyfyrwraig yng Ngholeg Somerville, Rhydychen, ond dewisodd ymadael ar ôl dau dymor, rhywbeth a oedd yn edifar ganddi yn nes ymlaen. Yn 1908 priododd Humphrey Mackworth (1871-1948, barwnig o 1914), gan ymgartrefu ger Caerllion. Roedd ef o gefndir Ceidwadol, y mab hynaf a oedd yn goroesi o un o brif deuluoedd milwrol a thirfeddiannol y sir. Ieuad anghymarus oedd y briodas hon. Hela oedd ei ddiddordeb pennaf ef; llyfrau oedd yn mynd â'i bryd hi, a mwy neu lai o adeg ei phriodas, mudiad y bleidlais i ferched. Ar ôl i gyfnither iddi, y swffragét ac artist Florence Haig, dreulio cyfnod yn ymadfer yn Llanwern yn sgil ei charcharu yn Holloway, ymunodd Margaret Haig Thomas â mudiad Mrs Pankhurst, Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched, a bu'n ysgrifenyddes Cangen Casnewydd am dros bum mlynedd. Ei mam oedd llywydd y gangen, ac roedd ei thad yn is-lywydd Cynghrair Genedlaethol Dynion dros y Bleidlais i Ferched. Er na chymerodd ei gŵr ran yn yr ymgyrch dros y bleidlais, roedd yn gydsyniol, yn wahanol i lawer o wŷr eraill.
Mynychodd Margaret Haig Thomas wrthdystiadau yn Llundain, ysgrifennodd yn y wasg leol a swffragaidd, siaradodd mewn cyfarfodydd ledled y wlad, a bu iddi hyd yn oed neidio ar astell car y Prif Weinidog Asquith yn St Andrews. Yn 1913 fe'i dedfrydwyd i fis o garchar ym Mrynbuga am roi blwch post cyhoeddus ar dân yng Nghasnewydd, ond fe'i rhyddhawyd ar ôl ychydig ddyddiau pan aeth ar streic newyn. Fel aelod o deulu blaenllaw denodd gryn sylw, ond dros dro yn unig y rhoddodd y gorau i'r protestio yn ystod y rhyfel.
Yn wahanol i'r rhan fwyaf o wragedd priod, roedd ganddi swydd, gan weithio ym mhencadlys busnes diwydiannol ei thad yn Nociau Caerdydd. Dim ond tair menyw a gyflogid gan y cwmni, a theleffonyddion oedd y ddwy arall. Hi oedd cynorthwyydd personol D. A. Thomas ac roedd ei chyflog o £1,000 y flwyddyn gyda'r uchaf o holl fenywod Prydain.
Ym Mai 1915 dychwelodd hi a'i thad o daith fusnes i'r Unol Daleithiau ar yr RMS Lusitania. Pan drawyd y llong gan dorpedo bu bron iddi foddi ond cafodd ei hachub ar ôl sawl awr yn y môr. Goroesodd ei thad hefyd ond bu farw dair blynedd yn ddiweddarach yn sgil pwysau ei waith fel gweinidog - roedd Lloyd George wedi ei benodi'n Rheolwr Bwyd - a phroblemau hirdymor gyda'i galon.
Yn 1917 penodwyd Margaret Haig Thomas yn Gomisiynydd dros Gymru yn Adran Gwasanaeth Cenedlaethol y Merched, gan reoli recriwtio merched Cymru ar gyfer gwaith rhyfel gartref ac yn Ffrainc. Y flwyddyn ganlynol daeth yn Brif Reolydd recriwtio merched yn y Weinyddiaeth Gwasanaeth Cenedlaethol yn Llundain.
Yn 1918 bu'n aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Merched y Weinyddiaeth Ailadeiladu. Poenai fod nifer fawr o ferched a gafodd eu cyflogi gynt i wneud gwaith rhyfel bellach yn cael eu diswyddo, ac aeth ati i sefydlu Cynghrair Ddiwydiannol y Merched a gweithredu fel ei llywydd. Nod y Gynghrair oedd hybu cyfartaledd i'r rhywiau o ran hyfforddiant ac o ran cyfleoedd cyflogaeth mewn diwydiant. O 1920 hi oedd cadeirydd y Cyngor Ymgynghorol ar Faterion Iechyd Cyffredinol.
Roedd wedi ennill profiad allweddol wrth weithio dros ei thad, a phan fu ef farw etifeddodd fusnesau glo, llongau, papurau newydd ac eraill. Erbyn 1919 roedd yn aelod o 33 o fyrddau ac yn cadeirio 7. Yn y 1920au daliai fwy o swyddi cyfarwyddwr nag unrhyw fenyw arall ym Mhrydain.
Yn 1926 hi oedd y fenyw gyntaf i gael ei hethol yn llywydd Sefydliad y Cyfarwyddwyr, swydd a ddaliodd am ddegawd. Roedd yn un o bum aelod benywaidd cyntaf Siambr Fasnach Llundain ac yn llywydd yr 'Efficiency Club' a hyrwyddai gydweithrediad ymhlith menywod proffesiynol a busnes. Fe'i disgrifiwyd gan y Daily Herald fel un o'r pum unigolyn mwyaf dylanwadol ym myd busnes Prydain. Gan ei bod yn gweithredu mewn amgylchfyd llethol o wrywaidd, dysgodd ymdopi â rhagfarn yn ogystal ag amgylchiadau economaidd anodd y cyfnod a'r gostyngiad hirdymor yn y galw am lo.
Creodd Margaret Haig Thomas un busnes a olygai fwy iddi na'r lleill i gyd: Time and Tide. Sefydlodd y papur wythnosol hwn yn 1920, a hi oedd ei olygydd o 1926. Roedd yn bapur bywiog ac annibynnol ar bob plaid wleiyddol, a chanddo fwrdd arloesol o fenywod yn unig, a alwyd ganddi yn 'New Combine' gan adleisio Cambrian Combine ei thad. Gellir dadlau mai hwn oedd papur wythnosol pwysicaf Prydain rhwng y rhyfeloedd. A'i swyddfa yn Stryd y Fflyd ac wedyn yn Bloomsbury o 1929, denodd res o hoelion wyth llenyddol, o George Bernard Shaw i Virginia Woolf. Roedd ei staff yn cynnwys John Betjeman a chyfaill agos iddi, y nofelydd Winifred Holtby.
Roedd y papur wedi ei anelu ar y cychwyn at fenywod a dynion 'meddylgar', gan apelio'n arbennig at fenywod a oedd newydd ennill y bleidlais, ac ar ôl 1928 fe'i trawsffurfiwyd yn gyfnodolyn celfyddydau dychmygus a blaengar. O 1945, ac Arglwyddes Rhondda yn dal wrth y llyw, ailddyfeisiodd ei hun unwaith yn rhagor, gan ddod yn gylchgrawn gwleidyddol blaenllaw. Er gwaethaf heriau oddi wrth gyfryngau mwy modern, parhaodd (gyda chwistrelliadau sylweddol o arian a erydodd ffortiwn enfawr ei berchennog-olygydd) tan ychydig wedi ei marwolaeth yn 1958.
Yn olygydd diwyd, hi oedd llywydd cyntaf Clwb Gwasg y Merched. Cynhyrchodd ei chylchgrawn cyntaf - a werthodd i'w chefndryd niferus - yn bymtheg oed ac roedd y syniad o wythnosolyn eang ei rychwant wedi apelio ati ers meityn. Cyfrannodd i gynnwys Time and Tide trwy ysgrifau blaen a chanol, sylwadau golygyddol ac erthyglau dan ei henw. Yn y blynyddoedd cynnar lluniodd adolygiadau llyfrau a rhai theatr dan ffugenw. Arweiniodd ei chyfres o chwe ysgrif (dan yr enw 'Candida') ar 'Women of the Leisured Classes' at ddadl gyhoeddus â G. K. Chesterton, dan gadeiryddiaeth ei chyfaill Bernard Shaw. Lluniodd erthyglau llenyddol hir ar ferched yn nramâu Shaw a phedair ysgrif yn beirniadu'r darlun o ferched yn llyfrau H. G. Wells.
Cyfrannodd i golofn boblogaidd y papur, 'Notes on the Way' o ddiwedd y 1920au, gan olygu casgliad o ysgrifau dan yr un teitl yn 1937. Lluniodd ysgrifau polemig ar Ymerodraeth hefyd, a gyhoeddwyd wedyn fel pamffledyn Time and Tide ac, mewn cywair ysgafnach, erthyglau nodwedd ar gyfer y golofn 'Four Winds'. Er yn ddienw, byddai darllenwyr wedi gwybod mai eu golygydd â'i chysylltiadau da a ddisgrifiodd, er enghraifft, giniawa gyda'r Roosevelts yn y Tŷ Gwyn.
Darparai'r papur lwyfan defnyddiol ar gyfer ei hachosion, yn enwedig ei Grŵp Chwe Phwynt, a gychwynnwyd yn 1921. Nod ei siart chwe-phwynt oedd gwneud cyfartaledd y rhywiau o'r pwys mwyaf. Rhoddodd ei rhaglen ragweledol gyd-destun cyfreithiol a chymdeithasol ar gyfer y deddfau 'Representation of the People' (1918) a 'Sex Disqualification (Removal)' (1919), gan fynd i'r afael â materion megis deddfu ar ymosodiad ar blant a chyflogau cyfartal i athrawon. Cynorthwyodd hefyd i sefydlu'r Cyngor Drws Agored i ddadlau dros gyflog cyfartal, statws a chyfleoedd i ferched.
Rhwng 1921 a 1924 hi oedd llywydd cenedlaethol y Gymdeithas Dinasyddion Benywaidd. O 1926 ymdaflodd i ymgyrch newydd dros etholfraint gyfartal. Cadeiriodd bwyllgor y Gwrthdystiad Hawliau Cyfartal a drefnodd y gwrthdystiad mawr olaf dros y bleidlais i ferched yn Hyde Park, a phwyllgorau dilynol yr Ymgyrch dros Hawliau Gwleidyddol Cyfartal, a gydlynodd weithgareddau 22 o gymdeithasau a hyrwyddai diwygio gwleidyddol, a'r Ymgyrch dros Hawliau Cyfartal mewn Etholiad Cyffredinol a ffurfiwyd ar ôl Deddf Etholfraint Gyfartal 1928. Bu'n drysorydd ar Gronfa Goffa Pankhurst.
Roedd yn ymroddedig i ffeminyddiaeth ryngwladol, ac roedd yn aelod o bywllgor Prydain Plaid Genedlaethol Merched America a chynorthwyodd i sefydlu Hawliau Cyfartal Rhyngwladol, yr unig sefydliad a anogai Gynghrair y Cenhedloedd i fabwysiadu'r Cytundeb Hawliau Cyfartal.
Yn y 1920au roedd yn ffigwr cyfarwydd mewn dirprwyaethau i brif weinidogion a hi oedd yn bennaf cyfrifol am sicrhau seddau i fenywod yn Nhŷ'r Arglwyddi. Gwnaed ei thad annwyl yn Is-iarll Rhondda yn 1918, a thrwy drefniant arbennig gyda'r brenin roedd wedi gwneud darpariaeth i'w ferch - ei unig etifedd cyfreithlon - i etifeddu ei deitl. Daeth hi'n 2il Is-iarlles Rhondda.
Fel un o ryw ddau ddwsin o fenywod â theitlau etifeddol mewn enw yn unig, gwelai Arglwyddes Rhondda fod cyfle i wthio am newid trwy'r ddeddf 'Sex Disqualification (Removal)' a nodai na ddylai person gael ei anghymwyso i ddal swydd gyhoeddus ar sail rhywedd. Aeth ati felly, yn yr un modd ag arglwyddi gwryw newydd, i gyflwyno cais i'r brenin i dderbyn gwrit gwysio i'r Senedd, a chaniatwyd ei chais gan Bwyllgor Breintiau Tŷ'r Arglwyddi yn 1922. Serch hynny, ymyrrodd yr Arglwydd Ganghellor, yr Arglwydd Birkenhead, a oedd yn swyddog llywyddol Tŷ'r Arglwyddi, gan sefydlu pwyllgor newydd a wyrdrodd y penderfyniad.
Ymgyrchodd Arglwyddes Rhondda yn daer dros arglwyddi benyw am ddegawdau, gan ennill y llysenw 'The Persistent Peeress'. Arweiniodd Deddf Arglwyddiaethau Oes, a basiwyd pan oedd hi ar ei gwely angau yn 1958, at arglwyddi benyw am oes, ond nid enillodd arglwyddi benyw eu hawl eu hunain i gymryd eu seddau tan 1963.
Yn 1933 cyhoeddodd This Was My World, cofiant a awgrymai faint ei pharch i'w thad (roedd eisoes wedi golygu llyfr am ei fywyd a'i waith yn 1921). Mae'n gofnod cyfareddol o'i degawdau yng Nghymru sy'n rhoi darlun byw o'r frwydr dros y bleidlais i ferched. Ond gan ei fod yn gorffen a chwarter canrif o'i bywyd yn dal o'i blaen, rhannol yn unig yw'r darlun a geir ynddo o'i chyflawniadau amrywiol. Ac roedd yn dawedog am ei bywyd personol.
Roedd ei phriodas wedi diweddu gydag ysgariad cyfeillgar yn 1923. Roedd y Mackworths yn ddi-blant ac wedi mynd eu ffyrdd eu hunain yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Wedi'r rhyfel bu Arglwyddes Rhondda yn byw yn Llundain a Chaint gyda'r gyn-swffragét Helen Archdale a fu am gyfnod byr yn olygydd Time and Tide. O 1934 tan ddiwedd ei bywyd - cyfnod hwy o lawer nag yr oedd wedi byw gyda'i gŵr - bu'n rhannu cartref gyda Theodora Bosanquet, cyn-amanuensis i Henry James a llenor ei hunan a ddaeth yn olygydd llenyddol Time and Tide. Yn Surrey yr oedd eu cartref, er bod yr Arglwyddes Rhondda ddiflino yn treulio'r rhan fwyaf o'r wythnos yn gweithio yn Llundain.
Roedd ei blynyddoedd olaf yn anodd wrth iddi frwydro yn erbyn costau cynyddol y papur ac afiechyd. Er gwaethaf gwleidyddiaeth ei thad, yn sgil dadrith gyda'r Blaid Ryddfrydol oherwydd ei safiad ar y bleidlais i ferched cefnodd ar bob ymlyniad i bleidiau gwleidyddol, er iddi goleddu syniadau blaengar rhwng y rhyfeloedd. Ymhlith ei chyfeillion agos roedd Herbert Morrison o'r Blaid Lafur a 'Red Ellen' Wilkinson. Ond parodd yr Ail Ryfel Byd iddi newid ei safbwynt. Arferai feirniadu Churchill yn llym ar un adeg, ond erbyn y 1950au canmolai ei bolisïau domestig yn enwedig.
Bu Arglwyddes Rhondda farw o gancr y stumog yn Ysbyty Westminster ar 20 Gorffennaf 1958 yn fuan ar ôl ei phen-blwydd yn 75 oed. Cynhaliwyd ei hangladd yn Llundain ond, gan adlewyrchu ei bywyd dwyfforchog, claddwyd ei llwch ym medd ei rhieni yn Llanwern.
Roedd wedi pontio nifer o fydoedd, yn enwedig byd masnach a Bloomsbury, yn ogystal â Chymru a Lloegr. Er nad oedd wedi byw yng Nghymru ers sawl blwyddyn, dychwelai'n aml i Lanwern i ymweld â'i mam a fu fyw tan 1941. Wedi'r rhyfel dychwelai bob blwyddyn i Ben Ithon. Byddai Time and Tide bob amser yn cynnwys newyddion am Gymru, boed yn dreialon cŵn defaid yn y Sioe Frenhinol yn Aberystwyth, cofnodion cyfarfodydd blynyddol cwmnïau glo neu adroddiadau am eisteddfodau. Yn 1949 yn unig roedd naw erthygl sylweddol ar Gymru. Roedd yn un o'r ynadon benywaidd cyntaf yng Nghymru pan benodwyd hi yn 1920. Tri deg mlynedd yn ddiweddarach hi oedd y fenyw gyntaf i fod yn llywydd ar un o golegau Prifysgol Cymru (yn rhagflaenydd Prifysgol Caerdydd). Derbyniodd radd doethur er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1955.
Yn 2018, canmlwyddiant y flwyddyn yr enillwyd y bleidlais i ferched yn rhannol, cafodd cynhyrchiad pwerus ac afieithus Opera Genedlaethol Cymru 'Rhondda Rips It Up!' glod mawr pan deithiodd Gymru a Lloegr. Mae portread o Arglwyddes Rhondda gan Alice Burton ym meddiant Tŷ'r Arglwyddi ac mae un arall i'w weld yn yr Amgueddfa Hanes Genedlaethol yn Sain Ffagan. Mae hi bellach yn destun gwefan, ffilm animeiddiedig a rhaglenni teledu yn y Gymraeg a'r Saesneg ac fe'i darlunnir ar blinth cerflun Gillian Wearing o'r Foneddiges Millicent Fawcett yn Parliament Square. Yn 2019 fe'i dewiswyd yn un o bum menyw hanesyddol i'w coffáu â cherflun yng Nghymru. Mae plac iddi eisoes yng Nghasnewydd ac yno y bydd ei cherflun hefyd, gan gydnabod bywyd ac etifeddiaeth un o ysgogwyr a chynhyrfwyr Prydain yr ugeinfed ganrif.
Dyddiad cyhoeddi: 2021-06-11
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.