Ganwyd Yehudit Grossman (Judith Maro) ar 24 Tachwedd 1919 yn ninas Dnipro (Iecaterinoslaf cyfnod y Tsar neu Dnepropetrovsk cyfnod yr Undeb Sofietaidd) yn nwyrain yr Wcráin, yn ferch i Jeremias Grossman (1884-1964) a'i wraig Roza (Rosa; 1890-1967). Ffodd y teulu o'r wlad y gwanwyn dilynol, gan dreulio amser yn Lithwania ac Unol Daleithiau America cyn ymfudo i Balestina yn 1924. Honnodd Yehudit yn ei hunangofiant, Atgofion Haganah, a gyhoeddwyd yn 1972, bod mangre ei genedigaeth yn ddirgelwch, gan gwestiynu ai ar y llong a'i cludodd hi ei hun a'i rhieni i wlad eu cyndeidiau Iddewig ynteu ar dir Israel ei hun y'i ganwyd, cyn casglu mai 'Mater dibwys yw'. Yr oedd yr amwysedd hwn, serch hynny, yn rhan o ymdrech fwriadol i berchnogi gwlad ei chyndeidiau Iddewig fel Sabra (brodor) mewn cyfrol hunangofiannol sy'n trin hanes ei bywyd ar adegau gyda dogn cryf o greadigolrwydd awdurol.
Yn ninas Haifa, ar lethrau Mynydd Carmel - Kerem-El, 'gwinllan Duw' - yr ymgartrefodd y teulu, ei thad yn Athro Mathemateg yn y Sefydliad Technegol (y Technion Institute). Yn ei hunangofiant, disgrifiodd y profiad o weld addolwyr Iddewig yn cael eu llofruddio gan Arabiaid wrth Fur yr Hen Ddinas yn Jerwsalem - digwyddiad y gellir ei ddyddio i 23 Awst 1929, pan oedd yn naw mlwydd oed, ac yr ystyriai iddo gael effaith bellgyrhaeddol arni. Er bod Haifa, mewn cymhariaeth, yn 'baradwys i blant', canfu Yehudit ei hun mewn sefyllfaoedd peryglus yn hinsawdd llawn tensiwn Palestina o dan Fandad Prydain. Wedi iddi ddarganfod dogfennau yn profi bwriad Arabiaid y diriogaeth, gyda chymorth Ffasgiaid a Natsïaid Ewrop, i ymosod ar yr Iddewon, fe'i recriwtiwyd i fudiad milwrol Seionaidd yr Haganah. Pan droes y cynllwynio yn wrthryfel (Gwrthryfel Arabaidd 1936-9), a hithau'n ddisgybl yn ysgol y Reali yn Haifa, roedd yn barod i wasanaethu fel aelod o'r Haganah. Cawsai hyfforddiant yn cynnwys dysgu trin arfau a defnyddio côd Morse, ond hefyd, nododd yn ddiweddarach, roedd wedi dysgu bod bywyd dyn yn gysegredig. Ysgrifennodd am ei chydymdeimlad tuag at Arabiaid cynhenid Palestina a oedd yn perthyn, teimlai, i'r un traddodiad gwleidyddol ag aelodau'r Haganah, traddodiad a barchai ddemocratiaeth ac na chwenychai 'fawredd cenedlaethol'. Yn sgil arweiniad milwriaethus y Gwrthryfel Arabaidd, fodd bynnag, troes yr Haganah at amddiffyn y ffordd Iddewig o fyw, gan gadw gwyliadwraeth ddydd a nos rhag bygythiadau i'r Kibbutsim, sefydliadau cymunedol amaethyddol unigryw Iddewig, ac atgyweirio'n rheolaidd ddifrod a wnaed i'w cnydau amaethyddol.
Yn un ar bymtheg oed, ymadawodd Yehudit â'r Reali, mewn cyfnod a gyd-drawai â gweinyddu Cyfraith Filwrol ym Mhalestina o dan arweinyddiaeth llywodraeth Prydain, cyfraith a gyfyngai ar hawl yr Iddewon i wladychu ym Mhalestina. Treuliodd chwe mis yn ardal Galilea Uchaf yn gweithio yn Kibbuts Tel-On ('Bryn Cadernid'), gan ddysgu sut i ffrwydro pontydd a chyffyrdd rheilffordd. Ym Mai 1936, cychwynnodd ar ei hastudiaethau yn y Brifysgol Iddewig ac yn Ysgol Cyfraith Jerwsalem, ac yn Ebrill 1942 daeth yn aelod o'r Gwasanaeth Tiriogaethol Atodol (yr ATS), cangen fenywaidd wirfoddol lluoedd arfog Prydain. Fe'i rhyddhawyd o'r ATS ym Mai 1946; roedd eisoes wedi ymuno er Chwefror y flwyddyn honno â chwrs mewn Llenyddiaeth Saesneg yng Ngholeg Mynydd Carmel, coleg yn nwylo Corfflu Addysg y Fyddin, yn Haifa. Yno y cyfarfu â Leonard (Jonah) Jones (1919-2004), gwrthwynebwr cydwybodol o Wardley, Tyne a Wear, a fu'n gweithio ag Ambiwlans Maes Parasiwt 224 ym Mhalestina yn dilyn gwasanaeth ar gyfandir Ewrop yn ystod y rhyfel. Fel y blodeuai'r berthynas hon, datblygai gelyniaeth rhwng Prydain a'r Israeliaid, ac yn Atgofion Haganah ysgrifennodd Yehudit am ymuno â'r Palmach, asgell gomando yr Haganah, rywbryd yn ystod y flwyddyn brysur hon ac am ei chyfraniad at yr ymdrech i drechu Awdurdod Llywodraeth Prydain a'r rhwystrau a osodai yn ffordd ymfudwyr Iddewig o Ewrop i Balestina.
Mae'n debyg i Yehudit sefyll ei haroliadau terfynol yn y gyfraith ryw dro yn ystod 1946 ac, ar 5 Medi y flwyddyn honno, priododd Jones mewn seremoni gyfrinachol, heb ganiatâd swyddogol y fyddin. Ymadawodd y pâr am Ynys Cyprus ym mis Tachwedd i ddathlu eu mis mêl. Roedd cyflwr iechyd mam Jones yn peri pryder ac, ym mis Rhagfyr, fe'i galwyd ef yn ôl i Brydain o'r herwydd. Pan ddychwelodd i'r Dwyrain Canol yn gynnar ym Mawrth 1947, canfu fod Awdurdod Mandad Palestina (mewn ymdrech i reoli sefyllfa wleidyddol gynyddol gymhleth) wedi peri i ddinasyddion Prydeinig anhanfodol adael y wlad. Yr oedd Yehudit, fel gwraig iddo ef, wedi cael ei symud i Cairo ac, at hynny, wedi'i chynnwys ar restr y fyddin i'w mudo i Brydain o fewn cwta wythnos. Llwyddodd y ddau i osgoi'r symud gorfodol hwn gan 'fynd ar goll' rhag yr awdurdodau a threulio ail fis mêl yn ymweld â rhai o hynodion Cairo, ynghyd ag Ismailia ar lan orllewinol Camlas Suez a'r Great Bitter Lake. Wedi cyfnod ar wahân, Yehudit yn lletya ymhlith teuluoedd priod mewn pabell fawr yn El Ballah ar arfordir yr Aifft, dadfyddinwyd Jones a theithiodd y ddau i Brydain ar long yr SS. Dunnottar Castle gan lanio yn Lerpwl ym Mehefin 1947. Wrth gynrychioli'r cyfnod hwn yn Atgofion Haganah, cyflwynodd Yehudit naratif amgen a'i dangosai yn cymryd rhan yn Rhyfel Cartref yr Iddewon a'r Arabiaid (1947-8).
Drwy ei gysylltiad â'r ysgythrwr coed John Petts, sylfaenydd Gwasg Caseg cyn y rhyfel, a'i dŷb (wallus, fel y mae'n digwydd) bod ganddo ef ei hun wreiddiau teuluol Cymreig, roedd byw yng ngogledd Cymru yn freuddwyd gan Jonah Jones. Ei gartref ef yn Wardley, Tyne and Wear, oedd cyrchfan gyntaf Yehudit ac yntau ar ôl glanio ym Mhrydain, ond treuliwyd mis yn aros ym mwthyn Petts a'i ail wraig, Kusha, yng Nghwm Pennant yn fuan wedi'u dychweliad i Brydain a chyfeiriodd Yehudit sawl gwaith mewn ysgrifau at y daith gofiadwy i Gymru; dengys ei hargraffiadau yn glir sut y cydiwyd ynddi gan y diriogaeth, 'gwlad gwbl newydd a chyffrous' a'i gadawai 'megis wedi f'adfywio drwy ddewiniaeth'. Bu'n rhaid aros cyn symud i'w cartref eu hunain, Bron-y-Foel, adfail o dŷ ar lethrau Moel-y-Gest. Ymlafniodd Jones i adnewyddu'r lle orau y gallai, gan weithio ar yr un pryd i John Petts yng Ngwasg Caseg yn Llanystumdwy ger llaw. Arhosodd Yehudit yng nghartref ei rieni yn Wardley, lle y ganed eu plentyn cyntaf, David, yn Rhagfyr 1947, cyn ymuno â Jones ym Mron-y-Foel yn Chwefror 1948. Yn Nhachwedd 1949, dychwelodd gyda David i Israel, lle bu'n rhoi gwersi Hebraeg i fewnfudwyr am gyfnod o chwe mis. Yn ôl yng Nghymru, ar ei phen ei hun gyda'r mab ifanc y bu'n byw yn bennaf hyd Ragfyr 1950, â'i gŵr yn cael ei hyfforddi mewn cerfio a thorri llythrennau yn hen weithdy Eric Gill yn Speen, Berkshire, ac yn cychwyn ar ei yrfa yn y maes, cyn cael ei daro gan achos difrifol o'r ddarfodedigaeth. Bryd hynny, llwyddodd Yehudit drwy gymorth yr aelod seneddol lleol, Goronwy Roberts, i gael hyd i gartref mwy addas mewn tŷ cyngor ym Mhentrefelin, rhwng Cricieth a Phorthmadog (fe'i henwyd 'Carmel'); ymunodd Jones â hi ym Mawrth 1952, wedi gwella o'i salwch ac yn barod i ailafael yn ei yrfa fel cerflunydd. Arhosodd y teulu yno hyd haf 1955, pan symudwyd i Blas Afon, tŷ sylweddol yng nghanol Pentrefelin, y bu'n bosibl ei brynu diolch i fenthyciad hael gan Syr Bertram Clough Williams-Ellis (1883-1978), a dderbyniodd ad-daliadau ar ffurf gwaith celf gan Jones ar gyfer pentref Eidalaidd Portmeirion. Yn ystod 1965-6, adeiladodd Jones a'i weithwyr gartref i'r teulu ar safle hen fwthyn Tyddyn Heulyn ar lan afon Dwyryd ym Minffordd.
Denwyd Yehudit gan gyfatebiaeth rhwng enwau lleoedd Cymru ac enwau cyfarwydd iddi hi fel brodor o Balestina - 'Nasareth, Nebo, Cesarea, Soar, Hebron, Rehoboth, Salem', rhestrodd mewn ysgrif i gylchgrawn Planet yn 1974. Pan ailgyhoeddwyd yr ysgrif honno mewn casgliad o ysgrifau yr un flwyddyn, Hen Wlad Newydd, yr oedd y gyfatebiaeth i'w gweld yng nghynllun trawiadol y clawr, yn seiliedig ar waith Jonah Jones, sy'n gosod mapiau o Gymru ac Israel yn gyfochrog, â'r enwau Hebraeg yn gorchuddio'r ddau leoliad. Os oedd yr enwau benthyg yn fan cyffwrdd amlwg rhwng y ddwy wlad, gallasai'r enwau brodorol a'r iaith a'u cynhaliai fod yn gyfrwng dieithrio, ond nid felly y bu. Er i Yehudit fynegi gresyn na lwyddodd i feistrioli'r iaith Gymraeg ei hun, yr oedd ei chefnogaeth iddi yn ddi-syfl. Mynnodd fod ei phlant, tri ohonynt erbyn eu cyfnod ym Mhentrefelin (ganed yr ail, Peter (Pedr), yn 1952 a'u merch Naomi yn 1955), yn dysgu Cymraeg fel siaradwyr brodorol - gallent chwarae, ffraeo, a rhegi yn yr iaith, broliodd - a chynigiodd arweiniad i'r gymuned leol yn y pentref er ymestyn eu defnydd o'r Gymraeg i beuoedd newydd. Roedd y dygnwch hwn wedi'i wreiddio'n ddwfn ynddi. Hi oedd y ferch fach a fynnodd siarad Hebraeg, iaith frodorol Iddewon Palestina, â'i mam, honnodd, gan orfodi newid iaith o'r Rwseg arni. 'Gweithred reddfol ydoedd', meddai, ond gellid ei chymharu ag ymdrech fwriadol arwr iddi, y geiriadurwr Eliezer Ben-Iehuda (1858-1922), i sefydlu'r Hebraeg fel iaith ei bobl: fe benderfynodd ef, un diwrnod, 'beidio byth mwy ag ynganu unrhyw air nad oedd yn Hebraeg'. Credai Ben-Iehuda'n daer yng ngallu'r Hebraeg i sicrhau adferiad cenedl yr Iddewon, pobl a oedd wedi colli eu hiaith wrth gael eu gwasgaru ar hyd y byd.
Bellach yn cael ei hadnabod o dan yr enw Judith Maro, cyfrannodd Yehudit yn helaeth at y ddadl ynghylch dyfodol y Gymraeg a dyfodol cenedl y Cymry, drwy gyfrwng ysgrifau i amryfal gylchgronau (yn eu plith Llais Llyfrau, Planet, Tafod y Ddraig, Taliesin, a Barn), ac fel darlledwr (e.e. i Wasanaeth Cartref y BBC). Defnyddiai brofiad ei magwraeth a'i hieuenctid ym Mhalestina i brocio'r sefyllfa a welai yng Nghymru. Ar adegau, roedd y sefydliad cenedlaetholig, o dan arweiniad Plaid Cymru a'i llywydd, Gwynfor Evans, yn anghyfforddus ynghylch yr uniaethu hwn, â'r cyswllt yn peri pryder neilltuol yn sgil trais milwrol Israel a'i pholisi tuag at y tiriogaethau Palestinaidd wedi rhyfel 5-10 Mehefin 1967. Pan heriwyd Maro ynghylch y gyfatebiaeth a bleidiai rhwng Cymru ac Israel mewn cyfweliad â Ned Thomas ar gyfer Planet yn 1976, amddiffynnodd weithredoedd Israel yn y 'drasiedi' a oedd yn esblygu yn y Dwyrain Canol. Ar yr un pryd, cyflwynodd drachefn y cysyniad bod paralelau diddorol rhwng adfywio tiriogaeth ac iaith yng Nghymru ac yn Israel. Drwy'r lens hon, nid oes amheuaeth na chynigiai Maro sylwadau arloesol i'r ddadl dros genedlaetholdeb Cymreig. Heriodd y dŷb gyffredin yng Nghymru ymysg rhieni bod perygl i'r Gymraeg 'ddal plentyn yn ôl', gan nodi na chlywodd erioed y fath syniad yn cael ei fynegi ynghylch yr Hebraeg; cwynodd ynghylch y diffyg cyfleoedd cyflawn i hybu dysgu'r iaith ymhlith y di-Gymraeg yng Nghymru; mynegodd ei barn ynghylch blaenoriaethu'r iaith o fewn 'ghetto' Cymraeg; sylwodd ar y perygl gwirioneddol i'r Gymru wledig yn sgil gwerthu eiddo fel tai haf; a soniodd am ei gofid nad oedd 'yr un ymdeimlad o frys' dros achub yr iaith ymhlith y Cymry o'u cymharu â'i chydwladwyr hi dros ddiogelu'r Hebraeg. I danlinellu ei hymrwymiad i'r iaith, mynnodd fod ei hysgrifau a'i nofelau yn cael eu cyfieithu i'r Gymraeg cyn eu cyhoeddi, a dim ond yn ddiweddarach y cyhoeddwyd fersiynau Saesneg o lawer ohonynt. Ymddangosodd Y Porth nid â'n Anghof (1974), nofel yn seiliedig ar y blynyddoedd a arweiniodd at annibyniaeth Israel, yn Saesneg y flwyddyn ganlynol, o dan y teitl The Remembered Gate; a'i nofel olaf, Y Carlwm (1986), nofel dditectif, fel The Stoat yn 2009. Fel cefnogwr i Blaid Cymru (er nad ymaelododd erioed), fe gyfrannodd ysgrifau gwleidyddol a diwylliannol i bapur Saesneg y blaid, The Welsh Nationalist/Welsh Nation.
Llywiwyd symudiadau Maro yn y blynyddoedd dilynol gan weithgarwch ei gŵr. Rhwng Hydref 1974 a Rhagfyr 1978, gweithiodd Jones fel cyfarfwyddwr Coleg Cenedlaethol Celf a Dylunio Dulyn. Ymunodd Maro ag ef yno yng ngwanwyn 1975, gan gyd-fwynhau ei brofiadau o fywyd diwylliannol a chymdeithasol y ddinas, er iddi dreulio cyfnodau estynedig yn ôl yng nghartref y teulu yng Nghymru, Tyddyn Heulyn, drwy gydol yr amser hwn. Dychwelodd y ddau i Gymru ddiwedd 1978; treulio blwyddyn yn Newcastle (lle y penodasid Jones yn artist preswyl y Brifysgol) yn 1980-1; a blwyddyn bellach yng Ngregynog yn 1981-2 (wedi dyfarnu Cymrodoriaeth Gregynog iddo). Iechyd Jones, ynghyd â thywydd garw a'i effeithiau ar Tyddyn Heulyn, a ysgogodd y pâr i adael gogledd Cymru ddiwedd Chwefror 1991, gan ymsefydlu yn Llandaf, Caerdydd. Wedi marwolaeth Jonah Jones ar 29 Tachwedd 2004, symudodd Maro'n nes at ei merch, Naomi, yn Abertawe, a'i mab hynaf, David, yn Langland ger y Mwmbwls. Bu farw yng nghartref gofal Brynfield Manor yn Langland ar 16 Tachwedd 2011. A hithau wedi dilyn ei gŵr i'r ffydd Gatholig, cynhaliwyd ei gwasanaeth angladdol yn Eglwys Gatholig Ein Harglwyddes Seren y Môr, Y Mwmbwls, ar 1 Rhagfyr.
Dyddiad cyhoeddi: 2023-05-05
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.