JONES, ALWYN RICE (1934 - 2007), Archesgob Cymru

Enw: Alwyn Rice Jones
Dyddiad geni: 1934
Dyddiad marw: 2007
Priod: Meriel Jones (née Thomas)
Plentyn: Jones
Rhiant: John Griffith Jones
Rhiant: Annie Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Archesgob Cymru
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Ruth Gooding

Ganwyd Alwyn Rice Jones ar 25 Mawrth 1934 yng Nghapel Curig, Sir Gaernarfon, unig blentyn John Griffith Jones, chwarelwr llechi, a'i wraig Annie. Bu farw ei fam a'i dad yn ifanc, gan ei adael yn amddifad yn bedair ar ddeg oed. Fe'i magwyd mewn cymuned Gymraeg, a'r Gymraeg oedd ei iaith gyntaf ar hyd ei oes.

Mynychodd Ysgol Ramadeg Llanrwst ac enillodd ysgoloriaeth i astudio'r Gymraeg yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, lle graddiodd yn 1955. Aeth ymlaen i Fitzwilliam House, Caer-grawnt, i astudio diwinyddiaeth, gan ennill BA yn 1957 ac MA yn 1961. Hyfforddodd ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg St Michael, Llandaf, a chafodd ei ordeinio'n ddiacon yn 1958 ac yn offeiriad yn 1959.

Ei swydd eglwysig gyntaf oedd fel curad cynorthwyol yn Llanfairisgaer yn Sir Gaernarfon o 1958 i 1962. Wedyn daeth yn ysgrifennydd y Mudiad Myfyrwyr Cristnogol ac MMC mewn Ysgolion. Yn 1965, fe'i penodwyd gan ei fentor, yr Esgob Gwilym Williams, yn gyfarwyddwr addysg dros esgobaeth Bangor, yn ogystal ag yn gaplan Ysgol y Santes Gwenfrewi, Llanfairfechan. Fe'i gwnaed hefyd yn gaplan ieuenctid i Williams, yn warden ordinandiaid, yn gaplan arholi ac yn gaplan anrhydeddus Eglwys Gadeiriol Bangor.

Yn ychwanegol i'r swyddogaethau hyn, bu Jones yn diwtor cynorthwyol mewn addysg grefyddol yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, yn gyd-ysgrifennydd y pwyllgor sefydlog ar addysg ddiwinyddol yng Nghymru ac yn ymgynghorydd crefyddol i bwyllgor Cymreig yr Awdurdod Darlledu Annibynnol. Yn ddiweddarach, yn 1991, daeth yn gadeirydd Panel Ymgynghorol ar Grefydd S4C.

Priododd Meriel Thomas yn 1968, a ganwyd iddynt un ferch, Nia.

Yn 1975, symudodd Jones yn ôl i'r weinidogaeth blwyfol, gan ddod yn ficer Porthmadog lle cafodd gyfle i gryfhau ei sgiliau bugeiliol. Serch hynny, roedd yn amlwg bod dyrchafiad yn yr arfaeth iddo. Ar ôl pedair blynedd ym Mhorthmadog, fe'i penodwyd yn ddeon Eglwys Gadeiriol Aberhonddu. Gweithiodd yn galed gyda'r Esgob Benjamin Vaughan i godi proffil yr eglwys gadeiriol a'i sefydlu'n lle gweddi a phererindod.

Yn 1982, penodwyd Jones yn Esgob Llanelwy. Yma eto, roedd yn frwd am waith yr eglwys gadeiriol, gan ei gwneud yn lleoliad ar gyfer pob math o ddigwyddiadau'r esgobaeth. Roedd yn gefnogol i eciwmeniaeth, a bu'n gadeirydd ar Gomisiwn yr Eglwysi Cyfamodol ac yn noddwr i fesur dros Brosiectau Eciwmenaidd Lleol.

Bu Jones yn Archesgob Cymru o 1991 tan ei ymddeoliad yn 1999. Roedd yn fugail dawnus ac yn deyrngar iawn i'w blwyfolion, esgobion a chyd-glerigwyr. Oherwydd hynny llwyddodd i gyflwyno newid sylweddol. Rhwystrwyd ordeinio merched i'r offeiriadaeth yn 1994 gan glerigwyr corff llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru. Serch hynny, roedd Jones yn gefnogol iawn i ordeinio merched, a llwyddodd i atgyfodi'r mesur. Pan gymeradwywyd ordeinio merched yn y pen draw yn 1996, cafodd gefnogaeth pob un o'r chwe esgob a 68 y cant o'r clerigwyr. Yn wahanol i Loegr, nid ymadawodd yr un clerigwr â'r Eglwys yng Nghymru dros yr achos, a hynny i raddau helaeth oherwydd graslondeb Jones tuag at ei wrthwynebwyr. Bu Jones yn gyfrifol hefyd am gyflwyno deddfwriaeth yn caniatáu i ysgaredigion ailbriodi yn yr eglwys, gan ddod â blynyddoedd o ansicrwydd i ben.

Gallai Jones fod yn ddadleuol ar adegau. Flwyddyn ar ôl marwolaeth Diana, Tywysoges Cymru, dywedodd wrth ei glerigwyr ei fod o'r farn bod pobl wedi mynd dros ben llestri yn ei dyrchafu hi, a'i fod yn fodlon i glerigwyr unigol benderfynu a ddylid dweud gweddïau yn yr eglwysi i ddynodi pen-blwydd ei marwolaeth. Yn 1997, galwodd am roi terfyn ar y ddeddf yn gorfodi ysgolion i gynnwys gweddi ac addoliad yn eu cyfarfodydd boreol. Credai fod y cyfarfodydd yn aneffeithiol ac nad oedd plant bob amser yn eu deall na'u gwerthfawrogi.

Cynrychiolodd Jones ei eglwys yng nghynulliad Cyngor Eglwysi'r Byd yn Canberra in 1991 ac yn y Cyngor Anglicanaidd Ymgynghorol yn Capetown yn 1993. Gwasanaethodd hefyd fel llywydd y Cyngor Eglwysi dros Brydain ac Iwerddon 1997-2000. Roedd yn rhyddfrydwr o ran ei ddiwinyddiaeth, ac yn ymroddedig i achos cyfiawnder cymdeithasol. Roedd yn aelod o Orsedd y Beirdd ac yn eisteddfodwr brwd, a bu'n gefnogol iawn i'r ymgyrch dros ddatganoli i Gymru.

Arhosodd Alwyn Rice Jones yn Llanelwy ar ôl ymddeol, ac yno y bu farw ar 12 Awst 2007. Cynhaliwyd ei angladd yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy ar 18 Awst.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2023-10-31

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.