PARRY, JOHN (1789 - 1868), saer maen a cherddor

Enw: John Parry
Dyddiad geni: 1789
Dyddiad marw: 1868
Priod: Mary Parry (née Williams)
Priod: Harriet Parry
Plentyn: Bernard Parry
Plentyn: Elizabeth Parry
Plentyn: Mary Parry
Plentyn: Sarah Parry
Plentyn: John Parry
Plentyn: William Parry
Plentyn: Caleb Parry
Plentyn: Joseph Hyrum Parry
Plentyn: Bernard Llewelyn Parry
Plentyn: Louisa Ellen Parry
Plentyn: Edwin Francis Parry
Plentyn: Henry Edward Parry
Rhiant: Bernard Parry
Rhiant: Elizabeth Parry (née Saunders)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: saer maen a cherddor
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Cerddoriaeth
Awdur: Jill Morgan

Ganwyd John Parry ar 10 Chwefror 1789 yn Nhrelawnyd, Sir y Fflint, yn fab i Bernard Parry, ffermwr ac athro canu, a'i wraig Elizabeth (g. Saunders). Dengys cyfrifiad 1841 fod John Parry a'i wraig Mary Williams Parry (1784-1849) yn byw gyda'u dau fab ieuengaf, William a Caleb, yn Ochr-y-gop, i'r gogledd-ddwyrain o Drelawnyd. Saer maen oedd John Parry wrth ei grefft, a chyflogai nifer o weithwyr. Un o'r adeiladau a weithiodd arnynt oedd goleudy Talacre ger aber Afon Dyfrdwy. Roedd yn adnabyddus yn lleol fel bardd Cymraeg ac fel canwr da, a medrai chwarae'r piano, y delyn a'r ffliwt. Dilynodd ei fab hynaf, Bernard, grefft ei dad fel saer maen, ond roedd hefyd yn artist a cherddor dawnus, a dewisodd weithio fel peintiwr portreadau ac athro piano. Bu Bernard farw yn Rhuthun yn 1841 yn 32 oed.

Ac yntau wedi ei fagu yn yr Eglwys Anglicanaidd, erbyn ei ugeiniau hwyr daeth yn anfodlon ar ddysgeidiaeth yr Eglwys, a throdd at y Bedyddwyr gan fod eu dysgeidiaeth yn ei farn ef yn agosach at yr 'efengyl apostolaidd'. Ymunodd wedyn â'r Bedyddwyr Diwygiedig neu'r 'Campbelliaid', gan gredu eu bod hyd yn oed yn agosach at yr eglwys gyntefig, ac aeth ati i sefydlu ei gangen ei hun o'r enwad hwnnw. Clywodd genhadon Mormonaidd yn pregethu am y tro cyntaf pan oedd yn byw a gweithio ym Mhenbedw. Wedi pwyso a mesur gofalus (ac efallai dan ddylanwad marwolaeth eu merch Sarah bum wythnos ynghynt), bedyddiwyd John Parry a'i wraig, ynghyd â'u mab John, yn aelodau o Eglwys Iesu Grist Saint y Dyddiau Diwethaf ar 12 Medi 1846. Fe'u dilynwyd gan ferch a dau fab arall yn fuan wedyn.

Ymfudodd John a Mary Parry, ynghyd â'u meibion ieuengaf William a Caleb, yn 1849 ar long y Buena Vista yn rhan o garfan o 249 o Saint Mormonaidd o Gymru dan arweiniad y Capten Dan Jones. Wedi cyrraedd New Orleans aethant ar long ager i fyny afonydd Mississippi a Missouri i St Louis a theithio ymlaen i Council Bluffs yn Iowa. Bu farw Mary Parry o'r geri ac fe'i claddwyd yn Council Bluffs. Aeth John a'i feibion yn eu blaenau ar yr hirdaith tua'r gorllewin i Gwm y Llyn Heli gyda rhyw 80 o'r Cymry, gan gyrraedd ym mis Hydref y flwyddyn honno.

Yn ystod y daith dros y gwastadeddau, trefnodd John Parry gôr anffurfiol o blith y Cymry. Pan gyrhaeddodd y cwmni Gwm y Llyn Heli, gofynnodd Llywydd yr eglwys, Brigham Young, iddo ffurfio côr gyda'i gantorion ef yn gnewyllyn. Y côr a sefydlwyd ganddo oedd man cychwyn Côr Mormonaidd y Tabernacl sydd bellach yn fydenwog. Parhaodd John Parry i arwain y côr tan 1854.

Ymsefydlodd John Parry yn Ninas y Llyn Heli gyda'i ail wraig Harriet (hithau hefyd o Sir y Fflint). Ganwyd iddynt ddau fab, Joseph Hyrum ac Edwin. Gweithiodd John fel saer maen am rai blynyddoedd nes i'w iechyd ddirywio yn ei chwedegau hwyr. Cynorthwyodd i adeiladu'r mur a amgylchynai floc teml y Llyn Heli, ac roedd yn bresennol pan osodwyd conglfeini'r Deml yn 1853. Yn 1854 dychwelodd i ogledd Cymru i genhadu, gan bregethu gyda'i fab John.

Bu farw John Parry ar 13 Ionawr 1868 yn Ninas y Llyn Heli, Utah, ac fe'i claddwyd yno gyda'i wraig Harriet.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2024-04-24

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.