DANIELS, ELEANOR (1886 - 1994), actores

Enw: Eleanor Daniels
Dyddiad geni: 1886
Dyddiad marw: 1994
Rhiant: David Daniels
Rhiant: Margaret Daniels (née Jones)
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: actores
Maes gweithgaredd: Perfformio
Awdur: Stephen Lyons

Ganwyd Eleanor Daniels ar 28 Rhagfyr 1886 yn Llanarthne, Sir Gaerfyrddin, yn ferch i David Daniels, masnachwr gwair a thafarnwr, a'i wraig Margaret. Fe'i magwyd yn nhafarn y Fountain, 36 (40 bellach) Stryd Thomas yn Llanelli. Roedd y teulu'n aelodau yng Nghapel Newydd y Methodistiaid, a Chymraeg oedd iaith yr aelwyd. Dysgodd Eleanor adrodd yn y capel, a chafodd ei llwyddiant cyntaf mewn eisteddfod leol yn 13 oed. Aeth i weithio fel athrawes a pharhaodd ei llwyddiant fel adroddwraig, gan ennill medalau, cwpanau, cadeiriau a gwobrau niferus eraill. Enillodd y wobr gyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol deirgwaith, yn Abertawe yn 1907, Llundain yn 1909, a Chaerfyrddin yn 1911 pan ddaeth yn aelod o'r Orsedd dan yr enw Ellyw.

Enillodd drwydded gan Goleg Cerdd a Drama London Victoria yn 1910, ac yn 1912 mynychodd Academi Ddrama Syr Herbert Beerbohm Tree lle enillodd y fedal aur am lefaru. Yn yr un flwyddyn cafodd y fraint o lefaru yng Nghinio Sir Gaerfyrddin a gynhaliwyd yn y Criterion yn Llundain er anrhydedd i Lloyd George, a chael cymeradwyaeth fawr.

Yn 1913 cafodd ei denu i lwyfan y ddrama, a daeth yn rhan o fudiad dros Ddrama Genedlaethol Gymreig. Ymddangosodd mewn cynhyrchiad teithiol o Little Miss Llewelyn, yn The Joneses yn Theatr y Strand a hefyd yn The Mark of Cain. Yn 1914 teithiodd i'r Unol Daleithiau gyda'r Welsh Players, ynghyd â Gareth Hughes, yntau hefyd o Lanelli, i berfformio drama arobryn J. O. Francis, Change. Yn sgil y ganmoliaeth a gafodd gan yr adolygwyr penderfynodd ddychwelyd i UDA ac ymgartrefodd yno am weddill ei hoes.

Am nifer o flynyddoedd bu'n rhan o gynyrchiadau'r cwmni Broadway adnabyddus Comstock a Gest. Ymhlith dramâu eraill, ymddangosodd yn Heart of the Heather, Kitty McKay, Loyalty, a gyda Richard Bennett yn Zach. Cafodd sbel wedyn yn gwneud comedi gerddorol: bu'n canu a dawnsio yn Kitty Darling ac yn Lassies a La La Lucille. Ymddangosodd hefyd gyda Florence Reed yn Ashes a gyda Jeanne Eagels yn Rain.

Ymddangosodd mewn nifer o ffilmiau mud yn Efrog Newydd rhwng 1914 a chanol y 1920au, ond fe'i cofir yn arbennig am ei rhan yn If Winter Comes gyda Percy Marmont a Bebe Daniels yn 1923. Yn 1930, cafodd Eleanor Daniels a Gareth Hughes eu hanrhydeddu gan Orsedd y Beirdd am eu cyfraniad i'r ddrama. Yn nes ymlaen yn ei bywyd gweithiodd fel hyfforddydd llais yn Efrog Newydd, ac yn 1951 cafodd waith yn swyddfa sefydliad clefyd y siwgr Americanaidd lle bu'n gweithio nes iddi fod yn 87 oed.

O'r 1940au ymlaen daeth yn gyfeillgar â grŵp yn Efrog Newydd a ymddiddorai mewn crefydd, athroniaeth a'r celfyddydau. Byddai'r cyfeillion yn rhannu eu hamser rhwng Efrog Newydd a thŷ yn Darien, Connecticut a oedd yn perthyn i aelod cefnog o'r grŵp, Alice DeBuys. Byddent yn perfformio cyngherddau a dramâu i'w gilydd yno. Pan fu Miss DeBuys farw yn 1981 gadawodd y tŷ a'r ystâd i chwe aelod o'r grŵp, gan gynnwys Eleanor.

Mewn cyfweliad a roddodd i'r cylchgrawn Cymry America Ninnau yn 103 oed, soniodd Eleanor Daniels yn hiraethus am ei dyddiau yn y theatr. 'I was an actress' meddai gyda balchder. 'I started acting when I could talk.' Fel llawer o berfformwyr dioddefodd yn enbyd o ofn llwyfan. 'I used to skip rope to get it out of my mind, but it gripped me. But when I placed my two feet on the stage, everything became fine. Only the stage was real. The stage is the most important of all. Its message is carried to the people.'

Bu Eleanor Daniels farw'n 107 oed ar 18 Mawrth 1994 yn ei chartref yn Darien, Connecticut. Yn 2011, dadorchuddiwyd plac glas gan ei nith ar y tŷ lle y'i magwyd yn Llanelli.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2022-03-23

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.