Ganwyd Bob Daimond ar 1 Mai 1946 yn Tenterden, Swydd Gaint, yr iengaf o dri o blant yr athrawon ysgol Charles Daimond (1910-1970) a Stella Ellerbeck (1908-1997). Symudodd y teulu wedyn i Wolverhampton lle daeth Charles yn Swyddog Ieuenctid a Gwasanaethau Cymunedol Awdurdod Lleol Wolverhampton a Stella yn y pen draw yn Ddirprwy Bennaeth Ysgol y Merched St Peter's. Mynychodd Bob Ysgol Gynradd St Bartholomew's yn Penn ac Ysgol Ramadeg y Bechgyn Wolverhampton. Daeth i adnabod ei ddarpar wraig Rosemary Clement trwy fudiad y Sgowtiaid. Priodasant yn 1968, a ganwyd iddynt dri o blant, Sonya, Anita a Colin.
Ar ôl gadael yr ysgol gweithiodd Daimond am flwyddyn fel cynorthwyydd mewn cwmni peirianwyr cyn mynd ymlaen i astudio Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol St Andrews (Dundee), gan raddio â BSc yn 1969. Gweithiodd wedyn am chwe mlynedd fel Peiriannydd Cynorthwyol i Gyngor Sir Stafford.
Yn 1974 penodwyd ef yn Brif Beiriannydd i Gyngor Sir Gwynedd. Cododd trwy'r rhengoedd i fod yn Ddirprwy Arolygwr Sirol yn 1984 ac yn Gyfarwyddwr Ffyrdd yn 1992. Ymddeolodd yn 2004 i fod yn ymgynghorwr annibynnol.
Yn ystod ei yrfa gwnaeth gyflwyniadau'n gyson mewn cyfarfodydd Pwyllgorau Dethol Seneddol a Phwyllgorau y Cynulliad Cenedlaethol a bu'n aelod o amryw weithgorau Llywodraeth Cymru ar faterion cyllid, trafnidiaeth a pheiriannyddol. Pan sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru fe'i gwahoddwyd gan y Sefydliad Materion Cymreig i gadeirio trafodaethau am yr agenda trafnidiaeth ac i ysgrifennu'r bennod ar drafnidiaeth yn yr agenda ar gyfer y pedair blynedd cyntaf.
Bu'n gadeirydd ar ganghennau gogledd Cymru y Sefydliad Peirianwyr Sifil (ICE) a'r Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Thrafnidiaeth (CIHT) a dyfarnwyd iddo wobrau cyflawniad oes gan y ddau. Gwnaeth lawer hefyd i ysbrydoli pobl ifainc i ddilyn gyfraoedd mewn peirianneg, trwy'r ICE a'r CIHT a hefyd trwy ei waith gyda Gyrfaoedd Cymru yn datblygu gweithdai ysgolion.
Magodd Daimond ddiddordeb mawr yn hanes peirianneg. Ar ôl ymddeol daeth yn gyswllt gogledd Cymru ar gyfer Panel Gweithfeydd Peiriannyddol Hanesyddol (PHEW) yr ICE. Daeth hefyd yn ymddiriedolwr ac yn gadeirydd Ymddiriedolaeth Treftadaeth Menai, elusen gymunedol sy'n cynnal amgueddfa am Bont Grog Menai a Phont Britannia dros Afon Menai. Arweiniodd deithiau tywys a gweithdai ysgolion dirifedi, darlithiodd yn aml ac ymddangosodd yn gyson ar raglenni radio a theledu yn trafod pontydd Afon Menai. Ychydig cyn ei farwolaeth cyhoeddodd y llyfr The Menai Suspension Bridge: The First 200 years, hanes cynhwysfawr y bont fydenwog.
Arwr mawr iddo oedd y peiriannydd Thomas Telford. Ar gyfer dathliad yr ICE o 250 mlwyddiant Telford yn 2007 ymwisgodd Daimond yn null y bedwaredd ganrif ar bymtheg er mwyn cymryd arno fod yn Telford i ddadorchuddio placiau ac ar gyfer gweithgareddau coffa.
Ar ôl dechrau ar ei swydd yng Ngwynedd yn 1974, aeth Daimond ati'n fuan iawn i ddysgu Cymraeg yn rhugl gan ennill Tystysgrif Cymraeg fel Ail Iaith (Prifysgol Cymru). Yn ei ymddangosiadau niferus ar radio a theledu siaradodd yn Gymraeg a Saesneg. Yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Modffordd, Ynys Môn, yn 2017 derbyniwyd ef i Orsedd y Beirdd am ei wasanaeth i'r iaith Gymraeg ac i beirianneg. Ei enw yng ngorsedd oedd Robat Dyfnaint er cof am ei hynafiaid pell o Ddyfnaint. Hyrwyddodd beirianneg ym Mhafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol a bu'n aelod o Bwyllgor Gwyddoniaeth yr Eisteddfod.
Yn 2018 canfuwyd sarcoma'r feinwe feddal yn ei fraich, a bu'n rhaid torri'r fraich ymaith. Digwyddodd hyn wrth iddo ddechrau ar ei lyfr 200 tudalen ar Bont Grog Menai, a bwriodd ymlaen i'w orffen mewn llai na naw mis, gan deipio gyda'i law chwith yn unig. Gyda'i hiwmor nodweddiadol datganodd y gallai ddefnyddio gwisg Telford erbyn hynny i gymryd arno fod yn Arglwydd Nelson neu'r Capten Hook. Bu farw Bob Daimond ar 19 Chwefror 2020 yn ei gartref yn Llansadwrn, Ynys Môn.
Dyddiad cyhoeddi: 2023-03-08
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.