WILLIAMS, ROBERT (1848 - 1918), pensaer, awdur a diwygiwr cymdeithasol

Enw: Robert Williams
Dyddiad geni: 1848
Dyddiad marw: 1918
Priod: Margaret Williams (née Griffiths)
Priod: Elizabeth Ann Williams (née Kettle)
Plentyn: Inigo Rees Williams
Plentyn: Margaret Ann Travers Symons (née Williams)
Rhiant: Rees Williams
Rhiant: Mary Williams (née Evans)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pensaer, awdur a diwygiwr cymdeithasol
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Robert Scourfield

Ganwyd Robert Williams ar 27 Ionawr 1848 yn Ystradowen, Morgannwg, yn ail fab i Rees Williams, saer, a'i wraig Mary (g. Evans). Cafodd ei addysgu yn yr Eagle Academy, y Bont-faen, a bu'n gweithio wedyn i gontractiwr adeiladu lleol, nes iddo adael Cymru tua 1873 i astudio pensaernïaeth ac adeiladwaith yn Ysgol Gelf South Kensington, lle'r enillodd nifer o wobrau, gan gynnwys medal genedlaethol.

Priododd Margaret Griffiths, a ganwyd iddynt ddau o blant, Inigo Rees yn Llantrisant yn 1876, a Margaret Ann yn Paddington yn 1879. Dengys cyfrifiad 1881 fod Robert Williams yn ŵr gweddw yn lletya yn Coggeshall, Essex, ac fe'i disgrifir fel 'builder's manager'. Dwy flynedd wedyn, priododd Elizabeth Ann Kettle yn Braintree.

Roedd ei hyfforddiant yn anghonfensiynol. Yn hytrach na dilyn y drefn arferol o erthyglu gyda phensaer gweithredol, cymerodd drywydd mwy ymarferol trwy weithio dros nifer o benseiri sefydledig ar safleoedd. Bu'n oruchwyliwr gwaith i'r pensaer Gothig nodedig James Piers St Aubyn (1815-1895), a gweithiodd wedyn dros Maurice B. Adams (1849-1933) a fu'n bensaer i'r dyngarwr Passmore Edwards a golygydd ei gylchgrawn, Building News. Bu Williams yn oruchwyliwr gwaith i Adams yn Neuadd Blickling, Norfolk, lle gwnaed gwelliannau yn y 1880au a'r 90au dros Ardalydd Lothian, gan gynnwys gwaith draenio arloesol. Treuliodd gyfnod wedyn yn swyddfa Waller, Son & Wood yng Nghaerloyw.

Dengys gwaith cyhoeddedig diweddarach Williams ei fod wedi cyfuno ei sgiliau ymarferol â theori hunanddysgedig. Dewisodd gyflogwyr a fu o fudd mawr iddo. Roedd St Aubyn ac Adams yn ddylunwyr ac artistiaid penigamp, ac roedd Adams yn arbennig o fedrus mewn materion ymarferol, gan gynnwys awyru a draeniad. Roedd Waller yn bensaer i Ddeon a Siapter Caerloyw ac yn hynafiaethydd uchel ei barch. Bu'r holl fedrau hyn yn fodd i Williams gael ei dderbyn yn aelod cyswllt o Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (ARIBA) yn 1887, a'i alluogi i gychwyn ei fusnes ei hun. Erbyn 1891 roedd yn byw yn Lee, maestref barchus o Lundain. Mae'n debyg fod ei deithio tramor wedi dechrau erbyn hynny, gan fod ei fywgraffiad RIBA yn crybwyll teithiau hynod helaeth yn Ewrop, Asia a Gogledd Affrica.

Fel cynghorydd sir Llundain dros North Lambeth amlygodd Williams ei ofal mawr dros ddiwygio tai. Yn sosialydd brwd ac yn gyfaill i Keir Hardie a'i gyd-gynghorydd y Sosialydd Cristnogol Frank Smith (sylfaenydd y Workers' Cry), aeth ati i gyhoeddi cyfres o lyfrynnau. Un o'r rhai cyntaf oedd London Rookeries and Collier's Slums - a Plea for more Breathing Room and for Amending the Building Laws Generally as Suggested for London by the London County Council, yn 1893 - cyhoeddiad wedi ei anelu at ddiwygwyr yng Nghymru hefyd. Yn yr un flwyddyn ysgrifennodd The Collier's House or Every Collier his own Architect. Mewn hysbyseb yn Pontypool Free Press ar 20 Ionawr 1893 dywedir bod y llyfr i gynnwys darluniadau a manylion am fythynnod addas i lowyr, gyda baddon iawn yn lle'r twba bondigrybwyll. Mynnodd Williams - yn anarferol iawn yr adeg honno - fod y llyfr ar gael yn y Saesneg a'r Gymraeg.

Yn 1894, daeth More Light and Air for Londoners - the Effect of the New Streets and Buildings Bill on the Health of the People a thair blynedd wedyn, The Face of the Poor or the Crowding of London's Labourers. Yn 1905, cyhoeddodd Williams The Labourer and His Cottage. Roedd yn aelod o Gymdeithas Hynafiaethau Cymru, a lluniodd ddarluniau hardd yn y cyfarfodydd maes yn Sir Aberteifi yn 1897, a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn y gymdeithas, Archaeologia Cambrensis, ac yn The Builder.

Glynodd Robert Williams wrth ei wreiddiau Cymreig, ac yn wir gellir ei weld yn un o gadwriaethwyr cynnar Cymru. Ysgrifennodd yn aml i'r wasg leol yn cwyno am adeiladau a newidiadau ansensitif. Ysgrifennodd hefyd i gefnogi ysgol bensaernïaeth i Gymru (a sefydlwyd yn y pen draw yn 1920, ddwy flynedd wedi marwolaeth Williams). Yn ei olwg ef, roedd pensaernïaeth yn 'gelf gan y werin, o'r werin ac ar gyfer y werin'. Credai y dylid cynnal a chofnodi hen adeiladau'n ofalus a chadw hen nodweddion pensaernïol. Ond roedd ei feirniadaeth yn seiliedig ar fwy nag estheteg yn unig. Yn y Weekly Mail ar 1 Hydref 1904, cwynodd Williams yn hallt am y ffaith fod cynifer o hofelau'n bodoli o hyd er gwaetha'r holl elw a wnaed o'r gwaith glo, gan resynu'n enwedig am nifer y marwolaethau plant yn sgil hynny. Mynnodd fod angen cynllunio trefi a phentrefi Cymru yn well - ac un o'r trefi newydd gwaethaf, yn ei farn ef, oedd y Barri.

Er bod ei fusnes wedi ei leoli yn Llundain o 1887, cynlluniodd Robert Williams nifer o adeiladau yn ne Cymru. Yr un uchaf ei fri oedd Neuadd y Farchnad Pontypŵl (1893-4, gyda D.J. Lougher yn beiriannydd). Gwaith mawr arall oedd yr ysgol ganolradd i ferched yn y Bont-faen (1895-6), yr ysgol gyntaf o'i bath i ferched yn y wlad. Amlyga'r ysgol safonau uchel Williams o ran adeiladwaith, cynllunio ac adnoddau. Ei brif waith oedd adeiladau cyhoeddus ac addysgol - ac er nad oedd ei gynnyrch yn fawr iawn, cafodd yr anrhydedd o'i benodi'n bensaer ymgynghorol i Gyngor Sir Morgannwg yn 1893. Cynlluniodd adeilad rhwysgfawr Ysbyty Pontypŵl a'r Fro yn 1903 (a ddymchwelwyd bellach), gyda'i dwredau dan ddylanwad gwaith egsotig Seddon yn Nhŷ'r Castell (yr Hen Goleg), Aberystwyth. Cofnodwyd nifer o gomisiynau domestig bychain yn Sir Fynwy yn ogystal.

Ychydig a gofnodwyd o'i gynnyrch pensaernïol yn Llundain, ond mae dwy neuadd ddirwestol fawr yn goroesi, Neuadd Wheatsheaf yn Vauxhall (1896), sy'n adeilad rhestredig Gradd II, a Neuadd y Bobl yn Olaf Street, West Kensington (1901). Cynlluniodd dai dosbarth-gweithiol ac ysbyty bychan yn Llundain hefyd, yn ôl ei ffeil RIBA. Cyhoeddwyd nifer o'i gynlluniau yn Building News gan gynnwys un am bâr o fythynnod gweithwyr a gyhoeddwyd ar 29 Medi 1899. Mae naws Gothig gref yn perthyn i'r rhain ac i'w holl gynnyrch ar y pryd, ond gyda phwyslais ar gyfleusterau, a'r bythynnod wedi eu cynllunio'n dwt i ddarparu tair ystafell wely, gyda thŷ bach a chegin gefn ar wahân - ar adeg pan oedd tŷ bach allanol yn dal yn arferol.

Cafodd y teulu gryn sylw ar 13 Hydref 1908. Merch Williams - a oedd yn amlwg wedi etifeddu syniadau gwleidyddol ei thad - oedd Margaret Travers Symons, ysgrifenyddes i Keir Hardie. Roedd yn swffragét, a dan esgus cael ei hebrwng ar ymweliad â San Steffan, rhuthrodd i mewn i siambr Tŷ'r Cyffredin yn ystod dadl - ac felly creodd hanes fel y ferch gyntaf i siarad yn Nhŷ'r Cyffredin, fel yr adroddwyd yn eang yn y wasg genedlaethol.

Yn 1914, gadawodd Robert Williams Lundain i weithio fel pensaer yn Cairo. Yn ystod pedair blynedd olaf ei fywyd, cynlluniodd adeiladau amlwg yn yr Aifft, gan gynnwys Tŷ'r Beibl a banc yn Port Said, banc yn Tanta, cartref y milwyr a Thŵr Marconi yn Cairo. Daliodd ati i ysgrifennu hefyd (anelwyd ei Notes on the English Bond at seiri meini lleol, ac fe'i cyfieithiwyd i'r Ffrangeg a'r Arabeg). Mwy diddorol yng nghyd-destun hanes Cymru yw'r rheswm am ei ddyfodiad i Cairo yn y lle cyntaf, sef cynllunio siop i John Davies Bryan a oedd wedi ymfudo yno o Gaernarfon, gan gychwyn trwy agor stondin ddillad o fewn Gwesty'r Continental. Wedi i'w frodyr Edward a Joseph ymuno ag ef, agorodd adeilad mwy ar Stryd Cherif Pasha, Alexandria, a ailwampiwyd gan Williams, gan ddefnyddio gwenithfaen coch Aberdeen a charreg Doulting. A'r mwyaf nodedig o'r cwbl yw Adeilad Dewi Sant yn Cairo, emporiwm enfawr a gynlluniwyd gan Williams yn 1910 ar gyfer y brodyr Davies Bryan. Mae'r adeilad yn sefyll o hyd, gyda'r arysgrif 'y gwir yn erbyn y byd' wrth ochr logo'r Orsedd. Cadwodd y brodyr Davies Bryan gyswllt cryf â Chymru - yn 1928 cyflwynodd Joseph 85 erw o dir i Brifysgol Aberystwyth ar gyfer adeiladau newydd ac yn 1935 gadawodd £5000 i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Bu Robert Williams farw ar 16 Hydref 1918 yn Cairo. Fe'i claddwyd ym mynwent Brotestannaidd Cairo. Yn ogystal ag etifeddiaeth ei adeiladau, mae ei lyfrgell o lyfrau pensaernïol bellach yn graidd i'r casgliad o lyfrau pensaernïaeth prin ym Mhrifysgol Caerdydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2022-02-15

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.