Ganwyd Charles Dawe ar 16 Mawrth 1886 yn Nhai-bach, Port Talbot, yr ail o dri o blant Elizabeth Dawe (g. 1848/9). Mae enw ei dad yn anhysbys, a bu farw pan oedd Charles yn blentyn bach.
Gweithiodd Dawe mewn gweithfeydd diwydiannol lleol, gan ymddiddori mewn cerddoriaeth yn ei oriau hamdden. Yn gynnar yn 1912 priododd ag Edith May Evans (1891-1987), cantores o Gwmafan a gafodd gryn lwyddiant eisteddfodol yn ei hieuenctid. Ganed eu hunig blentyn, Charles Gounod Dawe (1912-1961), ym Mhort Talbot ar 9 Medi 1912, a chyn diwedd y flwyddyn honno hwyliodd y teulu o Lerpwl ar fwrdd y Carmania, gan lanio yn Efrog Newydd ac ymgartrefu yn Cleveland, Ohio, lle y penodwyd Dawe yn gôr-feistr eglwys Anglicanaidd Calvary. Gwasanaethodd yn lluoedd arfog Prydain yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a dychwelodd i Cleveland i ddilyn gyrfa fel athro cerdd a hyfforddwr llais. Derbyniodd ddinasyddiaeth Americanaidd yn 1927. Rywbryd wedi ymfudo i'r Unol Daleithiau mabwysiadodd yr enw canol Davies, enw morwynol ei fam. Ceir y sillafiad 'Davis' mewn ffynonellau Americanaidd.
Yn 1921 ffurfiodd gôr meibion, yr 'Orpheus Male Chorus', yn Cleveland,: rhoddodd y côr ei gyngerdd cyntaf ym mis Mawrth y flwyddyn honno. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, yn 1923, teithiodd y côr i'r Wyddgrug i gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a dod yn fuddugol yn yr Ail Gystadleuaeth i gorau meibion. Cawsant lwyddiant tebyg ar eu hymweliad ag Eisteddfod Genedlaethol Abertawe yn 1926, lle buont yn fuddugol yn y Brif Gystadleuaeth i gorau meibion. Buont ar daith i Rwsia yn 1935. Arweiniodd Dawe y côr am 36 mlynedd nes ymddeol yn 1957, a bu'n arweinydd ar sawl côr arall yn Ohio: ar un adeg roedd yn cyfarwyddo 450 o gantorion mewn 11 grŵp gwahanol bob wythnos. Ei ddifyrrwch hamdden oedd cadw colomennod a chasglu llestri Swydd Stafford.
Byddai'n croesi'r Iwerydd yn rheolaidd ac yn ymweld yn gyson â'r Eisteddfod Genedlaethol. Bu'n feirniad yn yr adran gerddoriaeth yn Eisteddfodau Cenedlaethol Caerdydd (1938), Dinbych (1939) a Phen-y-bont ar Ogwr (1948). Roedd yn llafar ei wrthwynebiad i weithrediad y rheol Gymraeg yn 1950, gan y teimlai fod hynny'n cyfyngu'n ormodol ar yr ŵyl, er ei fod ef a'i briod yn Gymry Cymraeg. Pan ymwelodd yr Eisteddfod Genedlaethol ag Ystradgynlais yn 1954, Dawe fu'n arwain y canu pan ddadorchuddiwyd plac ar y tŷ lle ganed ei gyfaill a'i gyd-gerddor o Gymro Americanaidd, Daniel Protheroe.
Cyfaill arall iddo oedd y gŵr busnes o Gymro yn Cleveland, Edwin S. Griffiths: Griffiths a dalodd dreuliau Côr Orpheus Cleveland pan ymwelsant ag Eisteddfod Abertawe yn 1926. Gweithredai Dawe fel ymgynghorydd cerddorol i Ymddiriedolaeth Edwin S. Griffiths, a'i ddylanwad ef a sicrhaodd filoedd o arian mewn gwobrau gan yr Ymddiriedolaeth i'r Eisteddfod Genedlaethol. Dyfernir Cwpan Charles Dawe i enillwyr y gystadleuaeth i gorau merched yn yr Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn.
Ym mlynyddoedd olaf ei oes trigai Dawe yn St Petersburg, Florida, ac yno, yn Ysbyty St Anthony, y bu farw ar 27 Awst 1958, yn fuan wedi iddo ddychwelyd o ymweliad â Chymru. Cludwyd ei gorff yn ôl i dde Cymru ar gyfer gwasanaeth angladdol yn y capel Wesleaidd yn Nhai-bach, Port Talbot, ac fe'i claddwyd ym mynwent y Goetre ar 18 Medi 1958.
Dyddiad cyhoeddi: 2023-10-09
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.