Ganwyd Nadolig Ximenes Gwynne ar 25 Rhagfyr 1832 ym mhlasty Glanbrân ym mhlwyf Llanfair-ar-y-bryn, Sir Gaerfyrddin, yn bumed o saith o blant Lt-Col Sackville Henry Frederick Gwynne (1778-1836), etifedd Sackville Gwynne, Glanbrân, a'i ail wraig, Sarah Antoinette (g. Ximenes, neu Simes, 1792-1888). Cafodd ei enw hynod ar sail ei ddyddiad geni ac enw morwynol ei fam. Roedd ganddo ddeg o hanner brodyr a chwiorydd o briodas gyntaf ei dad.
Cafodd ei addysg yng Ngholeg Llandymddyfri (1848-52) ac ymunodd wedyn â Thraedfilwyr Ysgafn Brenhinol Morgannwg. Fe'i penodwyd yn Fanerwr yn y 41fed Gwŷr Traed (Catrawd Gymreig) yn 1855 a gwasanaethodd wedyn yn yr 20fed Gatrawd (Ffiwsilwyr Sir Gaerhirfryn) cyn trosglwyddo yn 1883 i'r 85ed Gatrawd (Traedfilwyr Ysgafn Brenhinol Sir Amwythig) gyda rheng Lt-Col. Ymddeolodd yn 1900 gyda rheng Uwchfrigadydd. Yn ystod ei wasanaeth milwrol bu'n ymladd yn Ail Ryfel Affganistan ac ymgyrch yr Aifft yn erbyn Mohamed Ahmed (y 'Mahdi').
Yn 1869 cyhoeddodd arwrgerdd hyd llyfr, Moses: An Essay on the Deliverance and Journeyings of Israel (London: Chapman & Hall). Yn 1874 yn Kempsey, Sir Gaerhirfryn, priododd Mary Shee Jackson (g. Caerdydd, 1849; m. Bournemouth, 1930), merch George William Collins Jackson a Catherine Price Lewis. Ni fu plant o'r briodas.
Bu Nadolig Ximenes Gwynne farw yn Bournemouth ar 9 Mai 1920, yn 87 oed.
Dyddiad cyhoeddi: 2024-04-04
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.