VAUGHAN, HILDA CAMPBELL (1892 - 1985), awdur

Enw: Hilda Campbell Vaughan
Dyddiad geni: 1892
Dyddiad marw: 1985
Priod: Charles Langbridge Morgan
Plentyn: Elizabeth Shirley Vaughan Paget (née Morgan)
Plentyn: Roger Morgan
Rhiant: Hugh Vaughan Vaughan
Rhiant: Eva Vaughan (née Campbell)
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: awdur
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Katie Gramich

Ganwyd Hilda Vaughan yn Llanfair-ym-Muallt, Sir Frycheiniog, ar 12 Mehefin 1892, yn ferch i Hugh Vaughan Vaughan (1852-1937), cyfreithiwr, a'i wraig Eva (g. Campbell, 1863-1932). Ganwyd ei thad yn Sir Faesyfed a chadwodd ei gysylltiadau â'r sir honno, gan wasanaethu fel Is-Siryf y Sir, Clerc y Cyngor Sir a Chlerc yr Awdurdod Addysg Lleol. Addysgwyd Hilda Vaughan gartref gan athrawesau preifat, ac arhosodd adre yn nhŷ ei rhieni tan gychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Yna, dechreuodd weithio i'r Groes Goch ac wedyn daeth yn Ysgrifenyddes Weithredol ar Fyddin Tir y Merched yng nghefn gwlad Siroedd Brycheiniog a Maesyfed. Ar ôl y rhyfel symudodd i Lundain a dechreuodd astudio yng Ngholeg Bedford, lle cyfarfu â'i darpar ŵr, yr awdur Charles Morgan. Priodasant yn Llundain yn 1923, a ganwyd iddynt un ferch, Elizabeth Shirley, yn 1924 ac un mab, Roger, yn 1926.

Cyhoeddodd Vaughan ddeg nofel rhwng 1925 a 1954; roedd ei gwaith yn boblogaidd a denodd edmygedd beirniaid llenyddol. Lleolir ei nofelau yn bennaf yn siroedd dwyreiniol Cymru, Brycheiniog a Maesyfed, lle'r oedd ei gwreiddiau teuluol hithau, er bod Sir Gaerfyrddin a Llundain yn lleoliadau pwysig yn rhai ohonynt. Cyhoeddwyd ei phedair nofel gyntaf, The Battle to the Weak (1925), Here are Lovers (1926), The Invader (1928), a Her Father's House (1930) gan gwmni William Heinemann. Cafodd y tair nesaf, The Soldier and the Gentlewoman (1932), The Curtain Rises (1935), a Harvest Home (1936) eu cyhoeddi gan Victor Gollancz, sef y wasg adain-chwith a gyhoeddodd waith amryw o awduron Cymreig yn ystod y 1930au. Lovat Dickson & Thompson a gyhoeddodd y nofela 'A Thing of Nought', yn 1934; mae'r stori hon wedi ennill clod arbennig ymysg ei gwaith oherwydd ei harddull delynegol a synhwyrus, heb y melodrama sydd yn amharu ar rai o'i nofelau. Macmillan a gyhoeddodd ei nofelau olaf, sef Pardon and Peace (1945), Iron and Gold (1948), a The Candle and the Light (1954).

Mae ei ffuglen yn tueddi i drafod gwrthdaro ynglŷn â rhywedd neu genedl, neu'r ddau beth. Dengys un o'i nofelau gorau, The Soldier and the Gentlewoman (1932) y themâu hyn i'r dim. Mae'r nofel yn mynd â ni yn ôl i'r cyfnod wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf i archwilio cysyniadau megis hunaniaeth, cenedl, perthyn, a hawliau tir. Cymraes bybyr yw Gwenllian, y prif gymeriad, ac mae hi'n gandryll nad yw hi'n medru etifeddu ei chartref ei hun oherwydd ei bod yn fenyw. Sais didoreth yw Dick, sy'n symud i Gymru i etifeddu'r ystad ac mae Gwenllian yn ei gasáu. Plâs Einon, yr ystad, yw cannwyll llygad Gwenllian ac mae'n barod i aberthu pawb a phopeth er mwyn sicrhau ei fod yn parhau yn eiddo i'w theulu. Mae'r stori yn debyg i nofel gynharach gan Vaughan, sef The Invader (1928), ond yn hon Saesnes, Miss Webster, yw'r mewnfudwr ac mae'r gwrthdaro rhyngddi hi a'r Cymro, Daniel Evans. Mae'r nofel gynharach yn gomedi, ond trasiedi lwyr yw The Soldier and the Gentlewoman, sydd yn dangos pa mor amryddawn oedd Vaughan am lunio naratifau gwahanol allan o'r un elfennau.

Roedd The Soldier and the Gentlewoman yn amlwg wedi taro tant gyda darllenwyr y 1930au gan ei bod wedi gwerthu'n arbennig o dda a chafodd ei haddasu'n ddrama ar gyfer y llwyfan yn Llundain. Yn sgil llwyddiant yr addasiad hwn, ysgrifennodd Vaughan ddwy ddrama ar y cyd â'r dramodydd Laurier Lister: She Too Was Young (1938) a Forsaking All Other (heb ei pherfformio).

Symudodd Vaughan a'i phlant i fyw yn yr Unol Daleithiau er diogelwch yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac ymddangosodd ei hwythfed nofel yno yn 1942, o dan y teitl The Fair Woman. Yn ddiweddarach, yn 1948, ail-gyhoeddwyd y nofel yn Llundain, o dan y teitl Iron and Gold. Mae'r gyfrol hon yn wahanol i'w gweithiau eraill am ei bod wedi ei seilio'n agos ar chwedl Gymreig, sef 'Merch Llyn y Fan Fach'. Ond mae themâu'r nofel yn debyg iawn i weddill ei gwaith: perthynas mab a merch, bywyd teuluol, rhywedd, pwysau cymdeithasol, yn enwedig ar ferched, a'r gwrthdaro rhwng perthyn a theimlo'n ddieithr. Yn y nofel mae Owain, ffarmwr lleol, yn cipio'r dylwythen deg, Glythin, o'r llyn i fod yn wraig iddo. Trwy gau tir y mynydd a thorri coed mae Owain yn meddiannu mwy a mwy o'r dirwedd wyllt, ac yn yr un modd mae'n ceisio dofi ei wraig, ond yn y diwedd mae'n methu gwneud hynny, ac mae hi'n dychwelyd i'w chynefin yn y llyn.

Ni chyhoeddodd Vaughan waith creadigol ar ôl y 1950au, efallai oherwydd bod ei gwaith yn swnio braidd yn hen-ffasiwn erbyn y 60au, pan ddechreuodd menywod ennill rhagor o ryddid yn eu bywydau. Mae eironi yn hyn oherwydd roedd ffuglen Vaughan yn flaengar yn ei chyfnod am ei bod yn canolbwyntio ar fywydau merched cyffredin nad oedd ganddynt lawer o hawliau.

Bu Hilda Vaughan farw yn Llundain ar 4 Tachwedd 1985.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2023-01-16

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.