Ganwyd James Richard Atkin ar 28 Tachwedd 1867 yn Brisbane, Awstralia, yr hynaf o dri mab Robert Travers Atkin (1841-1872) o Fernhill, Swydd Cork, newyddiadurwr ac aelod o Gynulliad Deddfwriaethol Queensland, a'i wraig Mary Elizabeth (g. Ruck, 1842-1920) o Sir Feirionnydd. Roedd ei rieni newydd ymfudo i Awstralia, ond bu farw ei dad yn ifanc yn 1872. Erbyn hynny roedd Atkin a'i frodyr wedi dychwelyd i Brydain ac yn byw gyda'u nain yn Pantlludw, Aberdyfi. Roedd eu mam wedi dychwelyd i Awstralia ychydig fisoedd cyn marwolaeth eu tad, a daeth yn ôl wedyn i fagu ei meibion yng Nghymru.
Mynychodd Atkin Ysgol Friars ym Mangor o 1876, ac yn 1878 symudodd i Goleg Crist, Aberhonddu. Aeth ymlaen yn 1885 i ddarllen clasuron yng Ngholeg Magdalen, Rhydychen, lle y'i gwnaed maes o law yn gymrawd anrhydeddus yn 1924 ac yr enwyd cymdeithas myfyrwyr y gyfraith yn Atkin Society ar ei ôl yn 1936. Fe'i galwyd i'r Bar yn Gray's Inn yn 1891, daeth yn Feinciwr yn 1906, ac fe'i penodwyd yn Gwnsler y Brenin yn yr un flwyddyn.
Yn 1893, priododd Atkin married Lucy Elizabeth Hemmant (1867-1939), merch hen ffrind i'w dad o Brisbane. Ganwyd wyth o blant iddynt - chwe merch a dau fab. Lladdwyd y mab hynaf yn y rhyfel yn Ffrainc yn 1917. Ymgartrefodd y teulu yn Kensington, Llundain, ac o 1912 roedd ganddynt dŷ yn Aberdyfi, Craig-y-don, lle byddent yn treulio eu gwyliau haf.
Gwasanaethodd Atkin ar gylchdaith gyfreithiol De Cymru a Chaer, ond mewn gwirionedd treuliodd y rhan fwyaf o'i amser yn Llundain, yn enwedig ar ôl iddo ddechrau ennill briffiau cysylltiedig â chwmnïau broceriaid a'r Gyfnewidfa Stoc. Roedd llwyddiant ei bractis cyfraith fasnachol yn ddyledus i ddylanwad ei feistr Thomas Edward Scrutton yn ystod ei dymor prawf; yn y pen draw bu'r ddau'n gydfarnwyr yn Llys yr Apêl.
Ar ôl dros ugain mlynedd fel bargyfreithiwr, daeth Atkin yn farnwr yn adran Mainc y Brenin o'r Uchel Lys yn 1913 a chafodd ei urddo'n farchog. Yn 1919, fe'i penodwyd yn Arglwydd Ustus Apêl ac yn aelod o'r Cyngor Cyfrin, ac yn y diwedd yn 1928 daeth yn Arglwydd Apêl Sefydlog a'i ddyrchafu'n Farwn Atkin o Aberdyfi. Yn yr Uchel Lys, gwnaeth Atkin enw iddo'i hun fel barnwr troseddol, gan dreulio llawer o amser yn y brawdlysoedd. Yn Llys yr Apêl, ar y llaw arall, daeth i ganolbwyntio eto ar gyfraith fasnachol.
Fel arglwydd y gyfraith, cafodd ei glodfori am ei synnwyr cyffredin, ei unplygrwydd ac am fod yn agos at y 'dyn cyffredin'. Fe'i cofir hyd heddiw fel aelod blaenllaw o fainc yr Arglwyddi. Dyfarnodd mewn nifer o achosion pwysig a effeithiodd ar ddatblygiad cyfraith Loegr, megis Donoghue v. Stevenson (1932), achos a sefydlodd gyfraith esgeulustod fodern yn y DU. Cydnabyddir hefyd ei ddyfarniad anghydsyniol yn achos Liversidge v. Anderson (1941) a amddiffynnai hawliau deiliaid yn wyneb ymyrraeth swyddogol.
Heblaw ei ddyletswyddau barnwraethol, gwasanaethodd Atkin ar amryw gyrff pwysig yng nghyswllt y Rhyfel Byd Cyntaf, gan gynnwys cadeirio Pwyllgor Cabinet y Rhyfel ar Ferched mewn Diwydiant a Phwyllgor Terfynu'r Rhyfel. O 1924 cadeiriodd Dribiwnlys Iawndal Deoledigion Iwerddon yn ogystal â'r Pwyllgor ar Drosedd a Gorffwylledd. Yn y 1920au daeth i ymddiddori yn natblygiad gwyddonol meddygaeth a'i effaith ar y gyfraith. Bu'n llywydd y Gymdeithas Gyfraith Feddygol (1920-1927) a thraddododd nifer o areithiau ar y pwnc (gw. British Medical Journal cyf. 2/1920; cyf 2/1923; cyf. 2/1926). Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cynrychiolodd yr Arglwydd Atkin Awstralia ar y Comisiwn Troseddau Rhyfel a sefydlwyd gan Brydain a'r Cynghreiriaid eraill, gan gefnogi'n gryf y syniad o sefydlu tribiwnlys rhyngwladol annibynnol i ymdrin â throseddau rhyfel y Natsïaid.
Bu'r Arglwydd Atkin yn aelod o gynghorau Coleg Crist, Aberhonddu, Charterhouse, Swydd Surrey, a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac ef oedd cadeirydd Adran y Gyfraith yn Aberystwyth. Gwnaeth ei gyfraniad mwyaf ym maes addysg, serch hynny, yn sgil ei benodi'n gadeirydd pwyllgor i archwilio sefyllfa addysg gyfreithiol a gyflwynoddd adroddiad yn 1934. Daliai y dylai fod i'r gyfraith yr un pwysigrwydd mewn addysg gyffredinol ag oedd yn bod yn amser Fortescue, Locke a Blackstone. Roedd o blaid cynnal dosbarthiadau mewn prifysgolion i roi addysg yn y gyfraith i fyfyrwyr na fwriadent ddod yn gyfreithwyr, a chyda hynny mewn golwg ysgrifennodd Ragair i Book of English Law Edward Jenks (1928), a chyfrannodd at lunio testun y gyfrol. O ganlyniad i'w ymdrechion i ledaenu addysg gyfreithiol, pasiwyd y Ddeddf Cymorth Cyfreithiol i estyn cynorthwy cyfreithiol i rai heb foddion digonol. Derbyniodd yr Arglwydd Atkin amryw raddau er anrhydedd, gan gynnwys rhai gan Brifysgol Rhydychen (1931), Prifysgol Caergrawnt (1936), a Phrifysgol Lerpwl (1939). Fe'i hetholwyd yn Gymrawd yr Academi Brydeinig yn 1938.
Er iddo gael ei eni yn Awstralia, roedd yr Arglwydd Atkin yn ei ystyried ei hun yn Gymro. Collodd ei wreiddiau Gwyddelig yn sgil marwolaeth gynnar ei dad, ac fe'i magwyd gan ddwy Gymraes, ei fam a'i nain. Yn Gristion selog ar hyd ei fywyd, cyfrannodd yn helaeth i faterion yr Eglwys yng Nghymru, gan gynnwys rhoi cyngor cyfreithiol ar ddrafftio ei chyfansoddiad newydd yn sgil dadgysylltu. Yn 1938, ar y llaw arall, bu'n rhan o anghydfod difrifol gydag Archesgob Cymru - Dr Charles Green - ac esgobion eraill Cymru dros gynnwys llythyrau bugeiliol a gyhoeddwyd ganddynt am anghyfreithlondeb gweinyddu ail briodasau aelodau o'r Eglwys a oedd wedi cael ysgariad (sgil-effaith Deddf Achosion Priodasol 1937). Tra yn ei gartref yn Aberdyfi, byddai'r Arglwydd Atkin yn aml yn eistedd fel ynad mewn achosion yn y llys lleol. Tra yn Llundain, cyfrannodd i waith Ymddiriedolaeth Cymry Llundain, gan wasanaethu'n llywydd 1938-1944.
Bu'r Arglwydd Atkin farw yn Aberdyfi ar 25 Mehefin 1944 yn sgil dal broncitis, ac fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys Sant Pedr yn Aberdyfi.
Dyddiad cyhoeddi: 2023-06-30
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Ganwyd 28 Tachwedd 1867 yn Brisbane, mab hynaf Robert Travers Atkin, Fernhill, swydd Cork, aelod o senedd Queensland. Cafodd ei addysg yng ngholeg Crist, Aberhonddu, a choleg Magdalen, Rhydychen. Gwnaed ef yn fargyfreithiwr yn Gray's Inn, 1891, yn 'Bencher' Gray's Inn, 1906, yn Farnwr yr Uchel-lys, 1913-19, a daeth yn Arglwydd Farnwr y Llys Apêl, 1919-28. Llanwodd swyddi ereill hefyd - rhai ohonynt ynglyn â Rhyfel 1914-1918; gweler Who's Who, 1943. Priododd Lucy Elisabeth (marw 1939), merch hynaf William Hemmant, Bulimba, Sevenoaks. Bu'n byw am flynyddoedd yn Craig-y-don, Aberdyfi.
Yr oedd yn aelod o Gyngor coleg Crist, Aberhonddu, ac o Gyngor coleg Aberystwyth; ef oedd cadeirydd yr adran gyfreithiol yng ngholeg Aberystwyth.
Saif dyfarniadau'r barnwr Atkin yn uchel iawn ym marn cyfreithwyr; e.e., ei ddyfarniad yn Nhy'r Arglwyddi yn achos Liversidge v. Anderson i amddiffyn rhyddid ein dinasyddion rhag ymyrraeth swyddogion. Ond ei brif wasanaeth i'r gyfraith oedd ei ddymuniad cryf i weld gwneud dysgu'r gyfraith yn rhan o drefn addysg gyffredinol. I'r amcan hwn rhoddodd nifer o ddarlithiau ar y gyfraith i ysgolion. Dymunai weld dosbarth iadau yn y colegau i gyfrannu addysg yn y gyfraith i leygwyr nad oedd yn amcanu myned yn gyfreithwyr. I'r un amcan ysgrifennodd ragymadrodd i lyfr Dr. Edward Jenks ar gyfraith Lloegr.
Atkin oedd cadeirydd y ddirprwyaeth a benodwyd gan yr Arglwydd Ganghellor Sankey i ystyried sefyllfa gyfoes addysg yn y gyfraith. Dywedai nad oedd yr un esgus am nad oedd i'r gyfraith yr un pwysigrwydd mewn addysg gyffredinol ag oedd yn bod yn amser Fortescue, Locke, a Blackstone. Mewn canlyniad i'w ymdrechion i ledaenu addysg gyfreithiol pasiwyd yn ddiweddar y ddeddf i estyn cynorthwy cyfreithiol i rai heb foddion digonol, dan yr enw 'Legal Aid'; ac iddo ef y mae'n ddyledus fod y symudiad hwn wedi derbyn cydymdeimlad cyffredinol.
Cafodd Atkin ei wneud yn farchog yn 1913, yn aelod o'r Cyngor Cyfrin yn 1919, ac yn farwn yn 1928. Bu farw 25 Mehefin 1944.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.