Ganwyd J. Meirion Lloyd ar 4 Mai 1913 yng Nghorris, Meirionnydd, yr hynaf o chwech o blant i David Richard Lloyd, chwarelwr, a'i wraig Ruth (g. Ellis). Mynychodd ysgol gynradd Corris, ond penderfynodd ei dad ymfudo i Lundain a sefydlu busnes gwerthu llechi yn y Bow, gyda swyddfa yng Nghorris. Daeth y teulu'n aelodau ffyddlon o Gapel Cymraeg Mile End, ac yno y meithrinwyd Meirion Lloyd a'r plant i gyd gan eu tad fel athro'r Ysgol Sul.
Addysgwyd ef yn Ysgol Fairfield Road, Llundain, ac wedi graddio mewn peirianneg ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd aeth i Prifysgol Cymru, Aberystwyth i astudio diwinyddiaeth. Astudiodd hefyd yng Ngholeg Trefeca a Choleg Selly Oak, Birmingham, ac yn ddiweddarach enillodd radd MTh Prifysgol Cymru.
Derbyniwyd ef yn genhadwr gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru ym Medi 1940 a'i ordeinio yn Abertawe yn Nhachwedd 1941. Oherwydd anhawster i gael llong, bodlonodd ar gyflawni swydd Ysgrifennydd i Fudiad Cristnogol y Myfyrwyr (SCM) yn ne Cymru, ac o Ebrill 1942 bu'n Weinidog ar Gapel Saesneg yr enwad yn Catharine Street, Lerpwl. Yno cyfarfu â'r ferch a ddaeth yn gymar bywyd iddo, Joan Maclese (1923-2017), a phriodwyd y ddau ar 28 Hydref 1944. Ychydig ddyddiau wedi'r briodas hwyliodd ef i India ar long o'r enw Stirling Castle, yng nghwmni cenhadon eraill o Gymru, gan gynnwys Gwen Rees Roberts. Cyrhaeddodd dref Aizawl yn Mizoram yn Rhagfyr 1944. Ni chafwyd llong i'w briod hyd fis Tachwedd 1945. Ganwyd tri phlentyn iddynt yn India, sef Eirlys Ruth, Alun Meirion a Hywel John, a phan oeddynt yn ddigon hen anfonwyd nhw yn ôl i Loegr am eu haddysg.
Gwelodd yn ddiymdroi anghenion addysgol tref Aizawl a chytunai arweinwyr Eglwys Mizo gyda'i weledigaeth. Sefydlodd ysgol uwchradd gyntaf Aizawl yn 1946 a chymerodd y llywodraeth y cyfan i'w dwylo erbyn 1951. Aeth ati wedyn i sefydlu coleg diwinyddol, wedi'i leoli i gychwyn yn festri eglwys genhadol Veng, ac ef oedd ei brifathro cyntaf. Dilynwyd maes llafur Coleg Serampore a sefydlwyd gan y cenhadwr enwog William Carey. Am rai blynyddoedd, cydweithiai'r coleg ag ysgol hyfforddi athrawon, a chafwyd cymorth trwy ysgoloriaeth oddi wrth Gyngor Eglwysi'r Byd. Ym Medi 1964 olynwyd Meirion Lloyd fel prifathro gan y Parchedig C. Pazawna, un a fu o dan ei hyfforddiant.
Dysgodd Meirion Lloyd iaith Mizo yn rhugl, ac ef oedd arweinydd grŵp o ysgolheigion a fu'n gyfrifol am gyfieithu'r Beibl i'r iaith, tasg a gyflawnwyd yn 1955. Roedd ganddo ddiddordeb mawr yn hanes y Genhadaeth Gymreig, ac ysgrifennodd am yr arloeswyr cynnar yn y gyfrol Ar Ben Bryn Uchel a gyhoeddwyd yn 1952, gyda chyfieithiad Saesneg, On Every High Hill, yn ymddangos yn 1956. Ysgrifennodd hefyd am y cenhadwr David Evan Jones (1870-1947) mewn cyfrol hylaw o dan y teitl Arloesydd Lushai (1958).
Yn 1964, dychwelodd i fyw yn Allerton, Lerpwl, a chafodd swydd yn gynrychiolydd y Feibl Gymdeithas ar lannau Merswy, Cilgwri, Gorllewin Swydd Gaerhirfryn ac Ynys Manaw. Daeth yn aelod o Gapel Cymraeg Heathfield Road lle y bu ei frawd, y Parchedig Ddr R. Glynne Lloyd yn Weinidog o 1942 i 1948 cyn ymfudo i Utica. Yn 1974 derbyniwyd ef i weinidogaethu gyda'r Eglwys Ddiwygiedig Unedig a chafodd alwad i ofalu am eglwys yr enwad yn y Rhyl. Bu yno o 1975 i 1978 cyn ymddeol gyda'i briod i dref Prestatyn.
Bu'n weithgar yn ei ymddeoliad. Cafodd gyfle i weld Mizoram unwaith yn rhagor a pharatôdd fideo ar y daith lwyddianus a gafwyd yn 1994. Ysgrifennodd hanes y Genhadaeth yn Mizoram yn Bannau Pell: Cenhadaeth Mizoram (1989) ac yn Saesneg, A History of the Church in Mizoram: Harvest in the Hills (1991). Golygodd Nine Missionary Pioneers: The Story of Nine Pioneering Missionaries in North-East India (1989).
Bu J. Meirion Lloyd farw ar 30 Medi 1998 ym Mhrestatyn, ac fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys Crist, Prestatyn.
Dyddiad cyhoeddi: 2023-05-25
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.