ROBERTS, GWEN REES (Pi Teii) (1916 - 2002), cenhades ac athrawes

Enw: Gwen Rees Roberts
Dyddiad geni: 1916
Dyddiad marw: 2002
Rhiant: Hugh Griffith Roberts
Rhiant: Gwen Rees Roberts (née Evans)
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: cenhades ac athrawes
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Ffion Mair Jones

Ganwyd Gwen Rees Roberts ar 2 Mawrth 1916 ym Morfa Nefyn, Llŷn, yn ferch i Hugh Griffith Roberts (bu farw tua 1940) a'i wraig Gwen Rees Roberts. Bu farw ei mam yn 31 mlwydd oed o fewn ychydig ddyddiau i'w genedigaeth, a thua thair blynedd yn ddiweddarach, ailbriododd ei thad â gwraig weddw a chanddi ferch, Emily, wyth mlynedd yn hŷn na Gwen. Ychwanegwyd ymhellach at y teulu drwy enedigaeth mab i'w thad a'i llysfam, Hugh Wilson Roberts (bu farw 1940). Yn dilyn ei ail briodas, symudodd Hugh Griffith a'r teulu i Gricieth, ac yno ac ym Mhorthmadog ger llaw y mynychodd Gwen yr ysgol gynradd cyn mynd i Bwllheli am ei haddysg uwchradd. Yng Nghricieth hefyd y daeth i gysylltiad â Chenhadaeth Gwasanaeth Arbennig y Plant, a arferai gyfarfod am fis bob haf ar y traeth yno. Dylanwadwyd ar y Gwen ifanc gan y grŵp hwn, a daeth yn ymwybodol pan oedd yn bymtheng mlwydd oed drwy ei chyswllt â nhw o alwad Duw arni i'w wasanaethu dramor.

Parhaodd ei hymwybyddiaeth o'r alwad hon drwy gydol ei chyfnod yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, o 1935, lle yr astudiodd Söoleg a Daearyddiaeth cyn graddio gydag anrhydedd mewn Botaneg yn 1938 ac ennill cymwysterau dysgu y flwyddyn ganlynol. Yn dilyn yr addysg hon, troes ei golygon at wireddu'r disgwyliad crefyddol a ddaethai iddi. Fe'i derbyniwyd gan Bwyllgor Cenhadaeth Dramor Eglwys Bresbyteraidd Cymru a threfnwyd blwyddyn o hyfforddiant iddi yng Ngholeg Hyfforddi Cenadesau Carey Hall, Selly Oak, Birmingham. Y disgwyliad oedd y byddai'n gadael i fyw fel cenhades yn India yn fuan wedi gorffen yn Carey Hall, ond oherwydd amgylchiadau peryglus cyfnod yr Ail Ryfel Byd, bu'n rhaid i Gwen aros bedair blynedd cyn mordeithio yno. Treuliodd y cyfnod hwn fel athrawes bioleg yn Ysgol Ramadeg Porthmadog, gan letya gyda'i llys-fodryb oedrannus yng Nghricieth. Bu ynghlwm yn ogystal wrth weithgareddau Pac Brownies Cricieth; yn rhedeg ysgol Sul; Dosbarth Beibl; a grŵp trafod Saesneg i blant faciwî o Lerpwl, gan dymheru rhwystredigaeth yr aros gyda phrysurdeb a fu'n brofiad da ar gyfer y dyfodol, meddai yn ddiweddarach. Ym mis Tachwedd 1944, aeth ar long o Lerpwl i Bombay (Mumbai) i gychwyn cyfnod o dros dair blynedd ar hugain fel cenhades yn ardal Mizoram (Bryniau Lushai yn gynharach) yng ngogledd-ddwyrain India.

Cafwyd taith gofiadwy i India yn rhan o gonfoi ar long The Stirling Castle, lle y cynhaliodd y Cymry ymhlith y cenhadon eu hysbryd er gwaethaf peryglon mordeithio yng nghyfnod y rhyfel drwy gerdded ar hyd y deciau liw nos dan ganu emynau Cymraeg. Gwnaeth Gwen Rees Roberts gyfeillion oes ymhlith y cenhadon, yn eu plith Marian Prichard, a deithiai i weithio fel nyrs hŷn yn ysbyty Shillong ym Mryniau Casi, a'r Parch. Meirion Lloyd a aeth yn ei flaen gyda Gwen drwy'r jyngl ac ar hyd ffyrdd gwael nes cyrraedd Aizawl. Yno yr oeddynt i ymgartrefu, Gwen yn rhannu byngalo â Katie Hughes (Pi Zaii; 1889-1963), a ddaeth yn gyfaill a chefnogwraig gadarn. Daeth i adnabod y meddyg Gwyneth Parul Roberts hefyd, a chwe mis ar ôl iddi gyrraedd cafodd lawdriniaeth gan Dr Roberts i dynnu ei hapendics.

Yr oedd y gwaith a'i hwynebai yn hynod amrywiol a heriol. Ei phrif ddyletswydd oedd olynu Katie Hughes fel prifathrawes Ysgol Merched y Genhadaeth Gymreig (a elwid yn ddiweddarach Ysgol Merched yr Eglwys Bresbyteraidd ac, er anrhydedd i Gwen, yn Ysgol Pi Teii), ond bu'n gweithio hefyd fel athrawes ran amser pynciau yr oedd wedi arbenigo arnynt yn y brifysgol, hynny yn ysgol uwchradd gyntaf yr ardal; mewn coleg gwersi nos; yn Ysgol Hyfforddi Athrawon yr Eglwys; yn y Coleg Diwinyddol, lle bu'n dysgu Saesneg a daearyddiaeth hanesyddol Palestina; ac yn hyfforddi athrawon ysgolion Sul mewn pentrefi yn ystod gwyliau'r haf. Drwy gydol ei chyfnod yn Aizawl, dangosodd ddyfeisgarwch a phenderfyniad er mwyn goresgyn anawsterau, llawer ohonynt yn rhai ymarferol ynghlwm wrth ddiffyg adnoddau elfennol, megis ystafelloedd dosbarth priodol ar gyfer dysgu gwyddor tŷ; diffyg cyflenwad yn y tanc dŵr yn ystod y tymor sych; a diffyg ffyrdd i deithio ar eu hyd (problem y cyfrannodd at ei datrys drwy arwain yr ysgol gyfan allan i balu er mwyn lledu'r ffyrdd trol). Roedd yn brysur yn ogystal yn gofalu am les ysbrydol a chrefyddol ei disgyblion, a byddai'n gweddïo'n unigol â rhai o'r merched, profiad a ddisgrifiodd fel un 'arbennig'. Yn fwy nodweddiadol o waith cenhadol uniongyrchol, byddai'n teithio gyda charfan o genhadon eraill (yn cynnwys nyrs, cymodwr, ac athro) allan i bentrefi pell ac agos, lle byddent yn estyn cymorth i bobl wael, yn gwrando ar y plant ifanc yn canu, yn trafod arferion hylendid gyda'r cymunedau, ac yn cynnal gwasanaethau crefyddol.

Fel addysgwraig, roedd ganddi weledigaeth ynghylch addysg i ferched a gydymffurfiai ag amcanion y Genhadaeth. Yn groes i'r galw gan y trigolion lleol am wersi academaidd i'w merched, credai mewn darparu cwricwlwm mor eang â phosibl, yn pwysleisio dysgu sgiliau megis gwehyddu neu wyddorau tŷ, ynghyd â phynciau diwylliannol, agwedd at ddysg a fyddai'n 'gwneud mwy i fenywod a mamau'r dyfodol yn Lushai' nag unrhyw beth arall y gellid ei ddarparu. Un o gonglfeini'r dull hwn oedd 'Y Dull Prosiect', a gyfunai agweddau ymarferol â gwaith ym maes iaith, busnes, a disgyblaethau academaidd, er enghraifft drwy osod i'r merched y dasg o lunio matiau drws ('Y Prosiect Cotwm'). I gefnogi'r ystod hwn o ddulliau dysgu ac addysgu, ysgrifennodd Gwen Rees Roberts werslyfrau ar alwad amryfal bwyllgorau yn Mizoram: cynhyrchodd ddeunydd ym maes Hylendid, Gwyddoniaeth Gyffredinol, ac at hyfforddi athrawon Ysgol Sul (drwy bamffled ar 'Sut i ddweud straeon wrth blant'). Y dasg a'i plesiodd fwyaf, serch hynny, oedd cais oddi wrth y Pwyllgor Rhanbarthol Llenyddiaeth Ddiwinyddol i ysgrifennu llyfr ynghylch daearyddiaeth a hanes Israel a Gwlad Iorddonen, cais y bu ei phrofiad personol o deithio i Israel, Gwlad Iorddonen, a'r Aifft yn 1962 yn sail anhepgor ar gyfer ei gyflawni. Llyfrau yn iaith Mizo oedd y rhain oll. Er mai bylchog iawn oedd gwybodaeth Gwen o'r iaith pan gyrhaeddodd Aizawl, ac mai yn Saesneg yr ysgrifennodd ei chomisiwn cyntaf, daeth i siarad, darllen, deall, a hyd yn oed ysgrifennu'r iaith yn foddhaol iawn, a llwyddodd i lunio'r llyfrau diweddarach yn yr iaith frodorol, gan dderbyn cymorth i'w cywiro cyn eu hargraffu. Yr oedd ei pharodrwydd i ddysgu Mizo yn allweddol iddi o safbwynt cwrteisi elfennol, a choleddai'r un agwedd tuag at ieithoedd eraill y daeth i gysylltiad â nhw drwy ei hymweliadau cenhadol â sawl ardal yng ngogledd-ddwyrain India - Bengali, Khasi, a Hindi, a fabwysiadwyd fel iaith swyddogol Undeb India yn 1949. Yn y potes ieithyddol hwn, yr oedd dwyieithrwydd y Cymry Cymraeg yn fantais y gallai ymhyfrydu ynddi.

Daeth blynyddoedd Gwen Rees Roberts yn Mizoram i ben o dan gwmwl gwrthryfel Ffrynt Cenedlaethol Mizo yn erbyn Llywodraeth India, a fu'n cyniwair o ddiwedd 1965. Yn wythnos gyntaf y gwrthryfel, ym mis Mawrth 1966, meddiannwyd Ysgol y Merched gan y Ffrynt a dwysáwyd y perygl i drigolion Mizoram wrth i awyrennau jet Awyrlu'r Llywodraeth hedfan dros yr ardal gan achosi distryw i adeiladau, yn siopau a chartrefi. Arweiniwyd Gwen ac eraill o blith y cenhadon gan gynddisgybl iddi drwy'r jyngl, i ddiogelwch ym mhentref Durtlang. Arhosodd yn Aizawl am ddwy flynedd arall, yn byw o dan amgylchiadau llywodraeth filwrol, gydag amodau cyrffyw yn cyfyngu ar ryddid. Ddechrau Ionawr 1968, fodd bynnag, daeth cyfarwyddyd i ddinasyddion tramor adael y wlad, a daethpwyd â gwaith y Genhadaeth drwy ogledd-ddwyrain India i ben. Caniatawyd i Gwen aros nes y byddai ei chyfnod seibiant yn cychwyn, ar 19 Chwefror, ond fe'i hysbyswyd na fyddai modd iddi ddychwelyd i barhau â'i gwaith yn yr ardal.

Wedi ei hymadawiad, gweithiodd Gwen Rees Roberts fel swyddog cyswllt Bwrdd Cenhadaeth Eglwys Bresbyteraidd Cymru o 1968 hyd 1985, â'i chartref a'i swyddfa yng Ngholeg y Bala. Parhaodd ei hysfa i weld y byd a theithiodd yng ngwledydd Prydain ac yng ngorllewin Ewrop yn ystod y 1970au a'r 1980au. Dychwelodd Gwen deirgwaith i Mizoram, yn ogystal: yn 1974, 1985, ac 1994. Roedd y croeso a gafodd ar yr ymweliad cyntaf yn hynod drawiadol: 'heidiwyd o'm cwmpas ym mhob pentref gan bobl a fynnai ysgwyd llaw a siarad â mi', meddai - delwedd drawiadol o ystyried mor fechan o gorffolaeth ydoedd. Roedd ei hymrwymiad i'r gymuned leol yn y Bala yr un mor driw: y fenyw gyntaf i ddal swydd blaenor yng Nghapel Tegid, cyflwynodd sgyrsiau yno ac yng nghapel Methodistaidd Saesneg y dref; yng nghartref yr henoed, Bronygraig; i'r Clwb Rotari; ac i Sefydliad Prydeinig y Galon. Diau hefyd i'r pamffledi a luniasai yn ystod y 1960au ar gyfer ysgolion Sul Cymru, yn cyflwyno ysgolion Sul Mizoram, ac un o'i harwresau anwylaf, 'Pi Zaii' (Katie Hughes), gael derbyniad brwd gan blant yr eglwysi. Byddai eu hymwybyddiaeth o'u cyd-Gristnogion mewn gwlad hollol estron iddynt wedi'i ddyfnhau ymhellach gan ymweliad Côr Hwyl Mizo, a groesawyd i Gymru gan Gwen ym Mai a Mehefin 1984.

Bu farw Gwen Rees Roberts ar 3 Ionawr 2002. Sylwodd un a fynychodd ei gwasanaeth angladdol yng Nghapel Tegid, Y Bala, ar y galarwyr niferus, dros bedwar cant ohonynt, oll yn rhai y byddai Gwen wedi'u disgrifio fel ei 'theulu'; ac ar aelodau teulu cyfatebol yn India, a gynhaliodd wasanaeth ar yr un pryd, gan sicrhau bod hwn yn 'ffarwél rhyng-genedlaethol' i un a fu'n arwres ar ddau gyfandir. Coffawyd Gwen ymhellach mewn digwyddiad yng Nghapel Mawr Dinbych ar 2 Tachwedd 2002.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2023-05-24

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.