Ganwyd Gwilym T. Jones ar 27 Mehefin 1908 yn 21 Stryd Penlan, Pwllheli, Sir Gaernarfon, yr hynaf o bump o blant William Thomas Jones (1877-1960), peintiwr ac addurnwr, a'i wraig Margery Lilian (1880-1953). Addolai'r teulu yng Nghapel Salem (M.C.), Pwllheli, lle y bu Gwilym yn nes ymlaen yn flaenor. Cafodd ei addysg yn Ysgol Elfennol Troedyrallt ac yn Ysgol Sir Pwllheli, ac wedyn yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, lle graddiodd gyda gradd M.A. yn y Gyfraith.
Yn 1936, tra'n gweithio fel cyfreithiwr ym Mhwllheli, cafodd ei apwyntio fel cyfieithydd swyddogol y llys yng Nghaernarfon yn achos 'Tri Penyberth' - Saunders Lewis, Lewis Valentine, a D. J. Williams - ac wedyn yn llys yr Old Bailey yn Llundain ar ôl trosglwyddo'r achos yno. Yn 1938, cafodd y swydd o Gyfreithiwr Cynorthwyol Cyngor Sir Caernarfon. Yn 1942 fe'i penodwyd yn Ddirprwy Glarc Cyngor Sir Caernarfon, ac yn 1945 yn Glarc y Cyngor.
Tra'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, cyfarfu â Marion Hughes o Lanelli, a oedd yn astudio yn Adran y Gymraeg. Priodasant yn 1940, gan ymgartrefu yn 'Penlan', 2 Llys Meirion, Caernarfon. Ganwyd iddynt dri mab: Geraint (g. 1942), a fu farw o gancr y gwaed yn ddwy flwydd oed, Goronwy Morys Gwilym Jones (g. 1948), ac Iwan Pennant Gwilym Jones (g. 1952).
Roedd Gwilym T. yn wladgarwr brwdfrydig, ac arloesodd o ran polisi iaith Cyngor Sir Caernarfon, gan gynnwys arwyddbyst Cymraeg drwy gydol y sir. Roedd yn Is-gadeirydd Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol, 1954-55, a'r adeg honno fe'i hetholwd yn aelod o Orsedd y Beirdd. Ef oedd Llywydd y Dydd ar ddiwrnod y Coroni yn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli yn 1955. Roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn hanes, ac roedd yn un o brif sefydlwyr Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon yn 1939. Yn 1956, fe'i hetholwyd yn Gymrawd o Gymdeithas yr Hynafiaethau.
Roedd Gwilym T. yn gyfaill i'r Prifardd Cynan (Albert Edwards Jones). Cyflwynodd Cynan ddwy gerdd iddo, 'Llanfihangel Ballechaeth' a 'Capel Nanhoron'. Gwilym T. oedd y prif symudwr yn y gwaith o godi elusen i atgyweirio ac adfer Capel Newydd, Nanhoron, un o gapeli mwyaf hynafol y mudiad anghydffurfiol ym Mhen Llŷn. Ail-agorwyd Capel Nanhoron yn swyddogol ar ôl i'r gwaith atgyweirio gael ei gwblhau, ar 26 Gorffennaf 1956. Ond tristwch yr achlysur oedd nad oedd Gwilym T. ei hun yno, gan ei fod wedi marw bythefnos ynghynt. Ei weddw, Mrs Marion Jones, a agorodd yn capel yn swyddogol. Dadorchuddiwyd plac coffa am Gwilym T. ar yr un adeg ag agoriad swyddogol y capel.
Roedd Gwilym T. Jones yn 48 mlwydd oed, yn llwyddiannus ac adnabyddus yn ei swydd, a phawb yn ei barchu, yn briod hapus â dau fab ifanc, yn weithgar yn ei gapel ac yn ei gymuned. Ond, yn ddisymwth, ar 28 Mehefin 1956, y diwrnod ar ôl ei benblwydd yn 48 mlwydd oed, fe gwympodd yn ddiymwybod yn ei gartref, o ganlyniad i waedlif ar yr ymennydd. Bu'n gorwedd yn Ysbyty'r Bwth, Caernarfon yn anymwybodol am ddeng niwrnod a bu farw ar 9 Gorffennaf 1956. Fe'i claddwyd ar 12 Gorffennaf ym Mynwent Llanbeblig, Caernarfon.
Dyddiad cyhoeddi: 2022-04-12
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.